Aberhafren v Ffair Rhos

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'eto':

Er ei chlais, er trais sawl tro,
aeth atynt unwaith eto.

Owain Rhys
8 Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'eto'

Bu dyn fel hyn ers cyn co'
A heb ddowt y bydd eto.

John Jones
9 Pwynt

Limrig: "Roedd Morus a Mari'n gwersylla"

Roedd Morus a Mari'n gwersylla
mewn pabell fach goch ganol nunlla,
ond ow, biti garw
na welsant mo'r tarw,
maent bellach yn campio fyny fan'na!

Llion Roberts
8 ½ Pwynt

Limrig: "Roedd Morus a Mari'n gwersylla"

Roedd Morus a Mari'n gwersylla
Mewn pabell yng nghornel Cae Pella
Byddant ym Mrawdlys Gwent
O flaen Ustus Bent
Am loitering within tent wsnos nesa.

Lyn Ebenezer
9 Pwynt

Pennill telyn ar thema dihareb

'Nid aur yw popeth melyn'

Darn o'r haul ymhob un deigryn,
Llwyni drain am flodau'r menyn,
Fflamau gwyllt i ddenu'r dynion,
Hi yw'r ferch a dora'r galon.

Owain Rhys
9 Pwynt

Pennill telyn ar thema dihareb

Mae'r llywodraeth nawr am ddeddfu
Mewn tafarnau ni chaf smygu
Ymbil wnaf fel un sy'n Gymro
Cas gwr na charo'i wlad ; a'i facco

Raymond Osborne Jones
9 Pwynt

Englyn cywaith "Colled"

person ifanc a gyflawnodd hunanladdiad

Ni welwyd drwy y celwydd - dan y wên,
dan y wyneb dedwydd,
gysgodion un galon gudd
fileinig o aflonydd.

Rhys Iorwerth
9 ½ Pwynt

Englyn cywaith "Colled"

Er cof annwyl am gyfaill a fu farw yn frawychus o sydyn yn
ddiweddar ym Mhontrhydygroes.

A'r dail yn cilio'r dolydd - yn orchudd
Yn ei arch mae Dafydd,
Roedd ddoe a'i hud mor ddedwydd
Ond heddiw gwnaed edliw'r dydd.

Dai Jones
9 Pwynt

Pennill ymson mewn siop lyfrau

(ymgolli mewn siop lyfrau ail-law)

Mae calon llenor o fewn eich cloriau
a stori'i enaid 'n eich cystrawenau,
yn awen y gwir sy'n h?n na geiriau,
yn llwch yr oesoedd holl awch yr iasau;
hen lannerch o ddalennau, - a daw'r print
yn ddu ohonynt i 'mysedd innau.

Llion Roberts
9 ½ Pwynt

Pennill ymson mewn siop lyfrau

Ymson y Pry Cop

Rwyf yma'n gysurus yng nghornel y siop
Mae'r llyfrau'n cael llonydd - a finne'r pry cop
Sydd bellach yn debyg i lyfrgell y dre
I ddiawl a'r siop lyfrau - mae'n nhw'i gael ar y we.

John Jones
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Y Ffrae'

Ni wyddwn y dydd hwnnw
na wellai ef, ar fy llw.
Ni sylwais ar y salwch
yn ofidion drwyddo'n drwch,
na hidio eiliad wedyn:
malio dim sut 'teimlai dyn.

Ni wyddwn chwaith y gwyddai
ef ei hun beth oedd ar fai.
Gwyddai nad âi mo'r ofn du,
ni rannai'i ofn, er hynny.

Dweud dim oedd ein nod ni'n dau:
byw i haeru heb eiriau,
yn waedd o anwybyddu,
yn wylltio hawdd o'r naill du,
a gwlad o ddrwgdeimlad oedd
i'n hynysu am fisoedd.

Ni wyddwn y dydd hwnnw
na wellai ef, ar fy llw.
Heno, mi welais synnwyr,
ond erbyn hyn mae'n rhy hwyr.

Rhys Iorwerth
10 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Y Ffrae'

Er cof am warden traffig

Doedd dim yn well gan Adolf Mostyn
Na sticio ticed ar fy Ostin
Bob dydd o'r wythnos neu ddydd Suliau -
A finne'n gorfod talu'r biliau.
Cuddiai tu ôl i berth neu iet
A llinell felen rownd ei het -
Rhybudd i bawb o dan y nen
I beidio â pharcio ar ei ben.
Rhyngom datblygodd clamp o ffrae,
Ac Adolf yn proffwydo gwae.
Amled y cawn docynnau parco
Penodwyd pedwar dyn i glarco.
Fe'm gwelwyd ganwaith yn y llys,
Ddwywaith neu dair bob blwmin mis.
Ond nawr mae Adolf yn ei fedd,
Ond fi, nid fe a gafodd hedd.
Bu farw'r boi o'r clefyd melyn,
Ond nid yw fry yn chwarae telyn,
Yn y fynwent mae fe'n tampo -
Ma'i garreg fedd e' wedi'i chlampo.

Lyn Ebenezer
9 ½ Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Newid"

Rhedaf yn ras direidi -
Hen feistr ar rasio wyf fi!
Yfaf o wydrau afiaith,
A thindroi, osgoi chwys gwaith,
Troi ar hap mysg genod drwg,
Niwl o ysfa yw'r glasfwg,
Ac er dweud " .. dy garu di"
Y mab hurt ym mhob parti
Wyf fi'r rêfar o rafin;
Rhyfel o hwyl yw'r dref flin.

Wy'n ddyn, ond nid wy'n ddi-hid,
Wy'n mwynhau .. a moyn newid!

Aneirin Karadog
8 ½ Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Newid"

O gofio am Rosa Parkes a wrthododd ildio ei sedd i ddyn gwyn yn
1955 symbylodd hyn y symudiad 'civil rights' yn yr Amerig, a thrwy
hynny newid meddylfryd y du a'r gwyn.

Ni wnaeth hil ei chaethiwo
Yn ei chur, ond yn ei cho
Roedd chwedlau ei hachau hi,
Hen hanes eu trueni,
Yn tanio eto ei nwyd
A hyrwyddo y 'freuddwyd'.

Hi y firagl, ffagl eu ffydd
Hi'r eneth, hi'r arweinydd,
Hi'r golai i'r hil ddilyn,
Maes y gad gormes y gwyn,
Hi ei hun oedd y gannwyll
Wnaeth gynnau'r golau'n y gwyll.

Dai Jones
9 ½ Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd

Os hen yw gw?l y geni
Yn hawdd yr anghofiwn ni

½ Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Os hen yw gw?l y geni
Ei gwerthoedd yn? nefoedd ni

½ Pwynt

Telyneg:Arian

yng ngolau'r sêr
a thithau'n cysgu,
mae'r byd yn sgleinio,
a chofiaf fel oedd
eira i ni'n dau
yn fantell arian
ar wely newydd;
y dafnau rhew yn ddeiamwntiau'r dychymyg
pan oedd gennym ddim ond newid man mewn poced,
a gardd fler o gariad

heno
yn oerni fy meddyliau
mae fy Rhagfyr
yn ddu a gwyn.

i hollti'r nos
daw ager dadlau o ffenestri tai
i gwrdd a'r oerni,
yn grisialau ots...

a gwelaf rith o gwpwl
hyd garped y barrug
law yn llaw yn chwerthin,
mor dlawd â'r eira
a phopeth ganddynt.

bydd un ohonynt falle
fel fi rhyw ddydd
yn ddau lygad
ar wydr oer
yng nghanol nos,
yn crefu gwreichion ffrae...

gyda'r blynyddoedd
o lenwi pocedi a thwtio'r ardd
daeth dadmer
a llonydd i feddwl
ac ni welwn ddeiamwntiau
yn naddion ein serch drud.

Heno
pan ddeffri di
bydd hi'n dawelach
a bydd fy nhraed yn oeri ar garped gwlan,
fy nos yn dduach
a mhocedi'n
wag o sêr.

Mari George
10 Pwynt

Telyneg: 'Arian'

Mewn oes sy'n prysur redeg
Ar ffo, i Dduw ?yr ble,
Yng nghwlt y ffôn symudol
Â'r llifo tua'r dre
Ar lanw'r cyfalafol fyd
Sy'n cwrsio'r geiniog uwch o hyd.

Mewn oes oedd mor wahanol,
Diangen oedd y bunt,
'Rhen ffordd o fyw ddiflannodd
Ar chwyldroadol wynt.
Pan gollwyd diolch yn lle tâl
Aeth mwy na chefen gwlad ar chwal.

Raymond Osborne Jones
9 Pwynt

Englyn ar y pryd:

Unrhyw raglen deledu: Big Brother

Ein denu i gyd wna yn gaeth - i'w wacter
i actio'n bodolaeth
fas ynddynt hwy - Pwy? Pa waeth
rhoi elw mae realaeth

9 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 ½ Pwynt

Englyn ar y pryd

Unrhyw raglen deledu: Rhaglen deyrnged i George Best

Ni wna'i rith fyth ddadrithio - arian byw'n
Trin y bêl a'i rhwydo,
Ninnau yn gwylio yno
Fideo awr ei fywyd o.

Dai Jones
8 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82 PWYNT

Cynigion Ychwanegol:

cywaith "Colled"

llenwi llyfr â'i lluniau, yn y cof
hud ei haroglau
ddaw yn ôl â chyfrolau
chwalu'r hedd, a diwedd dau. Iorw

Nid closio onid cleisiau, na gweniaith
Ond gwenwyn ei dagrau,
A'i bwyll e'n ymbellhau,
Co' swynol yw'r cusanau.

Limrig: "Roedd Morus a Mari'n gwersylla"

Roedd Morys a Mari'n gwersylla
mewn gwersyll i'r noeth draw'n y Banna',
ond un noson bu strach
wrth drio zipio y sach,
a bellach nid Morys ond Meira!

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.