Penllyn v Ysgol y Berwyn

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.

Penllyn

Penllyn

Berwyn

Berwyn

Cwpled Caeth y cynnwys enw sant

'R hen Ffransis o Assissi
Mae hwn yn un, am wn i.

W J Williams
8 ½ Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys enw Sant

Weithiau diflas oedd Asaph
Ond am yn ail hoffai laff.

Delyth Humphreys
81/2 Pwynt

Limrig:Pan ddwedais wrth gyfaill fy mod i:

Pan ddwedias wrth gyfaill fy mod i
Yn awr yn rhy hen i farddoni,
Medde fo "Mae'n reit glir
Ers amser go hir
A wir, fydd dim colled ar d'ôl di."

Andrea Parry
8 ½ Pwynt

Limrig : Pan ddwedais wrth gyfaill fy mod I

Pan ddwedais wrth gyfaill fy mod I
Am roi sioc I'r wraig a'I beichiogi,
Dwedodd 'gwranda'r hen fet'
Ti braidd yn tw let,
Dwi di ennill y ras o dy flaen di

Ceri Meredydd
8 ½ Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):

Gofyn Cymwynas

Gofyn Cymwynas I Siopwr
i newid enw y siop a agorodd
llynedd yn hen gapel y Bedyddwyr
ers 1860au a chyn hynny yn Gapel Wesle.
('Hanes y Wesle Ola' - Atgofion Andronicus)

Newid Enw

Daeth awr "stop-tap" i Gapel
Salim, daeth arwydd "For Sale".
I'r ffenestr, tagu'r ffynnon,
A 'dwy neu dair' dan y don
Heb le i borthi eu blys.

I wynfyd "Pen yr Enfys"
Daw llu i balu'n ddi-baid
Am wefr rhyw emau afraid.

Och ! ðr roes enw di-chwaeth
Eto 'i wadu'n treftadaeth,
Caem adleisiau'r dyddiau da
A'u beiau'n "Nhan y Bwa".

I B Williams
8 Pwynt

Cywydd : Gofyn Cymwynas

Annwyl roddwr goleuni
Un du ei fyd ydwyf I,
Yn y gwyll yn teimlo'n gas
Un heb olau'n ei "balas".
Byd, ar ei hyd, heb drydan
Yw byw I mi ym mhob man,
Yn ddyn fel petawn yn ddall
Yn aros cymorth arall;
Yn weddi o wahoddiad
O tyrd, o tyrd, neno'r tad.
Annwyl roddwr goleuni
O dwed, o dwed y doi di.

Arwel Emlyn
8 Pwynt

Pennill Dychan: Capelwyr

Pan fydd gwyr Irac ac Alltyblacca
Yn wir ryfeddol, yn cyfd-grefydda,
A heidiau'r Hindw o grasdir India
Yn hel i bader yn Nhemlau Bwda;
Bydd dau Wesle Gibea'n amau cred
Tra anaeddfed y Sentar yn Noddfa.

I B Williams
9 Pwynt

Pennill Dychan : Capelwyr

O feddwl bod rhain yn arddel
Llawenydd y bywyd yng Nghrist,
Mae mwy o gynnwrf mewn mynwent
A'r cyrff yn llai syber a thrist.

Huw Dylan
9 Pwynt

Englyn cywaith : Bargen

Y mae oes yn hwy, mi wn, - o achos
Mai'r iechyd ddymunwn
Yw f'eiddo, ac ni feiddiwn
Yn anad dim newid hwn.

W J Williams
9 Pwynt

Englyn cywaith : Bargen

Tybed, paham ond dwybunt - yw eu pris?
Sosbyn pren hardd,ydynt,
Gwn yn iawn mae bargen ynt,
Gennyf mae deg ohonynt.

Arwel Emlyn
8 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Fy Nheulu i

Trwy weu yn gelfydd yr holl chwedlau hynny
Drosglwyddwyd hyd yr oesoedd gan ein tras,
Fe ddaliodd fy rhieni fy nychymyg,
A'm tywys i'w hadnabod, dlawd a bras.

Fe ddenodd y dirgelion fi i grwydro
Hyd gangau ceinciog ein gorffennol ni,
Arweiniodd fi hyd lwybrau coediog Brithdir
Pan oedd y Crynwyr syber yn eu bri.

Mae ffriddoedd serth a moelydd Cwm Maesglase
A llennyrch cudd Llanfachreth, oll yn rhan
O'r patrwm, a daeth dolydd glas Eifionnydd
Yn dir cyfarwydd i mi yn Rhos-lan.

Y mae rhyw sôn y gallwn hawlio Sycharth
Yn rhan o'r cwrlid, ac mae ambell rôg
Yn llechu yma ac acw rhwng y pwythau
Yn fflach o liw a rhamant yn y glôg.

Wrth olrhain llwybrau troellog yr edafedd
Hyd wead cain y garthen yma a thraw,
Fe lapiodd hi ei hun yn dynn amdanaf,
A'm braint fydd cael ei rhoi i'r rhai a ddaw.

Beryl Griffiths
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Fy Nheulu i

Mae llinach teulu'r Jonsiaid
Yn anrhydeddus hir,
A mawr yw'n cymwynasau
I Gymru ar fy ngwir.
Roedd Dewi Jos GlynRhosyn
Yn un o saith o blant,
Fe aeth I'r weinidogaeth
A'I urddo'n Dewi sant.
Roedd Ll'welyn Jos Aberffro
'Di ddonio'n wir fel cawr,
A Siwan yn gariadus
A'I alwai'n Ll'welyn fawr.
Bu Owain Jos Glyndyfrdwy
A than yn codi stwr,
Ond hanes sy'n ei nabod
Dan enw Now Glyndwr.
A phan fydd Cymru eto
A'I dydd yn troi yn nos,
Yn ol o fro Afallon
Yn wir daw Arthur Jos.

Lois Prysor
9 Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd:

Un Bush a heddwch y byd
A ddiflannodd fel ennyd

1 Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd

Dyddiau ein hafau a'u hud
A ddiflanodd fel ennyd

Pennill Ymson: Wrth Atgyweirio

Forthwyl annwyl,
Gwranda, frawd,
Trawa'r hoelen
Nid y bawd.

W J Williams
9 Pwynt

Pennill Ymson wrth atgyweirio

Dwi ddim yn un am regi
Mae rhai yn gwneud o hyd,
Ond blydi hel dwi'n diawlio
Gwneuthurwyr ceir y byd,
Am osod ambell nytan
A hynny ar fy llw,
Mewn llefydd sy'n amhosib
Cael sbanar atyn nhw.

Huw Dylan
8 ½ Pwynt

Telyneg: Dodrefnyn

Wrth fwrdd y gegin.

Mae'n hwylio'r bwrdd at ginio,
"mi ddôn nhw gyda hyn,"
mae'n estyn am y bara,
mae'n c'nesu'r dysglia gwyn.

Fe gwyd i sbio wedyn
trwy ddrws y gegin gefn,
ond does neb wedi cyrraedd,
mae'n dechrau dweud y drefn.

Draw wrth glawdd y mynydd
ni wel ddim ond y brain
a sypyn o wlan rhyw famog
ymhleth ym mrigau'r drain.

Mae'r dydd yn tynnu ato,
glaw man yng nghwyn y gwynt,
mae hithau'n dal i chwilio
am rith o'r dyddiau gynt.

Mae'n clirio'r bwrdd yn araf,
"mi ddôn nhw gyda hyn,"
mae'n lapio'r dorth tan fory,
mae'n cadw'r dysglia gwyn.

Haf Llewelyn
9 ½ Pwynt

Telyneg: Dodrefnyn

Hen gist ar gau
yn llawn geiriach a chyfrinachau
a welaf, yn orlawn i'w chorneli
o hen ddillad a theimladau,
rhyw fyd o hen brofiadau,
ogof atgofion,
eiddo'r hen ddyddiau.
Er hyn, rhaid ei hagor hi,
rhyw angen i wynebu'r gorffennol;
a rhywsut, er petruso,
a llenwi'r lle â llanast
llwyddo i weithio drwy pob ddoe,
ac, er gwell, gwagu'r gist;
a hyn yn rhyddhau
yr enaid a'r hunan
o afael hen atgofion.
Lle bu'r cof y mae gofod.
Gwag yw'r gist.
Ynof y mae'r presennol
yn fwy nac unrhyw ddoe a fu,
ac wrth gau'r gist
yn ei chornel bellaf gwelaf,
yng ngwacter amser ei hun;
y berl brydfertha'n bod.

Arwel Emlyn
8 ½ Pwynt

Englyn ar y pryd: Anrheg

Oes mae holi'n Somalia - a yw'n dod
Ar ei daith â'i bacia,
Eu hen wg dry? w?n o ha'
O gydion y bocs sgidia'

Haf Llywelyn
8 Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd

Anrheg

Drwy roi bocs i bendraw'r byd - ein geiriau
O gariad sy'n olud,
A rhoi'n y 'dolig rhyw hud
I enaid bell am ennyd.

Delyth Humphreys
8 ½ Pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 76 1/2 PWYNT

Cynigion Ychwanegol

Cwpled caeth yn cynnwys enw Sant:

O afael mynd fel y Mêl,
Angor sy'n Llanfihangel. (y traethau)

Cwpled caeth yn cynnwys enw Sant!

I fun; mae 'ne ddyn neu ddau-
Ein Gerallt ydyw'r gorau!

Limrig: Pan ddwedais wrth gyfaill fy mod i:

Pan ddwedais wrth gyfaill fy mod i,
(A diaist i, mi lyncodd fy stori-)
Un tro 'di gweld sebra
Ar draffordd fan yma
Fu braidd yn rhy ara i groesi.

Pennill Dychan: Capelwyr

Priodi wrth gwrs yn ei chapel hi
Dyna oedd ffasiwn 1903.
Mae hi wedi newid yn 2003
Cawn wneud yn y gwely neu gowlas wair;
Ond methais a'i throi'n Annibynreg sionc,
Daliodd yn Galfin, ie'n Galfin rhonc,
Ond bellach pa ots, ta waeth pwy a ðyr
Fuo neb ond ni'n dau ymhob oedfa hwyr!

Pennill Dychan: Capelwyr

Cafwyd seiat go boeth yn Bethania,
roedd y gw'nidog 'di cael llond ei fol,
A dyna fo'n dechrau taranu,
"Wna'i ddim cym'ryd chwanag o'ch lol,
Mae'n rhaid ni gyd fyw yn hapus,
does 'na ddigon o le i ni gyd,
Ewch chi a'ch criw fyny i'r gal'ri,
'dach i'n arfer mynd fyny'n y byd.
Gewch chitha' ddod ata'i i'r pulpud,
fasa chi'n licio ledio emyn neu ddwy?
O fan'ma gewch chi weld pwy sy'n cysgu,
a phwy sy'n sbio ar bwy."
Ac mi fuo'n nhw i gyd yn reit hapus,
tan yr emyn ola'n y bôn,
Dei Ystlum 'nath bitsho'i rhy uchel,
a doedd y llygod ddim yn nabod y dôn.

Englyn cywaith: Bargen

Gwelais siwt, liw glas y wawr, - yn Tesco's
Treblwyd disgownt Ionawr
Arni hi - mae arna'i 'nawr
Ac yn ddigon i ddeugawr.

Yn ein gwinllan cwynfannwn - a holl lwch
Y llawr ger Duw godwn
Ar weddi, ond ni roddwn
Ffau i'r pell, na ffeirio'u pwn

Cynigion Ychwanegol

Cwpled caeth yn cynnwys enw Sant

Pwysig oedd Dyfrig, ond o
Gyfaill, pwy sy'n ei gofio?

I bawb, o'r Bala, eu barn :
" pydyl o lyn yw Padarn."

Ai sant y tail oedd Teilo?
Ai hen ddom a chwalodd o?

A serious saint that seiriol,
Not a one to laugh at all.

Ond I rai ( am ddweud ei ras )
Y ' Golden Boy ' oedd Gildas

Un mawr iawn drwy'r Gymru hon :
Gormod fwytaodd Garmon.

Limrig: Pan ddwedais wrth gyfaill fy mod i

Pan ddwedais wrth gyfaill fy mod I
Yn mynd I gael tro ar farddoni,
Fe chwarddodd lond bol
A dwedodd mai lol
Oedd geiriau, sillafau ac odli.

Pan ddwedais wrth gyfaill fy mod I
Am dyfu'n hen lances, heb briodi,
Cael deuddeg o blant
Ar ol hanner cant,
Atebodd, 'ti'n bendant, o ddifri?

Pennill Dychan: Capelwyr

Fe ant yn hynod o dduwiol
I'r capel bob dydd Sul,
Yna am weddill yr wythnos
Anghofio'r llwybr cul.

Englyn Cywaith: Bargen

Heb ei angen mae'n ennyn - rhyw sylw
A'r sel bron ar derfyn,
Agor y waled wedyn,
Hyn er mwyn cael tri am un.

Pennill Ymson wrth atgyweirio

O pam ddechreuais I focha,
Wel am gamgymeriad mawr,
Roedd y car yn mynd yn eitha
Ond aiff o I unlle'n awr.
Fe gefais gyngor ers stalwm
Gan rywun a phrofiad hir
,Os nad ydi rhywbeth di torri
Gwell gadael iddo fo wir.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.