Crannog v Tir Mawr
Dau dim o feirdd yn cystadlu yn erbyn eu gilydd yn y ffeinal o'r Talwrn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005
Crannog

Tir Mawr

Cwpled caeth yn cynnwys y gair "dwr"
Arwain dwr, nid ei yrru,
A wna'r craff yn drech na'r cry'.
Hywel Rees
8 1/2 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair "dwr"
Am olew, ffeiriwyd milwr:
Nid yw ei waed ddim ond dwr
Myrddin Ap Dafydd
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag ennill cystadleuaeth
Cross -dresser o ardal Gorslas
Sy'n berchen ar ddau ruban glas,
Tro cynta iddo dreio
Fe'i cas fel soprano,
A'r eildro enillodd fel bas.
Dai Jones
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag ennill cystadleuaeth
Eleni enillodd Wil Rheinallt
ras hwyaid yn Llanfair ym Muallt
O dwb marjarîn
fe wnaeth sybmarîn
a suddo hwyaden pawb arall
Gareth Jones
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: "I'r Faenol yr af innau"
I wlad well o'r tlodi hyn - i'r Faenol
Yr af innau wedyn,
Waeth i'w chynnal mae Alun*
Yn hael a'i bres i wyl Bryn.
*Alun Pugh, Gwenidog Diwylliant y Cynulliad
Owen James
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: "I'r Faenol yr af innau"
Waeth am gawod, waeth am giwiau, mi wn
Mai Menai fydd piau
Calan Awst: â'm calon iau,
I'r Faenol yr af innau.
Myrddin Ap Dafydd
9 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Yr Orsedd
Os twyllwr oedd Iolo, os plastig yw'r meini,
Os taw'n erbyn y gwir mae'r byd sydd ohoni,
Fe floeddiwn yr 'Heddwch' heb gydwybod euog
Am fod Bryn y Briallu yn dal yn flodeuog.
Hywel Rees
8 1/2 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Yr Orsedd
Fel tipis yr Hendra'
Yn ei glas,gwyrdd a gwyn,
AC MAE RHAI YN SEFYLL ARHOLIAD
ER MWYN CAEL EDRYCH FELHYN!!
Huw Erith
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwahodd Prifwyl 2007 (I rywle)
Rwy'n ffansio dyfod a'r
Wyl ledfyw draw i'r Wladfa,
I diriondir yr Andes
Os yw Rhodri'n brin o bres.
Harddach i chwi nac arddel
Torf o Sgows fai tref Esquel,
Ac o Gaiman i Gamwy
Ni fu un maes parcio'n fwy.
Oni wnai'i chyfrifon hi
Yn iachach, mae'n rhaid i-chwi
Addef am dro y byddai'n
Hyfryd o fud yr iaith fain.
Dic James
9 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwahodd Prifwyl 2007 (I rywle)
Wedi'r castiog gwtogi
A rhoi sip ar ei phwrs hi;
wedi glasgynnig: 'fe gâi
ei nawdd pe moderneiddiai',
hawlio drachefn mai hiliol
yw iaith lai; wedi'r fath lol,
ar lôn Awst yr heulwen hwn
drwy'r Faenol, penderfynwn
ei gwa'dd o'i hunigeddau a
'i sarhâd, i faes yr hau
a'i chynnal eto 'nghalon
hen deulu ha'r genedl hon.
Myrddin Ap Dafydd
9 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Pwyllgor
Aeth dogfen Iaith Pawb yn broblem i'r Cyngor,
Ac i osgoi trafodaeth sefydlwyd pwyllgor
A fyddai yn fodlon i ddod yng nghyd
Am y ffi arferol i wneud dim byd
Ag eithrio creu rhwydwaith o is-bwyllgorau
I gyfathrebu â'i gilydd yn y gwestai gorau,
Cans gall gweinyddwyr fod yn ddigon hael
Wrth dalu am ateb y dymunant eu gael.
Ond yna fe welwyd, 'mhen tipyn o amser,
Nad oedd un Cymro Cymraeg yn y nifer,
Ac fel y gwyr Pawb mae hi bellach yn hiliol
I alw pwyllgor nad yw yn gynhwysol.
Roedd angen creu llais allai ollwng stêm
Ac eto barchu rheolau y gêm,
Un llefarydd brodorol fyddai'n ddigon hyblyg
I ddamcaniaethu â thafod Prydeinig,
A byddai'r elfen ddwyieithog, 'nôl Bwrdd y Ddwy Iaith,
Yn rhoi cyfle i rai o'r cyfieithwyr gael gwaith.
A phasiwyd y dylid, tra pery y pwrs,
I adael i'r peiriant i redeg ei gwrs.
Idris Reynolds
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Pwyllgor
"Mi yda ni bellach ers tair blynedd neu bedair"
Meddai'r is-gadeirydd (yn siarad trwy'r gadair)
"wedi cwrdd yn fisol ddeugain gwaith yn gyfanswm
Ac mewn pump o'r pwyllgorau yr oedd na gorwm,
Mi 'da ni wedi pledleisio ac ethol swyddogion,
Cynnig diffyg hyder a chadw cofnodion,
Mi 'da ni wedi creu cyfansoddiad a dweud be 'di'n targed
A chael pwyllgor brys er mwyn talu teyrnged
Wedi marwolaeth Nel Huws(nain un o'r aelodau
Na wnaeth o erioed ddod i un o'r pwyllgorau)
Da ni ddim wedi ffraeo dim ond dadlau a thrafod,
Wedi cael cynigion ac wedi eu gwrthod,
Da ni yn wleidyddol gywir ac yn ddemocratiaid
Ac os oes rhywun yn arwain 'da ni'n dilin fel defaid,
Nid oes na fyth faterion yn codi
Am fod ein agenda yn rhy hir I fynd trwyddi,
'Da ni'n mwydro'n ddi baid a'n tafodau chwim
Ond pan mae'n dod i bendarfynu,'da ni'n pasio dim,
Felly dwi'n ymddiswyddo,dwi'n meddwl,'da chi'n deall,
Hynny ydi os nag oes na "unrhyw fater arall".
Huw Erith
8 1/2 Pwynt
Englyn cywaith: Cadair
Cadair y Bladur
A llafur y pladurio - i hen gof
Yn gae ifanc eto
Daw 'sgubau'r hydrefau dro
Yn rhy amal i'w rhwymo.
Dai Jones
10 Pwynt
Englyn cywaith: Cadair
(cadair uchel i fabi wrth y bwrdd bwyd)
Daw llais plismon ohoni, er gwaetha'i
awr gaeth, mae'n gwastrodi
'r oedi'n hallt a'n dwrdio ni
â bybyls ei iaith babi.
Myrddin Ap Dafydd
9 Pwynt
Pennill ymson y tu ôl i'r llwyfan
Rwy'n disgwyl adrodd o dan saith
Ers oes tu cefn i'r llwyfan
Ac os na'm gelwir cyn bo hir
Fe fyddaf dros yr oedran.
Idris Reynolds
9 Pwynt
Pennill ymson y tu ôl i'r llwyfan
"Fi 'di boi Archie's Removals ", madda' fi'n ddigon clen wrth y tsiap
Fe'm gwthiodd i fa'ma dan sisial, Mae'n lwcus na chafodd o slap.
Rwyf yma ers oriau mewn twyllwch,efallai bod ffiws wedi chwythu
Ond na, dyma Culwen ag Olhwch yn canu trombones wedi'w sythu.
A dyma nhw'n dyfod o rywle, yn syth ar ol clywed y corn,
reit debyg i'r hen longau hwylie ar ol iddynt fod rownd yr Horn.
O 'mlaen i fe welaf y gadair yr helwyd fi yma i'w nhol
ac wele yn awr daw Darth Fedar a llwythi yr Aifft ar ei ol
Mae'r olygfa o du ol i'r llwyfan yn union fel "Queen's Greatest Hits"
Goleuadau yn chwilio ym mhobman fel Llundain yn ystod y Blitz.
A'r gola'n cornelu rhyw greadur tua naw rhes i lawr ar y chwith
Maent drosto mewn amrant fel pupur i'w lusgo i fyny i'w plith.
Cai Sôch ap Cap Coch ap Caswallon, ap Rheinallt ap Rhisiart o Riw
Yr enw s'gen i ydi Sharon a'n Llanerchymedd mae hi'n byw
Mae n'acw a chleddyf mawr arian, mae'n beryg o frifo ei gefn
wrth geisio ei dynnu fo allan ond fedar o ddim, diolch i'r drefn.
Mae'r Klan Kanu Korawl 'di tanio ! a mwydro fy mhen efo'i noda'
a haid Dylwyth Teg wedi glanio a'n rhedeg rownd lle efo bloda'
O Dduw! pryd ddaw diwedd i'r ffwlbri a 'Hen Wlad fy Nhadau', 'Amen'?
Rwy'n meddwl y ffonia i Archie a dweud wrtho "Nefar Agen !!!"
Gareth Jones
9 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae beirdd a beirdd yn bod
Yn ddeuwell wedi'r ddiod.
0 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae beirdd a beirdd yn bod
Mae rhai'n ddim ond meurynod.
1 Pwynt
Telyneg: Muriau
Tu hwnt i glawdd y mynydd
Mae ffin nas gwelwn ni,
Na ofyn ei bugeilio
Na chau ei bylchau hi.
A thra bo cof a llinach
Bydd rhywbeth mwy na mur
Yn libart ei chynefin
Yn cadw'r praidd yn bur.
Dic Jones
9 1/2 Pwynt
Telyneg: Muriau
(Tre'r Ceiri)
Mae'n rhaid eu codi'n uchel, meddent: trwch
o waliau'r hanner ofn a'r hanner gwir
yn gaer am grib y graig, na all un bwch
o'r Eifl eu dringo; felly trown o'n tir,
rhoi'r gorau i borthi'r da a medi'r had
a dringo i'w chwareli am fod rhaib
ar orwel agos; rhaid caledu gwlad
rhag gelyn dros y dwr. Mi godwn gaib
a morthwyl ithfaen dros ein plant a'n ffordd
o fyw; nid ildiwn fyth i'r hwyliau du
sy'n nesu mewn dialedd; gyda gordd,
gosodwn gwrs yn uwch o feini cry'
gan sbecian drostynt yn y niwl a'r glaw
a gwylio'n caeau'n cau gan ddrain islaw.
Myrddin Ap Dafydd
9 1/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81 1/2
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2
CYNIGION ERAILL
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'dwr'
Ni bia'r Wyl, nid tref a bryn
Ei dwr oer o Dryweryn.
Limrig yn ymwneud ag ennill cystadleuaeth
'Dyw Charles, mab y Cwîn, ddim yn fodlon,
Er llwyddo yn 'steddfod Caernarfon. Roedd y safon yn sobor
A rhannwyd y wobor
A rhoddwyd i'r Prins hanner coron.
Enillais yng Nghwm-rhyd-glo,
Yn Stedddfod Caerffili a'r Fro,
Ym Mhlwmp a Thirabad
A hon, Mister Beirniad,
Yw'r limrig sy'n mynd â 'i bob tro.
O'r diwedd cas limrig yn gywir
Ac ennill yng nghwrdd swllt Cilfowyr,
A chas grant Ec Ec Ec
I fynd draw i Quebec
Ac mae wedi dod ma's â thri llyfyr.
Englyn yn cynnwys y llinell: 'I'r Faenol yr af innau ...'
I'r Faenol yr af innau - yn hogyn
Y graig a'r terasau,
Ond wrth im gyrchu'r muriau
Wele'r gât yn dal ar gau.
Â'r naws nawr yn gynhesach - i'r Faenol
Yr af innau mwyach,
Heb y 'Syr' â'i ddibwys ach,
Na hen grechwen ei grachach.
Englyn cywaith: Cadair
Cadair (Y fuwch)
Dôi â gwin ein digonedd - o irion
Erwau'r hir amynedd,
Ond ar ddyfod gormodedd
Dibris gwlad o bris ei gwledd.
Cadair olwyn y ffotograffydd, Ron Davies
 i fyny'r rhiw o liwiau - ac i lawr
Drwy y glyn llwydolau
Ar rwydd hynt er mwyn ryddhau
Ei holwynion o luniau.
Cadair y fuwch eto
Cod win i'r cyw odani, - a ffynnon
Ein holl ffyniant ynddi,
Ond nid yw lles buchesi'n
Cyfrif fawr yn awr i ni.
Pennill ymson y tu ôl i'r llwyfan
O flaen fy Nuw rwy'n myned,
Mi wn caf chwarae teg,
Rwy'n osio naw a hanner,
Gobeithio caf fi ddeg.
Mi brynaf ffrâm a chadwyn
A hoelen fawr i'w dal
A'u rhoi i Westy'r Emlyn
I'w hongian ar y wal.
Telyneg: Muriau
Unbennaeth greulon baner
A gwaed yn baeddu'r morter
I osod meini balchder
A'u cododd yn eu pryd,
A hiraeth plant gorthrymder
Yn galw am gyfiawnder
Uwchlaw cymylau amser
A'u dymchwel hwynt i gyd.
CYNIGION ERAILL
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'dwr'
Tafol o'r byd cyntefig
Yw dial dwr sy'n dal dig
Huw Erith
Limrig yn ymwneud ag ennill cystadleuaeth
Enillodd Wil Legorn a'i wy
yn sioe amaethyddol y plwy
Wel son am orfoledd
ar ol bod yn eistedd
ar nyth am ddwy flynedd neu fwy.
Gareth Jones
Enillodd Tir Mawr gyda Limrig
ag iddi ddwy linell yn unig
Gareth Jones
Yn ffeinal Ras Falwod Cwm Aled
enillodd yr un efo helmed
Fe saethodd i ffwrdd
i ben draw y bwrdd
lle 'steddai Wil Hwrdd efo'i fagned
Gareth Jones
Fe gafodd lawdriniaeth ddydd Llun
a wir! doedd o ddim yr un dyn
Fe aeth i roi cynnig
ar Ras Deir-coes y Brennig
a'i hennill hi ar ben ei hun
Gareth Jones
O gwmpas fel mellten aeth Pero
gan basio'r holl gwn am yr eildro
Ond yn ei wythienna'
roedd mwy o gyffuria'
nag oedd yn fferyllfa Caeathro
Gareth Jones
Ni fedrai Y Meuryn ddweud dim
yn Nhalwrn y Beirdd Pont y Cim
Ei blant oedd yn wystlon
mewn ogof yng Ngroeslon
Tir Mawr gafodd ddeg am bob dim
Gareth Jones
Heb gymorth na Mars Bar na Rolo
gadawyd pob ci yn ei sgil o
Archwiliwyd 'Cwm Boi'
Darganfod wnaeth Moi
Fod cranc wedi'w roi'n ei ben ol o.
Gareth Jones
Englyn yn cynnwys y llinell 'I'r Faenol yr af innau'
Yn hid y bygythiadau i'n hil fach
ac ail fyw'r un brwydrau;
efo hi i atgryfhau
i'r Faenol yr af innau.
Gareth Neigwl
Pennill mawl/ dychan: Yr Orsedd
Ei sgidia rybyr, ei menyg plastig
A'i blodau bychain pinc hi
Oes na beryg fod yr Orsedd
Wedi mynd yn cinci?
Myrddin Ap Dafydd
Yr Orsedd (ar alaw'r emyn 'Hoff yw'r Iesu..')
Hoff oedd Iestyn o Gnau Mwnci
yn eu cnoi fel dyn o'i go'
Ar ôl cannoedd o bacedi
i drafferthion yr aeth o
Do fe rwymodd o fel corcyn
roedd pob pibell wedi'w chau
Ymadawodd a ni wedyn
ym mis Awst, dwy fil a dau
Roedd o bron ry drwm i'w gladdu
Pwysai Iestyn fwy na grat
Bu bron wedyn iddo fethu
fynd i'r Nefoedd drwy y giat
Rhoddwyd iddo brwns nefolaidd
Mynd yn gyson nawr mae ef
Mae i'w weled yn rheolaidd
ar ei orsedd yn y Nef .
Gareth Jones
Tydi'r peth yn dda I ddim,
Lle I feirdd a rhai di ddawn,
Ac mi wnaf gadw at fy marn
Nes medra'i stwffio i mewn.
Huw Erith
O leiaf yn fama fe wyddom pwy di pwy
Nid fel ar gynghorau o'r sir I'r plwy',
Yma ni chaiff y glas wisgo siwt wyrdd
Waeth pa mor dywyllodrys a stimllyd eu ffyrdd.
Huw Erith
I'r trwch, y mae'r orsedd,
Mewn ty bach boreol;
Fan hyn 'nôl cobanau,
Mae'ma frys uffernol.
Gareth Neigwl
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwahodd Prifwyl 2007
Cywydd gwahodd Steddfod 2007 i Batagonia
Ddwy fil a saith, mae'r paith pell
a'i bobol eisiau'r babell;
ni fydd grwgnach nac achwyn
am besos, amigos mwyn
a daw y Maes yn rhad, mwn:
anialwch dan bafiliwn;
ni ddaw ciw na thraffyrdd cau
awn i wyl ar geffylau.
Vamos! ar ail Fimosa,
yma raid dod, Gymry da,
lle nad oes sôn am Sacsoniaith.
Hwyl a sol, Mawrth dwy fil saith.
Myrddin Ap Dafydd
Y'Steddfod
Hen winllan Ynys Enlli
Fu'n cynnal ei hafal hi
I linach am fileniwm;
Swyn y lle, os yw hi'n llwm
Ar brifwyl, ceir ei brofi
O law hael fy mhobol i
Ym mhalas ein Maen Melyn,
Maen llog diamau yn Llyn.
Llyn sy'n ail godi llenni
Ar wres nwyf ein croeso ni;
Hwyliwn hi o'i niwl yn ôlI'r ynys at ddwr rhiniol.
Gareth Neigwl
Bu hon yn wynebau hir,
Yn hynafiaid annifyr,
Yn hoeden y wisg odiach,
Yn berlau o bethau bach.
Bu'n ffwl, yn garbwl heb go',
Yn rhwysg, ac mor afrosgo.
Ond mae'i hangen yn benwan,
Yn gae yd o egin gwan,
Yn hoen o dywysennau,
Yn ddi-hid o'i gwadd i'w hau
Eto'n gordial i'n calon,
Yn haul Awst i'r genedl hon.
Gareth Neigwl
Cân (heb fod dros 20 llinell):Y Pwyllgor
Anghofiwch am 'Vatch of the Day', Iesu Gwyn! ga'i dynnu eich sylw i gyd rwan hyn
at rywbeth sy'n digwydd Fehefin yr Ail sy'n beryg o siglo'r clwb snwcer i'w sail
Bu'r clwb 'ma yn hafan i ddynion y fro i fochel rhag glebran eu gwragedd sawl tro
sy'n dyfod a ni at y "Potting Machine" sef Jeremy Allpott mab Now a Jolene.
Triwch gofio ei doriad o with deg a dau ag un fraich mewn plastar a'i lygaid 'di cau.
Fe wnaeth "147" yn erbyn Prenteg a'r ciw rhwng ei ddannedd a'r rest yn ei geg
Nos Iau ym Mhort Talbot Ray Reardon ei hun ofynodd i Allpott am lofnod a llun
Ni welodd y clwb y fath glodydd a bri ers 'Noson Joe Davis' yn un naw chwech tri
Mae'n ennill pob cwpan a thlws yn y fro, ei wobrau a dalodd am doiled, a'r to!
Fo yw Dic Jones y top gwaelod a said a dal ar ei ddoniau, gyfeillion, sydd raid
Un dewis sydd ganddoch,mae'n rhaid i chwi wneud yn union yr hyn rydw i yn ei ddweud
Rhaid darnio traddodiad bonheddig y Sir a gadael menywod i mewn 'ma, mae'n wir
ond Jeremy Allpott, athrylith y ciw sy'n mynd wythnos nesa' i newid ei ryw!
Gareth Jones
Hanner gwag,medd rhywun
Medd arall hanner llawn
Wrth edrych ar fy nghwydr
Un peth fe wn yn iawn,
Dwi'n berffaith sicr yn fy ffydd
Mai hanner gwydriad gennyf sydd.
Huw Erith
Mae hi'n edrych yn dda.pob dim ar I fyny
Ac y fi o bawb ydi'r gorau am grynu.
Huw Erith
Englyn cywaith: Cadair
(fflatpac)
Yn ei gwt, bu hir y gwaith yn gludo'r
llanast gwlad yn grefftwaith,
mond ffroeni ynddi un waith
a chwalodd yn sach eilwaith.
Myrddin Ap Dafydd
Cadair
(Cadair freichiau hen hen daid ddaeth hefo teulu mam o 'Sbyty Ifan i Lyn oddeutu 1861 mae'n debyg)
Henwyr mewn braich amdanaf, ble naddwyd
Blynyddoedd hyd eithaf
Lludded dyn y dydd cletaf
Yn rhoi'i hun yn ei chefn braf.
Gareth Neigwl
Cadair Idris
Gorsedd ein hunigeddau; mae oesau'n
Hemosiwn drwy'i breichiau
Yn ffrwd i'n deffroadau,
Llun o'n cof sy'n Llyn y Cau.
Gareth Neigwl
Telyneg: Muriau
Fe dafla y golau o Gilan ei dan
unwaith eto tua'r Gorllewin,
i ddifa brodwaith y tylwyth teg,
a sychu eu gwlybaniaeth oddiar y rhedyn,
y bysedd cwn a'r casnog
sy'n cynnal y cloddiau cerrig.
Crawc,bref a mwstwr yw'r larwm
ond chyfyd neb I daro trem
tros gochni bae Porth Neigwl,
a ddaw neb heblaw y bugail ar ei dro
ac ambell deithiwr trwy'r adwy
i olwg rhythm gwag y ddau dwll llygaid,
cyn gadael ar deithiau I borfeydd mwy gwelltog
a rhoi ei heddwch bregys
yn ol i'r gwyllt.
Ac wedi I'r haul hen olchi ei draed
fe ddaw gwehyddwyr y nos yn ol
i gerdded y tywyllwch,
tros redyn a chreigiau a chof a 'sgerbydau
i baratoi tan oer yfory
yng ngwres meini Bytilith.
Huw Erith
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

