Waunfawr v Tir Mawr

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yng Nghlwb Golff Nefyn ar y 5ed o Orffennaf

Waunfawr

Waunfawr

Tir Mawr

Tir Mawr

Cwpled caeth yn cynnwys math o gi

O fewn y caets yng nghefn car
Ein teulu mae rotweilar.

Emyr Roberts
8 Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys math o gi

Halen ei wen sy'n ddi wad
Hen gi mor o gymeriad

Huw Erith
8 1/2 Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell: "Nid oes ar neb dy eisiau"

Actores

Hen seren ymysg enwau - enwogion
Golygus wyt tithau,
Yn rhoi lle i'r eraill iau,
"nid oes ar neb dy eisiau"

Emyr Roberts
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell 'Nid oes ar neb dy eisiau'

Er hoender llu o ffrindiau yn ifanc
A llawn afiaith, diau
Cei weld wrth i ti lesgáu,
Nid oes ar neb dy eisiau.

Gareth Neigwl
8 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud ag iechyd

Mi gafodd gur pen wrth roi cynnig
Ar gân oedd yn dipyn o epig,
Gwnaeth gwpledi yn rhes,
Ond mi gododd ei wres
Ac mi chwdodd cyn gorffen y limrig.

Dafydd Iwan
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud ag iechyd

Llawfeddyg esgeulus oedd Pwal
Ar ôl iddo weithio ar Hwal
Dangosodd Ecs-Re
Gwpaned o de
Wedi'w gadael ar ol yn ei fwal

Gareth Jones
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr caru

Awyr las fy ngorwel wyt,
A nodau fy nghân ydwyt,
Ti yw'r diwrnod sy'n codi'n
Awel iach i'm hwyliau i.
Ti yw'r wefus sy'n gusan
A'r oriau hir arwahân,
Ti y fynwes gynnes gu,
Ti y wen sy'n tywynnu.
Yn ddwys a'n ddigrif y ddau,
Yn gariad a ffrind gorau,
A hyn oll sydd i'w golli
Petawn ... petawn hebddot ti.

Emyr Roberts
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr Caru

Awyr las a chloddiau'r lôn
Yn dywyll ac yn dewion
O fwyar liwia'r darlun;
A'r lôn yn llwch rhywle'n Llyn,
O frig gwair yn llyfr y co';
Dydd o haf wedi'i ddeifio
Yn dy 'sgrifen, un bennod
O rin byr, a'r hira'n bod.
Atgofion o'r llon a'r llwyd,
Yn ôl cyn dechrau'n haelwyd.
Ond dalen felen a fu
Yn faen, it ysgrifennu.

Gareth Neigwl
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Eisteddfod y Capel

Fel aelod newydd ac heb fod yn flaenor
Diolch am y fraint o gael cadeirio'r pwyllgor.
Mae'n rhaid trafod heno a fydd y Capel yn cynnal Eisteddfod
Neu a ddaeth yr amser i anghofio'r cyfarfod.
'Roedd yn ofid mai rhyw hanner cant oedd yn y gynulleidfa llynedd,
a threuan o'r rheini wedi gadael cyn y diwedd.
Ai tybed ein bod ni wedi aros yn y gorffennol,
A heb sylweddoli fod yn rhaid gwynebu'r presennol.
Nid yr un gynhaliaeth sy'n dderbyniol heno
Â'r un a fodlonnai nain er mor bwysig oedd honno.
'Roedd cân o'r Detholiad, Salm ac araith Paul yn Areopagus
yn eu dydd yn dderbyniol ac yn siwr yn chwaethus.
Ond bellach beth am bartion dawnsio pan ddaw y cyfleustra
A roc fel "Cold Play" i gynhesu'r dyrfa.
Neu rap fel Eminem, neu ddynwared Madonna,
Rhoi cyfle i'r ieuanc arddangos eu donia',
'Rwy'n sylweddoli byddai'r newid yn chwyldro,
ond gwell chwyldro na thawelwch heb fentro
dewis beirniaid o safon o'r diwedd -
O! mae'r tri blaenor wedi gadael - dyna beth rhyfedd.

Gwynn Davies
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Eisteddfod y Capel

Tri diwrnod yng nghynt bu Wil Morgan yn glanhau pob un coedyn a lamp
ac yn hel yr ystlumod o'r organ a chael madael o'r arogl tamp.
Yr oedd cannoedd yn stwna tu allan heb obaith o gychwyn y sioe
a'r goriad ym mhoced Wil Morgan mewn ty haf rhywle'n Llydaw ers ddoe.
Y gwnidog aeth drwy un o'r ff'nestri a rhwygodd ei drowsus yn garpia'
Rôl gwasgu pob enaid i'r festri daeth "Bob chwarae teg, ceuwch y drysa".
Fe ganodd dîm rygbi a hannar,fesul un, am Garadog y Cawr
tra bo ffernols anwaraidd rhif pedwar yn dringo ar hyd y set fawr.
Plant bychain yn cael eu handwyo i wireddu breuddwydion bob mam
Pob un wedi'w lwgr-wobrwyo efo pres, peanut butter a jam
A nesa fe gawsom yr henoed a'r fenga' ddim ond eti-tw
Wel erbyn i'r rhain i gyd ddarfod mi fydda i cyn hyned a nhw
Gan Nel ar yr organ roedd gwendid - chwaraeai bob amser yn "E"
Fe dorrodd Wil Fronfraith ei lengid wrth ymladd i gyrraedd "Top C".
"Yn fa'ma gychwynodd Bob Wan" meddai gwreigan wallt glas wrthyf i
Fe hoffwn fod efo fo rwan na bod yn fan hyn, coeliwch fi.
Nid ydwyf o dras rwyn cyfaddef,ac ie, f'unig lyfr yw "Cadwgan"(llygoden o'r lleuad)
Pan ddaw 'steddfod capel tro nesaf mi fydda i yn Ffrainc efo Morgan.

Gareth Jones
10 Pwynt

Englyn cywaith: Beddargraff llysieuwr/wraig

Hawliodd wrth fwyta'i ddeiliach - na welai'r
Un salwch, a bellach
Y fo ydyw'r mwyaf iach
Ym mynwent Stryd y Mynach.

Emyr Roberts
10 Pwynt

Englyn: Beddargraff Llysieuwraig

Yr wyt isod heb risoto, isod
heb fresych yn huno;
yn y fynwent rhof heno
rawiad o reis ar dy ro.

Myrddin Ap Dafydd
9 Pwynt

Pennill dychan: Cymry Cul

Fyddai'n poeni weithia am y criw cadwedig
A'u hegwyddorion anorecsig;
Cam-dreiglo? Byth! Ail iaith? Rhy ffaeledig -
Cyn belled â'u bod Nhw'n gadwedig.
Mae eu clustia mor fain fel na chlywant ar yr awyr
Ond Cefn Gwlad a'r Talwrn: am Big Brother - o hawyr!
Mi gâi rhaglen mor llydan â honno drafferth
I fynd trwy grai nodwydd eu hymwybyddiaeth.
Ddaw'r un gwerinwr sy'n chwilio am swydd
Draw i'w patsh bach cul, ond mynd heibio'n rhwydd
I geisio gwaith yn y byd mawr llydan
A chael amgenach byd mewn rhyw hafan
Tu hwnt i baradwys denau y rhain -
Eu Cymru ddilychwin, ddi-waith, ddi-sain.
Ond ddylwn i'm poeni na llyncu mul:
Y nhw sy'n gywir. Y fi sy'n gul.

Meg Elis
9 Pwynt

Pennill dychan: Cymry cul

Reg a Denzil, Emyr Wyn,
Bryn Terfel, Dydli, Cynan.
Nid Cymry cul mo'r hogia' hyn
Mae rhain yn Gymry llydan.

Gareth Jones
9 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Mae ambell linell o hyd
Yn fwy na hyn o fywyd

1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Mae ambell linell o hyd
Yn anodd iawn mewn ennyd

1/2 Pwynt

Telyneg: Dieithryn

Rhwng gwyddonydd a llenor nid oes ond gagendor
Rhwng Pleidiwr a Sais beth i'w ddisgwyl ond trais?
Rhwng llanast a threfn ni fydd ond troi cefn
Rhwng y Fro a'r ffin bydd cweryla blin
Rhwng llonyddwch a'm clegar mi fydd hi'n go hegar
Rhwng emosiwn a rheswm bydd disgwyl tensiwn

rhyngot ti
a fi
mi grëwn y byd
o'r newydd.

Meg Elis
9 Pwynt

Telyneg: Dieithryn

Does gen i deulu'n gorwedd yma, ond mae'r llan
yn hen, a chrefft i'w gerrig nadd. Ar gais, mi ddof
i roi help llaw i'r criw sy'n twtio'r fan
â'u strimars, ac o gwmpas yr er cof',
sy'n serchog dyner', nid oes hedd na hoe
wrth ladd y gwanwyn gwyllt. Drwy'r brwgais bras,
chwipiwn dros lwybrau hen deuluoedd ddoe
fu'n cario blodyn gwyn at garreg las.
Mor wyn eu ffydd nhw hefyd; ar bob bedd
mae cysur bach sy'n agor drws y gell
gan godi'r meirw oll yn hardd eu gwedd'
drwy'r drain i nefoedd daclus sydd mor bell
i un heb wybod dim ond geiriau 'rioed,
heb wybod claddu tair a phedair oed.

Myrddin Ap Dafydd
10 Pwynt

Englyn ar y pryd

Tystiaf o weld y testun- hwn heno'i
Fod o'n anodd goblyn
I mi, wn i ddim am hyn
Na'i hynt- rwy'n unig blentyn!

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled Caeth yn cynnwys math o gi

Yn y bocs tu ôl i'r bar
Cartrefwyd ci retrifar.

Dafydd Iwan

Ci hirgoes? Nage, corgi!
Cwn maeth yr hen Cwin a mi.

Dafydd Iwan

Englyn yn cynnwys y llinell "Nid oes ar neb dy eisiau"

Yr Hen Dedi

Yno lle bu'r tegannau - yn res hir
Ar y silff, 'rwyt tithau
A'th un fraich a'th wen yn frau,
"nid oes ar neb dy eisiau"

Emyr Roberts

Englyn : Beddargraff Llysieuwr

Wrth fwytwyr cig bu'n digio - a thaer oedd
Dros y cigoedd cogio,
Ond yr awydd i'w drio
Ddydd wrth ddydd a'i lladdodd o.

Emyr Roberts

Ni chaiff ragor o foron - na thatws
Fyth eto, na sglodion,
Hwn dagodd cyn cael digon
O gig - dyma fo - "all gone!"

Dafydd Iwan

Englyn ar y pryd

Y Brawd Mawr

Dwy law sydd mor deuluol agored
Yw' gwir arwynebol
Ond dan y brawd allanol:
Dwy law'n wyn yn dal yn ôl.

9 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 83 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth yn cynnwys math o gi

Nid pob Spaniel sy'n hela,
Gwaed ei ach a'i gwna'n gi da.

Gareth Neigwl

I'n drws 'dyw'r llwybr ond rhan
O oes oesau'r Alsatian.

Gareth Neigwl

Hysgi, yn ôl a ddysgais,
Hysgi 'rôl wisgi dy lais.

Myrddin Ap Dafydd

Englyn yn cynnwys y llinell 'Nid oes ar neb dy eisiau'

Gwagiaist elsan carafanau; rhedaist
i'r haid ar eu gwyliau
drwy ha'r cei, ond Fedi'r cau
nid oes ar neb dy eisiau.

Myrddin Ap Dafydd

Limrig yn ymwneud ag iechyd

Dihangodd dwy gwningen un Sulgwyn
O labordy dybaco Llanuwchlyn
R'ol prynhawn ar y ddol
Fe ddihango' nhw'n ol
Ar farw ac yn crefu am fwgyn

Gareth Jones

R'ol cael Cod Liver Oel ers ei eni
Bu bron iddo'n gadael eleni
Ond diolch i Dduw
Y mae Jac dal yn fyw
Mewn powlen ar silff ffenest pantri

Gareth Jones

R'ôl einioes o weithio ar y bysus
Cychwynodd ar yrfa fwy iachus
Ar ôl pedwar diwrnod
Yn hela cwningod
Fe ddaliodd o ficsamatosus

Gareth Jones

Ar ol cael yr Iau a'r Arenna'
Bedyddiwyd Huw Huws yn 'Armada'
Heb gerpyn ymlaen
Mae o fel map o Sbaen
Ar ol cael yr holl drawsblaniada'

Gareth Jones

A hithau'n wyth deg rhedai Jini
Yn ddyddiol er mwyn cadw'n heini
Dros deg milltir o daith
Mae hi'n naw deg a saith
Ond wyr neb yn union ble mae hi

Gareth Jones

Cafodd flas ar y stwff pan yn blentyn
A'i lowcio fo i lawr fu o wedyn
Y Cod Liver Oel
Adawodd ei hoel
A'i wneud o yn foel fel pysgodyn

Gareth Jones

Yn smociwr o fri ac yn scrownjar
Aeth Mic efo'r mwg lawr i Uffar'
Roedd Satan yn rhythu
A'i dân wedi methu
A Mic wedi bachu ei leitar

Gareth Jones

A'r nyrs ar ei 'sgwyddau yn pwyso
Roedd Gwil ar y gwely yn gwingo
Yn nofio mewn chwys
Yn llewys ei grys
A'r doctor a'i fys fyny'i din o

Gareth Jones

Collasai ei gymalau yn afrad
Ei freichiau, ei goesau, un lygad.
Fe wnïodd y darnau
A nodwydd-ddur sannau
Mae Wil fel jig-so heb ei ddillad

Gareth Jones

Nel gafodd gyngor o fudd
I redeg deg milltir y dydd
Rôl deufis neu ragor
Fe ffonidd hi'r doctor
"Sut ddiawl ddo i 'nol o Gaerdydd?"

Gareth Jones

"Rwyf o hyd yn gweled rhyw ddotia'
O flaen fy nwy lygad bob bora"
"A welaist ti'r meddyg?"
Medd 'n'acw yn sarrug
"Naddo, dim byd ond y smotia"

Gareth Jones

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr Caru.

F'anwylaf, tyrd i'm hafan,
rho haf chwim i'm sir fach wan;
berl y lli, my sea is iôrs',
dyro imi dy dremors;
dy bwer sy'n dweud Bywyd!',
dy ruo, ruo yw'r hud
sy'n boddi mewn swn buddai
lleng o gychod hwyliau llai;
yn dy sgil-don dirion di,
gwlad sy'n Cantre-Gwaelodi.
Bydd fwyn, a bodda finnau
yn nwr budr ac oer y bae.

Myrddin Ap Dafydd

Cân (heb fod dros 20 llinell): Eisteddfod y Capel

Anghofiaf i fyth y bonllefau
na'r gryndod aeth drwy fy nwy goes
Hyd heddiw rwy'n dioddef hunllefau
Fe'm creithiwyd am weddill fy oes

Fe es i gael chwysfa gyhoeddus
a thapio fy nhin gan rhyw ddyn
Fe wichiais dair pennill druenus
a wedyn cael pres am wneud llun

Fe roddwn fy nhedi i fod yn Viet Nam
ro'n i'n chwysu a bron a phi pi
I lawr yn y festri fe welwn i Mam
yn gwneud fwy o stumiau na fi

Fe raddiodd sawl un o'r fath Sodom
Bryn Terfel, Jim Reeves, Dafydd Lloyd
Beth am y miliynnau ohonom
na ganodd fyth wedyn eirioed ?

Mi ddylai Jack Straw lunio cyfraith
Rydw innau am gychwyn apêl
i anghyfreithloni'r fath artaith
a chloi eisteddfodwyr yn jêl

Gareth Jones

Englyn: Beddargraff Llysieuwraig

Isod, gwraig ymosodol roes oes hir
Mewn crwsád aberthol;
Ond mae o hyd yma'i hôl,
Un a'i swn mor ffasiynol.

Gareth Neigwl

Mae'n gig er bwyta ffigys-fei dygwyd,
Fe dagodd ar lindys
Aeth yn llawn bwyd grawn,a'i grys
Yn gaglau o sbigoglys.

Huw Erith

Pennill dychan: Cymry cul

"Mi ydwi cystal Cymro a neb
Ond pen draw sydd i Gymreictod
Rhaid tynnu llinell rhywle siwr
A gwaith nid iaith yw;r hanfod"

"Nid gwaith i estron gadwa'r iaith
Ond bro a chymunedau
Egwyddor gref a dynion brwd
Bro-garwyr sydd ei heisiau"

Mae'n ddadl oesol,pwy sy'n gul?
A phwy sy'n eangfrydig
I'r un sy'n barnu cul yw'r llall,
A dyna sydd yn bwysig.

Huw Erith

Heb awen rwyf ac mae cymylau lu
Ond gwn i pan fod bethau'n fain
Fod na John Evans,Dafydd Ddu
A'r Waen i bwyso arnynt,ar ddwy nain.

Huw Erith

Telyneg: Dieithryn

Clywed cog yw Mai y galon,
Clywed cog sy'n gwneud cariadon;
Am ei bod hi'n hwyr ers C'lanmai
Mynd oedd raid i'r cwm lle canai.

Wrth ei chlywed rhwng y bedw,
Dweud, bob Mai, y dylem alw;
Nid yw'r cam i'r cwm ond mymryn
Ond ni fuon ffor'no wedyn.

Es fy hun i'r fan eleni,
Deryn diarth' oedd ei thiwn hi
Ond un gân sydd weithiau'n ddigon
I roi Mai ym medw'r galon.

Myrddin Ap Dafydd

Fe ddoist yn swpyn gwlyb,
o lygaid cellweirys dy fam
i bwyll dy daid
yn llawn pennillion newydd
ar yr un hen alaw

Gwyddai dy fam amdanat cynt
a daeth fy nhyfle innau
i ddod i weld fy hunan
trwyddo ti.

Yr estron bach sy'n troi ein byd
yn hwiangerddi a mabinogi,
ac er nad ydym yn dy adnabod
Fe wyddom pwy wyt.

Huw Erith

Lle twymodd ein calonau barrug sydd
Heb haul i'w ddadmar deil,a barrug fydd

Mi welais feillion gynt yn ol dy draed,
Nid oes lle bu dy sawdl hyd yn oed

Huw Erith

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.