Y Gler v Crannog

Dyma un o'r rowndiau cyn-derfynol. Cafodd y rownd yma ei recordio yn Neuadd Sarnau, Llandysul

Y Gler

Y Gler

Crannog

Crannog

Cwpled caeth ar arwydd 'Ar Werth'

(y ty yn siarad)

Yn fy mhris mae pris pob bro,
Yn rhy wresog ei groeso.

Hywel Griffiths
9 Pwynt

Cwpled caeth ar arwydd 'Ar Werth'

Miliwn dda am fferm Lan Ddôl,
Llawer llai i rai lleol.

Hywel Rees
8 1/2 Pwynt

Pennill Telyn: 'Y mae llawer un yn siarad'

Y mae llawer un yn siarad
Am y llanc a gollodd gariad,
Nifer fach o'r rhain sy'n deall
Bod e'n canlyn tair merch arall.

Hywel Griffiths
9 Pwynt

Pennill telyn: 'Y mae llawer un yn siarad'

Y mae llawer un yn siarad
Am ryfeloedd mawr eu profiad,
Nid yw'r rhai fu yn y ffosydd
Mor llifeiriol eu lleferydd.

Owen James
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â saffari

Un tro pan es ar saffari
Bwytawyd fy mhlant a fy ngwraig-i,
Cyn hir roedd y llew
Yn tyfu'n rhy dew,
A bu farw cyn cyrraedd Glangwili.

Osian Rhys
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â saffari

Pan oedd wrth ei hunan yn crynu
A llewod o'i amgylch yn rhythu,
Sgrifennodd yn brysur
Air ola' ei ddyddiadur,
'So far 'dwy 'di joio'r safari'.

Owen James
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwrthod Gwahoddiad

(i briodas cyn gariad)

Daeth amlen wen wahanol
Wrth eich dau ddiwrnodau'n ôl,
A'i hysgrifen ysblennydd
Yn duo aur dechrau'r dydd.
Crynais wrth i'r inc gronni
Geiriau hallt fy nagrau i
Mewn caligraffi pitïol,
A'm dwylo'n cwympo i'm côl.

Ofer oedd ffugio hefyd
Mai cerdyn, geiryn 'na'i gyd
Ydoedd, ac ofer wedyn
Dod a gweld eich diwrnod gwyn.

Hywel Griffiths
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwrthod gwahoddiadGwrthod gwahoddiad i Stomp yng Nghastell Caernarfon

Dod i stomp, ddywedaist ti?
Nefar in Castell Cofi!
Rwy'n Brifardd, a bardd y byd
A'i feddwl ar gelfyddyd,
Nid rhyw glerwr bol cwrw
Sy'n llawen ar lên y lw.

A pheth arall, pwy allai
Am ei oes anghofio mai
Yr union gaer honno gynt
Fu lleoliad holl helynt
Ein chwe-deg-nain chwydiog ni?
Ni roddwn fy nwr iddi.

Dic Jones
9 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gynhadledd

(Yn y gynhadledd i'r wasg yn dilyn prawf cyntaf y Llewod yn Seland Newydd, treuliodd Sir Clive Woodward 25 munud yn trafod y dacl ar Brian O'Driscoll, a 3 munud yn trafod canlyniad y gêm)

Gohebydd: Syr Clive, onid 'ych chi'n siomedig â'r halibalw o gêm?
Syr Clive: Ydw, ond welsoch chi'r dacl ar O'Driscoll fel injan stêm?
Gohebydd: Ond Syr Clive, beth am y canlyniad? Mae'n rhaid eich bod chi'n reit grac.
Syr Clive: Y canlyniad oedd anaf i'w ysgwydd, a do - fe glywes i grac.
Gohebydd: Syr Clive, a fyddwch chi'n newid y tîm yn dilyn yr ornest bnawn ddoe?
Syr Clive: Wel bydd, bydd raid newid O'Driscoll - bydd e angen sawl wythnos o hoe.
Gohebydd: Syr Clive, rhaid ichi gyfadde: bydd rhaid taflu chwaraewyr mas!
Syr Clive: Wrth gwrs, rhaid Graham Henry waredu'r ddau daclwr cas.
Gohebydd: Syr Clive, beth am safon y cicio? A oedd mwy o bwyntie ar gael?
Syr Clive: Does gen i ddim cwyn am y cicio - dim ond am y taclo gwael.
Gohebydd: Syr Clive, beth yw eich teimlade am gryfder tîm yr All Blacks?
Syr Clive: Ro'n nhw'n llawer rhy barod â'u cryfder i daclo O'Driscoll yn rhacs.
Gohebydd: Syr Clive, oes 'na obaith o gwbwl i ennill un gêm ar y daith?
Syr Clive: Rwy'n siwr y gall Lloegr, y-y-Llewod, ennill oleia' un waith.
Ond ga' i fynd nôl am eiliad at fater pwysig iawn,
Sef y dacl ar O'Driscoll na chafodd sylw llawn.
Ma' llawer gormod o daclo brwnt mewn rygbi'r dyddie hyn;
Pan ro'dd Lloegr yn chware yng Nghwpan y Byd, roedd 'u crysenhw'n aros yn wyn!
Taclo ysgafn, neis-neis, a ddylai fod i wyr yn eu hamser a'u hoed,
A dyna pam, deallwch chi, 'mod i'n mynd i hyfforddi pêl-droed.

Iwan Rhys


9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gynhadledd

Fe alwodd Syr Clive gynhadledd i'r wasg;
Roedd yn brin o niferoedd i gyflawni ei dasg.
'Rhaid cael rhagor o ddynion i drechu'r gelyn'
Dywedodd yn swta wrth Huw Llywelyn,
Ac yna i gyfeiliant 'God save the Queen'
Bu'n egluro ychydig ar ei ddewisiadau ei hun.
Esboniodd fod Gerallt, fel Shane, yn rhy slic,
A bod pêl rygbi rhy fach i ddwylo Dic,
Ac roedd digon, ta beth, o'r tîm ar ei pension,
Ac roedd Eirug Salisbury rhy debyg i Henson,
Ac na allai'r Cilie sydd yn Jon M. O.
Fyth ganu nodyn o'r 'Power of Ffo'.
Bu'n ystyried yr Oernant, fel prop pen tynn,
Ond gwrthod wnai hwnnw, â thalyrnau ffordd hyn,
Ac mae Arwel bellach, drwy'r sensora hirbell,
Rhy wleidyddol gywir i groesi'r llinell.
Ychwanegodd hefyd , wrth chwifio'i faner,
Fod Ceri Wyn rhy Wyddelig o'r hanner.
Ac felly eilyddion yr England A
A elwir allan i ynysoedd y De.

Idris Reynolds
9 Pwynt

Englyn Cywaith: G8

(i George Bush)

Er gwenu'n llawn adduned - a siglo'r
Dwylo, y mae dyled
Y meirw oll ym mharêd
Y dyn euog diniwed.

Hywel Griffiths
9 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: G8

Pan fydd gwledydd goludog - yn dyfod
I drafod yr hafog
Yn y rhai llwm, bydd gwawr llog
Y rhai gwan ar y geiniog.

Dic Jones
10 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Ecolegwyr

O dan y pentyrrau o foncyffion coed
Yn niwlen wenwynig y llygru di-oed,
Yng Nghantre'r Gwaelod dan godiad y lli,
Yno yn rhywle mae ein cydwybod ni.

Osian Rhys
9 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Ecolegwyr

Rwy'n gadwriaethwr tir a môr,
Mae'r sticer ar fy Four by four.

Idris Reynolds
9 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Dydd y farn yn y Sarnau
I'r bobl hyn ac i'r bobl iau.

1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Dydd y farn yn y Sarnau
A hen dasg gwahanu dau

1/2 Pwynt

Telyneg: Rhwyd

Ei ddoniau oll meddan' nhw
Yw'r rheswm tros y mwmial
O gwmpas y syrcas o hyd.

"Ust i'r dyn!" yw stwr y dorf,
dwys ei eiliad o sylw
yn dal ar bedestal y byd.

Dim ond un rheffyn unig
A wêl ef o'i flaen,
Yn ddwyfol fe'i addolwyd;

Rhoed fflach lamp ar ei gampau,
A drwm a'i rôl hollbresennol mor sinig
Yn y cefndir yn hir ymaros
I bob cam droi'n gam gwag,
I'w falchder fel seren
Droi'n siwrwd rhyw hen sioe arall.

A'r wên baent ar wyneb un
Clown yn celu haenau
O ofnau sy'n trigo'n ddyfnach.

Yn nhrwch tawelwch torf
Mae dwndwr eu mudandod
Yn nisgwyliadau camerâu rhai,
Neu ym meiro rhai nid amharod
I'w boenydio'n benawdau
Ar y Sul i hawlio'r sylw.

Aeth o i droedio'r rhaff
Yn ofalus, ofalus, a'i fyd
Yn tynhau, yn culhau a phob cam.

A'r rhai a feddyliai oedd yno i ddal
Y rhwyd yn awr yn bwydo
Oddi ar unigedd yr enwogi,
Yn ei wawdio gan bwyntio bys.

O'u trachwant yr arhosant am ryw hyd
I fod yno yn gwylio ei gwymp
O blith y sêr i'r dyfnderoedd,
O'u hanfadwaith, yn anghofiedig.

Osian Rhys
9 1/2 Pwynt

Telyneg: Rhwyd

'Bwriwch eich rhwydi' meddai,
Lle na ddaliasent ddim.
'Bwriwch eich rhwydi eto
I'r dwfn, a chredwch im.'

A chodi'n ôl a wnaethant
Y rhwyd yn drwm o'r lli,
A helfa fwya'r oesoedd
Yn llond ei rhwyllau hi.

Dic Jones
9 Pwynt

Englyn ar y pryd: Y Dydd Hwyaf

Wastad er iddo estyn- golau haf
Hyd eithaf y pwythyn
R'un fath â'm siwrnai fy hun
Byrhau mae'r edau wedyn.

9 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 83

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar arwydd 'Ar Werth'

Ar werth: iâr brydferth, tri bra,
G-string ac F-reg Astra.

Iwan Rhys

Er mor fach yw'r muriau fyth
Galwa ar ein gwehelyth.

Os anrhaith ein hiaith fu'n hon,
Dyfalwch uwch adfeilion.

Odidog fawreddog fan,
Y gorau, gydag arian.

Lle ar rent ar ein pentir -
Un hardd na gadwem yn hir.

'Mond eiddew sy'n dew ar dy
Gâi Heledd yn gywely.

A oes un am wasanaeth
Un o feistri'r cerddi caeth?

Er hardded hwn, mae betws
Anhylaw tu draw i'r drws.

Osian Rhys

Yn adfail modern, prydferth
Ty'r Fron mae cartref ar werth.

Eurig Salisbury

Pennill Telyn: 'Y mae llawer un yn siarad'

Y mae llawer un yn siarad
Am y boen o golli cariad,
Anodd iawn yw cydymdeimlo
Pan fo 'nghariad yma heno.

Y mae sawl un yn parablu,
Rhai yn holi a busnesu,
Y mae llawer un yn siarad -
Sieryd neb yn fwy na 'nghariad.

O'r holl rosod tawel heno
Mor goch â'r wefus rwy'n gofio,
Y mae llawer un yn siarad
O gylch dy fedd fy nghariad.

Osian Rhys

Y mae llawer un yn siarad
Yn y Llew fod bola'r lleuad
Yn rhy fawr - af i yfory
I deneuo'r lleuad newy'.

Eurig Salisbury

Limrig yn ymwneud â saffari

Un tro fe es ar saffari
Heb weld llew, jiraff na'r un mwnci,
'Mond un fuwch a llo
A dafad ar ffo,
Lle diflas â'r diawl yw Llysfasi.

Un tro wrth fynd ar saffari
Mi welais i lew wedi meddwi
Yn canu Delilah
Tra'n reidio cefn Zebra,
Wedi meddwl, mi oedd o reit ddigri.

Roedd llewpart yn rhedeg ar ôl zebra,
Gofynnodd wrth ffoi "be 'di hwnna?"
Wrth i'r llewpart droi'i ben
A syllu i'r nen
Fe giciwyd y diawl rhwng ei goesa'.

Un flwyddyn aeth llewpart a mwnci
Ac eliffant i'r wyl yn Glastonbury;
Bu'n benwythnos bach gwd
Heblaw am y mwd,
A suddodd yr eliffant a boddi.

Osian Rhys

Mi welais i luniau 'da Harri
O'i wylie 'da'i wraig ar saffari,
Bwystfilod mawr blewog
A dannedd glafoeriog,
Deud y gwir mae'n reit debyg i'r Barri.

Mi welais i luniau 'da Harri
O'i wylie 'da'i wraig ar saffari,
Roedd bwystfil mawr blewog,
A dannedd glafoeriog,
Ond 'na fe, mi oedd Harri'n ei charu.

Hywel Griffiths

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Gwrthod Gwahoddiad

Wrth agor, ganol bore,
Ei fin nos uwchben fy nhe,
Rhwygo hyd y papur gwyn
A gafael ynddo'n gofyn
Ei gaddug o wahoddiad,
Gofyn yn glên i gefn gwlad
Liniaru'r diwedd heddi
A mynd am un, dwed i mi
Sut mae gwrthod twymo ty;
Derbyniad oer y bennu?
Sut mae geirio'n ddigonol?
Sut mae hala na yn ôl?

Eurig Salisbury

Gwrthod Gwahoddiad

Dath e'n y post, waeth un pell
Ei gymdogi am degell
Fu e 'riôd, un â'i fryd-e
Ar gadw'r gert amser te.

Dath llythyr byr y bore
O'r blân, ond Duw a wyr ble
Y rhois-e, falle'r ddresel?
Ath i blant e bant ers sbel.

Af i ddim i'w fedd e whaith,
Ai ddim i'w gladdu ymaith.
Ai ddim, rhag câl, ers talwm,
Rhywun trist yn i ffrynt rwm.

Eurig Salisbury

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gynhadledd

Tu ôl i ddesg mewn swyddfa yn nghrombil y Ty Gwyn
Roedd George a Dick a Donald yn trafod braidd yn syn.

"Lle ddiawl mae'r pwt o g'warfod penwythnos nesa Dick?"
Gofynnodd George mewn panig "Dêr mas a'r atlas, cwic!"

"Mi glywais mai'n yr Alban mae pawb i fod i gwrdd
I siglo llaw a gwenu, ac yna mynd i ffwrdd,"

"Wel lle ma' hwnnw dywed?", gofynnodd George i'r ddau
Oes trwps da ni draw yno, oes pobol i'w rhyddhau?"

"Ti'n gwbod pa wlad yw hi, drws nesa i wlad Tone
Sean Connery yw'r arlywydd, be nai George? Codi'r ffôn?"

"Na, paid bod yn wirion, ond dwed, pa fwyd sy' gal?"
"Afu mewn stumog dafad - Be sy'n bod George bach ti'n sâl?"

"Wel, jiw am wlad anwaraidd, fyddai'n iawn mewn dipyn bach
Ond ffonia bois McDonalds er mwyn cael byrger iach."

"Ond nag oes terfysg yno?" gofynnodd Dick mewn braw,
"Rwy'n cofio gweld Mel Gibson a chleddyf yn ei law!"

'Sdim diawl o ots am hynny, nac am brotestwyr chwaith,
Yr hyn sy fwya' pwysig nawr yw dechre' ar y daith."

"Paid poeni George" dywedodd Dick, "mi fyddwn ni'n olreit,
Anelwn fom at dir Irac, a ffeindiwn ni fe'n streit!"

Hywel Griffiths

Englyn cywaith: G8

Rwy'n ofni coelio'r sïon anochel,
Mai uchel wleidyddion
Wyth o wledydd a thlodion
Y byd sy'n wynebu hon.

Eurig Salisbury

Pennill mawl/dychan: Ecolegwyr

Nid yw'n hyn ein gwybod ninnau'n
Wir, â haenau daear hyned,
Er bod dyn yn arbed ynni
Byw eleni y mae'r blaned -
Daear amgen rydd ei deilen
I'n colomen yn y climate
Er cymhlethed holl gynllunie
Dyn i'w harbed yn ei horbit.

Eurig Salisbury

Yng Ngholeg Aberystwyth mae cyrsiau newydd sbon
A myrdd o stiwdants diog yn cofrestru i'w dilyn yn llon.
Ni fydd raid iddynt fynd i ddarlithoedd, i'r llyfrgell nag arholiad chwaith;
Ni fydd raid iddynt symud ymhellach nag erchwyn y gwely - mae'n ffaith.
Cânt ddilyn yr holl seminarau drwy e-bost a rhyngrwyd yn glir,
Ac felly bydd pob un ohonynt yn e-colegwyr cyn hir!

Iwan Rhys

Telyneg: Rhwyd

Fe'i gwelais yn diogi,
Yn llipa a musgrell yng ngolau'r machlud,
Y trai'n tynnu'i wallt, a'r llanw'n ei ollwng,
Gan ysgwyd y gwymon ohono.

Pwy feddyliai, o'i weld fel hyn,
Y tasgai darnau hallt o arian drwyddo,
Wedi eu taflu o lygad yr haul
Ganwaith,
Wrth i'r trymlwyth stranciog
Ymladd i'r eithaf am anadl ganol dydd.
Wrth i freichiau cryfion eu tynnu tua'r llong.

A'r gwynt a'r glaw'n ymddatod
Ei gryfder yn araf,
Pwy feddyliai y byddai'n fy rhwydo
A 'nghlymu'n sownd i'w dristwch
Am ennyd.

Hywel Griffiths

Englyn ar y pryd: Y Dydd Hwyaf

Â'r gaea'n angof- rhyw ofan- wyf i,
Heddi, â'n hymddiddian
Yn ifanc, yr â'r cyfan
Am i lawr o heddi mlân

10 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 84

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar arwydd 'Ar Werth'

Mae'n go rad ,waeth mae'n gar hen
A barchwyd gan ei berchen.

- - - - - - - - -

( I'w bastio ar draws arwydd 'Ar werth')

O'r Hafod lawr i'r godir
Fesul ffald mae dal dy dir.

Pennill telyn: 'Y mae llawer un yn siarad'

Y mae llawer un yn siarad
Y tu allan i'r Cynulliad
A'i dawelwch yn y Siamber
'Falle yn dweud fwy o lawer.

Y mae llawer un yn siarad
Llai â'r tafod nac â'r llygad,
Achos nid yw'r neges honno'n
Dod o'r wefus ond o'r galon.

Y mae llawer un yn siarad
Am y loes all ddilyn cariad,
Ond â'r galon wedi'i thorri
Y distawrwydd ddwed y stori.
Y mae llawer un yn siarad
Ar focs sebon y Cynulliad,
Ond po fwyaf y llefaru
Lleiaf fyth fydd y gweithredu.

Y mae llawer un yn siarad
Am yr awr i wneud eu safiad;
Ofni'r wyf taw nawr yw'r amser-
A swn sodlau yn y pellter.

Limrig yn ymwneud â saffari

Os aeth rhyw ohebydd o'r Star i
Roi esgus o fom yn ei gar i
Ddangos llacrwydd affwysol
Y Coleg milwrol.
Rwyt ti ddim yn hollol saff , Harri.

Er mwyn dangos 'chydig o steil
Mi dybiais y byddai'n werth chweil
Imi fyned i badlo
Mewn pwll yn y Congo
I chwilio am fwts crocodeil.

Parc Antur sy'n ymyl Bodffari
Ac yno fel t'wsog aeth Harri
I'r Antelope Inn,
I'r Llew, Coch a Gwyn,
I'r Stag ac i'r Boar - ar saffari.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.