Dynion v Merched v Plant
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch 3 tîm o feirdd yn yr Wyl Gynganeddu yn T? Newydd.
Cwpled caeth yn enwi dilledyn:
Ni all hen ffwffler werin
O waelod drôr herio'r hin
Cynan Jones
8 Pwynt
Cwpled caeth yn enwi dilledyn:
Nid wrth grys y dengys dyn
a yw'n arwr neu'n dderyn.
Ni wn i am neb sy'n ôl
o roi esgid ar ysgol.
Mari Lisa
9 Pwynt
Cwpled caeth yn enwi dilledyn
Yn rhy hwyr mi ddysgodd Rhys
Nad ras oedd zipio'i drowsus.
Hywel Griffiths 8 ½ Pwynt
Englyn cil-dwrn ar themau dihareb
Nid aur yw popeth melyn
O le daeth y ffrwd eurliw del - a gudd
Dy 'sgwyddau fy angel?
O botel!
Mei Mac
9 Pwynt
Englyn cil-dwrn ar themau dihareb
'Mae'r blwydd yn ladd y dyflwydd'
"Rwyf o oed tra phrofiadol." - "Ti too old,
We don't want hen bobol -
Ciw dôl!"
Nia Powell
8 ½ Pwynt
Cil-Dwrn: ar thema dihareb
Gallaf anwybyddu'r bedd 'hyd y daith.
Nid yw, mewn gwirionedd,
Yn ddiwedd.
Guto Dafydd
8 ½ Pwynt
Englyn cywaith: Bwced
Yn gymalog a melyn - y rhwygant
Y Gymraeg o'i gwreiddyn
Cyn llwytho'r fwced wedyn
 choed a rwbel a chwyn.
Ifan Prys
9 Pwynt
Englyn cywaith: Bwced
O'i gweld, er mai gwag yw hi, - ar ei phen,
a dwr ffos yn golchi
diferion ddoe ohoni,
menyn nain sy'n fy mhen i.
Nia Powell
10 Pwynt
Englyn Cywaith: Bwced
Drwy wlad nad yw'n werdd rhaid cerdded a d?r
Filltiroedd o'u bwced;
O'n daear werdd d?r a red
Yn afon inni 'i yfed.
Rhian Gwawr
8 ½ Pwynt
Hir-a thoddaid yn cynnwys: "Bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth"
BU'R AWYDD YNOM I GREU BARDDONIAETH:
Draw o Reged ym mhridd hen diriogaeth
Hyd lyn Tryweryn y brad a'r hiraeth,
O fôr goleuni hyd fur gelyniaeth,
Yn nhir dialedd ac ym mrawdoliaeth
Yr ?yl hon, trwy'r olyniaeth - sydd eiddom,
Bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth.
Llion Jones
10 Pwynt
Hir-a thoddaid yn cynnwys: "Bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth"
Hyd linyn barddol yr hir frawdoliaeth
ei hawen newydd a'i hen gwmnïaeth
mewn sawl cyfamod, mewn pob defodaeth
yn yr awr euraid, yn nosau'r hiraeth,
yn helynt y ddynoliaeth, tra buom
bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth.
Mari Lisa
9 Pwynt
Hir a thoddaid yn cynnwys: Bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth:
Cyn i anadlu ddeffro'n cenhedlaeth
Atseinio o wylo fu'n holl fodolaeth.
A'n tranc yn ifanc drwy'n holl hynafiaeth
Bu'r awydd ynom i greu baddoniaeth,
Ond 'ddiffoddir mo'r hiraeth sy eto'n fud
A gwae yn ysgwyd drwy'n holl gynhysgaeth.
Guto Dafydd
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Croeso i Gymru
Er na weli di mo'r dyn
Diddig dan wellt ei dyddyn,
Na cherddor ar y foryd
A'i gôt yn chwedlau i gyd.
Er na chlywi di 'run dôn
Yn arafwch yr afon,
Na Nyth Brân, na iaith brenin,
Na gweld y selerydd gwin.
Er na weli di drwy'r dydd
Ôl mynach ar ael mynydd,
Na chrair na fflach eryrod;
Ym mhennau beirdd mae nhw'n bod.
Mei Mac
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Croeso i Gymru
Croeso i Gymru (ar yr 125 o orsaf Paddington)
Dod adre yw ... mynd ar drên
i dir gwyn o dre'r gynnen,
gadael gwaedd flin y ddinas
i glyw iaith y caeau glas.
Dod adre yw ... gweld yr iaith
yn arwydd, clywed araith
yr enwau mor wahanol
yn dweud yn wên: 'dest yn ôl'.
Dod adre yw ... cael man draw,
y rhywle lle mae'r alaw
yn sgwrs, cael ei chroeso i gyd,
a'i chael, dim ond dychwelyd.
Mererid Hopwood
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Croeso i Gymru
Fe deithiais fyd o ieithoedd,
heibio i Loegr y crawc a'r bloedd,
hwylio nen, dilyn y wawr
a herio treigl fy oriawr,
dyfalu hynt adfeilion
o le i le ar y lôn,
ebychu ieithoedd bychain,
meddwi ar gerddi mor gain
o fynd i bum cyfandir.
Ond mae darn, un darn o dir
a 'ngeilw i 'n iaith fy ngwlad -
Tri gair yn trawio i guriad.
Aneirin Karadog
9 ½ Pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Hyd bedwar ban rhag Annwn
O na chai'r gair drechu'r gwn
Cynan Jones
Ateb llinell ar y pryd:
Yn wyneb bwled Annwn
O na chai'r gair drechu'r gwn
Ateb Llinell ar y pryd:
Ym mhob atgo', bu gwaetgwn
O na chai'r gair drechu'r gwn
1 Pwynt
Englyn yn cynnwys enw cymeriad Beiblaidd
Yng nghyfeillach yr achos - yr wyf daer
Fod y wawr i aros,
Ond diamau wyf Domos
Yn nhir nebdyfnder y nos.
Llion Jones
9 ½ Pwynt
Englyn yn cynnwys enw cymeriad Beiblaidd
Wedi awr y dihirod, - wedi'r waedd,
wedi i'r weddi ddarfod,
yr un yw hyder Herod
a'r un boen fydd fory'n bod.
Os edifar fy aros - yn y gwyll
am y Gair drwy'r hirnos,
ysywaeth, pan aeth y nos
damaid, rown eto'n Domos.
Mari Lisa
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys enw cymeriad Beiblaidd:
I Jairus, ac i Jarib, i Shanesh,
Ac i Senacherib,
I Achsah ac i Achzib,
Cawl o boen oedd cael y bîb.
(Yng ngeiriau'r bardd: "Mae'r enwau I gyd yn jeniwin!")
Guto Dafydd
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd: T? Newydd:
I d? tu hwnt i dywydd - i d? aur
y stori a'r cywydd
i d? ar agor drwy'r dydd
y down ni - i d? newydd
Ifan Prys
20 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 75 PWYNT
Englyn ar y pryd: T? Newydd
Gwn fod 'na werth ar gynnydd - yn y byd
Ond beth yw T? Newydd
Os na cha'I hyn derfyn dydd
Fi fy hun ac Efionnydd
Karen Owen
20 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 75 PWYNT(/p>
Englyn ar y pryd: T? Newydd:
Rhannu wnawn ein geiriau ni'n - hwyr y nos
Rhannu wnawn o ruddin
Hen gyweiriau llên gwerin
Dros fwrdd sgyrsiau'r gwydrau gwin
Rhian Gwawr
20 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 75 PWYNT
Cynigion Ychwanegol
CWPLED CAETH YN ENWI DILLEDYN:
Deialog â gwleidydd:
"I Gymru 'rwy'n driw, heddiw 'rwy'n addo"
"O droi dy gôt, sut fedri di Guto?"
Adref, yn chwith ei ddwydroed,
Dwy Fflip-Fflop a wisgai Floyd.
Os yw dy grys yn sedan
Ni weli werth calon lân
Ym Miskin, Môn a Moscow
Hen het yw bardd mewn tei bow
ENGLYN CIL-DWRN: AR THEMA DIHAREB: 1
Gwyn y gwêl y frân ei chyw
Helyntion ddaw o'th blentyn - y mae'n ddu,
Ac mae'n ddiawl o'r cychwyn;
Na, mae'n wyn.
CYWYDD (heb fod dros 12 llinell):
CROESO I GYMRU:
I Anastasia Pavlenko-Lewis, 10 oed - enillydd gwobr Pat Neill (Barddas) am y gerdd orau i 'Afon' gan blentyn ysgol gynradd eleni. Daeth Anastasia i fyw i Rachub 4 mlynedd yn ôl, yn siarad Rwsieg yn unig.
Hen daith yw dy afon di,
Arwain 'wnaeth i Eryri,
Ac yn afon barddoniaeth
Nid awen yw awen gaeth;
Fel comed ar draws gwledydd
O raid y mae'n torri'n rhydd.
Hawliaist dy gartref eilwaith
A geiriau fu dechrau'r daith,
Yna hawlio'n dy galon
Y Gymraeg a'r Gymru hon;
A ddaw hi yn Gymraes dda?
Wyt eisioes Anastasia
ENGLYN YN CYNNWYS ENW CYMERIAD BEIBLAIDD:
Gan watwar rhoes garcharor - yn y ffau,
Neu mewn ffwrn o allor;
Heriodd Dduw, yna cau'r ddôr-
Dyn neis Nebuchod'nosor.
YR ARCH
Ni bu siani, llymr?en, - na sard?ns
Ar ei dec, na lleden;
Ni welodd Noah ei wialen
Yn gylch â 'mond dau bry'gen.
Yn ei elfen mewn chwalfa - un a'i flys
Ar flasu'r siom eitha',
Un â dawn i amau'r da
Ynom mae Jeremeia.
Cynigion Ychwanegol:
Cwpled caeth yn enwi dilledyn:
Hen wasgod wedi gwisgo
yn ddarnau brau yw ein Bro.
Os oes hawl i stwffio socs
i enau, cofia'r Kinnocks.
Nia Powell
Mae pwyth gwlanen dy fenig
wedi'i wau am ddyrnau dig.
Unwaith, fe gododd mini,
o dir neb, ein hyder ni.
Karen Owen
Hir-a-thoddaid: "Bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth"
Cerddi, nid bwledi
Am i ni'r Cymry ganu'n gwahaniaeth
trwy saethu geiriau at bob amheuaeth,
ar faes y gad tros ganrifoedd Catraeth,
bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth;
ond yng nghyfrol bodolaeth, - mae'n gwlad fach
â'i hôl yn wannach ar fap olyniaeth.
Karen Owen
Cynigion Ychwanegol
Cwpled caeth yn enwi dilledyn
Cwpled i un dilledyn?
O pans! Sut dwi'n ateb hyn?
Guto Dafydd
Gwario gormod o arian ac amser ar E-Bay
Er iddo ordro mawrdrôns,
Nid yw Rhys yn un am drôns.
Aneirin Karadog
Bum heb fy nghlos un noson
Wele mwy y broblem hon
Yn ei drons nid hawdd ei drin
'r ydoedd mor anghyffredin
Synnais wrth weled sanne
Y ddwy yn sownd i'r droed dde
Iselhau moesau, i mi
Wna menyw mewn sgert mini
Rhian Gwawr
Hir a thoddaid yn cynnwys: Bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth:
Bu'r awydd ynom i greu barddoniaeth,
I roi llais i adlais hen genhedlaeth,
Y canu'n esgyn o fer cynhysgaeth
Sy'n rhoi sbin barddol ar ein bodolaeth.
Chwi sydd i gywydd yn gaeth - dewch yn llu
Heno i naddu ar faen llenyddiaeth.
Hywel Griffiths
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Croeso i Gymru
(Dadl rhwng dau fardd - Un yn hen a'r llall yn ifanc!)
Geiriau ddoe yw'r gerdd a ddwed
Am hanes a chymuned.
Yr un "ru'n hen stori" yw,
Hen ddweud ail-adrodd ydyw
A ni yn llusgo'n hawen
Trwy hen gloddiau llwybrau llên.
Ond brwydr oesol bodolaeth
Yw dweud du ein canu caeth,
Adrodd oes o reidrwydd yw,
Hen ddweud dyletswydd ydyw
Gwreiddio iaith wna'r gerdd a ddwed
Am hanes a chymuned.
Hywel Griffiths
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

