Ffostrasol v MyW, Dyfed

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.

Ffostrasol

Ffostrasol

Merched y Wawr Dyfed

Merched y Wawr Dyfed

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'AIL'.

Awn yng nghynt am y cynta'
Nid yw ail yn ddigon da.

D.T.Lewis
8 ½ Pwynt

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'AIL'

Hen hofel yr anifail
Oedd yn d? i Ddyn di-ail.

GWEN JONES
8 ½ Pwynt

LIMRIG: UN NOSON GERLLAW PENRHIW-LLAN

Un noson gerllaw Penrhiwllan
Mi gwrddais a brawd prinses Ann
Ynghlwm wrth ei sgidie
Roedd set o sgaffoldie
I ddala ei glustie fe lan.

Dai Rees Davies
9 ½ Pwynt

LIMIRG: 'UN NOSON GERLLAW PENRHIWLLAN'

Un noson gerllaw Penrhiw-llan
Fe gwrddais â bachan mewn fan
Fe gwrddais â'i gorun
Ei goese fe wedyn
Paid gofyn pam rydwi mor wan.

GWEN JONES
8 Pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS 'OFER' DDWYWAITH.

Clywaf roch daear fochyn - yn y nos
Ofer nawr ei erlyn,
Ofer pob her hyd yn hyn
Am iechyd buwch a mochyn.

Jim James
8 Pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS 'OFER' DDWYWAITH

Ofer, ofer yw afiaith â chalon
Yn chwil gan anobaith,
Dymuniad y llygad llaith
Yw dal y cariad eilwaith.

GWEN JONES
9 Pwynt

CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y RHESWM

Ffostrasol sy'n dîm enwog chwi wyddoch hynny'n iawn
Ein gallu sy'n rhyfeddol, a beth am faint ein dawn?
A dyna pam ddaeth llythyr i'r capten un dydd Llun
Ac arno ar y gwaelod "with love from leisa'r cwin"
Roedd am ein anrhydeddu a'n gwneud yn O.B.E
Sef Dai a Jim a Finne, a Syr i fe D.T.
Fe aethom lan i'r palas a na chi le bach neis
Mae'n debyg i d? unos ond bod e' fwy o seis
'Rol gofyn enw'r corgi er bod ni braidd yn swil
Pwy ddaeth o'r ardd mewn 'wellies' neb llai
na'r annwyl Phil
A thra bod ei mawrhydi yn hymian 'Calon Lân'
Fe gydiodd yn y tegell a'i roddi ar y tân
A chafwyd paned hyfryd 'swiss roll' a wedyn sgwrs
Am ein gorchestion barddol, campweithiau lu wrth gwrs
Ac yna mewn i'r parlwr i'r seremoni fawr
Dim ond Syr D.T.Lewis benliniodd ar y llawr
Ac yna gwnaethom sefyll i gyd mewn rhes fel pyst
A thynwyd llun i Barddas, y 'Sun' ac un i'r Tyst
Pa reswm bod ni felly yn aml yn cael cam?
A ninnau'n bedwar enwog, y cwestiwn mawr yw pam?

Emyr Davies
9 Pwynt

CÂN(HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y RHESWM

Wedi darllen y gampwaith - "Rhag pob Brâd"
Rwy'n deall pam fod fy mhlaid mewn sut stâd.
Yr holl gecru mewnol a'r ffraeo di-baid
Yn wir a wanychodd gryfder fy mhlaid,
Mae'r hen air yn wir, y t? a ymranno
Yn erbyn ei hun sy'n sicr o syrthio.
Gynt yr oedd pedwar yn codi eu cri
Dros achos y genedl, nawr does ond tri,
Ac wfft i bob ymgais a fu i dorri pen
Cadfridog heddychlon y Dalar Wen;
Yr arloeswr a greodd y cyffro mawr
Ar sgwâr Caerfyrddin pan dorrodd y wawr.
A'r hoelen olaf yn arch y cynulliad
A honno'n ddim llai na hunan-laddiad,
Ond y cynllwyn ffôl i gael gwared ar Ddafydd
Y praffaf ohonynt fel dyn ac arweinydd.
Mae'r rheswm yn glir, does dim dwywaith am
hynny
Mae'r Blaid yn rhy fach i ryw wirion ymgecru,
Dewch â fe nôl ac fe ddiflanna pob strach
Waeth fe drechwyd Goliath gan y Dafydd bach.

EIRLYS P DAVIES
8 ½ Pwynt

CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL):
TÂN

Rhai dewr, nid tri dihiryn
Fu wrthi'n llosgi yn Ll?n,
Ac i fflam wan ein mamiaith
Rhoi hwb wnaeth 'Tynged yr iaith'
A'r tân fu'n difa'r tai haf
Gyneuodd yn gynhaeaf.

Mae'r golosg yn mudlosgi
Yn awr, a hiraethwn ni
Am weld cenadwri'r mwg
Yn golofn yn y golwg.
Mae gwreichionen hen ddyheu
Ynom o hyd yn cynnau.

Dai Rees Davies
9 Pwynt

CYWYDD(HEB FOD DROS 12 LLINELL): TÂN

Gwelaf hwy'n y golau
Hwy'n gwibio, yn dawnsio'u dau,
Ond er mwynhâd cariad cu
Daw munud ymwahanu;
Wedyn daw ail-gofleidio,
Hi'n chwil yn ei freichiau o,
A'r ddau yn mwynhau eu nwyd-
Anwylo ar hen aelwyd.

Yn y man mae'n wahanol,
Y mae'r hwyl heb ddim ar ôl,
Yn llwyd yn y marwydos
Maent yno yn nwylo'r nos.

GWEN JONES
9 Pwynt

PENNILL TELYN: SIOM

Gwelais feinwen fe wnes ffoli
Gweriais ffortiwn yna'i phriodi
Erbyn hyn o'i gweld yn ddyddiol
Callach peth pe prynwn sbectol.

Emyr Davies
9 Pwynt

PENNILL TELYN: SIOM

Mi fum i yn ffyddlon i ti
Trwy hapusrwydd a thrybeini,
Ond yr hyn nad wy'n ei ddeall
Yw dy fod yn caru arall.

GWEN JONES
8 ½ Pwynt

LLINELL YN CYNNWYS Y GAIR: MAP

Di-siap ydyw map i mam

LLINELL YN CYNNWYS Y GAIR MAP:

"Gai fap i fynd i'r Cnapan?"


1 Pwynt

ENGLYN CYWAITH: DISCO

Dan y llwyn deuwn yn llu - i weled
Petalau'n diferu
Yn wledd, gan gynganeddu
 nodyn aderyn du.

D.T.Lewis
9 Pwynt

ENGLYN CYWAITH: DISCO

Nyni fu'n siglo'n pen-ôl, yn ysgwyd
A thasgu yn wyrthiol,
Ein breins ar goll yn hollol
Rownd y cloc mewn roc a rol.

GWEN JONES

TELYNEG: CWM

Drwy gymorth yr actorion
Caf weld 'Y Cwm' yn glir,
A gofid ydyw deall
Fod lot o'r stori'n wir.

Drwy gymorth un delyneg
Cwm Pennant ddaeth yn glir,
A theimlaf ryw dangnefedd
Am fod y stori'n wir.

Jim James
9 Pwynt

TELYNEG: CWM

Rhewlifiant wnaeth dy ffurfio
Oesau pell, pell yn ôl.
Yn raddol ildiaist i natur
A thyfodd y fron a'r ddôl.
Daeth coed i'th lethrau, daeth bywyd i'r tir
A chefaist lonydd am amser hir, hir.

Llenwi munudau unig
Yn nydd dy fod wnawn ni.
Ond hebom ni fyddai enwau
I'th hyfryd gilfachau di.
O Gwm 'rysgol i Nantgwynarian 'raf
A Pharc-cwm yn nefoedd ar ddydd o haf.

BETHAN EVANS
8 ½ Pwynt

ENGLYN AR Y PRYD

Cusan

Driflan fu anfantais Fanod - erioed,
Er hyn 'rwy'n cydnabod

Dai Rees Davies
8 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU - 79

ENGLYN AR Y PRYD
Cusan

Stori patrwm 'Willow' ar blatiau glas a gwyn

Dau gariad sy ar aden yn dianc
O'r diwedd uwch pompren
A gwynfyd y byd uwchben
Sy'n llywio cusan llawen

9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU - 78 ½

CYNIGION YCHWANEGOL

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'AIL'.

Yn yr Urdd ail yn y ras
Hen aflwydd digon diflas.

Enw Siarl ar sgrin y sîo
Yn esgus rhag i'ail wisgo

LIMRIG: UN NOSON GERLLAW PENRHIW-LLAN

Un noson gerllaw Penrhiwllan
Bu'n dipyn o broblem i Dan
Anghofiodd da p'un
Bu'n ei chwmni nos Lun
Am heno tyrn Beryl neu Ann.

Un noson gerllaw Penrhiwllan
Yn chwilio am fenyw'n ei fan
Galwodd Daniel 'da Lisi
I weld sut yr oedd hi
Mae'n rhaid fod e'n Desperate Dan.

Un noson gerllaw Penrhiwllan
Fe gwrddais a dyn o Japan
Mr Dai Hatsw Ap
Hanner Cymro a Jap
A Siw Swci ei wraig o Groeslon.

Un noson gerllaw Penrhiwllan
'Rol bwyta lot fawr o All Bran
Ffa pôb, lot o bys
A hynny ar frys
Bu Explotion tua cwarter tw wan.

Un noson gerllaw Penrhiwllan
Pwy welais, ond Desperate Dan
Roedd wrthi'n gwneud pwdel
A gwaeddais yn uchel
"Paid gwneud hi fan 'na, iwsa pan.

ENGLYN YN CYNNWYS 'OFER' DDWYWAITH.

Ofer

Ynof ers dydd fy ngeni - mae awydd
Am hoe yn bodoli,
Hwylio o ferw'r heli
I gilfach fach a wnaf i.

O gael helynt nos Galan, - yn ofer
Aeth Ifan i'w guddfan,
Ac ofer stori gyfan
Mewn llys roes Rhys ar ei ran.

PENNILL TELYN: SIOM

Roedd fy mun yn llawn rhadlondeb-
Golau'r haul oedd lond ei hwyneb,
Ond mae 'nghalon boenus heno
Gyda'r haul i'r môr yn suddo.

Bum yn holi Mari ganwaith
A ddoi imi yn gydymaith
Eto ganwaith mi a'i hola
Nes daw'r unwaith y cytuna.

ENGLYN CYWAITH: DISCO

Torri garw fum erw am oriau dyna
Dasg Daniel y Cilian,
Chwalu'r gwys gyda'r pwysau,
A chael, 'rol trin awch i hau.

Nodau'r Lusg geir mewn disco, - yna'r Groes
Yn rhoi grym i'r dawnsio
Y Sain drwy'r lle'n atseinio
A'r Draws ddaw a'r gwin ar dro.

TELYNEG: CWM

Rhyw gulfan gysgodol di-liw a di-lun
Yn llawn o goed deri, ynn a phîn
Cynefin y llwynog a'i gynffon hir
A'r mochyn daear wna rwygo'r tir.

Mae'n nythle i adar dros fryn a rhos
Ddylifant adre i dreulio'r nos
Ond nefoedd di-gymysg bechgyn y fro
Ddeuant i hela'r cnau yn eu tro.

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'AIL'

Cartref yw nef anifail
Tra'r plentyn wedyn ddaw'n ail.

Rheola'r ddaear yn dda
Heno walch ac ail-gylcha.

LIMIRG: 'UN NOSON GERLLAW PENRHIWLLAN'

Un noson gerllaw Penrhiw-llan
I'r afon am eog aeth Dan,
Tryferodd un praff
A'i landio yn saff
Wrth draed cipar craff o Gwmann.

Un noson gerllaw Penrhiw-llan
A finne'n mynd heibio mewn fan
Daeth boi mas o'r llwyn
Ag asgwrn trwy'i drwyn
Witch Doctor yn chwilio am Gwmann.

Un noson gerllaw Penrhiw-llan
Fe gwrddais â gwraig o Tai-wan
Meddwn i "Be ti ishe?"
"Rhyw foi" medde hithe
"ofynodd y ffordd i Japan

Un noson gerllaw Penrhiw-llan
Tylluan a glywsom yn tuchan
Ar ben garej George
Ddim pell wrth y Forge
A sbaner o'i cheg fach hi'n hongian.

ENGLYN YN CYNNWYS 'OFER' DDWYWAITH

Ai ofer rhoi diferyn i bobol
Heb obaith ail-gychwyn,
Os yw'n byd yn fyd a fyn
Rodio yn ofer wedyn.

PENNILL TELYN: SIOM

Siom oedd pleidlais y Monwysion
Siom oedd colli Ceredigion,
Dwbl siom fu colli Gwynfor,
Ei arweiniad doeth a'i gyngor.

Colli wnes fy mabi cynta
Colli mam a cholli tada,
Ond y gwaetha colled ges i
Oedd dy golli di i Bessie.

Bum yn byw yng Ngheredigion,
Fe wnes yno lu cyfeillion,
Falle i mi fod yn wirion
Waeth yno torrais i fy nghalon.

Gwelais di yn dringo brigyn
Roet ti yno drannoeth wedyn,
Ond ymhen tridiau, pan es yno
Yr oedd rhywyn wedi'th ddarnio.

ENGLYN CYWAITH: DISCO

Y strob sy fel stribedi'n goleuo
Yn gloi y corneli
Lle mae e'n dal Mal a mi
Yn wisbran serch ag asbri.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.