Tanygroes v Ffair Rhos
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys pentref yng Ngheredigion:
Gwr â'i waith gwerth byger ôl
Yw Dai Rees o Ffostrasol.
Emyr Jones
9 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys pentref yng Ngheredigion:
I'r diweddar Peter Davies:
Un o'r rhain oedd ar wahan
'na ogoniant Goginan
John Jones
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â hedfan:
Mae llygaid y lloeren mor dreiddiol,
Cânt ganfod pob blewyn terfysgol;
Ond weithie, fe ddrysant
Wrth hedfan dros Oernant
O weld sglein yr haul ar ryw sbectol
Phillipa Gibson
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â hedfan:
[Mewn naid parash?t mae'n arferiad i waeddi 'Geronimo' cyn tynnu'r Cortyn].
Ar ôl naid o awyren un tro
Wrth barash?t, clywyd 'rhen Jo
Ar ôl hitio'r ddaear
Yn sibrwd yn glaear
'Beth oedd enw'r Indian 'na to?'
Lyn Ebenezer
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'nid oes ...':
Nid oes yn ein hoes a'i nod - o ddeall
Y ddaear a'i hanfod -
Ddigon o ddoethion i ddod
I adfer byd heb gydfod.
Phillipa Gibson
8 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'nid oes ...':
Nid oes medd gwybodusion - amheuaeth
Mwyach, mae'r arbrofion
Yn dangos haen yr oson
Yn breuhau bob eiliad bron.
Raymond Osborne Jones
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Pobl drws nesa'
Rhyw bobol bach oedrannus fu'n byw drws nesa' i mi,
A'r gerddi sydd yn ffinio yn hir tu ôl fy nhy.
Y mae 'na ddwy lein ddillad pob ochor ger y ffin,
A dillad fel baneri yn chwifio bore Llun.
Pan chwythai'r gwynt yn ffyrnig o'r dwyrain yn ei nerth
Doi eliffantaidd flwmer i'm cyfarch tros y berth.
Ond tro a ddaeth ar fywyd - (hen hanes dynol ryw)
Y dillad aeth 'da'u cynnwys i fyngalo i fyw,
A fel hen fachan shengl rhyw bleser eto caf.
Wrth wylio'r dillad newydd ar ambell fore braf.
Rhyw posing pouch nawr gwelaf a sane neilons du,
Dau fra yn groes o gyswllt sy'n cyffro'n hormons i.
Gofalaf mwy i hongian fy nillad yn 'run lle,
I'r aswy mae fy long johns, a'm crys yr ochor dde.
A phan bo'r gwynt gorllewin yn chwiban cas ei ru
Ymgiprys lewys gwlanen sy'n goglais lingeri.
A'r posing pouch digwilydd, a'r Y-fronts dau neu dri,
Yn eu hyd mae gyddfau'n long johns yn eu pocran yn lawn
sbri.
A'n dawnsio'n llon 'da'i gilydd uwch ben ei rhych o bys
Mae bôn y sane neilon yn awr tu fewn fy nghrys;
Myfi yw'r hen Ap Gwilym wrth gymryd nap prynhawn
'Da'r gwynt yn cynghaneddu a'r dillad oll yn llawn.
Arwel Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Pobl drws nesa'
Fe ddaeth pâr bach reit ryfedd i fyw i Dy'n Coed
A dau mor wahanol ni welwyd erioed
Mae Ty'n Coed, gyda llaw, yn yr un stryd â ni
Ond bod ni'n Nymbyr Tw a nhw'n Nymbyr Thri
Un main tal oedd e', jyst fel fframin beic
Tra hi'n fenyw dew, fel rhyw forfil ar heic.
O'r Rhondda doi ef, ond Goges oedd hi;
Roedd ganddi hi gath tra roedd e'n cadw ci.
Er yn siario'r un ty, rown nhw'n byw mewn dau fyd,
Doedd y ddau byth i'w gweld mas da'i gilydd run
pryd.
Yn wir, roedd e'n ddigon i'ch hala chi'n grac -
Pan ai hi mas drwy'r ffrynt, fe ddoi e' mewn drwy'r
bac
A phan ddele fe nôl, ail-adroddid y stynt -
Fe ai hi mas drwy'r bac a doi e' mewn drwy'r ffrynt.
Ond yna, un bore, tra hi'n berwi wy
Ar y stof yn y gegin, fe ffrwydrodd y nwy
Fe chwythwyd y ddau mas drwy'r ffenest yn llwyr
A wnaethom nhw'm glanio nes oedd hi'n reit hwyr
Fe gollais i ddeigryn, doedd gen i ddim cywilydd
Ond o leia fe aethon nhw mas gyda'i gilydd.
Lyn Ebenezer
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Addewid
Lliw yr haul dros Pwll y Wrach
Yn oren, ac yn hwyrach
Yn troi'n bêl cyn dychwelyd
I wely aur y nos glyd,
A sail bryniau'r Preselau
Yn gwsg o dan orchudd gau.
Mae twr Pencâr yn taro
Fflachiadau dros fryniau'r fro:
Fe ry' rhain rhyw hwb i'r fron
Yn ddidwyll addewidion
Mai trannoeth o gyfoeth gaf
Yn gneuen o gynhaeaf.
Emyr Jones
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): AddewidEr cof am fy nhad Jim Dologau, Cwmystwyth a fu farw dros ugain mlynedd yn ôl
Fy einioes roddwn heno
Am un awr o'i gwmni o
Un dydd 'rown wedi addo
Dod yma'r ha gydag o
Heibio'i riniog Dologau
Nôl I fwrlwm Cwm Nantgáu.
A mi'n wylo mewn alaeth
Un dydd oer, fy nhad a ddaeth
Clywn ei lais yn llais y lli
Yn y d?r roedd ei stori
Ac yn nyfnder y cerrynt
Fe lifai'r cellwair fel cynt. Dai Jones
9 Pwynt
Pennill ymson mewn gêm
Lle gynt bu 'nhad yn dilyn
Y gwys dros lethrau'r bryn,
Yn gwmni i'r gornchwiglen
Mewn gwres llywannen dynn.
Dirymodd surni'r gweryd
A phlannodd yn ei grwm
'Mhlith stori, cân ac englyn,
Gymdogaeth dda y cwm.
Dros greens 'rhen fferm rwy'n chwarae
Gan lusgo troli fach,
Mewn pantalwns dwyn fale -
Fel Yank a brogues y crach.
Caf albatross ac eagle,
A birdies uwch y môr :
Fy handicap yw 'ngwreiddiau
A Saesneg ydyw'r sgôr.
John M.O.Jones
9 ½ Pwynt
Pennill ymson mewn gêm
Er cael tocyn i'r gêm yr wyf yn ei charu
Rwyf nawr wrth y twnel yn dechrau difaru
Fe'i cefais tu ôl i'r gôl mewn eisteddle
I weled Caerdydd ac Abertawe
Roedd y Gleision yn floesg yn bloeddio'u
rhyfelgyrch
A minnau yn unig oedd gyda'r Elyrch.
Yn gorfod dioddef eu poeri a'u rhegu
Eu gwawdio a'u bygwth a'u hawydd am ddyrnu
Roedd popeth yn iawn â 5 munud ar ôl
Roedden nhw ar y blaen yn gysurus, o gôl
A minnau 'di llwyddo i gnoi fy nhafod
Am gymaint o'r gem ymhlith y bwystfilod -
Yn gwbwl ddi-rybudd daeth cic o'r smotyn
A methais a chuddio mai fi oedd y gelyn......
...Ni wn i a lwyddodd yr Elyrch i sgorio
Mewn 'chydig eiliadau roedd y gwaed yn llifo.
Rown 'i wastad eisiau dod mewn drwy'r twnel
Ond heddiw ar 'stretcher' yr wyf fi'n ymadel.
John Jones
8 ½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mae'n wir na cheir y geiriau
Ac atgo'r co' wedi cau.
1Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mae'n wir na cheir y geiriau
Heno'n wir maent yn prinhau
Englyn cywaith: Addurn
Gwin y ddawns a hogen ddel - a sws gudd,
Nes gweld bod fy angel
Yn fodrwyog ei bogel:
Yno mwy nid wy'n ymhel.
Ken Griffiths
8 ½ Pwynt
Englyn cywaith: Addurn
Er nad o waith gemwaith gain - fel asur
O las oedd a chywrain
Harddach na'r saffir mirain
A'i dlysni o oedd tlws nain.
Dai Jones
8 Pwynt
Telyneg: Rhent
Pan fyddai'n troi y cwysi
A pharatoi y pridd,
Breyddwydiai am gael perchen
Ei fferm ei hun ryw ddydd.
Ac mewn cynhaeaf gorlawn
Neu mewn cynhaeaf sâl,
Yr un yw cnwd y llyfr
Pan ddaw hi'n ddydd y tâl.
Ken Griffiths
9 Pwynt
Telyneg: Rhent
Ar dyddyn bach diarffordd
Pum erw? Efallai mwy
Y bu yn grwm ar bwys ei ffon
Heb bwyso ar y plwy.
Mae heno'n hedd y beddau
A'r eildro nawr ar werth
Ers dydd ei chladdedigaeth
Mae tyddyn Tynyberth.
Cwarter miliwn yw y pris
Ofynnir am y lle;
Ond talu'n ddrud mae'i hwyres hi
Am fflat ar gwr y dre.
Raymond Osborne Jones
9 Pwynt
Englyn ar y pryd
Graffiti
Yn awr nid wyf mor barod - i beintio
O baent fy nghydwybod
Oherwydd mi ddaw cawod
I lanhau muriau fy mod.
Ken Griffiths
9 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU - 81 ½
Englyn ar y pryd
Mewn toilet dim ond dwli - hen rigwm
A rheg sy'n reit ddigri,
Ond sgrifan ein trueni
A ddaw nôl â'n c'wilydd ni.
Dai Jones
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU - 78 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys pentref yng Ngheredigion:
Cawn awel y Cei Newydd
Draw o'r môr i dwymo'r dydd.
Holl liwiau y gorllewin
Gawn fin nos yn Ffos-y-ffin.
Yno, trwy fôr fy einioes,
Yno'n graig mae Tan-y-groes.
Y pysgod fu'n dod bob dydd
Fu cynhaeaf Cei Newydd.
Hen lais ddaw o Daliesin
O'r pair hud i'r efrau prin.
Limrig yn ymwneud â hedfan:
Roedd elfen barcuto yn Ann,
A phrynodd handglider fach wan -
Ac yna wrth hedfan
Deallodd yn fuan
Bod hi'n haws i ddod lawr na mynd lan.
'Rôl Guinness mae 'mola i'n llawn -
Sefyllfa beryglus nawr gawn :
Mae 'ngherbyd tu fas,
Ond hefyd mae'r glas -
'Dwy adain colomen pe cawn.'
Aeth mewn roced i Ajerbaijan,
A rownd y byd mewn catamaran;
Ac yna nos Sadwrn
Wrth rasio i'r Talwrn,
Ca'dd gwdyn ar sgwâr Penrhiwllan.
Stori wir
Mae Arwel ymhell dros ei fifty,
Ac eto yn fachan go heini;
Ond nid rhy urddasol
Oedd syrthio o'r ysgol
Na'r corset i'w ddal at ei gily'.
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'nid oes ...'
Ionawr
Mis yw â'r dryw wrth y drws - nid oes hwyl,
A daw salwch feirws;
Ond deil ei wedd wyrthiau tlws
A dau wyneb duw Ionws.
Mae mam ym mro'r tsunami - yn llefain
Drwy'r llif am ei babi;
Er y waedd, er y weddi,
Nid oes neb i'w hateb hi.
Un taliad o'r troadau - ydyw i
Ond nid oes ei heisiau:
Taliad sy'n eiliad yn iau
Yw hon o'n dyled ninnau.
Pennill ymson mewn gêm:
Mor braf yw gwylio'r Sgarlets
Yn curo'r gwyr mewn glas,
A gwledd yw gweld asgellwr
Ar wib â'i gamau bras -
Ond hoffwn drefnu i hwn gwrdd
Â'r diawl fu'n taflu'r bêl i ffwrdd.
Gwaith refferî sydd yn galed -
"Please clean the ball", medde Ding,
A'r teclyn bach hanner lleuad
Ar goll mae y blydi thing.
Ond dyw'r Cardi byth yn ffaelu
Beth bynnag a ddoed a ddêl.
Set waelod fy nannedd dodi
Gosodaf nhw nawr rownd y bêl
Pe croesai y lleian o 'mlaen i
A'r ddarten yn taro ei phen hi;
A phe bawn yn ddi-stop
Yn cael dwy double top,
Fe sgoriwn 'one nun dead and eighty'.
Englyn cywaith: Addurn
Er rhodres, tair yw'r oedran - i dyllu'r
Glust a wella'n fuan -
Anghofir sgrech y fechan
Yn ei rhwysg, chwaraeai'i rhan.
Ym mar y ddawns mae mor ddel - â phobun
A phobia i'w harddel -
Ond pan ddaw'n ddydd fe fydd fel
Ysborion y bin sbwriel.
Rhiniol wawn o'i oeri'n wlych - wna donnau
O sidanwe gorwych;
O'i wead chwiliaf lewych
Drwy fêl yr haul - drifl yr ych.
Telyneg: Rhent
A'i binnau, têp a'r lasys
Begerai'r rhesi llwm,
Â'i ddyrnau glas yn gafael
Dimeiau prin y cwm.
O weld y weddw'n ddagrau
I gadw'r beiliff draw,
Ei gardod drodd yn ennaint
Wrth iro cledr ei llaw.
Mi alwai'r porthmyn heibio
I brynu'r da a'r wyn,
A 'nhad yn gorfod gwerthu
O hyd yn fawr ei gwyn;
Ac yna, mynd â meddwl clir
I dalu'r rhent i'r meistr tir.
Ond mae 'na daliad arall
A hwnnw ddim yn rhad,
Sef treth o egwyddorion
I warchod ein cefn gwlad -
A gadael, wedi dydd ein bod,
Y wlad yn well i'r sawl sy'n dod.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys pentref yng Ngheredigion:
Y mae rhin y trumiau rhwyth
Yn estyn am Gwmystwyth.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

