Llanrug v Criw'r Ship
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnrych dau dîm o feirdd yn yr ail rownd o gyfres y Talwrn.


Limrig yn ymwneud â choginio:
Bwydydd Anthony dew Worrall Thompson
Sy'n iawn, a rhai Clarissa Dickson;
Ond ta'wn i isho 'nhamad
Fe awn ag arddeliad
Am gyflenwad gan Nigella Lawson.
Dafydd Whiteside Thomas
8 ½ Pwynt
Limrig yn ymwneud â choginio:
Yn ôl Dudley Newbery ac Ena,
Pryd oer ydi salad gan amla'-
Ond 'dan ni'n gorfod berwi
Y teciall cyn golchi
Ein letys ac ati rownd ffor'ma.
Arwel Roberts
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Bwced
"Deud mam, i ble'r aeth Sami - ei hun bach,
Yn y bocs heb Tedi?"
"I'r heulwen a'r ser yli,
I law Duw, i'th wylio di."
Richard Llwyd Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Brawd
Ni all lliw rhewlif ar ras-na
Nosau o hen gesair diflas,
Na hynt yr un corwynt cas,
Na than, ddifa'n perthynas.
Gari Wyn
8 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Ynadon
Yn barchus, yn gyfiawn,
Rhoi pawb yn eu lle.
Cael trefn ar y werin
Ac adre' i de.
Iwan Roberts
9 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: Ynadon
Wyddoch chi beth yw'r cysylltiad
Rhwng tramp digartef meddw ac ynad?
Mae y ddau yn treulio'u dyddiau
Yn cysgu ar wahanol feinciau
A dweud y drefn wrth bawb aiff heibio.
Ond ynad annwyl, wnei di gofio
Os fydda'i rywbryd ger dy fron
Gari Wyn wnaeth sgwennu hon.
Arwel Roberts
8 ½ Pwynt
Engyn yn dechrau: Mi wn ...
Mi wn o blith y manion - daw weithiau
Y doethaf o ddynion
Y rhai swil, heb fawr o sôn,
Ddeora egwyddorion.
Richard Llwyd Jones
8 ½ Pwynt
Englyn yn dechrau: Mi wn ....
Mi wn fod bardd ag amynedd yn llawn
Haeddu lle'n yr orsedd
A siawns y caf felly sedd
Yno ymhen can mlynedd.
Gary Wyn
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Atgyfodiad
Daeth dalen o bapur drwy'r drws rhyw nos Fowth,
(Ro'n i newydd ddod adra rôl siwrna o'r sowth)
Holl dasgau y Talwrn i'w gwneud erbyn ddoe,
Gan gynnwys y gân - yng nghanol y sioe.
Ond wir! Wele destun i'n sobreiddio go iawn;
Un trwm, un yn gofyn am ddiwynyddol ddawn;
A hwnnw i'w drafod mewn ugain lein
- yn gryno, yn gytbwys, ddealladwy - i'r rhein!
O Feuryn!! Mae'n gyfnod y deuddeg dydd g?yl
A phawb di gloddesta a meddwi a chael hwyl;
Pam llusgo holl sylfaen Cristnogaeth mewn nawr?
Duw! Gawn ni ddigon ar hwnnw bob Sul am rhyw awr.
A does gen i ddim amser i'r Beibl mawr,
Na'i chwilio'r Concordans o glawr i glawr;
Mae'n gyfnod mor brysur, ac fel ro'n i'n deud,
Mae 'na bobl i'w gweld a phethau i'w gwneud.
Am adeg o'r flwyddyn i roi'r ffasiwn dasg:
Mewn protest, rwy'n gohirio'i gorffen tan Pasg.
Dafydd Whiteside Thomas
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Atgyfodiad
Beth tase gw?r enwog y Gymru fu, gynt
Yn codi o'u beddau a mynd ar eu hynt
O gwmpas y wlad 'ma? Beth fyddai eu barn
Fod pethau'n wahanol ar ôl Dydd eu Barn?
Ers dyddiau Llywelyn, pan oedd o yn 'ben',
Estroniaid fu'n heidio i'r hen Walia Wen.
Pe byddai yn codi o farw yn fyw,
A hoffai weld Saeson yn dal wrth y Llyw?
Beth ddwedai Glynd?r o weld cyflwr ein gwlad
Yn dal heb Lywodraeth ac mewn diawl o stad?
I ble'r euthe'r cradur i fwrw ei lach?
Ai Corwen neu Bennal, Caerdydd ynteu Mach?
Bu Arthur yn cysgu yn sownd ers tro byd,
A ninnau yn aros 'ddo ddeffro o hyd.
Fe fyddai 'di drysu o weld nad oes hedd
A chymaint yn hawlio main nhw pia'i fedd.
Mae Llanddwyn yn ynys llawn lledrith a hud
Sy'n denu rhai pobol i wisgo dim byd;
Fe fyddai 'rhen Maelon 'di dadmer dwi'n si?r
Pe gwelai o Ddwynwen yn noeth wrth y d?r!
Gwahanol yn sicr a fyddai ein byd
Pe byddai ein harwyr yn codi'r un pryd.
Menna Medi
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sion a Sian
Yng nghyfnod y salwch olaf - Hydref 2005-12-13
Gwasgai'r lluniau brau i'w bron,
Gafael yn eu hatgofion;
Cofio'r heulwen ar wenwisg,
Y gwawn yng ngwead ei gwisg,
Lliwiau'r dorch, gwynder gorchudd,
Gwelai'r gwrid golura'i grudd.
Mae eu haf yn darfod mwy,
Mae hydre'n aur ei modrwy.
Pylu heddiw mae'r lliwiau
Brith, ac mae'r dyddiau'n byrhau.
Y mae ias yng nghalon mun
A hirlwm ym mhob darlun.
Iwan Roberts
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sion a Sian
Un waith bu dau mewn bwthyn
Yn rhannu gwaith Bryniau Gwyn.
Yno, dau gymar uniaith
Fu'n creu hwyl mewn g?yl a gwaith.
Tra'n cynnal eu gofalon;
Rhannu'r lleddf a rhannu'r llon.
Eu trysor ydoedd oriau
O rannu dysg a rhin dau.
Dau yn gwarchod traddodiad,
Dau o lun hen yd y wlad.
Rhyw wers war yn yr oes hwn
Yw hen gwlwm drwy galon.
Gari Wyn
8 ½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mor anodd yw meuryna
Ag ond un - hen gondo da
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mor anodd yw meuryna
I ddau sydd â'r un yn dda.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair: Gwên
Y mae gwên, drwy'r siom i gyd
Yn annwyl doddi'r ennyd.
Richard Llwyd Jones
8 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair: Gwên
Yn annwyl a chynhenid
Y mae gwên ynom i gyd.
Llion Derbyshire
9 Pwynt
Telyneg: Cerydd
Ar ganiad y gloch,
Croesawyd clwyd y buarth gan wenau llydain,
A bwrlwm yr antur yn llenwi diniweidrwydd eu llygaid.
Llaciodd y gafael gwarchodol,
Â'u hancesi gwynion
Yn chwifio dagrau'r gwahanu.
Tu ôl i lenni myglyd, llusgodd oriau'r aros
Fel cleisiau'r fagddu
Yn absenoldeb y reffari bach;
Yntau, bellach, yn ddiogel mewn hafan
Dros dro.
Yn niwl y mwg, anadlodd y fam ei gwewyr
Yn dawel, ofnus yng nghornel ei gwarth,
A'i chymar yn cicio'i sodlau yn ngwter ei bechodau.
Rhuthrodd haid byrlymus o gyw-newyddiadurwyr
Yn barabl o brofiadau
Gan syrthio'n flinedig i fynwesau croesawgar-
Pob un â chlust i wrando.
Ni sylwodd neb ar unigedd un bach
Fu'n cyndyn adael ei nodded-
Ei figyrnau gwynion yn grynion, grynedig
Wrth aros am y rhai oedd â'u beichiau'n rhy drwm i'w anwesu.
Menna Medi
10 Pwynt
Englyn ar y pryd:
Drws
Yn blant, cofiwn sawl anti - agorodd
Ddrws o gariad inni
Heddiw, collwyd allweddi
I'w drws nhw fel ein drws ni.
Richard Llwyd Jones
9 ½ Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 81
Englyn ar y Pryd:
Drws:
Os ydyw yn cau yn sydyn - yn glep
Ond heb ei gloi. Wedyn
Gyda'r mymryn lygedyn
Cei weld yr ychydig hyn.
Arwel Roberts
8 ½ Pwynt
Cyfanswm Pwyntiau: 80
Cynigion Ychwanegol
Cwpled caeth yn cynnwys y gair: Gwên
Dan amdo'r cwm, llwm yw'r llwyn
Nes gwên gynnes y Gwanwyn.
Cynigion Ychwanegol:
Limrig yn ymwneud â choginio:
"Ti ffansi rhyw 'damed' bach heno?"
Gofynnodd cymydog wrth Gwenno.
"Ok, ond dwi'n vegy",
Atebodd, gan gochi
Medd Tomi, "Pwy soniodd am gwcio?!"
Dwi'n ferch sy'n defnyddio Tea's Maker,
Gan daflu pob dim mewn i Blender;
Dwi'n cymryd drwy'r nos
I neud pot o sôs-
Y fi deud y gwir yw'r Slow Cooker.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Atgyfodiad
Mewn caets ar ben y rhewgell
Mae Llew y bochdew'n trigo -
Ag olwyn fach a stôr o gnau
A'i ffiol yn gorlifo.
Llywelyn ydy'i enw llawn
Am fod o yn lliw gola'.
Mae mwy o feddwl gan y plant
Ohono fo na finna'.
Ond och! Ben bore echdoe,
Lle gynt fu bwndel blewog,
Roedd bellach sypyn cringoch stiff
Fel sosej - ond yn flewog.
Dyletswydd tad yw dweud y gwir,
Ond doeddwn i ddim isio.
Mi gleddais Llew ym mhen draw'r ardd
Cyn setlo lawr i syrffio.
Rôl teirawr ar y rhyngrwyd
Ces hyd i ddopelgangar
Ar werth ar wefan bridiwr mawr
Ar dyddyn yn Rhosneigar.
Mewn caets ar ben y rhewgell
Mae Llew Marc Dau yn trigo.
Mae'n efaill llawn i Llew Marc Un
Ond bod ei bol hi'n chwyddo.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair: Gwên
Ffug yw'r geiriau ddaw o'i phen
A'i gwên sy'n gwadu'r gynnen.
Telyneg: Cerydd
Yn llanw ein gormodedd dolig hyn
Ein gwres cysurus a'n haelioni rhad
Goleuadau trydan sy'n troi'r byd yn wyn
Gan dywyllu'r nos, ac ar hyd y wlad
Mi swatiwn o flaen sgrin ein bywyd cul
A'r sêr yn pefrio - yn eu dillad drud,
Ac yn ein trwmgwsg llesg ni glywn gnul
Y rhybudd oesol ddaw o'r ddaear mud:
Mae'r byd yn gwegian ac yn hollti craith
Drwy'n tir, daeth ton i chwalu'n syrthni hir
Mae'r d?r yn codi dros ein muriau llaith
Ac am rhyw enyd gwelwn rym y tir
A deffro i ddeall hyd a lled ein bai;
Delfrydau'n deilchion, a'n holl fyd ar drai.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

