Dinbych v Tir Mawr

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yng Nghlwb Rygbi Blaenau Ffestiniog ar 14eg o Fehefin 2005

Dinbych

Dinbych

Tir Mawr

Tir Mawr

Cwpled caeth ar ddrws y Fatican

Neges. Gwell lwc tro nesa.
Nid yw'r pab yn rhydd. Dydd da.

Berwyn Roberts
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar ddrws y Fatican

Nid Duw sydd yma'n y ty,
O hyd, ei le yw'r beudy.

Gareth Neigwl
9 Pwynt

Pennill Ymson wrth fwrw pleidlais

Os caiff y Glas fy sws fach i, be' ddaw i mi yfory?
Dim, gan mai drosto'i hun y saif pob un sy'n Dori.
Os caiff y Coch fy sws yn fraint, a fydda'i rywfaint callach?
Dim, gan mai gwella'i fyd wna Llafur, hefyd, bellach.
Os caiff yr Oren sws gen i, a welir bri ar Walia?
Go brin, 'does gen i fawr o go' y bu 'na Gymro ffor'ma.
Os caiff y Gwyrdd fy sws i'w gwaith, a fydd fy iaith yn ffynnu?
Go brin, a'u Cymry hwy'n y bôn yn Saeson ar deledu.
Os nad oes un o'r pleidiau gwael yn haeddu cael fy swsus,
Mi sleifia'i o'ma 'nôl i'r t i'w rhannu efo'r musus.

Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt

Pennill ymson wrth fwrw pleidlais

Roi groes i hwn yn groes i'r graen
Os gwnaiff hwyluso fy ffordd ymlaen

Huw Erith
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Unrhyw ddodrefnyn

Bwrdd

Yn amser prinder, pob pryd
a fu yn rhan o fywyd
yr aelwyd, rhan i'w dreulio'n
ddwy res wrth ei dderw o.
Hanner awr o sgwrsio braf
a lle i lais y lleiaf
yn y dweud am hynt y dydd
a'r hyn a ddigwydd drennydd.

Heddiw'r wledd sy' ar fwrdd-ar-lin
a gwag yw bwrdd y gegin
a'n haelwydydd mewn tlodi
yn nydd ein digonedd ni.

John Glyn Jones
10 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Unrhyw Ddodrefnyn

Cadair Hen Löwr

Mewn cornel wrth y gwely
mae cadair isel, ddel, ddu
hen wncwl gwyn: clyw y gwyn
yn nhraul ei phedair olwyn.

Yn eu gwich, mae poeri gwaed;
gwich ysgyfaint yn gochwaed
a'r rheg gudd gan y wraig gaeth
a'i holwynai at luniaeth.

Y tawelwch a'r tyle'n
rhy hir, un dydd, i'w ffon bren
a welaf; mae Trehafod
anadl a fu'n dal i fod.

Myrddin Ap Dafydd
9 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud â thanwydd

Tancar olew oedd ESSO 13 (thyrtîn)
Ond fe grasiodd rhyw sbîd cop i'w thîn,
Arllwysodd y petrol!
Bu ffwrnais uffernol!
"Am Losgfa", yn ôl Wil Paraffîn.

Elwyn Wilson Jones
8 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud â thanwydd

Aeth Aled i weled ei Dduw
Wrth drwsio tanc petrol car Huw
Mae yn debyg taw Sian
A aeth ato am dân
Oedd yr olaf i'w weld o yn fyw

Gareth Jones
9 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Drws Cefn

Ni faliwn am gyfweliad - a doedd
fy mod i'n ddibrofiad
yn ddim, a chaf ddyrchafiad
a nhw yn adnabod 'nhad.

Berwyn Roberts
9 Pwynt

Englyn: Drws Cefn

Yn ol y 'sgidia hoelion, yn hyglyw
Drwy swn rhiglo'r gweision,
Deil gwlad i siarad a son
A hulio croeso'r galon.

Gareth Neigwl
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell: Yr Ymddiswyddiad

(Martin O'Neill o Celtic)

Mae balchder yn y môr o wyrdd a gwyn
A thonnau siantio'r côr yn tywallt clod:
Penllanw'r holl ymdrechion hyd yn hyn
A gobaith seithfed ton fydd eto'i ddod.
Mae grym y cerrynt sydd yn serio'r co'
Yn atsain enw'r un a'u llywiodd hwy
I hafan buddugoliaeth lawer tro,
A'r criw yn chwennych anrhydeddau mwy.

Ond gwelodd na all llwyddiant munud awr
Ei warchod rhag rhyferthwy'r storom gref;
Er gwerthfawrogi'r cyfeillgarwch mawr,
Ni allai'r llu liniaru'i wewyr ef.

Gadawodd ar ei ôl y brol a'r bri
Pan glywodd alwad fud ei hangen hi.

Elwyn Wilson Jones
10 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddiswyddiad

(ar gerdyn post)

Cyfarchion feirdd cocos! o Doremolinos
Rwyf yma heb Llinos a'r plant
Rwyf yn y jacwzi a gwin yn fy llaw i
Tu allan mae'n agos at gant
Os cofiwch chi'r llynnedd doedd gen i ddim 'mynedd
Fe gollwch chi eto'r tro yma
Sut mae hi yn 'Stiniog ? yn wlyb ac yn niwlog ?
Ha ha ! mae hi'n chwilboeth yn fa'ma.
Mae dwy awr mewn cader am bum marc a hanner
yn amser dychrynllyd o hir
Rwy'n wir ymddiheuro nad ydwyf i yno,
wel nag ydwyf a ddwedyd y gwir
Bydd Gerallt dan artaith wrth glywed eich bratiaith
a'ch Eingl- Gymraeg yn y Blaena'
Gaf i recomendio eich bod yn concedio
y funud cyrhaeddwch chi yna.
Wrth i mi ddychmygu chi'ch tri yn stryffaglu
Rwyf bron iawn a thaflu i fyny
Mi ddewch, gydag amsar - na, rydwi'n cellwar
All neb fyw cyn hired a hyny
Wrth fy ymyl mae Bwji, un melyn bach cwji
Mae'n odli yn well na chi'ch tri
Anghofiwch eich cerddi a glynwch at weddi
yw'r cyngor a gewch chi gen i
Efo cymorth gan Dduw fe all awen Huw
drio dod nol yn fyw - gallwch lwyddo!
ac fe gaiff Dixie Dean ei goroni yn Gwin
Hei lwc bois, rydw i'n ymddiswyddo

Gareth Jones
9 Pwynt

Pennill telyn yn cynnwys 'Yr oedd hafau fy mhlentyndod'

Yr oedd hafau fy mhlentyndod
yn bur gynnes gyda'r genod,
ond â'r hydre' yn dynesu
y mae un sy'n dal i 'ngh'nesu.

Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt

Pennill Telyn yn cynnwys 'Yr oedd hafau fy mhlentyndod'

Yr oedd hafau fy mhlentyndod
Ar y pryd yn ddi rhyfeddod
Ac aethant heb im sylweddoli
Mai dim ond yr rhain oedd I mi

Huw Erith
9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn fy henaint gofynnaf
Yn chwerw iawn am ddechrau haf

0 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn fy henaint gofynnaf
 Mai mor hwyr 'ble mae'r haf'

1 Pwynt

Telyneg: Pridd

O adael ffridd am oleuadau'r dre',
bu'n sgwrio'r pridd oddi ar ei 'sgidiau cain;
bu hithau'n crafu staen a diosg gwe'r
hen gartre' tlawd oddi ar ei haeliau main:
dau'n cefnu ar fagwraeth lom y gwynt
er mwyn cael dod ymlaen yn hyn o fyd
i rannu sylw sêr y sgrîn i'w hynt
a ffalsio 'nabod pawb yn wên i gyd.

Ond heb i'r gwadnau gydio yn y tir,
mae'r pen yn chwyddo'n ysgafn fel baln
gan hedfan ymaith tua'r angof hir
a thraha'i ymffrost yno'n ddim ond sn.
Diflannu'n y cymylau dros y ffridd
mae seren sydd heb wreiddiau yn y pridd.

Eifion Lloyd Jones
9 1/2 Pwynt

Telyneg: Pridd

(Eisteddfod yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm)

Roedd ein llechfaen yno'n haenau
Eisoes, a tharian ein metelau,
A'r pileri glo o ddyfnder y siafftau
Yn arwain at y llygedyn golau.

Roedd y clai yno o wely ac aber afon:
Teils cynnes yn codi am y galon,
Ond heb y dyfnder dan furiau cochion
Mae'r crochan yn wag o flas arogleuon.

Yna daeth y plant yn eu gwisgoedd
A'u logos ysgolion, gan gario'n mynyddoedd
A'n dolydd iddi, rhosydd a ffriddoedd,
Ein bryniau a'n caeau, a'n holl ddyffrynnoedd.

Daeth daear gwlad i mewn i'r gragen,
Gwrtaith blodau gwylltion ein hawen,
Fforchiad arall dan yr hen dderwen
I godi'r gwanwyn i frig pob cangen.

Myrddin Ap Dafydd
9 1/2 Pwynt

Englyn ar y pryd

Blaenau

Rhwygo'i chalon ohoni- ei rheibio
A rhoi rwbel drosti
Ond mae enaid i'w meini
A thegwch i'w hagrwch hi

8 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82

CYNIGION ERAILL

Cwpled Caeth ar ddrws y Fatican

Ar y daith, un waith, hwn oedd
hefyd yn ddrws i'r nefoedd.

Arhoswch, nid oes croeso
i neb o'i elynion O.

I dy droed fynd mewn drwy'r drws
Actia fel Benedictws.

Berwyn Roberts

Pennill ymson wrth fwrw pleidlais

Daeth mynyddoedd o bamffledi acw drwy'r pôst,
Ddarllenais i 'run , er cymaint eu côst.
Doedd dim yn y neuadd, na neb 'di bod heibio '
Ro'n i mewn penblath i bwy i fotio.
Ond mi ês draw i'r ysgol i fwrw nghroes:
Bum yn sganio'r rhestr, nes cael cramp yn fy nghoes!
Ceuis fy llygid, cymrais êm yn ara'
A sticio'r bensil yn un o'r sgwaria.
'Dwi'n gwbod dim am yr M.P. newydd,
Ond fe dry'n fuan yn bwdl bach ufudd.

Elwyn Wilson Jones

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Unrhyw Ddodrefnyn

Un ras yw ein byd prysur
a rhown fod i dorri'n fyr
yr ennyd i gael rhannu
rhyw gyfrinach fach a fu
a hwyl a chawn o'i gylch o
y byd, a hefyd cofio
elw y rhoi o ysgol rhad
rhyw oes arall, a'r siarad
yn llinyn, pob un a'i bwt
yn ddihareb, - a'i dderw
tywyll yno'n glust dawel.
Mae ias byw yma am sbel.

Berwyn Roberts

Englyn ar y pryd: Ploryn

(y lle parcio cychod pwer newydd y mae sôn y bydd yn dod i Bwllheli)

Ar lanw cwyr hwyr brynhawn- a'r hafan
A'r hen dref yn orlawn
Cyfyd drwy wyneb cyfiawn
Dwr y grym, a ffrwydro' i grawn.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 83

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar ddrws y Fatican

Ni chei osgoi'r brycheuyn:
Adeilad Duw, dwylo dyn.

Myrddin Ap Dafydd

Ar allor dan swyn corawl,
Mewn fflasg wy pasg Ioan Pawl

Huw Erith

Pennill ymson wrth fwrw pleidlais

Mae enw pob un plaid i lawr
ag eto, hyd y gwn i
mae pobun sydd o 'mlaen i nawr
yn Fonster Raving Loonie

Gareth Jones

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Unrhyw Ddodrefnyn

Gwely ward geriatreg.

Ar ei ffram ddur yn curo,
Ysu'i ddoe wna'i fysedd o;
Hen wr gwyn, synhwyra'i gau
Yn y feis rhwng cynfasau.
Unig raid, anadlu'i gri
Yn ei bwyll, drwy bibelli.

Henwr swrth, difrawder sydd
Yn binnau drwy'i obennydd;
Rhown ym mhlyg pob gwely gwyn
Ein gofal hefo gefyn,
Er oes a'i hesmwythdra'n drwch
I heneiddio mewn heddwch.

Gareth Neigwl

Limrig yn ymwneud â thanwydd

Rhoed nwy yn y pentra 'cw llynedd,
Ond hynod ddi-hid fuo'r gwasgedd,
Caed Deina ty pen
A'i thin am ei phen
Yn berwi dau wy ar ben Lliwedd.

Gareth Neigwl

Ni soniwyd 'run gair am y petrol
yn y c'nebrwng ym mynwent Ffostrasol
Er ei fod wedi marw
Roedd Seth dal yn feddw
A'r grat rownd ei wddw fel pedol

Gareth Jones

Egwyddor sy'n gyrru car Alwyn
Mae'n mynd dri chan milltir i'r galwyn
Fe aeth o Bencader,
Ymhen blwyddyn a hanner
Roedd bron iawn yn Aberganolwyn

Gareth Jones

Enillodd Grand Prix yn ei Ffiat
Gan fynd hyd y trac megis bwlat
Ac yn yr ymchwiliad
Fe welson fod Chwiad
Yn pedlio yn galad dan bonat

Gareth Jones

Trwmped Now Ben sy'n un da
Mae yn gweithio efo megin a ffa
Rol sbrowts a melynwy
Mae'n canu 'Myfanwy'
Hen odiant neu donic soh fah

Gareth Jones

Mae na si fod gan y Cyrnol
Frwsh dannedd sy'n ymbelydrol
I gael gwared a chaws
Does dim byd yn haws
Na'i blwgio'i Traws yn ddyddiol

Gareth Jones

Yn yr ymgyrch roedd Brynle yn gawr
Yn gyrru i fyny ac i lawr
Gan iddo ddefnyddio
Cefnforoedd o Esso
Y pris oedd yn treblu bob awr

Gareth Jones

dd moto' beic niwcliar gan Elwyn
A wnaethai gan milltir i'r galwyn
Fe aeth i Nepal,
A chyrraedd yn ol
Ddeg munud cyn iddo fo gychwyn

Gareth Jones

Cysylltodd le chwech Garej Gwalia
Trwy ddryswch yn syth mewn i'r pympia
Fe dynnodd y tsaen
Hedfanodd am Sbaen
A glaniodd ar graen yn Valencia.

Gareth Jones

Drws Cefn
Heibio beic, bin a bwci-bôs yn ddewr,
Ddwy waith bob pythefnos,
I dy Jên, drwy'r sied, âi Jôs
I gwcio sach o gocos.

Myrddin Ap Dafydd

Pennill Telyn yn cynnwys 'Yr oedd hafau fy mhlentyndod'

Yr oedd hafau fy mhlentyndod
Yn diferu haul trwy gawod;
Er dyheu yn llesg a llonydd,
Gyrru'n drymach mae'r cawodydd.

Gareth Neigwl

Yr oedd hafau fy mhlentyndod
Wedi ei treulio yn cweirio malwod
Gwaith go galed a rhai yn cicio
Ond chafodd r'un ddianc o'no.

Huw Erith

Yr oedd hafau fy mhlentydod
Wedi ei byw mewn gwal sgwarnogod
Ac mae fy nghlustiau yn sticio I fynu
Am nad oedd cresh y dyddiau hynny.

Huw Erith

Telyneg: Pridd

Bu eich llyfnu a'ch gilydd
Bu eich uniad yn hir,
Mae na afal mewn carreg
Sydd yn ddwfn yn y tir

Boed yn fawnog neu syntir
Yn dyndir neu yn 'ro
Mae yn nhoriad dy fogel
Lle y lladdwyd dy lo

Huw Erith

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.