Moelwyn v Llansannan
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Moelwyn

Llansannan

Pennill rhydd yn cyflwyno Tim y Moelwyn
Dwi yn canu ar lwyfan La Scala
Kiri aeth heno i mi gael bod fama.
Mae Ieuan yn treulio ei amser sbâr
yn dysgu llewod fod yn ddôf a gwâr.
Catrin ar nosweithia tywyll ag oer
fel prentis astronot yn fflio i'r lloer,
A dileit rhen Prys yw mynd i glwb nos
i ddawnsio rownd polyn mewn rhith o glôs.
Storis ydi rhain i'ch diddanu chi,
Rownd nesa gewch chi'r gwir amdanom ni.
Sian Northey
8 pwynt
Pennill rhydd yn cyflwyno'r tîm.
Anrhydedd yw cael dyfod heno
Draw i Dinmael i recordio.
Tîm Llansannan, at eich galw
Awn yn bell, cofiwch yr enw.
Ann Davies
7 ½ Pwynt
Cwpled Caeth yn enwi papur newydd
o hyrdi-gyrdi'r Guardian
y daeth rhyddfrydiaeth i'm rhan.
Ieuan Parry
8 Pwynt
Cwpled caeth yn enwi papur newydd.
Bil rhent sydd ar y PENTAN
Twll, lle bu unwaith y tân.
Gareth Owen
9 Pwynt
Limrig: Pan oeddwn ar ganol fy swper
Pan oeddwn ar ganol fy swper
yn y Mans, fe gofiais fy mhader,
ac ar dipyn o ras
fe ddwedais fy ngrâs,
ac yna fe fwytais y ficer.
pan oeddwn ar ganol fy swper
fe gollodd y musus ei thymer
a llenwi fy nghlustia
'fo tameidia o basta,
a di ddim 'di gneud hwnnw ers amser.
pan oeddwn ar ganol fy swper
mewn restront oedd rhy lawn o'r hanner,
gollyngais un fach
yn dawel heb strach
a gwagiais y lle heb anhawster.
pan oeddwn ar ganol fy swper
mewn restront Tsieinîeg yn Aber,
neidiodd wêtyr o nunlla,
efo cleddyf, fel ninja
a thorri fy n?dls yn hanner.
pan oeddwn ar ganol fy swper
fe gollodd y tatws eu tymer
efo'r moron a'r pys
oedd yn codi dau fys
a thynnu tafodau ers amser.
Dewi Prysor
9 Pwynt
Limrig: Pan oeddwn ar ganol fy swper.
Bu Carlo, y ci, am beth amser
Yn gollwng ei wynt yn ddibryder
Ond wnaiff o ddim eto
Ar ôl iddo fentro
Pan oeddwn ar ganol fy swper
Pan oeddwn ar ganol fy swper
Medd Wil 'Mae'r cyw 'ma'n ysgeler
Blas wedi llosgi
Mae'n afiach! Be' wnest ti?'
'Ffliw adar' atebais 'dwed bader'.
Ann Davies
8 ½ Pwynt
Englyn Cywaith: Caneri
Un corff pluog yn darogan - yn dyst
distaw, melyn, bychan.
Un gair yn rhybydd i'r gân,
yn oer rhwng bariau arian.
Sian Northey
8 Pwynt
Englyn cywaith: Caneri.
Er y gwêl arlliw melyn - yn y drych
Ni wêl draeth diderfyn
Ni edwyn heulwen blodyn,
Na'r gwlith ar y gwenith gwyn.
Gareth Owen
8 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Angladd
Wrth i'r haint ei rhoi i'r pridd
cil-wenwn yn yr haul tenau,
a'r dydd yn frau.
beth oedd treftadaeth ond dim
i hil heb ei dihareb?
beth ydym, ond neb?
dewisom fod yn ddall,
a diffodd ein sêr a'n Sycharth,
â'n golygon yn darth.
a beth yw etifeddiaeth i Neb
beth yw byw heb adnabod,
ond digwydd bod?
wedi i'r haint roi ein iaith i'r pridd
bydd Edwy o dawelwch
â'n llais yn llwch.
cefnwn ar weryd ein dysg,
yn wael, â'n gwariau'n plygu
i'r wawr ddu.
Dewi Prysor
9 ½
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Angladd
Roedd Jên 'mhell dros ei phwysau
R'un hyd a lled, (mewn metrau)
Bu farw 'mreichiau'i gwr, sef Tom
Ia, colled drom'n ddiamau.
Yn Seilo, er mawr gamwedd,
Rheolau'r Ddeddf Anabledd
Ddiystyrwyd - bu'n rhaid tynnu'r rael
I gael yr arch i'r cyntedd
Caed angladd, do, i'w gofio
Rhyw chwe deg tri* oedd yno
Roedd naw yn canu'r gân fel tae
A pum deg dau yn cario (*52 + 9 + organyddes + torrwr beddi = 63)
Y Gweinidog fu'n addasu'r
Gwynfydau wrth bregethu
Gan hepgor adnod ar ei hyd -
'Gwyn fyd y rhai'n newynu'
A Tom, oedd yn difaru -
Chath Jên ddim o'r te claddu,
A throi'n ei bedd yn si?r a wnâi
Pe byddai ond yn medru.
Ann Davies
9 ½ Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Yfory
Dalen heb ei difenwi
Neu hwyl wen ar lonydd li;
Gwyryf mewn oes gywirach
Yn dwyn holl obaith dy ach;
Alaw ber heb ofal byd,
Heb ei phoen, heb ei phenyd;
Gwyn eira ar gae'n wyry'
Yn lân braf heb ôl hen bry'
Lliain gwyn yn llawn gwanwyn
Yn lân dwt, heb olion dyn.
Dalen heb ei difenwi
Nes y down a'th dreisio di.
Ieuan Parri
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Yfory
Heb amcan ddyn hunanol
O'r her a ddaw ar ei ôl,
Â'n tir dan ddylanwad dyn
Yn ddiobaith ar ddibyn.
O mor bowld yn twymo'r byd
Heb boeni am y penyd,
A hawdd iawn i ni'n ddi-hid
Osgoi loes y glaw asid.
A gweld byd sy'n llawer gwaeth
A fydd yr etifeddiaeth.
Heddiw y loesir briwiau
'Fory'r hallt edifarhau.
Alwyn Williams
8 Pwynt
Ateb Llinell ar y pryd
Rhyw hen fyd ynfyd yw hwn
Ei fín yw'r hyn a fynnwn.
Ateb Llinell ar y pryd
Rhyw hen fyd ynfyd yw hwn
a heno'n glos i Annwn
1 Pwynt
Pennill Ymson cyn cael llawdrinaeth
Llais unig yn gwrthwynebu,
ond wynebau clen a'u cydymdeimlad
yn olau llachar i'm dallu
rhag y llafn oer sy'n llifio 'mron.
Catrin Euros
8 ½ Pwynt
Pennill ymson cyn cael llawdriniaeth
Aeth cyfnod maith, dwy flynedd a hanner,
Ers i'm ddechrau dioddef o'r anhwylder.
O'r diwedd, ces 'pwyntiad am driniaeth fory,
Ond ni chofiaf am beth mwya'r piti
Elen Owen
8 ½ Pwynt
Telyneg: Cyfarfod
Cyfaddefodd ddoe ei fod yn cofio
fy nghyfarfod,
Cofio fy mreichled lâs
a'r dafarn yn llawn o fwg.
Steddfod arall yn dirwyn i ben
a'r ennyd yna, medda fo,
fel llun mewn ffram.
Dwi'n cofio'r noson
a'r mwd yn sychu ar odra'n jins,
cofio criw yn trafod drama wael
a bwyta caws.
Ond cyfaddefais ddoe,
a ninna'n ganol-oed mewn adlen,
nad oeddwn yn cofio ei gyfarfod
erioed.
Sian Northey
10 Pwynt
Telyneg: Cyfarfod
Yma'n bur:
Ddiferion
O groth y glaw
I gostrelau'r mawn,
A'r nentydd ifainc
Yn rhedeg
Yn llif o eiliadau
Ar frys
I'r mor.
Yma'n hallt:
Cusanau
Ar aberoedd
Yr ymdoddiad,
Tonnau'r hen dwyll
Sy'n boddi'r oll
Yn araf
Yn y dyfnder
Llonydd.
Aneurin Owen
9 ½ Pwynt
Englyn ar y pryd
Ymson hen ferch
Tywynai'r parti heno - yn hyfryd
a phefriwn i swyno
fy myn hardd a'i fwynhau o:
hen hoeden s'wedi'i hudo!
Ieuan Parri
8 ½ Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU:78 1/2 Pwynt
Englyn ar y pryd
Argyfwng - Bwlio
Syrffed I blant annedwydd - yw'r penyd
a'r pwnio geir beunydd,
Cernod a dyrnod bob dydd
a'r gwae sydd yn dragywydd
Alwyn Williams
8 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU:77 1/2 Pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

