Crannog v Taeogion
Cafodd yr ornest yma ei recordio yng Ngwesty'r Emlyn , Tanygroes ar yr 21ain o Fehefin 2005
Crannog

Taeogion

Cwpled caeth ar yr odl "ocs"
Heb 'Ie, Ie' o'r balot bocs
Deil hen genedl yn Ginnocks
Owen James
8 Pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'ocs'
Hen boen i wylwyr y bocs
Yw acenion y Kinnocks.
Emyr Davies
8 Pwynt
Englyn yn cynnwys "hen fyd y wialen fedw"
Hen fyd y wialen fedw; - os gwawdiwn
Ei ddysgeidiaeth arw
Fallai fod llai, ar fy llw,
O'r 'ni' anwar yn hwnnw.
Hywel Rees
9 Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: Hen fyd y wialen fedw
Fin hwyr mae'r cofio'n arw... Ond, ta waeth,
roedd arteithiau pitw
hen fyd y wialen fedw
yn dda i ni, medde nhw.
Ceri Wyn Jones
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â chwarae gêm
Fe welais gêm rygbi od llynedd,
Tîm merched yn erbyn bois Gwynedd.
Nid oedd 'na ddim pasio,
Na rhedeg na chicio,
'Mond sgrym fawr o'r dechrau i'r diwedd.
Dai Jones
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â chwarae gêm
Mewn gêm tidli wincs ar y llawr
Digwyddodd trychineb reit fawr
Wrth i mi stryffaglio
Dyma rhywbeth yn rhwygo
Allai'm tidlo na wincio yn awr.
Caryl Parry Jones
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sgwrs rhwng meddyg a chlaf
Meddyg
'Feirws - nid anarferol
Erioed mewn henoed, yn ôl
Y sgan yw'r boen sy gennych -
Os nad y pesychiad sych.
Ond yn syth, i fod yn siwr,
Ces neges arbenigwr,
Ac fe gewch bilsen gen'i
I gysgu i'ch helpu chi.'
Y Claf
'Ddiddanydd â'th gelwydd gwyn,
Diolch i ti am dewyn
O obaith - ond rwy'n gwybod
Yn fy mynwes be sy'n bod
Dic Jones
9 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Sgwrs rhwng meddyg a chlaf sydd newydd glywed fod cancr arno
Claf:
Mae arna' i ofn mwya'r nos
yn y mêr yma i aros,
ofn y gair a fynn gyrraedd
i'r lle hwn tu hwnt i waedd.
Meddyg:
Ni all gwyddoniaeth bellach
hyd y nos dy gadw'n iach,
na llafn yr un gyllell hon
na gwên meddyg na moddion,
ond dyweda dy bader
yn dy du mewn hyd y mêr,
o hyd daw'r llanw wedyn
i drai dy enaid dy hun.
Tudur Dylan Jones
9 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Brofedigaeth
Mae Ewrop wedi marw waeth beth a ddwed Chirac,
A Schroeder yn ei ddagrau a Mr. Blair yn grac.
Nid oedd ei chyfansoddiad yn ddigon cryf i ddal,
A gwaetha'r modd mae wedi troi wyneb at y wal.
'Fydd yr angladd ddim am dipyn, mae hytrach yn rhy glou
Waeth mae'r peiriant cynnal bywyd o hyd yn dal i droi
Ac mae sôn yn y papure bydd rhaid cael achos llys
Waeth mae bachan yn Stryd Downing a'r botwm dan ei fys
Sy'n cael ei gyfri'n ddirprwy Archesgob, Pab a Duw
Ac am ganoneiddio'i hunan am dreio'i chadw'n fyw.
Mae' i fod yn llywydd arni, ond bu 'changing of the guard',
Ac nid oes fawr o kudos mewn llywyddu 'knackers yard'.
Ond ag yntau yn ei alar, yn waeth na'r siom a'r sen,
Mae 'i ffrind yng 'ngwlad y rhyddid ' yn chwerthin ar ei ben.
Aiff i lawr yn llyfrau hanes os gall e rigio'r pôl
Ond fydd Lasarus ddim ynddi os codith hon yn ôl.
Dic Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Brofedigaeth
Mae Awen wedi marw, nid ydyw hi ddim mwy
Fe'i claddwyd hithau neithiwr yn un o feddi'r plwy
Fydd dim fath beth â phennill a cherddi o hyn allan
A bydd y groes o gyswllt mewn cwpwrdd yn sain Ffagan.
Bydd Twm yn gyrru tacsis a bydd Alan ar y clwt
A bydd palas y gynghanedd yn ddim ond ty bach twt.
Bydd Gerallt nôl yn saethu a Swêl fydd eto'n fwtsiar
Bydd Oernant nôl yn ffermio a Myrddin ddim ond printar.
Bydd Mei yn trwsio pibau, bydd Iwan Llwyd yn lludw.
A bydd Caryl nôl yn canu am chwarae'n troi yn chwerw.
Bydd Phillipa nôl yn blymar, Ken Griffiths nôl yn Normal
A bydd Arwel i'ch cynghori lle gallwch roi eich erial.
Ond peidied pawb â phoeni, rhaid aros yn galonnog
Ni fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sydd yn nhim Crannog.
'Di'r ffaith fod Awen hithau yn gorwedd yn y plwy
ddim yn effeithio mymryn ar naws eu cerddi hwy.
Tudur Dylan Jones
9 Pwynt
Englyn cywaith: Oed Tywyll (Blind Date)
Daliodd, y noson honno, - yr eneth
A rannai ei groeso,
A'r un modd fe ddaliodd o
Y ddynes nad oedd yno.
Idris Reynolds
10 Pwynt
Englyn Cywaith: Oed Tywyll
(Dyn dall a'i gariad)
Pan glywaf hyn o wyneb yn y gwyll
du a gwyn yn ateb,
ni waeth beth ddywedith neb,
lliw llawn yw fy nallineb.
Ceri Wyn Jones
9 1/2 Pwynt
Pennill ymson Tafarnwr
Mae'r arwydd sydd uwchben y drws
Yn dweud fod Brains fan yma,
Ond pan roes sein ' Dim Smygu ' lan
Aeth pawb i't tafarn nesa
Dai Jones
9 Pwynt
Pennill Ymson Tafarnwr
Mae ffermwr mawr yr Hendre
Yn dod i'm bar o hyd
Mae'i hicyps mor ddireol
Wrth yfed wisgi drud.
Lle gynt bu geiriau'n berlau
Yn dod o enau Dic
Yr unig un o'i eiriau
Rwy'n ddeall nawr yw 'Hic'.
Tudur Dylan Jones
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Heddiw fe rôf wahoddiad
Af yn ôl i drefn fy nhad
0 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Heddiw fe rof wahoddiad
I'r llwfrgi godi i'r gad.
1 Pwynt
Telyneg: Braint
(Llanarth Braint oedd un o feirch enwocaf y broydd hyn.)
Dangosai bedair pedol
Yn Gymro balch o'i dras
Serch bod rhyw fân ddyfalu
O ble 'r oedd yn 'dod mas',
Tir ei hynafiaid dan ei draed
A hen enynnau yn y gwaed.
Mewn hawddfyd a chaledi
Fe gâi ei hil y gair
O fod yn gystal metel
Ar dalar ac mewn ffair,
A'u pennau'n uchel yn y gwynt
O barch i'r bendefigaeth gynt.
Ac ers gwasgaru'i linach
I bedwar ban y byd
Mae Mab y Mynydd wedi
Eu cyfoethogi i gyd.
Y mae ei stori'n fwy na'i faint,
A pherthyn yn y gwaed yn fraint.
Hywel Rees
9 Pwynt
Telyneg: Braint
(bod yng nghymanfa goffa Gwynfor Evans, Capel Heol Awst, CaerfyrddinMehefin 2005)
Roedd Heol Awst i'w thrawstie
Yn llawn, pob cornel o'r lle
A'r gwres ty gwydr o gry'
Wnâi i lygod lewygu.
Adeg i gofio ydoedd
Yn fwy na chymanfa oedd:
Yn y gwres, trôi cordiau'n gred
Ac emynau'n gymuned.
Cariai anterth y core
Yno draw i sgwâr y dre;
Dôi Heol Awst a'i hwyl hi
 'Berwyn' draw i'r Barri.
Wrth i'r traw fynd 'da'r awel,
Ar yr hewl wrth ddweud ffarwél
Yno gwn, yn wên i gyd,
Rhywfodd roedd Gwynfor hefyd.
Emyr Davies
9 Pwynt
Englyn ar y pryd
Englyn ar y pryd: Michael Jackson
Yn ddihiryn mae'n wynach- yn welw
O dan golur afiach
Tan ei baent, fel plentyn bach
Mae'n ddi-euog, mae'n dduach.
9 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 CYNIGION ERAILL
Cwpled caeth ar yr odl 'ocs'
Goelia' i, mewn gwlad o glocs,
Fod yno Hafodwennocs
Na ddoder sbaner mewn sbôcs,
Neu ddistryw ddaw i ddeustrocs.
Daw teimlad chwith i blith blôcs'
Nhw a'u coesau mewn casocs.
Yn eisiau - kilt a thyssocs,
Un ail law i ddawnsiwr clocs.
Rywbryd , mi af i'r Ibrox
Yn y glaw mewn pâr o glocs.
Nid oes clod i oes y clocs
Edliw i oes y seidlocs.
Englyn yn cynnwys 'Hen fyd y wialen fedw'
Hen fyd y wialen fedw - a welwyd
I filoedd yn elw.
O bob un ohonyn nhw
Ychydig wnaeth ei chadw.
Hen fyd y wialen fedw - a welaf
Eilwaith yn y twrw,
A gwn mai'r sgwlyn hwnnw
Sy'n ei ôl â'r gansen - OOOH.
Ofnau plentyn
Hen fyd y wialen fedw, - nain o'i cho'
Tramp a chi, brân farw,
Seilam, wynebau salw,
Y purdan, bwgan a'i 'Bw'.
Limrig yn ymwneud â chwarae gêm
Un gwr sy'n nhîm ffwtbol Goginan,
Ni welir ei debyg yn unman,
Fe'i hun yw'r llumanwr,
Y reff a'r chwarewr,
Ac mae'n sgorio yn erbyn ei hunan.
Daeth troellwr llaw chwith o Sylhet i
Lan Tawe'n gricedwr dros Sgeti.
Ni chymrodd 'r un wiced,
Ni ch'letodd gytseinied.
Ond byddai yn well tae e weti.
'How are you?' gofynodd y Reff i
Chwaraewyr Man U. lawr yn Chelsea.
' Bleep bleep bleep bleep
Bleep bleep bleep bleep
Bleep bleep bleep' atebodd Wayne Rooney
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Brofedigaeth
Bu farw'n ifanc, ond ni fu galaru
Gan nad oedd yn berson y gellid ei garu,
Roedd e'n farus a haerllug, yn oeraidd a phell,
A hefyd, bob amser, yn gwybod yn well,
Roedd e'n fyr ei dymer, yn gegog a ffyslyd,
Ac wedi mynd yn eithaf busneslyd,
Roedd e'n drewi o arian ac anrhydeddau.
Alla' i ddim cofio fod ganddo rinweddau.
Roedd wedi ymbesgi fel rhyw hen, hen Ffaro,
Ac roedd hi fawr o sioc pan gafodd ei daro
Cans claddai yn gyson gyda'r siwtiau llwyd
Lynnoedd o winoedd a mynyddoedd o fwyd.
Ond yn ôl rhyw wraig sydd yn delio mewn'sbrydion,
Ym mrig y morwydd mae yna sibrydion
Fod disgyblion y torthau yn benderfynnol
Nad yr anadliad 'olaf' fyddai'r un derfynnol,
A chlywais fod pwyllgor wedi cael ei benodi
Gan ryw hollalluog i'w atgyfodi,
Ac fe gyfyd eto ar ei newydd wedd.
Roedd Syr Ewrop rhy werthfawr i'w gladdu mewn bedd.
Englyn Cywaith: Oed Tywyll (Blind Date)
Mewn oed y bum un adeg - yn awchu
Am gael bach o'i chemeg,
Ond, o weld fy ngeneth deg,
O'r oed fe es ar redeg.
Pennill ymson tafarnwr
Mae 'na wyrth yn digwydd i'r chwerw
Wrth lifo drwy beipie, rwy'n siwr;
Mae rhai yn ei arllwys yn gwrw,
A'r lleill yn ei ollwng yn ddwr.
- - - - - - - -
Dau beth sydd yn fy mhoeni
Pan glywaf gnoc y 'glas'
Yw cael y pres o'u poced
A chael y diawled mas.
- - - - -
[Tony Blair yn siarad â'i hunan]
Mae'r gwydrau'n llawnion, Tony, - yn y Bush,
Mae'r bar eto'n llenwi,
A gwn yn iawn fod gen i
Fy myddin ddof i'w meddwi.
Englyn ar y pryd: Michael Jackson
A ninnau yn farnwyr ennyd- fe rown
Ar frys arno'i ddedfryd
Oni welwn drwy'i olud
Hen wr sy'n blentyn o hyd
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth ar yr odl 'ocs'
Er mwyn lleihau cleisiau'r clocs
Ira draed â dwr Radox.
Wyneb iau sydd ar bocs -
(Beti fu'n cymryd Botox)
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

