Dolgellau v Manion O'r Mynydd

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yn Galeri, Caernarfon ar 11eg o Fai 2005

Dolgellau

Dolgellau

Manion O'r Mynydd

Manion O'r Mynydd

Cwpled caeth ar yr odl "ans"

[Elwyn gollodd ei falans
'rôl iddo biso'n ei bans!!!!!]

Arwyn Groe
8 Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'ans'

Hoff wyf o holl sylw'r ffans
Mae'n neis- ond maen nhw' niwsans

Cynan Jones
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Y Wasg

Wrth eich bodd yn dyrchafu
Selebs di-ddim, di-ddawn,
Ond fawr iawn o ddiddordeb
Mewn newyddion go iawn.

Mair Tomos Ifans
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/ dychan : Y Wasg

Os wyt ti'n esgymun
Heb ddima' goch y delyn,
Wel gad i ni dy godi fry
Er mwyn dy saethu wedyn.

Cynan Jones
8 1/2 Pwynt

Pennill ymson mewn pwyllgor

Rwy'n gwylio'i geg yn symud,
Ac eto'n dweud dim byd;
Er ei lygaid glas sy' ar agor,
' Wedi cau' sydd ar y ddor -
sy'n arwain at y dyn go iawn, tu ol
y celwyddgi amryddawn
Sy'n tindroi'n ei lif-eiriau arobryn
Hwn, sy'n hoff o'i lais ei hun.
Be wyr hwn am fy myd?
Yn siwt ei ragfarn lychlyd?
Ei ddwylo'n bypedau eglurhad, ond llwyddo dim -
ond plannu had, amheuaeth, am hen gyfundrefn,
A'r symud 'mlaen, ond yn fy mhen...
Gadawaf bwyllgor arall - o ngho,
Gan geisio'r rheswm pam, wnes i gytuno - i fod arno?

Nia Medi
8 Pwynt

Pennill ymson mewn pwyllgor

Mae hi'n iawn i bawb gael siarad
Dyma sail ein cyfansoddiad
Ond er mwyn cael chwarae teg,
Rhaid i honna gau ei cheg.

Edgar Parry Williams
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Brwydr

(yn erbyn rhedyn,sy'n parhau i ledu yn enwedig yn sgil y newidiadau ym mhatrymau amaethu ar yr ucheldir)

Ar y foel mae arfau ir
Yn hollti hen laswelltir,
Rhengoedd distwr llechwraidd
 grym yng ngwytnwch eu gwraidd
Yn anafu cynefin-
Y tir hwn lle gynt bu trin.
A rhaid yw rhoi'n y frwydr hon
Ein magal o gemegion,
A'u heillio wnawn a chyllell.
Ond a gawn gatrodau gwell
Na duon glewion ein gwlad
I'w hawlio a'u pystylad?

Rhys Gwyn
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Brwydr

Ynof y mae dau wyneb
A dyrnau noeth dros dir neb
Y galon, ac o'r golwg
Tan blygion gwên, mae hen wg
Yn bwrw llach lle bu'r llaw hael;
Yn ddyfal o ddiafael
Rhyw ewig wyllt mewn tir gwâr
Yn rhedeg gyda'r adar
Wyf. Ffoadur rhwng muriau
Llonni, siomi a chasáu
Yn y dirgel, a'r gelyn
Ydw i, y fi fy hun.

Nia Powell
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Dosbarth Nos

Nos Lun mae'r dosbarth yoga, lle dwi'n dysgu plygu'n wych,
Nos Fawrth, 'Hen Grefft Byd Amaeth', lle dwi'n dysgu plygu gwrych;
Nos Fercher, 'Iaith Lleiafrifol' , rhwng chwech a naw - 'Gwyddeleg',
Ac ar ol deg yn y Llew Coch, dwi'n rhugl mewn Llydaweg!
Nos Iau, dwi'n mynd i DIY, sef paentio a phapuro,
A tymor nesa', cymal dau - fyddai'n teilsio, wedyn plastro.
Nos Wener, dosbarth Salsa, lle anghofiai'r byd a'i stwr
Ymgolli yn y ddawns am sbel,
Cyn mynd adra i realati - a'r gwr!
Nos Sadwrn, rhaid mi aros mewn, i siarad efo'r bor
Ond dim ond tan ryw han' di saith
Pan mae o'n mynd i ymarfer cor!
Sy'n dod a fi'n daclus at nos Sul,
Y dosbarth gorau un;
'Clec y Gynghanedd', yn y Llyfrgell Rydd
efo bardd del iawn o Lyn....

Nia Medi
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Dosbarth Nos

Dwi newydd orffen dosbarth nos
A ddysgu iaith y merched;
Er bod 'na un yn byw 'fo fi
'da ni ddim ar yr un blaned.

Pa bryd mae 'Na' yn Na' go iawn
A ddim yn 'gad'mi feddwl'?
A sut mae 'weithiau' ambell waith
Yn meddwl 'dim o gwbl'?

Ystyr ' ti adra' 'fory, del?'
Yw ''Dwi isio'r car i siopio'
A phan mae'n fud, heb ddim ond gwên
Mewn awr mi fydd 'a ddwrdio.

Ym mhle mae'r 'Peth 'na, o wyddost ti,
Mae'n ymyl hwnna'n fancw?'
A phwy 'di mab, o nace, brawdMerch chwaer i pwy ti'n galw?'

Ond gwn nad wyf yn deall dim
O'i geiriau pan mae'n mwydro
Ac er i i gael NVQ,
Beth ddywed, 'Ti'm yn gwrando'?

Cynan Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn cywaith: Traeth

(I fy mamgu,yr oedd bywyd glan mor yn gymaint rhan ohoni ac a oedd, er dioddef efo Altzheimers,mor annwyl ag erioed.)

Pob ol troed oedd yn oedi-am ryw hyd
Mor hawdd caent eu golchi,
Nes deuai trai distewi
Eto i'w haur dywod hi.

Rhys Gwyn
9 Pwynt

Englyn Cywaith: Traeth

Y mae 'na draeth ym mhen draw un- y Dydd
lle nad oes ond ewyn
Yn darfod, ac i'w derfyn
Y doi ar dy ben dy hun.

Nia Powell
10 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y bai mawr ar bo Meuryn
Yw rhoi deg i'w gerdd ei hun.

1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y bai mawr a r bob Meuryn
Yw dweud 'Dolgellau mond un'.

1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud â bwyta

R'ol sgodyn a tjips yn y Bala
ges i gythraul o boen yn fy nghylla;
Mynd tu ol i lwyn drain
Gorfu mi'n Rhydymain,
O'n i'n 'fine' erbyn cyrraedd Dolgellau!

Nia Medi
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â bwyta

'Rôl bwyta'i gymdogion, 'roedd Wombi,
y canibal mawr, heb ei lenwi,
mi fwytodd ei goesa',
ei freichiau a'i glustia;
meddyliwch beth nesa', myn diân i.

Edgar Parry Williams
9 Pwynt

Telyneg: Gwyrth

(i Elis)

Fe ddaethost, bach, i'n bywyd
yn bryder i gyd,
yn "efallai",
yn "neb yn sicr",
a'r ansicrwydd yn ofid cyhyd.

Ond wrth dy fagu'n ddiddos
diflannu wnaeth yr "os"
a
bellach, bach, ti'n brysur,
yn gysur o gyfri grisiau,
enwi lliwiau ac adnabod llythrennau,
yn gafael yn sownd nôl a mlaen ar y siglen
fyny ac i lawr un, dau, tri, ar y llithren,
"dau gog bech yn mynd i'r coed
welingtons newydd ar bob troed"
yn canu tra'n camu'n y mwd a'r llaid
yn dwrdio dy frawd efo "ffon i nain"
sy' 'di "colli taid" , parablu dibaid.

Er dy fod ar adegau'n gythraul mewn croen
a'th dantryms dwyflwydd yn gur pen, yn boen
Weithiau, minnau'n ysu eisiau cysgu,
A'th bendolcio'n fy styrbio a'm cadw'n effro,
Dwi'n cofio dy fod ti hefyd
Yn wyrth, bach, ac yn werth y byd.

Mair Tomos Ifans
9 Pwynt

Telyneg: Gwyrth

Er anhawsed fu' esgor
A thithau'n gaeth yng nghroth y Gwanwwyn,

Er dy lusgo'n ddienaid
I wagle'r disgwyl
A sgrech dy rawd,

Er chwythu'r anadl gyntaf
I ddwfn d'ysgyfaint
A brwydro â thi
Yng ngwyll y tir llwyd,

Yr oeddet
Cyn pen dim,
Yn llamu dros ffin petruster
-gwegian ar goesau cam
a herio 'deinioes fregus
cyn sugno egni dy hil
â holl nerth dy ddiniweidrwydd.

Phyllis Evans
9 Pwynt

Englyn ar y pryd

( I E- Bay, siop y we ar gyfrifiadur yng nghornel yr ystafell fyw)

I be myn dallan i'r byd- anwaraidd
I wario bob munud?
Mae i ninnau mewn ennyd
Yn hon holl straeon y stryd.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl ans

(Trafferth mewn siop trin gwallt)

Y cwrls aeth fel rhyw frwsh cans,
Y siarad drodd at shiwrans.

Rhys Gwyn

Heb y car y mae Bob cans
heriodd gwmni'r inshiwrans.

Arwyn Groe

Pennill Ymson mewn Pwyllgor

Sawl gwaith 'dwi wedi cofnodi
Sylwadau y penbwl o'r blaen?
Sawl tro 'dwi wedi clywed
Y ramblo ymlaen ac ymlaen
Ond wrth deipio'r cofnodion
Yn hyn sy'n creu trwbwl
Yw nad ydi'r hen benbwl
Yn gwneud synwyr o gwbwl!

Mair Tomos Ifans

Cywydd (Heb fod dros 12 llinell): Brwydr

O'r bryn gwyn uwch maes y gad
edrychodd; Un edrychiad
di-daro ar y dewrion
waeda ei ran drwy'r frwydr hon.

Ni oedodd uwch y gwaedu;
o'i fryn gwyn uwch dyffryn du
aeth ymlaen drwy'r waen a'r rhos
yn heddwch ei fyd diddos.

Ond islaw a glaw drwy'r glyn
a hen fur yn diferu'n
waedlyd; un heb ei hudo,
hwnnw'n brin oedd byddin bro.

Arwyn Groe

Limrig yn ymwneud â bwyta

Mae byddin o deulu ma'i ginio
Bum wrthi ers chwech yn coginio
Fe losgais fy mys
Wrth achub y pys
'Dwi'n laddar o chwys! Ydio werth o?

Moron a phanas, a phys a ffa,
Bara a thatws, reis a phasta,
Crempog a jam
Sleisen o ham
A grefi fy mam, iym iym. Bwyta!

Bwytais saith buwch a thri eliffant
Ceffylau di ri, cathod - tua chant
Saith corrach a chawr
A Chrocodeil mawr -
Tra'n chwarae am ryw awr efo'r plant.

Englyn ar y pryd: Siop

Yno 'roedd y nos ar ei hyd- un wraig
Ar werth, o dan ddedfryd
A dyw'n stremp ar fin y stryd
Hi yw beiau ein bywyd.

8 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl 'ans'

Da yw Dai am 'song an' dance'
A'i ffarmio sy'n berffromans.

Pennill mawl/ dychan : Y Wasg

Glanio am ddiwrnod mae'r haid o locustiaid
Chwilio am feiau a chreu eu cythreuliaid,
Chwyddo pob awgrym yn ffeithiau- bwrdd- brecwast
Gadael i eraill ymdopi â'r llanast.

Pennill ymson mewn pwyllgor

Gyfeillion, er mwyn arbed amser
'Rwy'n cynnig cyn mynd am fy swper
ar air ac egwyddor
heb siarad dim rhagor
Is-bwyllgor i drafod y mater.

Fe gynigiodd y cadeirydd
Ac fe eiliodd y trysorydd,
Tra mae'r pwyllgor arna' i'n gwenu
Codaf fy nwy law i fyny.

Mae'n nhw'n dweud fod ein cadeirydd
Yn ffansio'r ysgrifennydd,
A bod hwnnw'n ôl yr hanes
Yn byw tali hefo wyres
Ein trysorydd, afrad, meddw,
A fu'n 'doiboi' dwy wraig weddw.
Heno, mae'r pwyllgorwyr ffyddlon
Yma i ethol gwell swyddogion,
Mi wnaf finnau, heb gywilydd,
Gynnig f'enw i'n gadeirydd.

Englyn Cywaith: Traeth

Mewn arswyd y breuddwydi- di weithiau
Am daith lawn trybini,
Ond gwyddost y daw gweddi
 gair Duw i'th gario di.

Limrig yn ymwneud â bwyta

Mae Wmffra yn slochian wrth fwyta
A'i ben yn y bowlen i'w glustiau,
A sŵn digon ffôl
Yn dod o'i be ôl
Baedd newydd Bryn Ddôl ydyw Wmffra.

'Rôl talu am wledd i Samantha
a gwinoedd wrth olau canhwylla',
mi daflodd un sws
i mi, a heb ffws
mi neidiodd ar fws i fynd adra'.

A welsoch chi Ifan fy nghefnder
Fu'n bwyta gormodedd o fraster?
Mae'n drwm ac afrosgo
Heb drowsus i'w ffitio,
A botwm ei fol o fel soser.

Mi redodd hen wraig i Sir Fflint
Ei marathon olaf yn gynt
Oherwydd ei bod hi,
'Rôl bwyta'r holl gyri
yn cael ei rocedu gan wynt.

I garchar am oes yr aeth Jethro
Am drosedd mor fawr â llofruddio
Ei wraig yn New York
Hefo cylleth a fforc
Am iddi roi porc ar ei blât o.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.