Howgets v Bro Alaw
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Howgets

Bro Alaw

Limrig yn ymwneud â darllen
Llosgwyd rhan o'r T? Gwyn at ei sail
A'r llyfrgell yn wlyb domen dail;
Roedd Bush yn ei ddagrau
Pan gollwyd ei lyfrau -
Doedd o heb orffen lliwio yr ail!
Meirion Jones
10 Pwynt
Limrig yn ymwneud â darllen
Fy 'ngh'mydog sy'n byw lawr y stryd
'Di'r darllenwr cyflyma'n y byd,
'Dau lygad gwahanol
'Ag un yn y canol -
'Mae o'n darlen tair llinall 'run pryd!
Geraint Jones
9 ½ Pwynt
Cwpled caeth ar fedd parot
Er hwyl ei iaith amryliw,
Ei lais ddiffoddwyd gan ffliw.
Annes Glyn
8 ½ Pwynt
Cwpled caeth ar fedd parot
Mor obsîn rhoi brenin bro
Yn uffern mwy am effio!
Arwyn Roberts
8 Pwynt
Pennill Mawl / Dychan: Ymgyrchwyr Hawliau Anifeiliaid
Mor wiw eich egwyddorion
Fod creaduriaid Duw
Yn haeddu cydraddoldeb
A'r parch a'r hawl i fyw.
Mor weddus fyddai rhoi'r un hedd
I gyrff y meirwon yn y bedd.
Endaf ap Ieuan
9 Pwynt
Pennill Mawl / Dychan: Ymgyrchwyr Hawliau Anifeiliaid
O flaen bwyty bwyd ethnig bu Liwsi
Yn sefyll am oriau gan weiddi
A mynnu eu herlyn
Mae'n chwyrn iawn yn erbyn
Lladd llygod i wneud ratatouille!
Ioan Roberts
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Porthladd
Porthladd
(sydd bellach yn Amgueddfa Forwrol)
Ton heli a gwynt ein hwyliau - gliriwyd
dan glawr fel hen greiriau
a'u "twtio". Ond mae teitiau
sy'n h?n na'r grym fyn lanhau.
Annes Glynn
9 ½ Pwynt
Englyn Cywaith: Porthladd
O'r gorwel rwy'n dychwelyd - eto'n ôl
At hen hil fy mebyd
Dod o orthrwm bwrlwm byd
I hafan a gwae hefyd
Richard Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ateb
'Pam fod tymhorau'n bod, mam?'
'Ein Duw sy'n troi y rhod.'
'Pam fod blodau'n lliwgar, mam?'
'Fy merch, i Dduw bo'r clod.'
'Pam fod eira'n wyn, mam?'
'Run lliw â Duw yw'r od.'
'Pam awn i'r cwrdd ar Sul, mam?'
'Cael bod fel Duw yw'r nod.'
'Pam laddo dyn ei frawd, mam?'
'O! - am fod pam yn bod!'
Mary Jones
8 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Coel
(Merch fach (a'i nain) - yn chwilio am yr aur ym mhen draw'r enfys)
"Mae'n bwrw haul!" Mewn bro hud
Af innau i hwyl y funud.
Mae'n ias, yn ras i nôl rhaw,
Estyn wna'r bwa distaw...
"Wela'i chi toc! Ylwch y ty
Yn euraid fel yfory!"
I ffwrdd â hi. Ond crïo
Yw trefn anochel y tro.
Pwced aur? Pocedi hon
A ddwed nad oes freuddwydion.
A hi'n hydref fy nadrith
Be' rown am lwybr y rhith...
Annes Glynn
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Coel
Maen siglo Pengorffwysfa (Pen y Pas)
Yn ôl hen goel dywedid y byddai gan Loegr lwyr oruchafiaeth dros Gymru pe cwympai'r maen siglo hwn. Yn yr 1980au dymchwelwyd y maen yn ddirgel ac ni wyddys pwy a wnaeth.
Yn chwedlau'n mynyddau ni
Mae hanes un o'r meini,
Maen siglo fu'n gwylio gynt
Werinoedd rhag dwyreinwynt,
Hen faen hud cynefin oedd
A cheidwad ein bwlch ydoedd.
Ond y maen nid ydyw mwy
Na'r chwedl nawr uwch adwy,
Llwyddodd rhyw ?r bradwraidd
Wthio'r graig a'i nerth o'r gwraidd
Lawr yr allt gan chwalu'r hud
A ffin cynefin hefyd.
Richard Jones
Ateb llinell ar y pryd
Anodd yng Nghricieth heno
Ni yn dri am gynta dro
Ateb llinell ar y pryd :
Anodd yng Nghricieth heno
Disgwyl dydd â'n ffydd ar ffo
1 Pwynt
Pennill ymson ar draffordd wag
Yma rwyf yn mynd fel bom
Ar gant yr awr neu ragor
A dim un camra'n peeping tom -
'Fory mae'r ffordd 'ma'n agor!
Meirion Jones
9 Pwynt
Pennill Ymson ar draffordd wag
Mae'n dawel ar draffodd New Orleans
Dim ond d?r ymhobman hyd y lle,
Ac mae'n well nag encilio i'r mynydd
Er mwyn gadael holl synau y dre';
Caf drafod y rhyfel dros heddwch
Cael y cynllun strategol yn iawn -
Mae preswylydd y berth am ddod yma
I siarad â Bush, heddiw'r pnawn.
John Wyn Jones
8 ½ Pwynt
Telyneg: Hwiangerdd Henoed
Si hei lwli, Naini,
Pryd gawn ni eto gwrdd?
Si hei lwli, Naini,
Mae'n cartre 'mhell i ffwrdd;
Si hei lwli lwli lw
Daw haul ar fryn 'to meddan nhw,
Si hei lwli Naini,
Mae'r ffisig ar y bwrdd.
Si hei lwli, Naini,
Cei orwedd yn dy faw,
Si hei lwli, Naini,
Bydd pawb yn cadw draw;
Si hei lwli lwli lw,
Mae ias yng nghri'r hen gwdih?,
Si hei lwli Naini,
Ni chlywn ni sgrech dy fraw.
Annes Glynn
10 Pwynt
Telyneg: Hwiangerdd Henoed
Un dau tri
Un yw clustog oes o gysur,
Dwy - calonnau'n gwlwm prysur,
Tri - y plant â'u mynd a'u dyfod
Fel gloynnod wedi cawod.
Tri - y prydau llwyd o'r gegin,
Dwy - tabledi at y fegin;
Fel s?n gloyn ar yr awel,
Un sy'n wylo'n dawel, dawel.
Sian Owen
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Penbleth
"Fy mab? Dwi'n eich adnabod? - ei hwyneb
sy'n wên o syfrdandod;
"Mor gymhleth.....O! beth sy'n bod?
"'Di'n bwrw? Mynd yn barod"
Di'n bww? Sef ôl crio
John Jones
8 Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 PWYNT
Englyn ar y pryd: Penbleth
Paham fod rhai rwy'n amau - yn rhoi C
Yng Nghricieth heb eisiau?
Ai trwy roi dwy mae boddhau
Yr annoeth dilythrennau.
7 ½ Pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 82 PWYNT
Cynigion Ychwanegol
Limrig yn ymwneud â darllen:
Roedd parti un noson yn Rwla;
Ac yno roedd Rala a'i ffrindia -
Cadi Cae Berllan
A Tomos a'i injan,
Ond Tecwyn a'u cariodd nhw adra.
Mary Wyn Jones
Daeth neges ar frys i'r Newyddion -
"Mae'n rhyfedd o boeth yng Ngorseinon!"
Ond darllenodd y Llwyd
Yn anterth ei nwyd:
"Yng Ngorsedd y Beirdd mae rhai noethion".
John Jones
"Cyfaill a gwarchodwr y teulu
Ydi Pero y ci pedigri."
Meirion Jones
Cwpled caeth ar fedd parot:
Mae'r gwatwar a'r dynwared
Wedi went, bellach yn dead.
Heb adlais a heb edliw,
Di-ddam i'r fflam aeth â'r ffliw.
Meirion Jones
Yn y gro mae'n fud ei gri -
Pylodd holl gampau Poli.
John Jones
Wps! Gwthiwyd Pol o'i bolyn,
Mae'n gaeth, ddi-chwaeth o dan chwyn.
Mary Wyn Jones
Rhagor ni fydd dy regi -
Mae hi'n ta-ta arnat ti.
Endaf ap Ieuan
Yma'n rar mae'r hen barot
Hefo Dic a Mic a Mot
Marian Jones
Cynigion ychwanegol
Roedd ieithydd mewn cariad â Gail -
Un siapus a'i chusan fel mêl -
A byddai'n ei chanmol
Mewn Rwsieg yn rhannol,
A Ffrangeg a Sbaeneg a Braille
Cwpled caeth ar fedd parot
Un mud yw'r un symudliw -
Ei lais? Fe ildiodd i'r ffliw.
Cynigion Ychwanegol
Limrig yn ymwneud â darllen:
Medd Twm "Bu y mab yn y coleg
'Dair blynedd - yn darllen Seicoleg";
'Meddai Ifan "Heb ganmol
'Mae nacw'n wahanol -
'Gall ddarllen a sgwennu 'run adeg!"
Cwpled caeth ar fedd parot:
Deil yn wag lle bynnag bo
Yn uffern mae yn effio
Pennill Mawl / Dychan: Ymgyrchwyr Hawliau Anifeiliaid
Dros yn hamsters bychan blewog
Tlawd eu byd ar droell undonnog
Codwn nain o'i hamdo euraid
Dyna hawliau anifeiliaid
Roedd Quentin a'i bartnar a'u plantos
Yn cnadu a chrio yn arw,
Ar lan y bedd yn angladd ei fam -
Am fod Ffi-ffi y gath wedi marw.
Maent wrth eu bodd yn brwydro,
Yn bygwth a chyhuddo,
Neu achub cam rhyw "angel" bach
Erlidir yn ddi-ildio.
Mae'r broc yn ddiniweityn,
A'r cringoch yn ddi-lychwyn,
Pob cyff o deulu'r ll'godan fawr
Sydd iddynt hwy yn glaerwyn.
Mae hwythau yn eu helfen -
Creu llanast mawr yn llawen,
Malu, cnoi a chodi ofn
Sy'n rhinwedd mewn llygoden.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

