Taeogion v Y Dwrlyn

Cafodd yr ornest yma ei recordio yn Neuadd Llanddarog ar yr 17eg o Fai

Taeogion

Taeogion

Dwrlyn

Dwrlyn

Cwpled yn cynnwys y gair "diod"

Daw'r ddiod â rhodd ddeuol:
Huawdl wyf - wrth siarad lol.

Emyr Davies
8 Pwynt

Cwpled yn cynnwys y gair "diod"

Mae'n ei weddi a'i ddiod
ei ddiawl a'i dduw'n byw a bod.

Ynyr Williams
8 1/2 Pwynt

Pennill ymson mewn cae

Pennill Ymson Gwenllian (Ar Faes Gwenllian, ar gyrion Cydweli)

Dduw Dad, a faddeui di; - gwn, mi wn,
os mynd mewn gwrhydri
i ryfel yng Nghydweli,
y ddau fab a laddaf fi.

Tudur Dylan Jones
9 Pwynt

Pennill ymson mewn cae

Mae hi'n dywyll a'r gwynt 'di cipio fy "mere"
A dwi'n chwilio amdano'n fan hyn ar fy nglinie.
Mae'r pump dwi 'di ganfod a'u gwisgo hyd yma
Yn betha' ma' gwartheg 'di 'neud ar y borfa.

Ifan Roberts
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell "Ynof fi mae siwrnai faith"

Ymson Aled

sef fy mrawd-yng-nghyfraith, sy' newydd
ddod yn dad (i ferch fach) am y tro cynta;
mae ei wraig yn Saesnes ddi-Gymraeg, ac
mae'r teulu bach ar fin symud i Loegr...

Yn ymyl traffordd mamiaith yr af i
â'r ferch yn gydymaith
lawr hewl gefen yr heniaith.
Ynof i mae siwrne faith.

Ceri Wyn Jones
9 1/2 Pwynt

Englyn yn cynnwys llinell "Ynof fi mae siwrnai faith"

(I gofio Dafydd Gruffydd, aelod o'r dosbarth cynganeddion, a fu farw yn 29 oed bythefnos yn ôl)

At fedd Dafydd Gruffydd, at graith yr âf
a rhoi torch cydymaith
yno. Er mynd mond unwaith -
ynof fi mae siwrnai faith.

Ynyr Williams
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud a phrofedigaeth

Roedd dyn bach yn byw yn Tahiti
oedd yn arfer gwneud limrics bach witi
roedd ar ganol gweud limrig
oedd yn witi drybeilig
ond bu farw cyn gorffen... 'na biti.

Tudur Dylan Jones
9 Pwynt

Limrig: yn ymwneud a phrofedigaeth

Roeddwn am garreg fedd gan Hedd Bleddyn
Un farmor, ac arni ddau rosyn.
O glywed y pris
Er imi ddweud plis
Gwrthododd im dalu â cherdyn.

Emyr Phillips


9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cegin

Aeth amser swper yn sarn
O adael y ford gadarn;
Wedi'r sgwrsio dros gyrsiau
Y mân sôn a'r ymnesáu,
O raid fe aeth y ford fwyd
Yn deulu a dawelwyd.
Swperau hwylus, parod
I bob un ei hun yw'r nod,
Yn ddi-hid o'r gegin dda,
Yn estron gan gyfleustra;
Lle estron heb swn llestri
Yw swper ein hamser ni.

Emyr Davies
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cegin

Mae'r gegin mor wag, - hogia'
mor wag, mor oer, ac mae'r ha'
mor welw, Gymru, eilwaith
â'r gwr fu'n prysuro'r gwaith
o urddo haul ei ardd o
i'w genedl. Mae egino
ei lafur a'i ôl hefyd
ar y ford, yn elor fud.

Mae cegin ei werin wâr
yn ei harch, yn ei charchar;
a'r wledd, fel ceginau'r wlad
yn oer, o ddiffyg cariad.

Ynyr Williams
9 1/2 Pwynt

Englyn cywaith: Llestr

(Blwch Pleidleisio Ceredigion )

Mae ei enau, er meined, yn siarad
dros sir ac rwy'n clywed
yn ei lais, waeth beth fo'i led,
gegau main y gymuned.

Ceri Wyn Jones
10 Pwynt

Englyn cywaith: Llestr[

Rhiannon

Yn unig, ac ar ei gwanna' hon aeth
i lanhau'r llestr gora'
iddo ef, a'i briod dda
hwyliodd y swper ola'.

Ynyr Williams
9 Pwynt

Can (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad

Ryw fis yn ôl yn y Western Mail roedd hysbyseb mawr yn gofyn
Am unrhyw un a ddymunai fod yn fardd i dîm y Dwrlyn.

Roedd ganddynt fardd. Flynyddoedd nôl. Mi wnaeth o englyn. Unwaith.
Ond rôl gweld safon gweddill y tîm, ddoth o ddim nôl yr eilwaith.

Roedd miloedd wedi dod ynghyd i gyfweliad mwya'r flwyddyn
Roedd y ciw yn mynd o'r Pîl i Sblott, a rownd Gabalfa wedyn.

Yr ymgeisydd cynta oedd Dafydd Huws, a dywedodd yn ddiwardd,
Dwi'm wir isho bod efo'r Dwrlyn, dwi jyst isho bod yn fardd.

Ni chafodd ef y swydd, fe'i siomwyd yn ddifrifol,
Mae bellach wedi derbyn swydd y chauffer i dîm Ffostrasol.

Mi es i i'r cyfweliad efo beiro, ffeil a phapur
A gofynnwyd hefyd imi ddod â chopi o'r odliadur.

Tri oedd am y bwrdd â mi, Ifan, Rhodri a Menna,
a gwelais felly'n wir mai fi oedd yr unig fardd oedd yna.

Dwedais i i ddechrau mod i'n gallu cynganeddu
A'r sylw ges i gan Ifan oedd, 'Be yn y byd'di hynny?'

Ac er mwyn dangos iddyn nhw fod safon i fy awen,
Es â 'Chilmeri' Gerallt efo fi. Doedd y rhain ddim wedi'i darllen.

Er cystal fy atebion i, yr ateb ges oedd 'Na'
A'r rheswm ges i ganddyn nhw... doedd y gerdd ddim ddigon da.

Tudur Dylan Jones
9 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell) : Y Cyfweliad

"Pam ti ishio bod yn blisman?" holai'r slob hefo'r goron a'r pips,
"I mi gael dal dihirod, a mynd ar lot o drips,
Lle ma' 'na ffeits yn digwydd, mewn caeau mawr pel-droed,
A thu allan i McDonalds, mi waldiwn yn ddioed
Hefo pastwn, a mi ddyrnwn, mi giciwn fy seis 'lefn,
Rhown chwistrell fawr o nwy "CS" er mwyn rhoi'r byd
mewn trefn.
Mi roddwn draed mewn cyffion, a dwylo amball un
Mi wenwn ar bob camra tra tynnai'r wasg fy llun.
A wedyn gyrru 'ngherbyd drwy bob golau coch 'n y dre
Â'm deunod cwcw o seiren a'm fflachiadau lond y lle.
Mi daflwn bawb i'r celloedd, cloi'r drws ar eu hôl yn go dyn
A dim ond rhoi te iddynt unwaith - y ni sy'n rheoli fan hyn.
Mi ofalwn na chaent weld cyfreithiwr , na ffonio na chymar na châr
Mi wasgwn i gyfaddefiad, fesul un, fesul dau , fesul par.
A wedyn o flaen y barnwr mi ro'wn fy ngair ar fy llw,
Mai fy fersiwn i o'r gwirionedd sy'n iawn , ac nid eu un nhw.
Gydag amser fe fyddwn yn sarjant ac yna'n inspector cyn hir
A chyn troad y rhod gewch chi weld mai fi fydd y gorau'n y sir.
Ac fe welech ryw ddydd 'rwyf yn sicr, 'rol niferoedd go helaeth o drips
Fy ysgwyddau innau o'r diwedd yn bwysa dan goron a phips ."

Rhodri Gwynn -Jones
9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Er mai bychan yw chwannen
Mae o hyd yn cnoi fy mhen

0 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Er mai bychan yw chwannen
Ei nid sy'n cyrraedd y nen.

1 Pwynt

Telyneg: Cornel

Dw i ar daith i ben draw'r dydd
o droeon, dwi ar drywydd
gwlad well, lle ga i weld dy wedd,
dy wên di yn y diwedd,
draw'r af wrth grwydro hefyd
i'r lle'r wyt ti'n gwmni i gyd.

Mae cornel y corneli
am hel y nos o 'mlaen i,
ond dio'r ots os oes 'na dro'n
y lôn, os ti'n dal yno,
yn olau, fy anwylyd,
lle'r wyt ti yn gwmni i gyd.

Tudur Dylan Jones
10 Pwynt

Telyneg: Cornel

Gwgu ar ddwy wal,
a blaen ei sgidiau bler
yn sgyffio'r sgyrtin
nes creithio sglein y paent.
Mae'i dymer yn dal
ar dân yn ei berfedd
a'i ddwylo wrth ei ochr
yn gnotiau gwyn.
"Aros di fanna- cwilydd!
Gwrthod rhannu'r crayons,wir!"
Mae'i 'winedd yn tyllu'i gledrau
rhag ymollwng,
rhag dangos gwendid.

Heno,
pan fydd Miss wedi dianc
rhag strach ei dydd,
a suddo i'w soffa gysurus
bydd yntau,
y crwt anghyfleus,
yn cicio'i sodlau'n ddiflas
ar gyrion bywyd rhieni di-hid,
gan fodio'r cylchoedd undonog
ar bapur wal pwl ei fyd.

Menna Thomas
10 Pwynt

Englyn ar y pryd

I Ymgyrchydd iaith

Er rhwydded fy ngheryddu- er ei rhoi
Mor rhwydd wrth ddedfrydu
'run mor rhwydd yw'r sicrwydd sy'
na thawelaf o'i thalu.

10 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 84

Englyn ar y pryd: Dirwy

"Dirwy", dyfarnodd y fainc
mor fawr â'ch cywilydd"
i 'ngwlad, gwerth fy safiad sydd
yn cario er eich cerydd.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 83

CYNIGION ERAILL

Cwpled yn cynnwys y gair "diod"

Dywed Brains, y diod bro,
I werin mae'n ddiguro.

Emyr Phillips

Yn rhemp , cyn troad y rhod
Meistroli a wna diod.

Rhodri Gwynn-Jones

Pennill ymson mewn cae

(Rhwng Ffarmwr a Bwgan Brain - ond prun yw prun ? )

Mae 'nillad i wedi treulio
'Dyw nghap i fawr iawn gwell
'Dwi allan ymhob tywydd
Mi welwch fi o bell.
Un main fu gwynt y gogledd
Ces ddigon o'i wawd a'i sen
Mae'r weirglodd o amgylch yn denau
A chwerthin y brain uwch fy mhen.

Rhodri Gwyn Jones

O Dduw, a oes gobaith i'm gyrraedd y wal
Cyn i gyrn blin Caradog gael y blaen a fy nal.

Emyr Phillips

Englyn yn cynnwys llinell "Ynof fi mae siwrnai faith"

Ynof fi mae siwrnai faith, a wyr gur
Ac oer gors anobaith
Ond i Ti, 'roedd penyd taith
Yn amdo 'rol gorymdaith.

Emyr Phillips

Limrig: yn ymwneud a phrofedigaeth

Bu farw'r hen ledi drws nesa ,
(Oedd ddim cweit o gwmpas ei phetha)
Yn ddigon ffwr-bwt
Tra'n 'nol glo o'r cwt
Fe'i claddwyd hi'n dwt dan y pricia.

Rhodri Gwyn Jones

Ar ôl cael ei ladd yn yn dyrnwr
A'i falu yn fân, fân fel siwgr,
Heblaw'r DNA
Fe fyddai'na le
Er iddo fod nawr yn un pentwr.

Emyr Phillips

Wrth geisio lleoli ei sbotyn
Fe graciod y ficer y potyn;
A heno mae son
Fod person o Fon
A'r gyrion Cwm Hyfryd fel conyn.

Ynyr Williams

Hen wreigan o ardal y Beddau
Sydd yn sgut am fynychu angladdau
Pan fo pawb yn galaru
Mae hi ar y fyny
Yn claddu i'r ham a'r teisennau.

Ifan Roberts

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cegin

"Oes 'na bobol?" Rwy'n holi.
Yna i mewn yn syth a mi.
Dreser lawwn a'r drws ar led
Yna y "Dowch am baned"
A "Steddwch, ciciwch y ci."
Aros i'r tecell ferwi.
Unigryw'r caredigrwydd
A'r rhoi fel arfer yn rhwydd.
Yfed wnaf yn yr afiaith
Lledu gwen mewn dillad gwaith.
A chael yn hon ddychwel hwyl.
I enaid, Mae' lle'n annwyl.

Emyr Phillips

Englyn cywaith: Llestr

Roedd o bren yn gymen gu. Yno, gwn,
I ddal gwin i'r Iesu.
Tra'r deuddeg yn deg o du
Achos i lawenychu.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.