Ffostrasol v Y Gler
Cafodd yr ornest yma ei recordio yng Ngwesty'r Emlyn, Tanygroes ar 21ain o Fehefin 2005
Ffostrasol

Y Gler

Cwpled caeth yn cynnwys y gair "parod"
Am awr! Bum ar y comôd
Oherwydd nad own yn barod.
D.T. Lewis
9 Pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair "parod"
Myn nentydd ar fynydd fod
Yn aberoedd yn barod.
Osian Rhys
9 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â chydwybod euog
Rôl eu dal nhw ar bont Aberaeron
A thaflu'r deg gwr mewn i'r afon
A'u dwylo 'di clymu,
Fy nheimlad i ydy-
Am heddi', mae hynna yn ddigon.
Jim James
9 Pwynt
Limrig "Cydwybod euog"
Un dydd hyd lonydd Ffostrasol
Bu bron imi yrru dros wennol,
Dyfaru'r wyf i
Nad ei lladd hi wnes i -
Uwch fy mhen i mae'n pw-pw'n uffernol.
Osian Rhys
8 Pwynt
Englyn cywaith: Peswch
Pesychiad glöwr
Daw cysgod hen draddodiad- yn y poer,
Ac mae pob pesychiad
Unigryw'n dangos llygriad
Y 'gwaith' yn gymysg a'r gwa'd.
D.T. Lewis
8 1/2 Pwynt
Englyn cywaith: Peswch
(ym Medi)
Y mae'r llafar weithgarwch yn dawel,
A gorwel brogarwch
Yn dywyll iawn am fod llwch
Haf y Maes yn fy mheswch.
Eurig Salisbury
10 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Achos
Fel un sy'n cadw'r gyfraith er syndod cefais wys
Mewn estron iaith meddyliwch i fynd o flaen y llys
Anfonais yr holl garbwl ar fardd gerllaw y dre
Trwy brofiad a chelwyddau mae'n gwybod be 'di be
A chefais ganddo gyngor paid beiddio troi yn gas
Os fyddi byth mewn trwbwl wel treia a dod mas
Yr achos yn fy erbyn oedd 'driving without care'
A pheri gwr na welais droi drosodd ger San Clêr
I'r fainc fe yrrais lythyr yn dweud yn weddol glir
Mae'r oll a roes ar bapur y gwir dim ond y gwir
Os aeth y boi penuchel i dipyn bach o stiw
Y bai fod tasgau'r Talwrn yn hwyr 'da bardd Penrhiw
Wrth geisio gwneud y limrig yr awen ddaeth 'run pryd
A minnau'n gyrru'r Lada tra mewn rhyw arall fyd
Yn meddwl am y Faenol a Jim, D.T a Dai
A'n llygaid ar y ffeinal yn lle bo'r un hen rai
A thaer erfyniais arnynt na chawswn fynd i'r jêl
Gan fyddai'n golled enfawr i'r fro a'r oes a ddêl
Ond os mai llym y ddedfryd a dirwy fyddai'n ffawd
Am iddynt gofio'n dynes am Gardi sydd yn dlawd.
Emyr Davies
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):Yr Achos
Roedd Bob yn fachan deche a gweithgar ar y naw,
A phenodwyd ef y llynedd yn drysorydd Nebo draw.
Yn sydyn iawn un diwrnod dwedodd Bob "Ma'i braidd yn deit
Ar goffre Capel Nebo, ond ma' 'da fi syniad, reit?"
A'r bore wedyn cododd yn llydan iawn ei wên,
A bwyta clamp o frecwast cyn i'r ceiliog ddylyfu gên.
A dyma Bob yn neidio ar gefn ei feic wyth gêr,
Gan seiclo tua'r pentre' â bwrlwm yn ei fêr.
Aeth at y ffermdy cynta' a rhoddi pedair cnoc,
Yn uchel iawn, gan ddeffro Huw'r Bwlch, ei wraig, a'i stoc.
"Sut galla i'ch helpu, Robert?", gofynnodd Huw yn syn.
"Ga' i arian at Yr Achos?", medd Bob, "Ma'i braidd yn dynn."
Ymlaen aeth Bob drwy'r bore o ddrws i ddrws yn hy,
Gan gasglu deg neu ugain, neu fwy, o bob un ty.
Pan ddaeth y dydd Sul nesa', caed cyfarfod capel llawn,
A chododd Jones, Pregethwr, i longyfarch Bob a'i ddawn.
"Ry'm oll yn dra diolchgar nad yw Nebo nawr yn llwm;
Dywedwch wrthym, Robert, faint yn union ydyw'r swm?"
"Nid wyf yn gwybod eto," medd Robert. "Welwch chi,
'Yr Achos' sy'n rhedeg yfory yn Cheltenham am ten past three!"
Iwan Rhys
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sgwrs rhwng rhiant ac athro
Eich John sydd heb safone
A'i regi sy'n llenwi'r lle...
Diawl!
Mae 'na sawl gair sy'
Na fynnaf eu dyfynnu.
Beth yffarn sy'n bod arnoch
Yn rhoi cweir....
Daw'r geiriau coch
(Yn ôl ein profiadau ni)
I'r ifanc o'u cartrefi...
O'r cartrefi! Chi a'ch haid
O walis, blydi ffyliaid
Ni wel neb ein teulu ni
Yn agor pen i regi.
Dai Rees Davies
Emyr Davies
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sgwrs rhwng rhiant ac athro
(dros y penwythnos diwethaf dathlodd Ysgol Gynradd Llangynog, Sir Gâr, ei thri chan mlwyddiant)
Athro:
Anodd parhau i wenu'n
Ymyl darn o gwmwl du,
A digalon swagro'n swel
Â'r haf ar droi'n wrthryfel.
Swn marwnad mewn dathliad oedd,
A Sadwrn Janus ydoedd.
Rhiant:
Ond dathliad o alwad yw,
Y rhaid i barhau ydyw
Yn ysgol leol o hyd,
I droi'r haf yn frwydr hefyd.
Yn Llangynog arfogwn
Ymyl aur y cwmwl hwn.
Hywel Griffiths
9 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: S4C
Am lwyth o rwtsh y sianel hon
Fe glywir llu o gwynion
Ond, chwarae teg, dim rwtsh i gyd
Waeth mae 'na hysbysebion.
Jim James
9 Pwynt
Pennill mawl/dychan:S4C
S4C,
O! S4C,
Hi noddodd fy nghlec
 phres pedair siec.
Eurig Salisbury
8 Pwynt
Pennill ymson ffotograffydd
Fe dynnais lun o'r Wyddfa
Am fod e'n fynydd Mawr
Heb sylweddoli mod i
A phen y camra'i lawr
Na pam mae'r llun uwchben y grat
A chopa'r Wyddfa'n berffaith fflat.
Emyr Davies
10 Pwynt
Pennill ymson ffotograffydd
(Sef Kevin Carter, ffotograffydd rhyfel a gyflawnodd hunan laddiad ar ôl tynnu llun o ferch yn cael ei dilyn gan fwltur yn Affrica)
Du a gwyn ydyw gynnau - du a gwyn
Ydyw gwaed mewn lluniau
O rith hyll na all ryddhau
Y gwyll euog o'u lliwiau.
Hywel Griffiths
10 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Cyd- ddigwyddiad ofnadwy
Yw dyn sy'n priodi dwy.
1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Cyd-ddigwyddiad ofnadwy
Oedd im gyfarfod y ddwy.
1/2 Pwynt
Telyneg: Cyfrinach
Sefais yn y bwlch
Rhag y neges meddyg
Gyrraedd erchwyn ei ddioddefaint,
Ond neithiwr,
A'i haul yng nghôl y gorllewin
Synhwyrais
Yng ngwasgiad olaf ei llaw
Fod y bwlch yn llydan iawn.
Dai Rees Davies
8 1/2 Pwynt
Telyneg: Cyfrinach
Mae'r llenni ynghau
a'r drws ar glo
a'r muriau gwyn a du
yn gadarn dawel.
Ond er nad oes un awel
mae'r celwyddau crin
yn dal i ddawnsio'n y dail
ar stepen ddrws.
Mae arogl glaw ar darmac
a golau gwyn, afreal,
cil-y-drws o leuad
yn sibrwd bod rhywbeth o'i le.
O guro'n galed,
yn ddigon caled,
efallai, efallai,
yr agorir i mi
a chaf gip
drwy hollt y drws
heibio i'r muriau gwyn a du
i weld y llwyd.
Petrusaf, a cholli'r ennyd,
cyn troi yn ôl
at rythm cyfarwydd y weipars
a sedd gynnes fy nghar.
Iwan Rhys
9 1/2 Pwynt
Englyn ar y pryd
Fel llipryn ar derfyn dyf- yn wirion
Caf orwedd- heb g'wilydd
Am y swp, dau orthrwm sydd
Heb enw o obennydd.
8 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'parod'
Cyn y bydd y dydd yn dod
Bwriaf fod pawb yn barod.
I'r hen Wyl, hynny yw'r nod
Yn awr, a ninnau'n barod.
Limrig yn ymwneud â chydwybod euog
Aeth Mari i'r ffair yn reit gynnar
Yn awchus am noson ddigymar,
Rol yfed sawl un
Fe deimlodd yn flin
Pan gafodd ei hun yn y carchar.
Ar ôl i ni blesio yn Meuryn
Ac ennill yn gyson ers tipyn
I gyrraedd y sêr
Peidiwch dweud wrth y Glêr
Ein bod wedi tagu sawl ffowlyn.
Aeth dyn bach i'r môr i ymdrochi
A gwelais ei fod mewn trybini
Ei achub ni fedrwn
Oblegid yr oeddwn
Wedi colli rhan ucha'm bicini.
Englyn cywaith: Peswch
O gyfyng stad ysgyfaint: yn unol
Ag anwyd ac henaint,
Neu ddihafal ddioddefaint
A llwch yn drwch ydyw'r haint.
Pennill mawl/ dychan: S4C
O diolch am sianel fel S4C
Can ambell i raglen yn Welsh welwch chi
Y safon yn uchel a'r arlwy yn drwm
A chyrraedd uchafbwynt 'da Pobol Y Cwm.
Yn rhyfedd darlledir pob clec
Yn ddyddiol ar S4C
Dyw sylwedd y pwnc dim o bwys
Os ceir ffyliaid i'w ddadlau yn ddwys.
Pennill ymson ffotograffydd
Fe dynnais lun o fenyw
A honno'n hanner noeth
Nid oedd ei ddanfon wedyn
I'r tyst yn weithred ddoeth.
Telyneg: Cyfrinach
Mae pwysau bywyd yn codi o hyd
A rhai yn chwennych diweddu ei byd
Ond llawer un yn gofyn yn glên
Beth yw'r gyfrinach i fyw yn
A'r ateb syml i bawb drwy'r lle
Yw gwir ymddiried ynddo Fe.
Englyn ar y pryd: Gobennydd
Cyn suo gân ac annog- dedwyddyd
A heddwch blinderog
Dere'n ôl i dir niwlog
Dere 'nhad, i Dir Na'n Og
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled Caeth yn cynnwys y gair "parod"
Er dod tros wlad i'r adwy,
I'n 'parod' mae amod mwy.
Un parod yw'r pysgodyn
Yn y dwfn i fwydo dyn.
"Dwi'n y car, yma'n barod!"
"Iawn, 'rafa, dyma fi'n dod!"
Osian Rhys
(ymson myfyriwr)
Troi'n eiddgar ac yn barod
At waith, un waith, oedd y nod ...
Eurig Salisbury
Limrig "Cydwybod euog"
Roedd Alwyn yn hoff o'i bêl rygbi,
Yn ddyddiol gwnâi ddefnydd ohoni;
Un dydd yn ddi-oed
Fe'i ciciais i'r coed,
A fo, nid y fi, sydd yn poeni.
Bwyta bacwn a selsig yw'n hoffter
Er rhybuddio o hyd am y braster,-
"A bit on the lips,
An age on the hips",
Dwi'n meddwl ga'i jips mawr i swper.
Un sâl wyf fel bardd, af yn beilot,
Fy limrig nid yw'n taro'r jacpot,
Ond cyn dweud ta-ta
Mae'r esgus yn dda -
Mae'n anodd iawn odli'r gair tebot.
Wedi trip un dydd i Borth Neigwl
Dywedodd fy ngwraig "ti mewn trwbwl!"
Adref ddois i
A Pero y ci,
Ond mae'n plant ni dal yno dwi'n meddwl.
Osian Rhys
Englyn cywaith: Peswch
Peswch y gwir fard.
Ahem arehem arhá - chwe-w-chwid
A chwèch erwchwaha,
Y chwimrechem a rwcha,
Fflwchwm a chwechwm achá.
Osian Rhys
Peswch
Lle bu bonllef pentrefi'n cloddio'r glo
A'r graig las yn hollti,
Tawelwch clos sy'n cosi'n
Ddwfn iawn yn ein gyddfau ni.
Hywel Griffiths
Cywydd: Sgwrs rhwng rhiant ac athro
Athro:
Annwyl fam i Wil, wyf i'n
Rhesymol, ond rhoes imi
Eich bachgen anniben waeth
Adegau na phoenedigaeth.
Mae'r mab am whare'r mobile
A chamu'n uwch am yn ail!
Rhiant:
Annwyl Syr, mewn class arall
Wil sy'n fachgen cynnil, call,
Ef yw'r un sy'n fawr ei fri
A'i brifiant, ac i'w brofi
Anfonodd neges destun
I'w fam, fe'i gwelais fy hun!
Eurig Salisbury
Pennill ymson ffotograffydd
I Kevin Carter ("He is best known for winning the 1994 Pulitzer Prize for Feature Photography for a haunting photograph from the Sudan famine crisis of a small, starving Sudanese child being stalked by a vulture. However, he also came under heavy criticism for just photographing - and not helping - the girl")
Dôi'r eiliad o reolaeth - o'i rhewi
Ar drawiad erlyniaeth;
Mewn llun, diniwedyn aeth
Yn wylofus ysglyfaeth.
A'r aderyn mor hyderus, - a'i brae
Mor brudd ac mor ofnus
Euthum yn ysglafaethus
O roi'n drwm ar fotwm fys.
Osian Rhys
(mewn priodas)
Mae ambell un yn gwgu
A rhai yn cenfigennu
Wrth holl wenu'r cwpwl iau -
Wyf innau am eu saethu.
Eurig Salisbury
Telyneg: Cyfrinach
Fe gofleidiodd dydd a nos
Yn agos ar y gorwel,
A niwl y gwyll yn taenu'i law
Ar y dref islaw yn dawel.
Y fainc oddi tanom yn oer
A'r lloer yn llenwi'n llygaid,
Ein gwead ni am eiliad fach
Yn dynnach rhwng dau enaid.
Y naill un sydd am i'r llall
Lefaru'n gall y geiriau,
Ond tawelwch trwm bob tro
Sy'n gwrido ar ein bochau.
Osian Rhys
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

