Beca v Llanbed
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres Y Talwrn.
Beca

Llanbed

Pennill Mawl / Dychan : S4C
Fi'n dod i byw i Cwmru
Dau gwraig, pump plant, naw ci
Y cyltshyr e fi'n dysgu
Trwy gwylio es-for-si,
Fi hoffi Startrek a Simpsons
KOTV a Friends,
Monarchy, Richard a Judy,
Zippy a George's Legends.
Blue Peter becoming Abba
Hollyoaks a Bricking it,
Rôl meddwl nawr am funud
Ond yw cyltshyr Cymru'n ...amrywiol
Terry Reynolds
8 1/2 Pwynt
Pennill Mawl/Dychan: S4C
Mae'n anrhydedd sgwennu cerdd
I longyfarch sianel werdd
Ar y brig 'sdim dou am hynny
Fel esiampl o ailgylchu
John Rhys Evans
9 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'ystyr'
I bawb, mewn celfyddyd byr
Nid ar hast y daw'r ystyr.
Wyn Owens
9 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair: Ystyr
Mae ystyr yn ymestyn
I roi mwy i'r rhai a'i mynn
John Rhys Evans
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â phriodi
Mi es ar fis mêl draw i Hung'ry
Ar ôl i mi briodi â Julie,
Roedd hwnnw yn straen,
Ac o hynny ymlaen
Byw 'da pest fyddwn i byth ar ôl 'ny
Howell Mudd
9 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â phriodi
Mae talu am bopeth yn sialens
Y wledd a'r mis mêl a'r holl nonsens
Yn ddillad a char
A pharti a bar
Mae'n well gen i saethu heb leisens
John Rhys Evans
9 Pwynt
Ateb Llinell ar y pryd
Cwpled ac nid bwledi
Ein geiriau yw'n harfau ni
1 Pwynt
Ateb Llinell ar y pryd
Ein geiriau yn? harfau ni
A'n hawdlau yn odli byth
1 Pwynt
Pennill ymson mewn goleudy
Dwi'n dyheu am glywed s?n car
Yn lle tonnau o hyd,
Ac mi hoffwn gael eistedd mewn cornel
I deimlo'n glyd.
Ma' hi braidd yn undonog yma.
Ar ôl chwech mis
Dwi 'di 'laru ar ddringo
O ris i ris.
A does neb yn rhoi diolch,
Neb yn codi llaw -
Jyst gwylanod yn hedfan.
A gwynt.
A glaw.
Doedd gen i ddim syniad
Beth oedd clostroffobia
Na vertigo chwaith
Cyn i mi ddod yma.
Ond nawr dwi'n diodde
O'r ddau bob dydd -
Ac O! dwi'n dyheu
Am gael bod yn rhydd,
A chael mynd i'r tir mawr,
Taro mewn i'r archfarchnad,
Prynu chips, torri ngwallt,
A chael cwtsh gyda nghariad.
Ma' meddwl am hynny'n
Gwneud fy llyged yn ddamp.
Felly - nos da ddyddiadur.
Af i checo'r lamp.
Cathryn Gwynn
8 1/2 Pwynt
Pennill ymson mewn goleudy
Mor unig yw fy nghyflwr
Heb gwmni fy nghyd-weithiwr
A storom wynt sydd i mi'n bla
Rôl bwyta hwnnw neithiwr
Eirwyn Williams
9 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): George Bush
I lawer mae'n arlywydd,
Er hyn, dihiryn y dydd
Yw i eraill 'fynn herio
Hyder ei drahauster o.
Â'i rethreg mewn oes fregus
I ryfel â'n fawr ei flys.
Â'i nerth, ei drechu ni all
Anwariaid 'run wlad arall.
Hwn y llyw saif er ein lles,
P?er yw ymhob briwes.
Eto, mae'n democratiaeth
Yn llaw'r g?r yn llawer gwaeth.
Wyn Owens
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): George Bush
Cymêr yw 'ng?ydd cameráu;
wirion yn malu geiriau
'strydebol. Slic fel olew
yw y wên sionc; rhan o siew-
barti goeg cowboi'r T? Gwyn
a'i lawnt ac yntau'n blentyn.
Ond, yn feddw gan b?er,
Ymaflyd o hyd yw her
Y chwilgi. Mae'r uchelgais
Yn ei lwnc, yn s?n ei lais
Anaddef a'i wep hefyd;
Yn ei ben, fe piau'r byd.
Eirwyn Williams
8 Pwynt
Englyn Cywaith: Cyfeillgarwch
Ewr yn brin, deil gwir ffrindiau - yno meant
Er ein mân ffaeleddau'n
Cynnig llaw 'mhob praw'n parhau
Yn gefen drwy'n gaeafau.
Cerwyn Davies
8 Pwynt
Englyn cywaith: Cyfeillgarwch
Hon yw'r elfen arbennig - a leinw
Galonnau'r ychydig
I ymatal rhag dal dig
Ac yna rhoi ail gynnig
Islwyn Walters
8 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad
Fe'i gwelais e yn 'Golwg' - hysbys 'da'r B.B.C.
Yn dweud fod isie meuryn, i'r Talwrn, wir i chi,
Dim sôn am gymwysterau, dim byd am faint y dâl,
Ond o ni wedi clywed fod y meuryn 'ma'n reit sâl.
Dychmygais pwy gynige, rhai ifanc, beirdd o fri,
Ac wedyn wedodd rhywun, "'Na jobin siwte ti",
A 'na pham penderfynais i dreial am y swydd,
Chi'n gweld'dde jobin meuryn i fi, yn eitha rhwydd.
Wedd whech yn y cyfweliad, o ni'n teimlo eitha crac,
Dylan T a'i dad a Dic, Ceri a Mei Mac, (a fi)
Wel faint odd rhain yn deall ? Dim byd, dim mwy na Sais;
O ni 'di cynghaneddu bob gair o'r ffurflen gais.
Fe redodd y cyfweliad fel ceffyl gwedd mewn ffair,
Cynghanedd, odlau dwbwl, cyseinedd bron pob gair.
Atebais i bob cwestiwn a dim un croen banana
Ac wrth fynd mas, fe wedodd pawb, "Ie, ffoniwch wsnos nesa'.
Fe gysgais eitha esmwyth bob nos tan dydd y ffonio.
Pwy cas y job, wel ces i sioc, cas neb o'r chwech mohono.
Beth wnewch ni nawr â'r dyn yn sâl, i bwy y rhowch chi'r alwad ?
"Mae'n sâl", medd hi, "ond ddim mor sâl â'r chwech yn y cyfweliad"
Eifion Daniels
9 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad
Yn Aberhonddu slawer dydd
Cynhelid ffair gyflogi
Ddwy waith y flwyddyn 'nôl y sôn
A dyma i chi'r stori.
Aeth ffermwr yno i chwilio gwas
I weithio dros y gaeaf
Ac os y byddai'n weithiwr da
Fe'i cadwai i'r cynhaeaf.
Rôl dod i restr fer o ddau
A holi peth o'u hanes
Fe aeth â hwy am bryd o fwyd
O'r stryd i westy cynnes.
Roedd un yn pigo'i fwyd yn swil
Edrychai braidd yn welw
A'r llall yn llowcio'i fwyd yn llon
Ac yfed peint o gwrw.
Cyflogi'r bytwr mwya wnaeth
Nid yr un swil, diniwed
Cans gwyddai byddai hwnnw'n gryf
I allu gweithio'n galed.
John Rhys Evans
8 1/2 Pwynt
Telyneg: Galwad ffôn
Ar drothwy gwylie,
Ffarwelio'n llawn cyffro.
Addewidion am beidio anghofio
Danfon cardie.
Neges i roi'r hanes -
'Gweld chi eto'n fuan.
Bendigedig yma! Haul a hwyl!'
A chusan.
Rai orie wedyn
Siwrne'n chwalu'n yfflon.
Dim ond cyfle sydyn i ddanfon
Neges destun.
Neges fer trwy'r gwagle
I ddweud y cyfan.
Ffarwelio tros y ffôn.
Am byth.
Cariad.
Cusan.
Cathryn Gwynn
9 Pwynt
Telyneg: Galwad ffôn
Taith yn ôl o Aber
Yn diasbedain gan ofn
A'r glannau'n glymau.
Ac wele yn y Llan
Yn llechu yng ngwrych y nos
Oleuni, ffagl y fall,
A ral?o ym mhen dau lenfyn.
Goddiweddyd a herio
Gan lymeitian mewn llawenydd
Wrth gymryd tro y Morfa
A'r golau'n gras ar y gro.
Dim pall ar darged y pin
A'r teiars yn tisian o liw
Newid gêr sy'n newid byd.
Ond yn glewt glas dirybudd
Fe'u daliwyd mewn syberwyd;
Fe'u cornelwyd; diolch Oren.
Ann Rhys
8 1/2 Pwynt
Enlyn ar y Pryd: Y Lein Ddillad
Waeth pa hynt wrth y pentan - yn y gwynt
Ar goedd yn cyhwfan
Mae ar y lein olch mor lân
Yn ddi fefl o'n greddf aflan
91/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81
Cynigion Ychwanegol
Cwpled caeth yn cynnwys y gair: Ystyr
Mewn Cerdd Dafod, pechod pur
Yw ymestyn am ystyr.
Limrig yn ymwneud â phriodi
Tair mil am y fodrwy a'r blode!
A phedair am ffotos a ffrogie!!
A phump am y pryd!!!
Wel diawl ma' fe'n ddrud,
A gwedwch - a odi fe werth e?
Cathryn Gwynn
Rhyw syniad bach neis yw priodi;
Achlysur, a siawns am gael parti.
Ond wedyn mae'n gwawrio
Bod bargen 'di selio....
Sdim trwco i fod, ond dal ati.
Cathryn Gwynn
Daeth cannoedd i'r llys yn Llanilar
I weld boi'n y doc â'r X-factor,
A briododd sawl un
Pob lliw a phob llun
Cês dismis'd medd y wig, fe yw'r ficar.
Terry Reynolds
Pennill ymson: Mewn Goleudy
Yn dalog ar y clogwyn
Yng ngenau'r gwynt a'r glaw,
Wyt rybudd mewn ystormydd
O'r fflach rhaid cadw draw.
Ond heno'n gaeth y byddaf i
O fewn dy furiau cadarn di.
Cerwyn Davies
Telyneg: Galwad Ffôn
Cas gennyf pan wyf adref
Yw rhedeg at y ffôn
A chlywed llais o dramor
Sydd am rhyw nwyddau'n sôn.
Ond nawr â thithau dramor
Gwahanol iawn wyf i,
Rwy'n tasgu rôl un caniad
Rhag ofn, i'th gyfarch di.
Cerwyn Davies
Englyn ar y pryd: Y Lein Ddillad
Mae hon â'i llwyth fel mynydd - yn hawlio
Pob sylw tra beunydd
Hen nôd y fam o hyd fydd
Ei chelu â chymlydd.
Islwyn Walters
9 1/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 1/2
Cynigion Ychwanegol
Cynigion Ychwanegol
Cwpled caeth yn cynnwys y gair: Ystyr
Baban
Yn ddi-fai rhydd ei fywyd
Ystyr i'r gwewyr i gyd.
Gwen Jones
Weithiau y mae amheuthun
Ystyr mewn llyfyr â llun.
Gwen Jones
Limrig yn ymwneud â phriodi:
Rwy'n ofni pan ddwedes i mod i
Yn barod i Gwenno 'mhriodi
Nad own, er fy oed,
A dod at fy nghoed
Erioed wedi gweled ei mam hi.
Eirwyn Williams
Aeth Wiliam i Gapel y Graig
Waeth fan'ny roedd e'n cymryd gwraig
Ond pan welodd e imam
Mewn gwisg o liw jam
Gofynnodd mewn siom 'Pwy yw'r ddraig?'
Gwen Jones
Awgrymodd Dai John wrth Deborah
Mai priodi yn gudd fyddai ora
A hynny yn glou
Rhag i'w hargae hi roi
A'i chroen yn lled dyn am ei bola
Aeron Davies
Pennill ymson mewn goleudy:
Mae'n dawel heno wedi'r storm â'i chur
A'r tonnau mân yn lapio ar y lan
Mae lliwiau'r haul yn oren ar y mur
A'r lleuad draw yn addo'i golau gwyn.
Mae'r cread oll yn diolch wedi'r drin
A hyrddio gwyllt y bwystfil ger y ddôr
Yn taflu atom ei gynddaredd blin
Fu'n corddi ym mherfeddion gwyllt y môr.
Mae'n dawel heno heb y corn â'i gri
Yn hwtian fel tylluan ar y rhos.
Dim ond y golau llachar ar y lli
Yn cadw'r llongau draw drwy oriau'r nos
A'r trai a'r llanw'n mynd a dod o hyd
Tra byddwn ninnau'n rhodio hyn o fyd.
John Rhys Evans
Englyn cywaith: Cyfeillgarwch
Yr undod sy rhwng ffrindiau i'w gafael
Fel gwyfyn mewn golau
Gwyn yw yr elfen sy'n gwau'n
Eu tinged hyd at angau.
Ni welwn wrth fy ngwely - ond yr oedd
Dau neu dri oddeutu
Pan oedd her y dyfnder du
Heb ateb mewn ysbyty.
Mi wn am un gymwynas - un i mi
Dan amodau diflas
Un a roed yn llawn o ras
Un darn sy'n rhan o'i Deyrnas.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

