Bro Ddyfi v Preseli
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Bro Ddyfi

Preseli

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'gwely'
Chwithig o unig i gar
Yw gwely pan fo galar.
Gwilym Fychan
8 ½ Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'gwely'
Yn ddiau, bydd hedd i hon
Yng ngwely yr angylion
Terwyn Tomos
8 ½ Pwynt
Pennill Mawl/Dychan : Unrhyw Gylchgrawn Cymraeg
Lol
Mi ganaf glod i gylchgrawn
Sy'n rhoddi cryn fwynhad,
Mae'n dweud y gwir am fawrion
(a manion) rai ein gwlad;
Nid oes 'na bwnc sydd yn dab? -
Wel, ar wahân i'w hanes nhw!
Elwyn Breese
9 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan : Unrhyw Gylchgrawn Cymraeg
Rwy'n derbyn bob cylchgrawn yng Nghymru
Ei ddarllen a wnaf heb ddifaru,
Yna trof o'r iaith ddihafal
Can's yn 'Page Three' i mi mae'r afal!
Darllen bob cylchgrawn wnaf yn ddyddiol
Ond yn rheini caf stwff buddiol,
Ond i'r saesneg trof o'r diwedd
Onid yn rheini mae'r anwiredd?
Reggie Smart
8 Pwynt
Limrig yn seiliedig ar stori Feiblaidd
Pan oedd Jacob yn dringo yr ysgol
A chyrraedd bron iawn at ei chanol,
Daeth boi 'Health & Safety'
A gweiddi "Hei Jaci,
Wyt ti'n 'nelu am fywyd tragwyddol?"
Hedd Bleddyn
9 Pwynt
Limrig yn seiliedig ar stori Feiblaidd
Mi hoffwn fod mor ffyddiog â'r tri
A aeth i mewn i'r fflamau di-ri,
Roedd eu cred yn beth syn
Rwy'n si?r am y boi hyn
Taw llosgi yn golsyn wnawn i!
Reggie Smart
8 ½ Pwynt
Englyn Cywaith: 'Clustog'
Yn nydd y llwm adnoddau - y clytwaith
Wnai'r caletaf feinciau
Fin nos yn ddiddos i ddau
I anwesu'n eu heisiau.
Gwilym Fychan
9 Pwynt
Enlgyn Cywaith: Clustog
Amser i'r hunan ymson a geisiaf
Yn gysur bob noson,
A'm cynifer bryderon
Fydd ynghudd ym mynwes hon.
T.Gwynn Jones
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Y Weledigaeth'
Mi ges i weledigaeth
Pan o'n i'n ddim ond llanc,
Y byddai priodi Cardi
Yn help i'm cyfrif banc.
Ond buan y deallais
Ar ôl i'm dyfu'n ddyn
Mai gofalu a wna Cardi
Am ei chyfri banc ei hun.
Rwyn gweithio o chwech y bore
Ymlaen i'r nos tan naw
I hela arian â llwy de
A'u gwasgar efo rhaw.
Byddai'n well i Mark a Spencer -
Pwy bynnag ydy'r dyn -
Gael taliad Banker's Order
Yn rheolaidd bob Dydd Llun.
Ond nid yw'r weledigaeth
Yn gywir erbyn hyn,
Gofalus yw y Cardi
A'r g?r yn gythrel tynn!
Hedd Bleddyn
8 ½ Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Y Weledigaeth'
Soned a chwechawd i ddiolch am weledigaeth eurias Ann Griffiths ar
ddau ganmlwyddiant ei marw eleni 1776-1805
Er llithro o ddwy ganrif dros y ffin
Fe erys ffrwyth ei gweledigaeth hi
I lifo'n felys megis hen hen win
Dros fyrdd o Suliau i'n ffiolau ni,
Yfodd o gwpan glasoed rin a hwyl
Mewn ffair a marchnad ac mewn dawns a chân
A theimlodd ias nosweithiau llawer g?yl
Cyn serio'r enaid gan yr Ysbryd Glân.
Pan welodd 'gladdu'r Atgyfodiad Mawr'
Ar ôl rhoi Awdur Bywyd ar y groes
Fe gefnodd ar eilunod gwael y llawr
Ac aros yn ei gariad ddyddiau'i hoes
Tra pery'r gân mewn Capel ac mewn Llan
Disglair fydd gemau y 'Fendigaid Ann'.
I Ddolwar cyrcha'r miloedd yn eu tro
I ddiolch am y weledigaeth sydd
Yn dal i gyfoethogi mawl pob tro
Ar waetha'r trai ar draethell lwyd ein ffyrdd
Treiddiodd i'n hanfod ni yn drwm ei throed
Er ei noswylio'n naw ar hugain oed
T.R.Jones
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Cynhadledd'
O'r gwacter fesul 'deryn
gwelais gôr coch-glas-a-gwyn
yn glanio'n Nhalyglannau:
o lein i lein yn amlhau
i eistedd hyd ddiwedd haf,
i giwio nes doi'r gaeaf.
o un i un cydsynio'n
y ffald fod yr haf ar ffo,
a'r adar yn unfrydol
am fynd 'nawr, am fynd yn ôl;
yn ddi-sioe ciliodd eu si
a mud yw awel Medi.
Tegwyn Jones
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Cynhadledd'
A'n byd yn mynd yn bedyll
A gwae yn gwanu y gwyll
Awr ddu yw'r unfed ar ddeg
Awr cawl ar dir ecoleg,
Rhyfedd yw'r cynadledda
Ddydd ar ôl dydd, a dim da
Na deddf i'n yfory'n dod
I afael y nein gofod.
A ddaw, yn yr unfed ar ddeg
Symud i dir rhesymeg.
T Gwynn Jones
8 ½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Mae'r geiriau gorau i gyd
yn wachul os heb iechyd
Ateb Llinell ar y Pryd:
Mae'r geiriau gorau i gyd
o'r Ddyfi - a'i beirdd hefyd.
1 Pwynt
Pennill Ymson wrth dderbyn anrheg:
Bûm wrthi'n rhwygo'r papur
Am dros dri chwarter awr,
'R ôl derbyn efo Santa
Ryw anrheg hynod fawr;
Mae Dad i weld yn hapus
Yn adeiladu'r blocs,
A minnau yn bodloni
Ar chwarae efo'r bocs!
Elwyn Breese
8 ½ Pwynt
Pennill Ymson wrth dderbyn anrheg:
Nid gwerth dy anrheg ar ben stryd
Fanwylyd a'm cyffyrddodd
Yn amhrisiadwy fydd i mi
Am mai tydi a'i rhoddodd.
T.R.Jones
9 Pwynt
Telyneg: 'Pris'
Fe fyddaf 'leni eto
â rhestr hyd fy mraich,
a llwythi o ddanteithion
dan fy ngheseiliau'n faich,
y cardiau credyd 'r un mor drwm,
a'r cyfri banc yn wagle llwm.
Fe wariaf, ac fe wariaf
fel pe na bai 'fory'n bod,
a'r 'Dolig gorau eto
fel arfer fydd fy nod,
a gwelaf trwy y biliau i gyd
fod Iesu wedi costio'n ddrud.
Ann Fychan
10 Pwynt
Telyneg: 'Pris'
Prin yw'r haul yng Nghymru;
Daethom i dderbyn y glaw, a'r niwl,
Yn llestair annatod ohonom,
I feddalu ffiniau
A chuddio'r ffordd ymlaen.
Gwelsom,
Drwy'r cawodydd a'r caddug,
Ddydd a nosy n toddi i'w gilyd,
A'r awyr yn dadmer y gorwel
I'r mwrllwch.
Weithiau,
Cawn flasu'r haul,
A diflannu aneglurder ein gweld
I'r ffosydd
Ar gyrion cadernid y llwybr.
Ond,
Gyda'r haul,
Daw cysgodion
I gydgerdded gyda ni.
Terwyn Tomos
9 Pwynt
Englyn ar y pryd: Cwestiwn (neu ddau!)
Ai gwir fod Duw sy'n Gariad - wedi bod
I Bush yn ysgogiad
A'i annog o'i fynd i'r gâd?
A yw'n siwr pwy sy'n siarad?
Dafydd Wyn
10 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½ PWYNT
Englyn ar y pryd: Cwestiwn (neu ddau!)
Os oedd Best i rai'n gwestiwn - ei feiau
yn fuan faddeuwn,
Ar y dde hunlle fu hwn
A'i hafog a hir gofiwn.
T.R.Jones
8 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 PWYNT
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'gwely'
Ein mwynhad gwâl plu adar
Ond y glwyd yw gwely iâr.
Yn ei gwely â Gwilym
G?yr Ann beth yw g?r a'i rym.
Limrig yn seiliedig ar stori Feiblaidd
'Roedd Lasarus allan cyn naw
Ym maes parcio'r dref yn y glaw
Mewn sêl cist car
Yn ymyl y sgwâr
Yn gwerthu rhyw goffin ail law.
'R ôl creu y byd meddai Duw,
"Beth gythgiam a wnaf efo'r ffliw?"
Medd y parrot yn syth,
"Paid a'i roi yn fy nyth,
Ond rho fo i'r estrys neu'r dryw!"
Englyn Cywaith: 'Clustog'
'Rhen oes a fu'n gyrru gwedd - ar ei draed
I aredig llechwedd,
Tra'r oes hon yn troi ar sedd
A chlustog i gael eistedd.
Cynigion Ychwanegol:
Limrig yn seiliedig ar stori Feiblaidd
Noa
Wrth wthio rhyw greadur i'r arch
A'i wneud e heb fawr iawn o barch,
Rwy'n credo taw asyn
Aeth lan dros y ploncyn
Ond daeth allan a dau bwa arch (camel)
Telyneg: Pris
Gweld baban yn y gwter
Am ei fod yn ferch,
Yw'r pris o hyd yn Tseina
O'r fath wiethred erch!
A phawb yn myned heibio
Fel petai'n cyfri dim,
A'i chorff bach wedi oeri
Sy'n dod a dagrau im.
A dyna sydd yn digwydd
Yn Tseina fawr o hyd,
A'r dair sydd gyda ninnau
Yn fwy o werth na'r byd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

