Y Gler v Tanygroes

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yn Nhafarn y Cwps, Aberystwyth ar y 7fed o Fehefin 2005

Y Gler

Y Gler

Tanygroes

Tanygroes

Ateb y llinell: 'Ni wn i yn nhrymder nos'

Ni wn i yn nhrymder nos
Nad mwstard mo'r Domestos.

Osian Rhys
8 1/2 Pwynt

Ateb y llinell: 'Ni wn yn nhrymder nos'

Ni wn yn nhrymder nos
Am helyntion fy mhlantos

John M O Jones
9 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar ddrws oriel gelf

Mas ei di was ar dy din
O gyffwrdd darn o Gyffin.

Eurig Salisbury
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar ddrws oriel gelf

Ehedydd ddaw i'th godi
I weld haul dy alwad di.

Philippa Gibson
8 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud ag addysg

Cyn hir bydd awdurdod y coleg
Am ddysgu Cymraeg drwy y Saesneg,
Bydd y Bardd Cwsg yn sleepy,
Cylch Heledd yn creepy,
A phroblem go fawr 'da Gramadeg.

Hywel Griffiths
8 Pwynt

Limrig: Addysg

Ymson myfyrwyr

Os 'heads', wel y Cwps fydd hi heno
Os 'tails', y Marine fydd hi heno
Ond os fydd hi'n disgyn
Ar ei hymyl,, wel wedyn,
Arhoswn i mewn i astudio.

Ken Griffiths
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arwr

Am ogof bûm yn gofyn,
Un ogof ynof fy hun,
Uwch yr aur rwy'n chwarae rhan
Fel hen wr o flaen arian.

Dan draed mae dynion y drin
Eildro'n tincial o'r heldrin,
Fel clychau rhwng clustiau clo
Byddinoedd heb ddihuno.

Ac ymhlith y gemau lu
Mae un sydd yn fy mynnu,
Cymro ifanc amryfal
I'r Gymry wag ei morale.

Eurig Salisbury
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arwr

John Evans, Gwesty'r Emlyn

Daw o hyd haelioni dyn
I'r amlwg yn yr Emlyn.
Rhown ein clod i'r tafarn clyd
A diolch i'r gwr diwyd-
Y gwr hyddysg â'i wreiddyn
Yn ddwfn yn y broydd hyn.
Mae gwres diamau'i groeso
Yn cynhesu ei westy o:
Lle i holl fyfyrwyr llên
I droi i fwydo'r awen,
I wefr cwmnïaeth hyfryd
 John yn galon i gyd.

Emyr Jones
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Briodas

Gyfeillion annwyl, a glywsoch chi'r swae
Am glamp fawr o briodas oedd i fod yn y Bae?

Roedd tipyn o ffws gan mai'r pâr oedd am briodi
Oedd Nick, mewn siwt las, a Ieuan mei-lêdi.

Daeth Ieuan i mewn - a dyna chi sioc
A gafodd pob un wrth weld ffasiwn ffroc:

Un hir, a'i chynffon yn cyrraedd tu fas,
O ddefnydd symudliw rhwng gwyrdd a glas.

Y gwr yn y goler yn barod i'w priodi,
Oedd Pedr y Gyfraith, yn ôl y stori,

A'r tu ôl i'r Ficer 'roedd Helen tre'r sosban
Yn bownsio a chwysu wrth chwarae ei horgan.

Ond pan ddwedodd Pedr, a'i lais bron â thorri,
"Oes gan rhywun reswm pam na ddylai'r ddau briodi?",

Daeth swn mawr o'r cefen, a phwy gododd lan
Ond Michael Almaenwr - aeth pawb yno'n wan.

"Neith e'm gweithio," medd Michael, "Oes nad oes 'na gariad,
'Sdim gobaith am briodas - rwy'n siarad o brofiad.

Cymerwch fy nghyngor: dim ond cwympo mas
A fydd os bydd priodi rhwng y gwyrdd a'r glas."

Iwan Rhys
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Briodas

Ni ches i ddim gwahoddiad i briodas Wayne a Fflo.
Yr haearn smwddio brynais ddaw handi rywbryd 'to.
Ar fore y briodas, clip- clop, fe glywais i,
Pan sywlais ar ryw phaeton a wampyn o farch du.
Ac aros wnaeth am ennyd,- meddyliais beth yw'r gêm?
Fan honno, mewn gogoniant, ro'dd cruglwyth mawr llawn stêm.
Y wraig wnaeth mofyn bwced i gasglu dom y march.
'Gad iddo oeri', d'wedais, gan ddangos bach o barch.
Yr Iôr nid yw'n anghofio Ei gyfiawn llwch y llawr,
A chofio wnaeth amdanaf fel codwr canu mawr.
Dwy ddynes arall welwyd yn rhedeg o fan draw
Fel rhywrai o'r Olympics, y ddwy â brws a rhaw.
'Hold on', dywedais wrthynt, 'myfi yw Wncwl Wayne,
a naw deg cant o'r ddomen sy'n ochor o'r lein.
Ond fel haelionus grisition, sy'n rhodio'r llwybr cul
Fe gewch chwi bobi rhofied, os dewch i'r cwrdd dydd Sul.'
Dychwelyd wnaeth y phaenton yn gynnar amser te
A'r march fu wrthi eto yn gywir yr un lle.
Tro 'ma ni chaeth 'nghymdogion, 'rhen Lissi Maud a Nel,
Sy'n pipo tu nôl cyrtens, ond sŵn y gwynt a smel.
Mae gennyf nâr gnwd riwbob a phwmpen fawr o fri:
'Nôl pedair pedol arian fu'n aros ger tŷ ni.

Arwel Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn cywaith: Llinach

Wrth ddilyn y brigyn brau - o'i ddeilen
Eiddilaf drwy'r oesau,
Weli di iaith, fesul dau'n
Agor rhoddion ein gwreiddiau?

Hywel Griffiths
9 Pwynt

Englyn cywaith: Llinach

Yn y gadwyn o goeden- hynafol
Yr wyf megis dolen
I ryddhau nerth rhuddin hen
Yn newydd o fewn cneuen.

Phillippa Gibson
9 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Wayne Rooney

Gallwn ddweud peth hynod gas
Neu'n ddi-chwaeth roi heibio'r gwas,
Ond byddai hynny yn annheg:
Gwell yw imi gau fy ngheg.

Osian Rhys
8 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Wayne Rooney

Mae'n hen bryd iddo godi
A dod i'w briod le,
Ac yntau'n foi talentog
Sy'n haeddu pob hwrê.
Mae'n arfer cael miliynau
I'w rhoddi yn y banc,
A phan mae'n dod i fen'wod
Mae'n gallu dangos gwanc.
Pan saif o flaen y cam'ra,
Mae'n ddigon rhydd ei reg,
Ac os oes angen clustiau
Rhai mawr sydd, 'whare teg.
Cawn wylio'r boi yn garcus
A'i gadw ar y ffeils:
Mae ganddo'r cymwysterau
I fod yn Brins of Wêls.

Ken Griffiths
8 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Es i'r cwps cyn amser cau
A mâs ni ddes am oesau

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Es i'r Cwps cyn amser cau
Rwy'n ddrwg am gwrw gorau.

0 Pwynt

Telyneg: Cyfaill

Pan fo gwaelod y gwydr
Yn gân gynnes,
A phob llaw ar dannau anwel eu poteli
Yn curo bît ar graciau'r bar,
Ymhle mae hi, honno a ddywedodd fod crio
Yn gwisgo'r ddeurudd orau
Fel afon,
A bod ton dros y tir
Yn alar, yn wylo mewn llys tywysog?
Yr hon a drodd pob boddi
A gwlychu ysbryd gan glychau'r
Tyrau tal
Yn anadliad o odlau?

Y mae hi yno, yn mynnu
Siarad mewn trosiadau
A chynganeddu ei chanu chwil,
Beint am beint wrth y bar.

Hywel Griffiths
9 Pwynt

Telyneg: Cyfaill

Dof atat mewn iselder-
Rwyt yno byth i mi;
Anghofiaf fy ngofidiau
Pan gaf dy gwmni fi.

Fe deimlaf yr hen hyder
Yn llifo unwaith 'to,
A hiwmor fu'n golledig
Yn dod yn ôl i'r co'.

Ond er dy fod mor ffyddlon,
Yn gyfaill am gyhyd,
Gresynaf weithiau'n ddistaw
Fod jîns â'i bris mor ddrud.

John M O Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn ar y pryd

Plethwyd edau'r dechrau du yn dynn dynn
Yn dy waed o glymu'r
Tannau croes. Ond cortyn cry'
Ein dyddiau sy'n cordeddu.

8 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78

CYNIGION ERAILL

Ateb y llinell: Ni wn yn nhrymder nos

Ni wn i yn nhrymder nos
Wlad annirnad yr hwyrnos.

Ni wn i yn nhrymder nos
Ai dewr o hyd yw aros.

Hywel Griffiths

Ni wn i yn nhrymder nos
Ble â antur i blantos.

Ni wn i yn nhrymder nos
Gyfeiriad lle gaf aros.

Ni wn i yn nhrymder nos
A fydd yn ddydd mor ddiddos.

Ni wn i yn nhrymder nos
Am eira sy'n ymaros.

Osian Rhys

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arwr

Yn nyddiau'r clybiau mae clod
Yn acwstic ei ystod.
Roedd ei gitâr-huddug-tân
Yn arf tra'r oedd y dyrfa'n
Erfyn, a hwythau'n arfer
Ar dafod ei glod y glêr.

Un dydd o hast, ei ddoe oedd,
Dydd di-hid ei ddod ydoedd,
Un hafan wen i fwynhau
Gwên ddiddig, un o ddyddiau
Dirifedi'r haf ydoedd.
Un dydd o ust? Heddiw oedd.

Eurig Salisbury

Englyn cywaith: Llinach

Ynof i yn ddraenen fyw - dan fy nghrôn
A'i aggro'n unigryw,
O dan draed ein daear yw,
Dan ein traed ein tir ydyw.

Eurig Salisbury

Telyneg: Cyfaill

Y tro diwethaf y gwelais i ti
Yn y bar wrth ymyl y bae,
Llifodd y dagrau ar wisgi yn un
Ar bnawn Sul mor ddiog
Yn ceisio canfod calon nos Sadwrn.

Wrth sefyll ger y bwlch yn y mur
a'r hogiau'n y bar yn chwilio o hyd
yma'n gorwedd mae hen olwyn beic
yn pwyso yn rhydlyd ger hen afal sur.

A gwn mai'r tro nesaf y gwelaf i ti
Fydd yma'n y bar wrth ymyl y bae,
A bydd y wisgi a'r dagrau yn un;

Ac ofer fydd chwerthin
Neu grio a gofidio
Am hen olwyn beic a hen afal sur.

Byddaf i yma'n y bore bach
Yn cerdded hyd cesail y bae,
I'r lle y buom ni gynt

Yn plymio cerrig a gwylio'r llongau'n
Dychwelyd lle bu'u calon o hyd,
A hwy'n angori lle daw'r afon
I agor plygiadau'n y don.

Osian Rhys

Englyn ar y pryd: Rhaff

O noddi ei phen rhyddid- yn gynnar
Mewn Gwanwyn ieuenctid
Yn hawdd iawn fe dry'n ddi-hid
Yn aeafau o ofid.

8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 77 1/2

CYNIGION ERAILL

Ateb y llinell: 'Ni wn yn nhrymder nos'

Ni wn yn nhrymder nos
Am y wawr sy'n ymaros

Cwpled caeth ar ddrws oriel gelf

Crefft cariad a syniadau
A'r ddawn i gyfuno'r ddau.

Yn fyddar mae'n celfyddyd
I baent beirniadaethol byd.

Un swydd yn yr oriel sy'
Ar gael, sef twtio'r gwely.

Gwyliwch, mae'n ddiwrnod gwyliau-
Mae'r oriel fach gelf ar gau.

O fewn hon fe gewch fwynhau
Ein gwerin ar ei gorau.

Limrig: Addysg

I stydio'r adar a'r blodau
Aeth merched bach ysgol Dolgellau
Hyd 'n oe Miss o'r coleg
Câdd wers mewn bioleg:
Dai'r hewl o'dd a rhwyg yn ei lodrau.

Mae iaith Defi bach wedi diodde
'Mae'n rhegi o hyd', medde'i fam e':
'Yn yr ysgol mae'r strach,
Sdim bai ar y diawl bach
Ni chlyw byger l fel 'na gartre'.

Roedd athro un tro yn llawn pryder
Am ei blant bach â'r saith marc a hanner;
Ond câdd weledigaeth
A phet waredigaeth
Drwy'u hanfon i'r coleg yn Aber.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arwr

('Bywyd Cymro' yn Hunangofiant Gwynfor)

Gwynfor

Pan drecha amser dderwen
Pair ryw ing, er oed y pren
Ac er y saif, ac erys hud
Yr hen gawr ar ein gweryd

Trwy'r grym roes bywydd Cymro,
Troed yr hesbfan dan ei do
Yn gynefin meithrin myrdd
O obeithion tir bythwyrdd.

Er mai difywyd ydyw
Saif o hyd ei oes o fyw
Dros ei hil, dros iaith, dros hedd:
Fe erys byth ei fawredd.

Gerallt

Ein harwr ydyw Gerallt
Gwych o wr, sy'n goch ei wallt.
Un cyson ei haelioni
A hwn yw ein heilun ni.
Ger ei rym yr ymgrymwn.
Nid gwiw ydyw digio hwn
Yn rhy amal, a Chymry wêl
Ni'n diolch iddo'n dawel;
Mae'n sant rhadlon a gonest-
Ef yw'r bardd sy'n 'very best'.
Ni ddaw loes o'i ddwylaw o,
A gwn cawn ddegau heno.

Englyn cywaith: Llinach

Nid hel ahcau y teulu, na genyn
Nac enw, fu'n magu
Cof annwyl i'm cyfannu
Ond cael profi cwmni 'Cu.

Awn ninnau am sawl ennyd- i'w chwilio
A'i chwilio yn ddiwyd,
A chael ar ôl dychwelyd
Yr epa yna o hyd.

Pennill mawl/ dychan: Wayne Rooney

Gadewch i blant bychain i siarad â Wayne,
Nid am fod ei regi yn britho pob lein.
Yng nghwmni y plantos ni chlywa yr eff
Ond caiff enw newydd i alw y reff.

Mae gennyt enw cowboi
Fel Kit a Clint a Boon
A saethu wnei o'th ystlys
Mewn clybiau a salwn.
Mae'n iaith fel mellt a th'ranne
A 'coch' a'r 'glas' yn biws,
Mae'r blips tu hwnt i Bodfan
Pan fyddi'n chwythu ffiws,
Am fod yn fras rôl model
Ni wnaf gefnogi trais,
Rwy'n cofio Ivor Allchurch-
Rwy'n falch dy fod yn Sais.

***

Mae blip blip dau yfs yn llawn ddigon;
Beth dda yw'r wyrth arall, nis gwn.
Ond mae'r eff refferi nawr yn gwybod
Mai boi'r blips a'r effs ydyw hwn.

Telyneg: Cyfaill

Â'i llaw mewn llaw gariadus
Wrth droedio ar y daith,
Bu un i'r llall yn gymorth
Am hanner ganrif faith.

Ond henaint ddaeth â'i dolur
I boenydio'i chorff i gyd,
Nes ddaeth y llaw gariadus
I'w rhyddhau o boenau'r byd.

***

Mewn ffos roedd arwr 'fory
A chryndod yn ei swch,
A threm ei wn yn chwilio-
Am elyn drwy y llwch.

Dan warchae gwersyll rhyfel
Yn estron yn y glaw,
Y werin wâr a'i blygodd
A phladur yn ei law.

Wrth allor yr aduniad
A dau wrth gannwyll ffydd,
Cofleidiwyd ei chysgodion
A deigryn ar bob grudd.

***

Piano Man

Mewn moroedd o unigrwydd
Fe'i gwelwyd ar y traeth
Digyfaill a dienw,
Heb wybod o ble ddaeth.

Er holi iddo'n ddyfal
Y cof fu'n dal ar glo,
Nes cael ei ddwylo'n dawnsio
Dros nodau'i gyfaill.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.