Tywysogion v Monwyr

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth: Arwydd Ffordd:

Araf wrth groesi'r afon:
Twll dyn i fyny'n Sir Fôn

Twm Morys
8 ½ Pwynt

Cwpled caeth: Arwydd Ffordd:

Turn back, try York or Blackpool
So far, Ynys Môn is full.

Owie Jones
8 ½ Pwynt

Limrig yn ymwneud â'r gofod:

(blaen newydd)

Mae'r lleuad (mi wyddoch bob un),
Yn un cosyn mawr o gaws Ll?n;
Ac mae'n rhaid bod 'na lygod
Go fawr yn y gofod:
Mae'r caws bron â darfod, myn dyn!

Twm Morys
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â'r gofod:

Mae'r cyfan yn peri cryn syndod
Pam chwilio am fywyd 'ny gofod,
A'r gweldydd sy'n chwilio
Bob dydd yn dinistrio,
Y bywyd sydd gennym yn barod?

Isfron
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau: Er hynny ...

Cyfoeth ofer yw cofio - er hynny
Mae'r hen yn ei gelcio,
Dyna gamp fydd dwyn i go'
Hanner ceiniog ohono.

Mei Mac
9 ½ Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau: Er hynny ...

Mae naw can miliwn yn galw eu hunain yn Gristnogion yn y byd
yma. Rhywle tua hanner hynny sydd o Islamiaid. Gwelwn felly fod
ein crefydd wedi ei orfodi ar filiynau yn ystod imperialaeth Prydain,
ond nad ydym yn byw y ddysgeidiaeth.

Mewn byd chwil, naw can miliwn - yn eu grym
Sydd â'r gred a feddwn,
Er hynny, nid Crist' rannwn
Hyd feysydd cad Cread Crwn.

Canon Richard Jones
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Arddangosfa

Mi es i'r Oriel i weld ambell Dali,
Ond roedd bod dim mor foel â llyfr Sali Mali!

Dim owns o ddychymyg, dim mymryn o liw,
A phawb yn rhyfeddu heb siw na miw.
Ar y ddafad 'di'i phiclo, a'r gadair wag
Ac ar gasgliad stilettos rhyw dransvestite o Prag.

Mi ges fwy o ddiddanwch wrth daro rhech
Felly dyma fi'n dengid am dro i'r lle chwech.
Ond roedd 'na blincin celf yn hyd yn oed fanno;
Collage o sisyrnau a hanner piano.

Mi gaeais fy llygaid am enyd o hedd
Gan eistedd yn bra far wynder fy sedd.
"Ooo-la-la! Ac och! Ac O!
'Da chi'n eistedd ar gampwaith yr athrylith Duchamp!
"Anfadwaith!" ebe'r swyddog yn finiog ei farn,
"mi dalwch chi'n ddrud am ddifetha'r darn!"

Mi sythais yn styfnig a meddwn i'n sych:
"Y chi ddylia 'nhalu i, yr hen frych,
Am y fraint o arddangos y gweithiau hyn,
Sef casgliad o ddarnau diweddar Gwyneth Glyn!"

Gwyneth Glyn
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Arddangosfa

Aeth Wil i'r Sioe Adar yn festri Jeriw
Rhyw wythnos gwta cyn bod sôn am y ffliw,
Roedd ei barot yn ddistaw a'i lygaid bron cau,
A Wil yn bur debyg, fawr o hwyl ar y ddau.
Roedd bwji y person, un prin a phlu coch
Yn dringo ei ysgol ac yn canu ei gloch,
A llu o rai eraill yn siarad ffwl sbîd,
Ond yn sydyn fel mellten fe'u tawelwyd i gyd,
O gyfeiriad y parot daeth cobly o reg
Na ddyliwn ail-adrodd fan hyn chwarae teg;
Fe ruthrodd pawb yno, hynafgwyr a phlant
Mynychwyr Y Bedol a llawer hen sant.
Dim ond corff yr hen barot oedd yn festri Jeriw
Aeth i Uffern Parotiaid, bu farw o'r ffliw,
A chilio o'r fan yn tisian wnaeth Wil
Ar ôl marw ei barot o goedwig Brasil.
Bu farw'r holl adar a gofid mawr im'
Oedd cynnig y person i'w claddu am ddim
Os cai'r cajis i'w gwerthu yn sêl bring and bai,
Ac o'r stôl eciwmenaidd daeth ateb, Pam lai?

Machraeth
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sgwrs rhwng dau blentyn:

'Stori i blant ydi Santa,
'Sti Dei', meddai Rhys Da-Da.
'Stori i blantos teiroed,
Nid i rai sy'n bedair oed;
Erioed ni ddaeth, y rwdan,
Â'i gar llusg, a'i geirw i'r Llan.....'

Roedd hi'n theori reit wirion,
A 'hei!' meddai Dei, 'howld on!
O ble ddaeth ein hwyl ni, blant?
Pwy, Rhys, fu'n dod â'n present?"

'Pwy, Dei?' meddai'r dyffeiwr.
'Paid bod yn wirion! Siôn, si?r!'

Twm Morys
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sgwrs rhwng dau blentyn:

(Sgwrs rhwng dwy ferch ar eu ffordd i'r ysgol)

"Mae 'nhad yn greulon Mona
Ni ddyru im' ddim sydd dda
Edrych, ond paid ail adrodd."

"I mi, Dolores, 'does modd
Imi wneud, a deud wrth dad
Yw y gorau' rhen gariad."

"Na Mona, mi ddymunwn
I mam wybod gynta'm hwn
Bydd galar cyn ysgariad
Y dydd myn gyngor dy dad."

"Dolores, mae doluriau
Yn y côf, nad ynt yn cau."

Machraeth
8 ½ Pwynt

Pennill Ymson ar ddechrau blwyddyn:

(I'w ddweud mewn llais oedrannus)

"Ac wedi hir ymaros,
Nid rhaid im weithio mwy;
Caf ymddeoliad buan
A minnau'n gant a dwy!"

Gwyneth Glyn
8 ½ Pwynt

Pennill Ymson ar ddechrau blwyddyn:

 chri ar ei dechreuad - dy olud
A welaf yn wastad,
Rho inni'r un arweiniad
Y flwyddyn hon dirion Dad.

Canon Richard Jones
8 ½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Anodd iawn yw barddoni
I ddynion hyll, hawdd i ni.

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Anodd iawn yw barddoni
Y nos wrth ei haros hi

Englyn cywaith: Gwrthryfel

(er cof am Dylan Gwyn)

Y diawl yng Nghymru'r Delyn - ar herw
Hir wallt er yn hegyn;
Rhwygo a wnest bob brigyn
Hyd y Lôn Goed, Dylan Gwyn.

Mei Mac
10 Pwynt

Englyn cywaith: Gwrthryfel

Dwy garfan yn gwahanu - hen ingoedd
Oer angau o'r ddeutu,
Talodd pob un o'r teulu
Rhyw fodd yn y frwydr fu.

Owie Jones
9 Pwynt

Telyneg: Cadwraeth

Defnyddia'r cwpwrdd gwydr
I gadw pethau cainj;
Dy lestri prin a'th dlysau,
Dy aur a'th liain main.

Ond cofia fod trysorau
Na ddylent fod dang lo,
Fel awyr glir y gaea',
A'r geiria' ar dy go'.

Mae iaith fel taith yr afon-
Rhaid iddi fod yn rhydd.
Paid cadw hon mewn cwpwrdd,
Defnyddia hi bob dydd.

Gwyneth Glyn
9 Pwynt

Telyneg: Cadwraeth

Ar lechen las ym mynwent Glan y D?r
Mae enwau'r ddau yn pylu erbyn hyn,
A Hydref arall gyda'i gwymp di st?r
A'r haul mewn tymer od â'r barrug gwyn.
O bobtu'r llwybr troed, hyd at y fan
Ond imi droi ac edrych, gwelaf fi
Y t? lle'm magwyd a fu'n gymaint rhan
I feithrin cariad at ein heniaith ni;
Minnau sydd heddiw'n cofio'r dyddiau gynt,
Mor lân yw'r fynwent, ond mor drist yw'r fron;
Mae mwy na chân o hiraeth yn y gwynt
Ynghadw ynof tros y funud hon.
Oherwydd seriodd amser ddarlun byw
Nad oes ansoddair ddwed i mi beth yw.

Machraeth
9 Pwynt

Enlgyn ar y pryd:

Ai yn ôl yr aneli - ai ymlaen?
Ymlaen mae eleni
Fel lôn na welais moni,
Ac yn ôl mae 'migin i.

Gwyneth Glyn
9 Pwynt

Cyfanswm Pwyntiau: 82 ½

Enlgyn ar y pryd:

Hwn ddug farrug i fore - a gwyntoedd
A niwleodd anaele'
Mis pefriol gweld o'n hole
'n firain iawn, a'i fory? we.

Isfron
8 ½ Pwynt

Cyfanswm Pwyntiau: 79

Cynigion Ychwanegol:

Cwpled caeth: Arwydd Ffordd

Mae ffliw ar baun y Faenol
Dim Sioe Fawr - Trowch' nawr yn ôl.

Conau, Cynddaredd, Cyni
O Bantglas i Conas Ci.

Sefwch ac ar ôl sefyll
Ar y Gwyrdd, ewch 'mlaen i'r gwyll.

'R un hyd yw'r daith faith a fo
I Barmouth neu Y Bermo.

LIMRIG YN YMWNEUD Â'R GOFOD

Merch i reslar o ymyl Dundee
Ydy Meri Macwilliam Magee,
Does dim lle'n y gwely
I'w g?r druan gysgu,
Ac mae'n gorwedd dan gwely fel ci.

Un siambar oedd gan Siôn a Siani
Pum merch a phum mab a ieir dandi,
Yn s?n aerwy'r fuwch goch
A rhochian y moch,
Y digwyddai'r holl 'lovey dovey'.

Fe gwynai nad oedd ganddo ofod
I sgwennu ei bregeth rhyw ddiwrnod,
Ond daeth llais rhyw hen ?r
A'i gynghori'n ddi-st?r,
Rwy'n siwr in gael dwyawr yn barod.

PENNILL YMSON AR DDECHRAU BLWYDDYN

Dal mewn ymdrech â phechod - mae ein byd
Mae yn boen ddiddarfod,
O Dduw oes modd inni ddod
I obaith o'n hanwybod.

Mae'n ddechrau blwyddyn eto
A glân yn wir yw'r llech,
A minnau'n digwydd sbio
Ar ddarlun tri deg chwech,
Roedd un deg naw'r pryd hynny
A ninnau'n wyth mlwydd oed,
Yn ysgafn droed yn llamu
Ar hyd y llwybr troed.
Ond pob rhyw flwyddyn bellach
Nifer y llun sy'n llai,
A dim ond 'chydig mwyach
A erys o'r hen rai.
Ond pan ddêl calan ar ei hynt
Ni wnaf ond edrych 'nawr,
Yn ôl ymhell fel Ianws gynt
Yfory biau'r wawr.

ENGLYN CYWAITH: GWRTHRYFEL

Hynafgwyr yn ddi wyro - yw y rhai
Ddyry'r her i daro,
Ond trist mai'r ifanc bob tro
'Drystiwn i farw drosto.

Rhai a'u llond o greulondeb - a'u gynnau
Yn gynnes yng ngwyneb
Hen ?r na wnaeth ddrwg i neb
Na chwynai mewn trychineb.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.