Y Garfan v Ffostrasol
Cafodd yr ornest yma ei recordio yn Neuadd Llanddarog ar 17eg o Fai
Y Garfan

Ffostrasol

Cwpled caeth yn cynnwys y gair "hawl"
Tria i roi wyth sill bob tro
os oes hawl i geseilio!
Mari Lisa
8 Pwynt
Cwpled yn cynnwys y gair "hawl"
Mae hawl gennym i holi
Cyn ateb neb am wn i.
Jim James
8 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Cylch cinio
Rwy'n ddeg a deugain oed
ac arnai chwant ymuno
yn rhywle, rywfodd, plîs
ac unrhyw hen gylch ginio.
Mi fedrai ddweud wrth bawb,
a hynny'n ddigon gwylaidd,
fy mod i bellach, bois
yn ddyn sydd wedi "cyrraedd".
Cefin Roberts
8 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Cylch Cinio
Dau beth sy'n bwysig 'ma heno,
A'r cwmni dethol yn llawn,
Yw cael cinio gwerth ei fwyta
A gwr gwadd bach doniol iawn.
D.T. Lewis
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â phwysau
Rhyw ddiwrnod aeth Mari i'r gym
i gael bod yn heini a slim
ond rôl colli dou bownd
aeth y peiriant yn sownd
a bellach nid ydyw yn ddim.
Aled Evans
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â phwysau
Pe bai dyn deuddeg stôn yn rhoi'r feddwl
Ar haneru ei bwysau, s'dim trwbwl
Ond pe bai yn colli
Chwe stôn ar ôl hynny
Byddai'n anodd ei weled o gwbwl.
Jim James
8 1/2 Pwynt
Englyn cywaith: Rhaff
O'i fôn ces fy nigoni'n y naw mis
a mwy cyn fy ngeni
ond er bod rhaid ei dorri
mae'i ôl yn fy nghlymu i.
Mari Lisa
9 Pwynt
Englyn cywaith: Rhaff
Dringwr ar fin dibyn unig yw dyn
Ac ar daith flinedig
Oeda bob rhyw ychydig
A bwrw rhaff tua'r brig.
D.T. Lewis
8 1/2 Pwynt
Câ n (heb fod dros 20 llinell): Y Gymwynas
Mi garwn, drwy gyfrwng y gân 'ma, os caf fi,
ddiolch yn dalpia i'r boi a'th â'm lle i
yng nghiw y cantîn yr wythnos dwytha,
ac ordro'r cig oen, oedd o'r tamad ola'.
Dwi'n licio cig oen, o'n i braidd yn siomedig,
'mond lasania oedd ar ôl, ac roedd hwnnw'n
ddiawledig.
Roedd y pasda fel gwadan hen esgid ddigalon,
ac am y gweddill - 'da chi'm ishio'r manylion.
Malcolm Phillips oedd enw'r boi 'ma.
Mi gafodd ddyrchafiad y flwyddyn dwytha,
ac am hynny mae o'n meddwl 'i fod o'n dipyn o dduw,
ac ma' rheiny bob amsar yn ca'l neidio bob ciw.
Ta waeth, bora wedyn, doedd na'm llawar yn gwaith.
O'r igian yn y swyddfa, doedd 'na mond saith,
a rhyw ddynion go bwysig hyd y lle fath'a gwenyn,
i gyd yn sdwna o gwmpas y gegin.
Mi ddalldon ni wedyn fod y staff yn o symol,
ac amball un 'di ca'l noson uffernol.
Mi oedd r'hen Falcolm Phillips 'di ca'l dipyn o boen,
ac roedd o, fel y gweddill . . . wedi byta'r cig oen.
Cefin Roberts
8 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gymwynas
Daeth Sais hirfelyn gwalltog i fyw drws nesa' i mi
Cyrhaeddodd mewn rhyw lori yn llawn o gelfi ty
Fel person cymwynasgar cynigiais roi help llaw
I gario'r trugareddau rhag ofn y deuai glaw
Yn lle mod i'n streinio cychwynnais gyda llun
A syrthiais yn fwriadol a chwalu Leisa'r Cwin
Bu'n tuchan wrth ei hunan wrth geisio cario bwrdd
O achos mos i'n brysur yn troi y dwr i ffwrdd.
Yr oedd y bwrdd yn anferth a'r drws yn dipyn llai
Fe'i llifiais yn y canol a lle bu un roedd dau
Roedd ganddo offer trydan a thaclau lu at iws
Heb bwer pwy wnaeth tybed a meddwl dwyn y ffiws
Esboniais iddo'n gynnil fod gwerth mewn awyr iach
'Rôl gwthio fy mhenelin drwy ffenest y ty bach.
Ac yna 'ran gwrteisi dywedais fod hi'n faith
Mai byr oedd oes pob estron pe na bai'n dysgu'r iaith
Er syndod 'rôl fath groeso mhen deuddydd pacio wnaeth
Ni holodd am fy nghymorth i fynd i Birmingham
Ar ôl fy nghymwynasau 'rwy'n methu deall pam.
Emyr Davies
9 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ty
(I'r adar brith o'r tu draw i'r ffin)
Mae rhyw fod wedi codi,
dalcen wrth fy nhalcen i,
balas o fwthyn unnos -
rhyw nef i gael bwrw'r nos.
Doedd angen yr un pensaer,
na bricwaith, seilwaith na saer,
a llanast o gynllunio
yw DIY'n ei dy o.
Heb os, pan ddaw'r haf i ben,
ei nod fydd codi aden,
ond o'i ôl, fe edy warth
y baw ar hyd y buarth.
Mari Lisa
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ty
Ty Haf
Aelwyd lle gynt bu teulu
Diddan, a hen fan a fu
Unwaith yn ran ohonom
Nes i bres oresgyn bro
Mewn cenllif o fewnlifiad
A dwr brwnt yn bwydo'r brad.
Heddiw, a'r llif bron boddi
Ein hil, a'n goresgyn ni
Yn ffaith, trodd yr aelwyd ffel
Yn dy, ac yno'n dawel
Hen iasau oer digysur
Yw maen ar faen pob rhyw fur.
Dai Rees Davies
8 Pwynt
Pennill ymson mewn maes awyr
Pam ddiawl mae'r Springer Spaniel
yn gwynto 'magiau i?
Rwy'n delio nawr mewn Ewros
nid pot nac LSD.
Alun Jones
8 1/2 Pwynt
Pennill ymson mewn maes awyr
Rwy'n dweud wrth y peilot
Os aiff mas o betrol
Mae digon yn Tesco
Am bris reit rhesymol.
Emyr Davies
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Marwygaf pob limrigwr
Ond gwell yw soned y gwr
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mawrygaf bob limrigwr
Oedd ddoe yn y sioe rwy'n siwr.
0 Pwynt
Telyneg: Cwmni
(wrth edrych ar y lleuad)
Dy olau'n fraich amdanaf,
yn gysur drwy oriau'r nos,
a'th wên yn denu
o gylch dy wyneb garw,
rhyw obaith yn ôl i fêr fy myw.
Er bod pellter rhyngom,
haen o wydr tenau
sy'n fframio'n
cyfeillgarwch ni.
Hwyliodd eto heibio
hen gwmwl cras ei lais,
i ddatod cysur golau,
i guddio'r wên
â niwl o grechwen loerig,
gan ysgaru pob gobaith,
a gadael dagrau'n pledio
tu mewn i ffrâm
ein cyfeillgarwch ni.
W. Dyfrig Davies
8 1/2 Pwynt
Telyneg: Cwmni
Yn ôl ei harfer
Rhoddodd lestri i ddau ar y lliain glân
A gweiddi ar stepen y drws
"Ifaaan" "Bwwyyd"
Cyrhaeddodd yr ofalwraig cyn hanner Dydd
I ffugio
Er mwyn i'r weddw ddryslyd
Gadw ei hunig gwmni.
Dai Rees Davies
9 Pwynt
Englyn ar y pryd
Yn dwt ar fy sgrin ces inne eco
A'r docyn o'm beie
A heddiw nid oes madde
I un stiff yn y long stê.
8 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 76 CYNIGION ERAILL Cwpled yn cynnwys y gair 'hawl'
Deil, drwy bob tân a dilyw,
hawl i farn, a hawl i fyw.
Cefin Roberts
Mynnu'r hyn a ddymuno
yw hawl dyn i'w aelwyd o
Alun Jones
Pennill ymson mewn maes awyr
Dw i ag ofon uchder...
Ma'r cymyle'n niwl i mi...
Pam 'mod i'n ishte yma?
Diawch! Fi sy'n ei hedfan hi!
W Dyfrig Davies
Telyneg: Cwmni
Er gwaetha'r grechwen gyson
A geiriau'n pledu'r croen,
A'r chwarae'n troi bob amser
Yn fogfa drwm o boen;
Ei unig gais ar hyd ei oes
Oedd troi yn 'hwyl' y tynnu coes.
Rhywsut fe'i esgymunwyd
A'i gadw'n bell i ffwrdd,
Gan wadu iddo'r cyfle
I fod yn rhan o'n cwrdd,
Gan godi wal i'w gadw mas,
A'i chodi'n uwch 'da geiriau cas.
Ac er bod pawb yn gwybod
Mor frau yw chwarae plant
Wrth dynnu ar ei gilydd,
Ac nad oes neb yn sant;
Ei freuddwyd fawr oedd bod y 'fi'
Yn dod i berthyn nawr i 'ni'.
W. Dyfrig Davies
Englyn ar y pryd: Beddargraff Warden traffig
Swyddog y cap Gestapo- yma'n oer
Mewn arch wedi'i chlampio
Hen deirent ein moduro
O'i wal oer ni ddychwel o.
8 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 76 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled yn cynnwys y gair "hawl"
Ynghlwm i'r llwm ym mhob lle
Yw'r hawl i fwyd o rhywle
Nid oes hawl i gadw swn
Na sisial ganol sesiwn
Pennill mawl/ dychan: Cylch Cinio
Os wyt am noson o ymlacio
Does unman gwell na chylch cinio
Bydd gofyn tâl fel y gwyddost
Neb i ofyn o ble daethost
Ni fydd angen it gymerys rhan
Tra'r gwr gwadd yn dweud y cyfan.
Yn fisol mae'r "Cylch" yn cyfarfod
Cawn fwyta, can lymaid, cawn sgwrs,
A chyfle i bawb gymdeithasu
Wrth loetran uwchben pedwar cwrs.
A heno fy mhlât oedd mor llwythog
Mi fethais ei orffen i gyd,
(Mae'r elw, mae'n debyg, er helpu'r
Newynog mewn rhyw drydydd byd!)
Daw'r cig o Argentina
A'r tatws o wald bell
Y sbrowts o'r Iseldiroedd
Am fod nhw'n blasu'n well
Ond Cymro yw'r siaradwr
Un lleol gwr o'r fro
Ac araith uniaith Saesneg
Fel arfer yn gwneud tro.
Limrig yn ymwneud â phwysau
Mewn Olympics yn ymyl y Sarne
Ac Ifan yn codi y pwyse
Fe suddodd o'r golgw
A'r hyn oedd yn amlwh
Oedd capan a twll lle y bu e'.
I bwll nogio o eiddo y cyngor
Aeth menyw 'run pwysau a thractor
Fe sinciodd 'na drueni
Ond wnaeth hi ddim boddi
Aeth y dwr mas i gyd dros yr ochr.
Colli pwysau oedd Mari yn treio
Er mwyn cael mynd allan i nofio
'Rôl trechu y chwen
y prawf ddaeth i ben
ond nawr mae ei phen wedi chwyddo.
Englyn cywaith: Rhaff
Her angau yw i'r dringwr- a'i halio
Hyd hwylia wna'r morwr
Yn ei sêl ei thynnu'n siwr
Ar ddeulyn wna'r addolwr.
Pennill ymson mewn maes awyr
Roedd y plên ddaeth lawr i'r rynwe
Yn eithaf agos nawr
Rwy'n troi fy nghar yn ôl fan hyn
Mae'n saffach ar ffordd fawr.
Rwy'n eistedd fan hyn mewn eroplen
Un adain wan a'i golwg hi'n hen
Ond yn holloll gysurus os gnaiff hi stopio
Bydd na ddigon ohonom i fynd allan i'w gwthio.
Telyneg: Cwmni
Mor wych yw cwmni pobol ffraeth
Llond bol o chwerthin iach,
Storiâu difyr ar bob llaw,
Ymysg y siarad bach.
Ond gwell er hynny wedi'r ffair
Yw gwasgu llaw heb yngan gair.
Yma ger y draethell unig
Ymhell o dwrw'r byd
Y Gwanwyn ddaeth a'i guddio
A gwisg o liwiau drud.
Pob menter fach naturiol
A dyf heb gymorth llaw,
Yn diolch am gwmpeini.
Yr heulwen gwynt a glaw
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

