Waunfawr v Manion o'r Mynydd
Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yng Nghlwb Rygbi Blaenau Ffestiniog ar 14eg o Fehefin 2005
Waunfawr

Manion o'r Mynydd

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'tomen'
Rhy dwym yn nawr yw'r domen,
A ffwl rydd fwy ar ei phen.
Gwynn Davies
9 Pwynt
Cwpled yn cynnwys y gair "tomen"
Yn y domen mae'r heniaith
A chreiriau yw geiriau'r gwaith
Cynan Jones
8 1/2 Pwynt
Ateb y llinell: y mae'n wych mwynhau iechyd
Y mae'n wych mwynhau iechyd,
I beth cofiaf drydydd byd?
Gwynn Davies
8 1/2 Pwynt
Ateb y llinell "Mae hi'n wych mwynhau iechyd"
Mae'n wych mwynhau iechyd
Gwir ond fe drengwn i gyd
Nia Powell
8 1/2 Pwynt
Limrig: Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
Roedd y Meuryn yn gwenu mor radlon
Fel y breuddwydiais am ddeg,
Ond pan agorodd ei geg
"Pum marc!" meddai'r snichyn bach gwirion.
Dafydd Iwan
9 Pwynt
Limrig: Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
Yn erbyn Waunfawr yn ymryson
Fe welodd y byd
A'r meyrynod i gyd
Mai 'yma o hyd' fydd y Manion
Edgar Parry Williams
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llonyddwch
(mae gennym dylluan sy'n ymweld â'r ardd acw liw nos weithiau)
Yr oedd y p'nawn yn hwyrhau,
a heliwr y llwyd-olau
yn rith unig ar frigyn,
mor agos fin nos fan hyn. *
Heb stwr na chynnwr na chân,
yn un â'r gwyll ei hunan;
a'i chraffter ffyddiog, perffaith
a'i greddf cyntefig ar waith.
Tra'r oedd, pellhau yr oeddwn
o fyd llawn symud a swn,
a ninnau'n dau derfyn dydd
yno'n gwylio ein gilydd.
Emyr Roberts
9 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llonyddwch
Y mae torf yn y Morfa
Llanw du'r 'cyfeillion da'
Sy'n dod at drallod bob tro
Ar alwad y ffarwelio
Dod i gau dalennau'r Dydd
A'r holl ynni mor llonydd
A'r dorch ar dy elor di
Fis Ebrill, fis y sobri,
Ond gwres dy hanes o hyd
Sydd yn Fai. Sydd yn fywyd
I ni, chwedl o genedl gwas
I'w arddel gydag urddas.
Nia Powell
9 1/2 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Bwyd Ysgol
O, pwdin peips a chacan bry
A grefi'n llawn o lympia
Llefrith yn dadmar ar y peips,
A'r hyfryd dapioca -
Fel rydw i'n cofio chi i gyd
Cyn mynd ymlaen i ddysgu
Am natur, syms, a sgwennu sownd
A sut mae dechra stori.
O, fwydydd iach a ffibr llawn
Y ddeiet iach a maethlon
Pum deddfol ddogn o ffrwyth a fej
A grawnfwyd ffeind i'r galon
A gaf, cyn troi i Fodiwl Tri
Gwerthuso a mantoli
Sy'n ymborth llawer gwell i mi -
Ond pam nad ydw i'n dysgu?
Meg Elis
9 Pwynt
Pennill Mawl / Dychan : Bwyd Ysgol
Mae gan Jamie,- chef y teli
Sosban fawr a sosban fechan
Un i fwydo'r plant yn faethlon
A'r llall i lenwi'i fol ei hunan.
Phyllis Evans
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Caniatâd
'Roedd hi'n anodd gynddeiriog cael caniatâd i fod yma heno,
a phawb am rhyw reswm gwell na'i gilydd yn ceisio fy rhwystro;
mae gen ti ddau "pacemaker" a dôs ddrwg o asthma,
Mi ddylai hynny fod yn ddigon i dy gadw adra;
Yn ôl y Meuryn 'rwyt yr hynaf sy'n cystadlu,
Er gallai fod un arall (ond fod hwnnw yn fardd) - pe bai ots am hynny:
Ond sut mae anghofio mai hon yw Steddfod Eryri,
Ac mae'n deg i bawb gael diwylliant ohoni.
Fel gwyddoch, mae'n gas gen i ganmol ardal Waunfawr,
Wnes i 'rioed o'r blaen wneud hynny, a wnai ddim dechrau 'nawr ....
Ond yma y ganwyd Dafydd Ddu ac Owen Gwyrfai,
Heb son am John Evans a'i ryfeddol deithiau.
Mae'n siwr fod rhai na chlywsant am wyrthiau fy 'nwy nain,
Trueni fyddai i Gymru golli côf am y rhain;
Heb ganmol, mi ges innau ddeg marc sawl tro ar y daith,
Gydag uchabwynt fy ngyrfa yn curo fy ffrind Arfon un waith.
Caniatâd neu beidio, fe fynna' i fy hawliau,
Ac os ydw i'n hen, 'rydw i'n dod o'r ardal orau,
Fe fydd timau Talwrn eraill yn y Faenol yn cystadlu,
Ond ar allu tim y Waun y bydd pawb yn rhyfeddu.
Gwynn Davies
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Caniatâd
Pe byddwn i'n cael caniatâd i rodi trefn ar blant ein gwlad
Mi fyddwn i yn mynnu rhoi yr hawl i'r henoed heb ymdroi
I ddysgu'r ieuainc ffôl bob un i wrando ar y bobl hyn,
Ac ufuddhau heb ofyn pam na sori chwaith na gwneud ceg gam,
Pob un i godi gyda'r wawr i 'molchi'n lân mewn desgl fawr,
A sychu hefo lliain bras, fel byddai morwyn fferm a gwas,
Pob un i frecwast i gael maeth a nerth wrth fwyta bara llaeth,
Ac wedi bwyta llond y bol, rhoi ras i'r ysgol heb ddim lol
I eistedd yno'n gwneud eu gwaith, heb symud dim am oriau maith,
A rhedeg adref ddiwedd p'nawn i wneud yn siw;r fod nain yn iawn,
A taid yn eistedd wrth y tân, a'r llestri wedi'u golchi'n lân,
'Rôl swper cynnar, gwely'n syth, heb rythu ar deledu byth,
Na meddwl am gael mynd am dro i aflonyddu ar y fro,
Pe byddwn i'n cael caniatâd, mi rown i drefn ar blant ein gwlad.
Edgar Parry Williams
9 Pwynt
Englyn cywaith ar unrhyw gerdyn cyfarch
Ar Gerdyn Cartref Newydd
Mae'n anodd mi wn hynny - i wario'r
Arian ar ei brynu,
Ond ta waeth mae'n braf cael ty
A noson i'w gynhesu!
Emyr Roberts
9 Pwynt
Englyn ar unrhyw gerdyn cyfarch
Cyfarchiad Priodas
Llaw yn llaw'n haul eich llawenydd yr ewch
Ac er grym y stormydd
Cewch leihau'r holl feichiau fydd
O wylio dros eich gilydd.
Nia Powell
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
O gofio'i fai a'r dig fu
Anodd iawn iddo wenu.
1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Anodd iawn iddo wenu
Un o dorf y miloedd du
1/2 Pwynt
Telyneg: Chwerthin
Tair merch adeg graddio'n chwerthin,
Yn taflu'u dyheadau i wyneb y camera
A llawenydd eu dyfodol yn llenwi'r llun.
Y llun sy'n y ffrâm ers degawdau.
A symudodd o swn silff y cartre cynta
I chwerthin yn swil mewn ty newydd
I wenu'n sidêt ar seidbord
I sibrwd mewn sepia yn y gornel.
Yr academig, wyt ti'n ei weld
Dan haenau dy ymchwil?
Gwranda, brifardd, mae na eiriau yng nghudd yn y llun.
A tithau - pa hanes sy tu ôl
I dair merch yn yr haul?
Clustfeiniwch -
Ac mi glywn ein plant yn chwerthin
Meg Elis
10 Pwynt
Telyneg : Chwerthin
Mewn maes awyr
Ei duwch a welais i,
Y fam Islamaidd,
Yn ceisio diddanu'r plant
Am ddwyawr arall
Yn ngwres y 'stafell aros.
Ni wyddwn ei hiaith
Na'i chenedl
Dim ond mai du
Oedd ei gwisg,
Gweld dau lygad tywyll
Trwy'r rhwyg ym mhenwisg ei burqa
'Roedd y lle fel Babel
A'r byd i gyd
Yn aros am alwad
I fynd trwy eu hadwy eu hunain
A dianc o'r diwedd;
A hithau, a'i phaciau a'i ffydd
Yn amyneddgar
Ddisgwylgar
Gaeth.
Ond wrth i mi gyboli â'r plant
Gwelais y ll'gadau'n
Chwerthin.
Cynan Jones
10 Pwynt
Englyn ar y pryd
Naid hawdd fu'r llythyr i ti- a'i eiriau'n
Ffrwyth oriau o loywi
Er hyn oll, rwy'n dy golli
Myw, o'i ddychwelyd i mi.
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled yn cynnwys y gair "tomen"
Pa haws wrth "Traws" os un tro
y domen sy'n gor-dwymo.
Emyr Roberts
Ateb y llinell "Mae hi'n wych mwynhau iechyd"
Heb yr ofn ar hyn o bryd
y mae'n wych mwynhau iechyd
Gwynn Davies
Y mae'n wych mwynhau iechyd
Ond pa haul sy'n haul o hyd?
Dafydd Iwan
Yn rhydd o gur ddoe i gyd,
y mae'n wych mwynhau iechyd
Emyr Roberts
Englyn ar Gerdyn Cyfarch
O feddyg rho imi foddion, - nid yw
Dos o'r Senna'n ddigon,
Diflaster ydyw'r her hon
I wr sydd bron yn wirion.
Gwynn DaviesAr gerdyn llongyfarch i Rhiannon (aelod o'r côr) ar enedigaeth Guto
A yw'r cyw yn ddeunydd côr, - ai baswr
O bosib' neu denor?
A oes dweud beth sydd mewn stôr
I'r hogyn yma rhagor?
Emyr Roberts
Ar Gerdyn Priodas
Boed golud byd y galon - yn llenwi'ch
Cynlluniau chwi'n gyson,
A llu o flynyddoedd llon
I ddod o'ch addewidion.
Emyr Roberts
Ar gerdyn oddi wrth Graham Henry i Clive Woodward
Croeso mawr i wlad y Maori - lewod
Glewion, dewch i'ch dofi;
Gwelwch fel gallwch golli
Yn fan hyn bob prawf i ni.
Emyr Roberts
Englyn ar y pryd: Cyfeiriad Anghywir
Troi o hyd wna 'fory'n tras- o donnau'r
Edwino o'u cwmpas
I ledrith o gymdeithas
Yn y Bae a'i ddyfroedd bâs
8 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81 CYNIGION ERAILL Limrig: Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
Y cafodd dau glagwydd digalon
a chywen Waunfawr
a'r ceiliog Gwyn mawr
eu pluo mewn awr gan y Manion.
Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
Mewn breuddwyd ar Ynys Fallon,
'Doedd neb yno'n gofyn
Am gywydd nac englyn
Na Meuryn, dim ond limrigs gwirion.
Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
'Roedd Gerallt yn poeni am safon
Pan welodd Gwyn Davies,
Archdderwydd y pansis
Yn codi dau fys ar y Manion.
Pan oeddwn mewn Talwrn un noson
Y gwelais i ddynes fawr greulon
Yn tagu y Meuryn
Gan ddweud 'Gwrando blodyn,
Rho dipyn gwell marciau i'r Manion.
Pennill Mawl / Dychan : Bwyd Ysgol
Dwi'm yn licio tagliatelle
A gewch chi sdwffio'ch cannelloni
Dwi'm yn licio ceaser salad,
Kiwi Fruit na phomigranad.
Mae paella'n troi fy stumog;
A does dim blas ar fwyd llysieuog.
Dwi'n iste'n fan'ma'n methu credu
Bod rhain yn sbïo arnai'n llwgu.
Dw'ishie chips a chicken dippers
Smilies crwn a sausage sizzlers.
Dw'ishie turkey dinos naferth
A thun spagghetti Barbie prydferth.
Dw'ishie cherryade mawr fizzy,
A smarties glas i 'ngwneud i'n dizzy.
Dwi'n fan'ma'n methu credo pam
Na wrandith Jamie ddim ar mam.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

