Bro Ddyfi v Y Manion
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn ail rownd cyfres y Talwrn.
Bro Ddyfi

Manion o'r Mynydd

Cwpled yn cynnwys y gair 'eiliad':
Daw eiliad anfad yn ôl
Yn gyhuddiad tragwyddol.
Gwilym Fychan
9 Pwynt
Cwpled yn cynnwys y gair 'eiliad':
Y mae gorffen mewn geni,
Eiliad yw'n hanadliad ni.
Nia Watkin Powell
9 ½ Pwynt
Limrig: 'Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth':
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
Mi welais i feddwyn mewn penbleth,
Ar ôl peint bach neu dri
Roedd hi'n amser pi-pi
Ond gwelsai ef nawr ddau o bopeth!
Elwyn Breese
9 Pwynt
Limrig: 'Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth':
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
Un noson 'roedd plismon mewn
penbleth,
Dafydd Wyn a Hedd Bleddyn
Yn prancio'n noethlymun,
Mae'n amser i rywun wneud
rhywbeth!
Edgar Parry Williams
9 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'Un adeg ...':
Englyn gan Eurwen i Ddafydd Wyn (i dalu 'nôl iddo)
Yn nwydwyllt 'roedd un adeg - a mynych
Ei chwennych ychwaneg,
Nawr Dei sydd yn ara' deg,
Di-ruthr - a dim ond rhethreg!
Gwilym Fychan
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau 'Un adeg ...':
Ymson Indiaid brodorol America
Do, buom yn wlad un adeg - a llais
Gan bob llyn a charreg;
Yr Iaith sydd bellach yn rheg
A'n tiroedd? 'Mond daeareg.
Cynan Jones
8 ½ Pwynt
Cân (Heb fod dros 20 llinell): Y Wefan
Mae Dafydd Wyn 'di gwirioni
Am fod y Talwrn yn awr ar y we,
Enwau'i gwn yw 'Talwrn blaenslaes'
A 'bbc.co.uk'
Mae Edgar yn cael ei limrigau
I gyd yn awr ar e we
Wrth glicio ar 'Parry Williams blaenslaes
Rhyd-ddu. co. uk'
Dydy'r englyn ar y pryd ddim bellach
Yn dasg sydd yn agos mor drom,
Gallwch brynu eich englyn os mynnwch
Am ddwybunt ar 'E-bay.com'
Mae Ann Fychan yn cael ei thelyneg,
A hynny rwy'n gwybod bob tro
Ar y we heb chwysu na thrafferth
Ar 'Phyllis@manion .co'
Mae llawer 'di gadael y radio
Cael y Talwrn bob tro ar y we
Am nad yw'r beirniadu hir, boring
Ar y 'Talwrn.co.uk'
Hedd Bleddyn
9 Pwynt
Cân (Heb fod dros 20 llinell): Y Wefan
Ers iddo ymddeol un o ddiddordebau Hedd Bleddyn yw chwilio safle E-bay!
Mae rhai yn gaeth i Fodca, a rhai yn gaeth i
de,
Ond clywais fod Hedd Bleddyn yn adict i E-
bay.
O flaen ei gyfrifiadur mae'n syrffio nos a
dydd,
Yn bidio am fargeinion a gwario'i bres yn
rhydd.
Mi wnaeth ei siopa 'Dolig heb symud gam
o'r ty,
A Marian bron â drysu wrth weld parseli lu
Yn cyrraedd drws Bryn Peiran. Dywedodd
wrtho'n chwyrn,
"'Nawr Hedd, ma'n rhaid 'ti sdopid rhyw
nonsens dwl fel hyn!".
Ond prynu wnaeth degannau i Lleu ac Aur
a Rhun,
A Non, wrth gwrs a elwodd - deg anrheg i
bob un.
I Rhys a Bethan chwilio wnaeth a
phrynodd iddynt fap
A chyfarwyddyd manwl sut i ffeindio y stop
tap!1
I Nia a Phryderi cafodd anrheg nad oedd
ddrud,
Sef mil o focsys carbod i bacio'u stwff i
gyd!2
Mi fidith ar bob sothach, ac unwaith
prynodd fan3
Ys gwn i ydy o heno wedi ceisio prynu
cân!!
Ond pan aiff oddi-yma, mi fydd 'o ar fy
ngwir,
O flaen ei gyfrifiadur yn drachtio ffics go
hir,
Cans bore fory gyda'r wawr mae'n
cychwyn am y De
I glinig pensiwniars sy'n adicted i E-bay!!.
Phyllis.A.Evans
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr
Annwyl Blair,
Mewn helbul wyf,
yn dlawd, di-olew ydwyf;
yng ngwlad cred mor sychedig
yw'n ffyrdd; Blair 'rwyf mewn straffîg
canys mae'n ffynhonnau'n wag;
yn gyfiawn awn ble bynnag
mae'r aur du i'w gymryd o'n
danwydd; 'rwyf angen dynion
arfog i gryfhau 'ngharfan,
gw?r rhydd i orchfygu Iran.
awn i ryfel â'n gelyn
yn y Gwlff.
George
Y T? Gwyn
Tegwyn Jones
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr
Ym 1864, gadawodd David Bowen o Lanelli ei
wraig a'i blentyn, mynd am America, a diflannu yno.
Ofer fu pob ymdrech i'w ganfod. Yr oedd fy hen-nain
yn chwaer iddo.
Annwyl deulu, o dalaith Utah ym mhen pella'r paith.
Gwn yn iawn fy mod yn gnaf diddiolch, dafad dduaf
'wadodd o'i wirfodd ei hun helyntion gwraig a
phlentyn. Na holwch - mwy na'r heli'n y môr sydd
rhyngoch a mi. O wreiddio'n naear Rhyddid mae'r
drysau ar gau i gyd.
Ffarwel, fy hen wehelyth,
Wyf
Ddafydd benrhydd am byth.
Nia Watkin Powell
9 ½ Pwynt
Pennill mawl/dychan: Y Cyfrifiadur
Mae ganddo gof arbennig,
Prosesydd hynod chwim,
Gofynion gwaith neu chwarae
I hwn nid yw yn ddim,
Ond am bob dyn mae'n ei ddiswyddo
Mae'n rhaid wrth dri er mwyn ei drwsio!
Elwyn Breese
8 ½ Pwynt
Pennill mawl/dychan: Y Cyfrifiadur
Mae gen i gyfrifiadur
A Chymraeg ydyw ei iaith,
Mae'n g'neud i mi swnio'n glyfar
Ac mae'n arbed lot fawr o waith.
Fe ?yr sawl 'n' sydd yn 'mynnu',
Mae'n treiglo'n gywir bob tro,
Fe ?yr sawl 'r' sydd yn 'gyrru',
Ac mai 'Hon' nid 'Hwn' ydi bro.
Mae wedi cael swydd gan y Bi Bi
Si -
Mae'i Gymraeg yn well na Gerallt
a fi.
Cynan Jones
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Nain yn hen a ddaw yn ôl
od iawn yw'r meddwl dynol
½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Od iawn yw'r meddwl dynol
Ei ffawd yw myned yn ffôl
½ Pwynt
Englyn cywaith: Ffôn:
A mi'n llanc ieuanc gorlawen - y gamp
Oedd osgoi y fedwen,
Ond yn awr o fynd yn hen
Glynaf wrth fagal onnen.
Dafydd Wyn Jones
9 ½ Pwynt
Englyn cywaith: Ffôn:
daeth Sion Corn â ffon fagal i Eban Jones (4 oed), Nantgwynant - dolen arall yn olyniaeth bugeiliaid Eryri.
y sach ffon fagal sydd - i Eban,
ae'n fab y mynydd,
A daw drwy dinsel y dydd
I'n g?yl ni fugail newydd.
Nia Watkin Powell
10 Pwynt
Telyneg: Mam
Hi yw'r un sy'n ofal i gyd,
Hi sydd yn gwybod dy led a dy hyd,
Hi yw'r un sy'n achub dy groen
A hi yw'r un sy'n teimlo dy boen,
Hi yw dy graig a hi yw dy gysgod,
Hi sy'n dy garu yn gwbl ddiamod.
Ann Fychan
8 ½ Pwynt
Telyneg: Mam
Rhwng gwynfyd y cynfasau,
â llinynnau'n bod
yn cloi
yng ngwres y gwewyr,
ac wrth hwylio ar awelon cwsg,
hen bluen ddu
sy'n hofran
a blino'r
cof.
Goleadau neon yn fflach i'r cysgodion
Undonedd y gân asidaidd
yn cnocio'i rhythm
yn hunllef fyddarol.
Sgrialu olwynion
ar ffordd wleb
yn sgrech drwy'r tawelwch
A sgarmes
y dyrnau oer yn darnio'r nos.
Hyd nes
i swn yr allwedd
droi'n llif rhyddhad.
Phyllis.A.Evans
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: Gwên
Och Gwên, fe aethoch i gyd - ni fynnai
Fy henaint 'fath dristyd,
A garw im weld ger y rhyd
Fy un olaf, f'anwylyd.
8 Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 80
Englyn ar y pryd: Gwên
Wedi'r rhegi a'r drygair - mae o hyd
Gymodi dilestair,
Trech yw cusan nag anair
Hanner gwên heb dorri gair.
Cynan Jones
8 ½ Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 83 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled yn cynnwys y gair 'eiliad':
Gall un eiliad gofiadwy
Os yn wefr aros yn hwy.
Inni eiliad a welir
Os ar hast yn amser hir.
Nid digon i'r galon gaeth
Un eiliad o reolaeth.
Limrig: 'Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth':
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
Mae camel 'di gadel ei wrteth,
Wrth ddod dros Ddarowen
Mi gollodd y seren,
Ac aeth 'mlaen tua Chorris mewn penbleth.
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
Mae TARMAC a PHAFIN, 'na ddeubeth,
LEIN WEN a NYTH WENNOL,
DWY BIN yn y canol,
A CHROESFAN a BUS STOP, 'na bopeth.
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
Ar focs sebon mi weles i Fachreth
O Ddydd Llun tan Ddydd Iau
Yn trin y beirdd iau
Am ei gadw fo allan o bopeth!
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Un adeg ...'
Beddargraff siaradwr hir wyntog
Ofnadwy fu un adeg - ei siarad,
Hwn oedd seraff rhethreg,
Ni yngan air ychwaneg
Death angau i gau ei geg.
Cân (Heb fod dros 20 llinell): Y Wefan
Roedd Wil yr Hendre'n sengl ac arno eisiau gwraig,
Un dlos ac annwyl hoffai, nid un â thymer draig;
Ond eto yn bwysicach na holl rinweddau nwyd,
Roedd rhaid bod hi'n gogyddes - fe hoffai Wil ei fwyd.
A dyma fynd ar E-bay i chwilio rownd y byd
Os oedd 'na fargen handi - sdim pwynt mewn talu'n
ddrud.
Fe brynodd un i ddechrau o rywle ger Hong Kong,
Nôl aeth hi dan 'guarantee' pan welodd bod hi'n rong.
O Siapan y daeth y nesa', Lee Woo, roedd hi yn neis
Ond nôl aeth hi pan fethodd wneud iddi bwdin reis;
Daeth menyw o Ankara, coginio twrci'n nod,
Bu stwffio Paxo'n broblem - dim priodas oedd i fod;
O Frwsel death Anetta, fe blesiodd hi am sbel
Ond bwyta sbrowts achosodd sawl wrechan - un
ffarwél;
Cael gwraig wrth syrffio'r wefan brofodd ddim tamaid
haws
A Wil sydd yn bodloni bob dydd ar frechdan gaws.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled yn cynnwys y gair 'eiliad':
Gweddi
Un eilad o anelu
Rhwng y sêr i'r dyfnder du
Dyddiadur
Un eiliad cyn noswylio
O roi gwaith y dydd ar go'.
Limrig: 'Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth':
Ar daith i'r deheubarth aeth Gwyneth
Mewn car ynni trydan drwy Gricieth
A Chorris, ond toc
Cafodd gythraul o sioc
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
Proffwydodd Glyndwr y bydd torreth
O feirdd bach di-reswm
Bro Ddyfi'n gwneud rhigwm
'Mhen mil o fileniwm, ysyweth.
Wrth ymyl y cloc ym Machynllath
Gosododd hen botsiar dair croglath,
Mi ddaliodd un wenci,
Hedd Bleddyn a mwnci,
A'r tri wedi drewi yn dwmpath.
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
'Roedd Tegwyn a'r Fychan mewn
traffe'th,
Dafydd Wyn a Hedd Bleddyn
Ac Ann yn noethlymun,
Mae'n amser i'r Meuryn wneud
rhywbeth.
Un noson gorweddodd hwch Machreth
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth,
Mi wnaeth bw-pw mawr
Yn domen ar lawr,
Mae'i chynffon hi 'nawr ar sgwar
Cricieth
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth,
'Roedd dyn wrthi'n cnoi darn o
gyfleth,
Mi wnaeth dwrw mawr,
A chwydu ar lawr,
Mae'i ddannedd o'n awr gan hwch
Machreth
Mi glywsoch mae'n siwr am hwch
Machreth,
Mae'n enwog drwy'r byd am wneud
traffe'th,
Mi wnaeth, medda nhw,
Lond trol o bw-pw
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth.
'Rwy'n cofio dyn diwyd o Gricieth
Oedd wrthi drwy'r nos yn gneud
cyfleth,
A gwneud India roc
I werthu'r holl stoc
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth.
Wrth ymyl y cloc ym Machynlleth
Mae y fainc lle y gwelais i ganweth
Dim talwrn Bro Ddyfi
Yn ceisio barddoni
Cyn iddyn nhw golli pob gobeth.
Cân (Heb fod dros 20 llinell): Y Wefan
Yn ddiweddar daeth SOS i Hedd am fod Rhys a Bethan yn methu dod o hyd i'r stop-tap yn y ty.
Mae Nia a Pryderi ar fin symud t?
Mae'n wir i Hedd brynu fan (i'w gyrru) y tro cyntaf iddo ymweld â safle E-bay!!!
Mae Google yn help i chwilio
Am bethau nad wy'n mo'yn,
Fel gwersi am farddoni,
Neu after-shave i 'nghroen,
Mae 'na wefan Cerddi Cynan -
(Jones) - w'chi,
Ond fu neb yno'n sbio - neb ond y fi.
Un noson, a minnau'n unig,
Dyma drio Pishyn.com
I gael dynas sy'n fy siwtio
'Roedd fy nghalon yn mynd fel bom -
Ac fe ffeindio 'nhw gymar perffaith i
mi,
Dychmygwch fy siom - y blincin
wraig oedd hi!!!
Mae gwefan i bob diddordeb
'Dwi wedi eu gweld nhw i gyd,
Mae 'na un i gynganeddwyr,
A miloedd i byrfyrts y byd -
Ceisiais ddanfon e-bost. Dwi nawr yn
y jêl
Fe gamsillafais innau gyfeiriad 'Hot-
Mail'.
Englyn Cywaith: Ffon
Y gwneuthurwr sy'n siarad
Wedi hon fe fodlonaf - ar y grefft,
Mae'r graen gyda'r llyfnaf,
Yn ei hyd mae dyddiau'n haf -
Hon yw'r ffon nas gorffennaf.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

