Penllyn v Dolgellau

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Penllyn

Pennllyn

Dolgellau

Dolgellau

CWPLED CAETH I'W ROI AR GRYS T:

O dan hwn y mae dyn iau
Yn gawraidd o gyhyrau.

Wil Jones Williams
8 Pwynt

CWPLED CAETH I'W ROI AR GRYS T:

Os wyt yn flonden dene,
yn hoeden wyllt - paid deud 'ne'.

Arwyn Groe Davies
8 Pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â FFERMIO:

Pob rhaw a phob caib sydd yn segur,
Pob picfforch a chribin a phladur:
Yr holl offer ffermio
Sydd bellach mewn amdo,
Ond pwt bach o feiro a phapur.

Wil Jones Williams
9 Pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â FFERMIO:

Codi ffens rownd ambell eithinen
Codi wal yma 'thraw - plannu coeden;
Ac yn rhan mawr o'r 'perks'
Mae'r 'Land Rovers' a'r 'Mercs'
Diolch i Dduw, ddweda i am Tir Cymen.

Nia Medi
9 Pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS "Y mae ynof fy mynydd"

Y mae ynof fy mynydd - i'w groesi
Tua gras y wawrddydd,
Ond cwm rheswm a'm rhosydd
Yw'n nhangnefedd diwedd dydd.

Iwan Bryn Williams
8 Pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL:

"Y MAE YNOF FY MYNYDD"

Y mae ynof fy mynydd - a'r angau
O'i ddringo'n dragywydd,
Hen wae clogwyni newydd
Yn dod i'm herio bob dydd.

Arwyn Groe Davies
8 ½ Pwynt

CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL):

CARIAD CYNTAF

I George Best

Hwn oedd yr un, 'doedd 'na neb fel y fo,
Treuliais oriau yn rhythu ar ei lun,
Y llygaid glas clir, y gwallt du fel glo
A'r wên bachgen bach ar wyneb y dyn.
Brwdfrydedd bachgen ddangosai o hyd
Acen Wyddelig mor felys â mêl,
Yn arwr, yn eilun, yn seren byd
A'i draed, wrth chwarae, yn un â'r bêl.
Ni thyfodd y bachgen, fe aeth trwy'i oes
Heb weld, heb ddysgu, roedd popeth yn iawn.
Beth oedd o bwys am iechyd, nac am loes
Os oedd o'n mwynhau, a'i gwpan yn llawn.
Yn gragen felen ddi-fflach a di-nerth
Fe welodd yntau beth sydd o wir werth.

Beryl Hughes Griffith
9 Pwynt

CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL):

CARIAD CYNTA'

I'r fynwent daw dieithryn - mewn galar,
O bell, gwelaf fab, tad - a g?r;
Yn cynnal ei fam, ei wraig a'i blant, mor dyner, a'i ofal
yn siwr....
Yn fy ngho', mae o'n seithmlwydd melynwallt
A'i ll'gada'n las-lwyd fel y môr?
Yn dwyn fy nghalon, a'm concyrs i gyd,
a'i cuddio'n ei lofft - yng ngefn drôr?
Mae'n cydio'n fy llaw yn y Band of Hope,
Rhwng y Salmau a'r tonic Solffa?
A'm saethu bob pnawn Sadwrn am mai fo oedd y
cowboi da.
Sgriffio'n henwau ar sêt capal, o olwg Mr Puw,
A thrafod Bonanza a Butlins, rhwng Benny Hill a Duw...

............................

Efo gwên, rhois pob ddoe yn fy mhoced, cyn sleifio o'r fynwent i'r
car,
Pan glywais y llais, mor gyfarwydd a'r llaw, oedd yn
cyffwrdd fy ngwar.
"Diolch am ddod," medda ti, trwy dy ddagra',
Ac wrth droi, rydwi'n n'ôl yn y coed;
yn dringo'r canghenna', yn crafu' mhenglinia'
Yn rhedeg am adra - i goflaid canol oed....

Nia Medi
9 ½ Pwynt

CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL):GALWAD

(Nyrs ifanc o'r ardal sy'n gweithio yn ardal y Ddaeargryn yn Kashmir.)

Nadolig yw gweld eilwaith
Blentyndod yn dod ar daith
I anwylo oedolyn.

Llond t? a'r teulu'n gytún,
Hen ford, dan ei sang gan fwyd;
Nadolig ydyw aelwyd.

A Nadolig yw dwylo'r
Rhai sy' ymhell dros y môr
Yn cynnig ffisig, heb ffin;

Dwylo hael, dwylo Elin ,
Heddiw'n dwyn newyddion da
Nadolig i ward Allah.

*(Er gwybodaeth i Gerallt) Elin Jones o Rosygwalia, nyrs gyda Medecins Sans Frontieres; yn y dair mlynedd diwethaf bu yn Ethiopia, a Darfur, ac yn awr Kashmir. Merch i Robin, Gelligrin, a Morfudd,Tþ Nant,Celyn

Iwan Bryn Williams
9 ½ Pwynt

CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL): GALWAD

Y wich o'i gadair freichiau;
Hen fwrdd yn ddaeargrynfáu
Wrth roi'r darn bara arno;
Pluen heno'n taro'r to;
Tap dwr oer yn drip dripian
I roi llef fel clychau'r llan,
A s?n gwag y nos i gyd
Glyw ef yn galw hefyd.....

....yn y dre'n llawn hyder oedd
yn rhodio ar hyd strydoedd
ei newydd wedd. Wrth feddwi
yn y ddawns.......ni ffôniodd hi.

Arwyn Groe Davies
9 Pwynt

PENNILL MAWL NEU DDYCHAN

Cyfryngwyr(Cyfryngis)

Yn eu palasau gwydr
Â'u trem tuag at y Bae
Sut gallan nhw ddarlunio
Ein bywyd fel y mae ?

Beryl Hughes Griffith
9 Pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN:

CYFRYNGIS

Mae Anna'n is-gynhyrchydd
A'i thad r'un fath - ond uwch.
Ma'i mham yn yr adran gwisgoedd,
Ac yn ôl y sôn, yn fuwch...
Ma'i brawd yn gwthio papur yn y Bîb, a seinio tjecs
A'r brawd arall yn cysgu fo'r hogan sy'n gneud y colur
ar Cnex.
Ond fedrai'm man siarad yn fama,
Bu'n wncwl ar y ffôn;
Dwi'n cychwyn am chwech bora fory
I ffilmio yn Sir Fôn

Nia Medi
9 Pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Bu Wil yn ffair y Bala
Chwarae dwl a chwrw da.

ATEB LLINELL AR Y PRYD

Bu Wil yn ffair y Bala
Efo Dic yn yfed, wa!

1 Pwynt

ENGLYN CYWAITH: GORCHYMYN:

Yn ei henoed "Dim Oedi" - a welodd
Wil wrth gyrchu fferi
Niw ffownd land.Aeth reit handi
I'w oror pell; R.I.P.

Iwan Bryn Williams
8 ½ Pwynt

ENGLYN CYWAITH: GORCHYMYN

(Y syniad oedd chwiban cadfridog yn ffosydd y rhyfel byd cyntaf,yn arwydd i'w filwyr fynd dros y ffosydd i'w tranc,ond ei roi yn nhermau'r bugail.)

Un chwiban hir yn dirwyn-gyrru'i g?n
Dros graig annos wedyn
I'w holaf helfa fel hyn,
Yn rhy chwim ar orchymyn.

Rhys Gwyn
8 Pwynt

TELYNEG : ATGOF:

Unwaith ar y llwybr hwn,
bu'r Brodyr
ac eithin melyn Mai
yn cydio
ym mhlygiadau
eu brethyn llwyd,
a thybiais
imi eu gweld
yn datod rhywfodd
rubannau'r niwl
dros y Sarn,
gan adael
Enlli'n gryndod yn y gwres-
a'r môr cyn lased, medden nhw
a mantell sidan
Branwen gynt.

Unwaith ar y llwybr hwn,
daeth amdo'r barrug
i gloi pob perth,
ac ar anadl y gwynt
fe glywais ias
rhyw hen alarnad,
a gwyddwn wedyn
am y cigfrain uwch y corff, a
bysedd y rhewynt
yn siglo'r crud
yn Abergwyngregyn.

Ond unwaith
ar y llwybr hwn,
daeth un i'm cwrdd,
na welai undim
ond y graig islaw.
Ac er i'm ddangos iddo
yn y llwch, olion y rhai
a aeth o'n blaen -
ni fynnai weld,
ac er clustfeinio
ni chlywai chwaith
ru'n chwedl yn y gwynt,
dim ond cri gwynfanus
rhyw hen wylan ar ei hynt.

Haf LLewelyn
10 Pwynt

TELYNEG: ATGOF

Y mae'n nos yn llofft Osian,
Cysgodion yn cuddio'n eu cwman;
Clebran a phrepian hen freuddwyd,
A checian ystyllod a distiau'n creu arswyd
A'r llenni'n fwganod llwyd.

Bloedd, yna gwaedd ac igian,
Fy llaw yn mwytho, lliniaru'r hewian,
Sisial, mwmial "na ni a na fo"
Blinder yn llorio, ac yntau yn ildio,
Pob bwgan bellach ar ffo.

Wedi tawelu'r bychan,
A synnau'r tywyllwch tu allan,
'Dwi'n dal i deimlo, a chlywed eto
Eich llais a'ch llaw, a minnau'n ofan-
Un noson yn llofft Osian.

Mair Tomos Ifans
9 Pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: SGANDAL

Hwylus i wasg yw halen - ar y briw
Papur Bro'n creu llathen
Hanes Vic 'run fath a Sven
A Ll?r o nature Oaten

Haf Llewelyn
8 Pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: SGANDAL

Nid oes ar ucheldir moesol - i ?r
'Run garreg gysgodol
'Angau pob bwch dihangol
'Yw ein ffawd o droedio'n ffôl

8 Pwynt

TASG YCHWANEGOL - ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Yn y Bala bu Wiliam
Yn ei fyd, ddydd geni'i fam.

CYFANSWM PWYNTIAU - 79

TASG YCHWANEGOL - ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Yn y Bala bu Wiliam
A Pete, dwi'm yn gwybod pam.

CYFANSWM PWYNTIAU - 80

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH I'W ROI AR GRYS T:

"Yma o hyd" - ond mewn mess
Hen genau ydyw'r
GUINESS

Ar grys Gerallt:

Rwy'n dweud fy nweud, codi'n nwrn,
Ayatolla y Talwrn.

Dyn syrcas dan y syrcyn !
Bwrw'i oed mae
Iwan Bryn .

Nid ledi na dol ydwyf
O dan hwn gwn mai dyn wyf.

A hen surni'r nos arna'
Hwn yw y crys chwys di-chwa.

LIMRIG YN YMWNEUD Â FFERMIO:

Cyn hir fe fyddan nhw'n gwybod
Sawl gwelltyn sydd gen i'n y daflod,
Gorfodol fydd ffurflen
I bob iar a chywen
Pob chwanen a cherdyn adnabod.

ENGLYN YN CYNNWYS "Y mae ynof fy mynydd"

Y mae ynof fy mynydd - yn aros
I'm herio byth beunydd
A'r daith mor hawdd slawer dydd
I'r Orddu cyn yr hwyrddydd

(Yr Orddu yn gynefin defaid ger y Foel Goch)

Y mae ynof fy mynydd - yn bared,
Du, 'n y bore beunydd,
Yna'n fap, ar daen, a fydd,
Arno'i ddotio ddiwetydd.

ENGLYN CYWAITH: GORCHYMYN:

Yn ei henoed "Dim Oedi" - a welodd
Wil wrth gyrchu fferi
Niw ffownd land.Aeth reit handi
I'w oror pell; R.I.P.

CYNIGION YCHWANEGOL

CWPLED CAETH I'W ROI AR GRYS T:

Haia blod,oes 'na odli
Heno i fod,ti a fi?

Yfa dd?r yn lle cwrw -
Meddwi ni wnei.....medde nhw!

LIMRIG YN YMWNEUD ÂFFERMIO:

Ryw ffarm od ar naw oedd y Dolau
Yn bridio ' rhydd-grwydr' benolau;
Bach, mawr a chanolig
Yn llwyr wasgaredig,
Organig, yn crwydro'r asolau...

Mae Bob yn bur ffwndrus ei hynt,
Wedi drysu mwy heddiw na chynt;
Trio brîdio penolau,
Camddallt y canllawiau,
Be'n union oedd ystyr ffarm wynt?

Ymysg carafannau y Faenol
Chwiliai Meri am un oedd anferthol;
Roedd am symud yr 'earth'
Mewn fan deuddeg 'berth'
Efo ffarmwr 'six-foot' o Ffostrasol.

Ryw ffarmwr go ddiog oedd Wendy
Byth yn sgubo na charthu y beudy;
Roedd 'rhen darw'n pystachu
At ei fferau mewn baw
A tydi hynna ddim yn iawn nacdi!

Mae Arwyn yn ffarmwr di-hîd
Chewch chi'm ceiniog o'i groen, na dim byd;
Chewch byth beint yn y Sioe
Gan y cybydd o'r Groe -
Er bod sî fod o yn 'Best in Breed'.

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL:

"Y MAE YNOF FY MYNYDD"

Y mae ynof fy mynydd-rhyw garreg
Â'i her yn dragywydd.
Yno'n deyrn yng nglas y dydd,
Yn watwar pob diwetydd.

CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL): GALWAD

A'r niwl fel rhyw anialwch
Draw,a distawrwydd yn drwch,
Tuareg eu byd carregog
Ddaw a'u clonc i neuadd clog.
Adar gwar yn hollti'r gwynt
Yna'n chwarae a chorwynt.
Yn eu crawcian ceir acen
Fel o grombil eu hil hen,
A'u hislais bas urddasol
Goruwch waun,clegyr a chôl
Yw hen dafod hafodydd,
A'r rhain yn eneidiau rhydd.

PENNILL MAWL/DYCHAN:

CYFRYNGIS

Bum awydd gwneud gyrfa ym myd darlledu,
Darllenais 'Pwy ydi Pwy' cyfryngau Cymru,
Sylwais, tra'n chwilio'r fynegai gyfryngol
Fy mod ymysg brwgliach un goeden deuluol.

Mae "cyfryngis" i gyd yn cael cyflog a chlod
Am wneud ufflwn o ddim byd mwy na jest bod,
Cawn ninnau, bob un, siec am ein cerddi
- ac felly, yr ydym, bob un yn "gyfryngi!"

ENGLYN CYWAITH: GORCHYMYN

Mae llais yn fy nghymell i - i ddilyn
Y ddoler; ond gweli
Tra bo ynof fy nofi
Mai ffon yw'r moron i mi.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.