Caernarfon v Tir Mawr
Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yn Galeri, Caernarfon ar yr 11eg o Fai 2005
Caernarfon

Tir Mawr

Cwpled caeth yn cynnwys y gair "ci"
Lle blêr ydi Cwînsfferi
A diflas, fel Conas Ci.
[gydag ymddiheuriadau i'r trigolion !]
Robin Evans
8 1/2 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Ci'
Yn y gwylia'Meddgelert,
Haws i gi yw canfod sgert.
Gareth Williams
8 Pwynt
Pennill Telyn: "Clywais sôn ar hyd y pentre'"
Clywais sôn ar hyd y pentre
Na ddaeth y wennol nôl i'w chartre.
Ai gwenwyn? Gwn? Ai difrod stormydd?
Neu fod dan fondo nodau newydd?
Gwyn Erfyl
9 Pwynt
Pennill Telyn: 'Clywais sôn ar hyd y pentre' ''
Clywais son ar hyd y pentre
Fod Wil John yn llnau ei simdde
Hefo semtex, darn lwyth lori,
Mae o rwan run fath a'r stori
Huw Erith
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag unrhyw adeilad
Yn ôl dyn drws nesa, gwr Falyri,
Sy'n hannu o ardal y chwaréli,
Yr enw 'di 'bonc',
Felly pwy ydi'r ionc
Nath fedyddio y lle ma yn Galéri ?
Geraint Lovgreen
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag unrhyw adeilad
Fe gododd o fyngalo tlws
Ar gyrion maes awyr y Rhoos
Cred pawb o bob lliw
Taw portalw yw
Ma coblyn o giw wrth y drws.
Gareth Jones
8 1/2 Pwynt
Cywydd serch (heb fod dros 12 llinell)
Yng Nghaerdydd mae 'nghariad i
â'i dinas laes amdani
a'i sodlau'n fain fel drain drud
yn y Bae, lle mae'i bywyd
yn fuddau o gelfyddyd
a hithau'n mwynhau o hyd.
Yma, o dan glyma' gwlad,
hi yn siwr yw fy siarad -
yr holl-bwysig unig un!
Ond yno, o hidio wedyn -
neb yw hi lawr yn y Bae;
yn y weilgi dan algae!
Ifan Prys
9 Pwynt
Cywydd serch (heb fod dros 12 llinell)
O 'mlaen i mae lorri laeth,
un hir, mor hir â hiraeth,
un dinog, ddiog, un dda
i ddim ar y ffyrdd yma,
yn llond y cloddiau ei lled
a'i golau'n cochi'n galed.
Dringo mae'r pellter rhyngom;
adra yw'r allt araf, drom;
Aeth fy nghalon ohonof
wrth fyllio ar deithio dof
mae'n cymryd aden gwennol;
Acw, fin nos, caf hi'n ôl.
Myrddin Ap Dafydd
9 Pwynt
Pennill Ymson mewn iglw
( O gofio fod hinsawdd y byd yn newid bob dydd)
Ma' bywyd yn anodd gythreulig
a lletchwith i Inuit fel fi:
Rhaid meddwl sawl gwaith cyn g'neud panad,
a phoenus yw trio pî-pî.
Mae'r morloi yn araf ddiflannu
a dynion sy'n gadael eu hôl,
Ond yn waeth na hyn, 'mhen degawd neu ddwy
....... fydd gen i ddim cartra ar ôl.
Llinos Angharad
8 1/2 Pwynt
Pennill Ymson mewn iglw
Mi ddyliwn i fod wedi amau wrth ddarllen hysbyseb 'Ty Gwyn'
"Ar werth am brin ddeg mil o bunnau : Tyddyn , Can Acer a Llyn.
"Cyfeillgar yw'r ty i'r amgylchfyd, yn gweddu ir dim efo'i fro"
Wel bechod na fyddai y gwynfyd o'i gwmpas mor ffeind ag ydi o
"Lle tân hen ffasiwn trawiadol", "O ho!" medda' fi, "Simdde fawr!"
Fe gynnodd y tân yn rhyfeddol, cyn mynd lawr i'r môr drwy y llawr
"Fe'i gwnaethpwyd mewn dull traddodiadol ag eto mae'n dy open plan
Rwy'n amau os gweithred ddelfrydol yw 'sgota dan dô lawr y pan.
"Pob haf yn dragwyddol yn gwennu yr haul sydd yn wresog a hardd"
Gobeithio na wela' i hyny, fydd gen ddim Tyddyn na gardd.
Rwy'n oer ac yn las megis Macrall, mi fwrdrwn i baned o de
ond fyw i mi ferwi y teciall rhag ofn i mi ddadmer y lle
Fy nhships sy' fel darnau o bren, wedi rhewi yn gorn ar y pedyll
a'r nenfwd sy'n cyffwrdd fy mhen tra'n dripian yn braf ar y ganwyll.
Fy meic yn grybibion 'rol noson o fellt a brandi fy nghi yn caledu
Mae Pengwyns ym mocs y mashîn torri gwellt sydd allan yn 'cefn wedi rhydu
O! am gael cwt sinc yn Nhre'r Ddol, neu focs carbod yn rhywle'n Y Bari
Os caf i ddod oddi yma'n ôl rwy'n gwybod y lladda i Bob Parry
Gareth Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Coed
Mae'r dderwen yng Nghoed y Brenin - heno
Ond er gwaetha'r fyddin
Yn drwch, ac er gwaetha'r drin
Daw ei rhyddid o'i rhuddin.
Robin Evans
8 1/2 Pwynt
Englyn Cywaith: Coed
(ym mis Mai)
Un waith, roedd mastiau noethion yn y cwm
A phob cwch yn deilchion,
Yna saer y llynges hon
'Laesodd ei hwyliau gleision.
Myrddin Ap Dafydd
9 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Penderfyniad
Aeth pob enwogrwydd barddol drwy fy mysedd 'fath â 'slywan
Felly... newidis - i f'enw ... i Gerallt Lloyd Ywan.
Athrylith o syniad! Ac am wythnos neu ddwy
daeth gwahoddiadau darllen - a niceri - o bob plwy.
Ond at fy nrws daeth Gerallt... Gyda'i fwyall.... (Cês-i gip)
Rôn i'n ofni baswn-i'n cysgu gyda'r beirdd talcen slip,
gyda phaladr englyn yn fy nghefn, neu gerddi concrit am fy nhraed
...ond pan lefarodd Gerallt, doedd o ddim am fy ngwaed.
"Petaet ti'n fodlon gwneud rhyw ffafr fach yn ddiymdroi...""Ga'i faddeuant?!"
"Na... cei fywyd newydd. Fel gyrrwr bws Caelloi...
Mae 'na fardd sydd ar ei hôl hi â'r taliadau ar ei awen...
Sdim angen torri'i goesau... jest sugna ei gystrawen...
mae fy nulliau disgyblu yn ddomestig ...ond annifyr...
Hwfra fo, Ifor!!... ond gwna fo'n fyrfyfyr!!"
"Iawn... ond pwy 'di'r bardd 'ta?"
"Neb llai na Myrddin ap."
"Ond sut wnawn i ddal o?!"
"Bydd rhaid cael "honey trap...
Dywedwn fod Lovgreen wedi'i hudo fo i ddawns;
ac wedyn fydd gan yr heddlu (na thîm Tir Mawr) ddim siawns"
A dyna wnes... ond cofiwch, cyn 'nghollfarnu yn rhy chwim...
gyda'r Talwrn, 'fath â'r Maffia, chei di fyth ddeg marc am ddim.
Ifor ap Glyn
10 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):Y Penderfyniad
Fe wnaeth Now a Nel benderfyniad o'i chlywed yn mewian yn hu
i beidio cyweirio'r amddifad, a'i gadael drwy'r drws mewn i'r ty.
Ar ol cael powlenaid diflannodd, i grombil y cwpwrdd dan sinc
ymhen hanner awr ymddangosodd naw cath fach noethlymun a phinc.
Roedd cathod ym mhobman yn chwarae, rhai trilliw, rhai pumlliw, rhai brech
Os mai deg a oedd yna'n y dechrae, mewn deufis roedd pedwar deg chwech.
Daw da o bob drwg meddai'r idiom, "Wel un peth reit braf " ebe Nel,
"yw ers i'r holl giathod ddod atom ni welais lygoden ers sbel.
Roedd Now fel dyn drwg ffilm James Bond a chwrcath fel llew ar ei lin o
Roedd ganddyn' nhw axeminster ond, fe ddylen' fod wedi cael leino.
Y cathod yn fanno'n eu baw yn magu yn frwd ac anwadal
Now at ei ganol, gwn dwr yn ei law, heb obaith caneri o'u hatal.
Doedd dim dal ar y diawled bach randi, yn cathrica ym mhobman yn llu
a'u swn nhw wrth gyd-ganu grwndi fel pe bai 'na dractor yn ty
Y fintai a dreblai bob wythnos a nenfwd y ty ddeuai'n is
Mewn cornel roedd CD 'Gwerinos' yn mynd rownd a rownd ers dau fis.
Edrychai staff 'Safeway' mewn syndod, roedd llai o waith bwydo'n y sw
Dwy droliad o dynia' i'r cathod a llond carrier bag iddyn' nhw
Roedd llai o gathod yn Japan nag oedd ym 'Mhant Newynog'
Mi fyddai angen, yn y man, gael madael o'r rhai blewog.
'Rol crafu pen am bedwar mis death penderfyniad sydyn-
Agorwyd fwyty Siamese s'yn gwneud bwyd anghyffredin.
Gareth Jones
10 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd Un nerfus iawn ar fws wyf 1/2 Pwynt
Yn udo ar drên ydwyf.
Ateb llinell ar y pryd
Un nerfus iawn ar fws wyf
Yn wael mewn bws na welwyf
1/2 Pwynt
Telyneg: Llanw
Cau fy llygaid yn dyn i atal y dagrau hallt,
Methu deud dim. Rhoi llaw ar dy dalcen a'th wallt.
Weithiau fe ddaw'r angau fel angel i ddofi ingoedd,
Yma yn llarpiwr sy'n gyrru ei gancr i falu'th gelloedd.
Cofio dygyfor gorfoledd yng nghilfach dy freichiau
A'r ochenaid o ymlonyddu fel gwrthbwynt i guriad y tonnau.
Y gusan olaf ar wefusau di-wefr a di-fiwsig
Cyn mordeithio i ddieithrwch nos ar yr ynys unig.
Gwyn Erfyl
10 Pwynt
Telyneg: Llanw
(Cymuned Tiger Bay)
Daethant, rhwng pawennau teigar y môr
I mewn i'r bae pan oedd hwnnw'n llawn,Groegwr, Somali,
Arab, Cheinî, West Indi,
Dynion ar daith, heb hafan go iawn.
Ar strydoedd merched teulu'r Bute,
Frances, Christina, Sophia'n y doc,
Rhwng camlas a thrên,
Rhwng dianc a hanner gwên,
Â'r tonnau'n uchel, glaniodd y broc.
Disgyn i freichiau gwynion y mamau,
Disgyn mewn cariad ag alaw bêr
Y gitarau calypso,
Pan oedd llongau'r cei yn siglo
I hwiangerddi Loudoun Square.
Llusgodd y llaid i'r golwg gyda'r trai,
Daeth llanw'r cyfoeth llonydd i'r bae,
Ond y cwmni clyd
Ar stepen drws y stryd,
Lle mae? Lle mae? Lle mae?
Myrddin Ap Dafydd
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Ynys
Wrth i'm deimlo'n aflonydd- ar dir Mawr
Y dramâu a'r stormydd
Di- derfyn. Ar derfyn Dydd
Af i ynys Eifionydd
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 CYNIGION ERAILL Pennill Telyn: Clywais sôn ar hyd y pentre
Clywais sôn ar hyd y pentre
Fod gan dyn drws nesa fronne,
Fod o'n lliwio ei ewinnedd,
Ydi wir, mae'n ddyn go ryfedd !
Englyn ar y pryd: Ynys
Â'i thwyni i'm gwythiennau yn dawel
Pan fo'n dywydd weithiau
Ond rhy i mi ei dramâu
Wedyn, mewn llongddrylliadau
8 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Ci'
Ar y lein rhwng corlanna'
Nid ei werth yw pris ci da.
Gareth Neigwl
Nol allwedd oedd o'n feddwl,
Os cweir,wel nol ci i'r sgwl.
Gareth Neigwl
O angen dydd ei eni
Am ei fwyd y cwyd y ci.
Huw Erith
Pennill Telyn: 'Clywais sôn ar hyd y pentre' ''
Ymhob stwr mae hyd mewn stori,
Mae'na raddau o'i thraddodi;
Clywais son ar hyd y pentre,
Rhyfedd,rhymed mod I'n ama
Gareth Neigwl
Clywais son ar hyd y pentra
Nad oes llathen llawn yn fama,
A Duw a wyr hwy ddylia wybod
Nhw sy'n barnu a'u cydwybod
Huw Erith
Clywais son ar hyd y pentre
Hanes ddaeth a haul y bore
Amser cinio roedd ail ferwad
Ac un arall cyn codi'r lleuad
Huw Erith
Clywais son ar hyd y pentre
Nad yw Sion i'w weld yn unlle,
Os y caiff y ci sy'n cerdded
Nid oes dianc rhag ei ludded.
Huw Erith
Clywais son ar hyd y pentra
"Toiled arian sy'n yr Hendre"
Am cael gwybod mae Wil Fon
Pwy wnaeth boitsh yn ei drombon
Gareth Jones
Limrig yn ymwneud ag unrhyw adeilad
Heb ofyn gwnes gwt I'r ddau fwnci
Ar fyrder,'rol bod ar saffari:
Swyddog adran saith naw*
Y cyngor ddaeth draw,
Fu'r tri fawr o dro yn ymdoddi.
Gareth Neigwl
* Adran 79 o ddeddf adeiladu 1984 sy'n rhoi'r grym I cynghorau ddymchwel Adeiladau blêr, sy'n difwyno'r harddwch naturiol oddi fewn I'w tiriogaeth.
Cywydd serch (heb fod dros 12 llinell)
'R un diwn chwaraewn ein dau
O ddalen ein meddyliau.
Os wyt wen,fe ddysgaist,do,
Hen gerdyn I gyd gordio.
Dy chwa'n wefr enaid a chnawd,
Yn dawel,swcri'n deuawd.
Dy ewin aeth I'm deall,
Os tynni goes,tynni'n gall
A minnau'n storm am ennyd,
Yn rhwydd a'm barn,ar ddim byd!
Neshei yn ddau lygad syn,
Im weld holl fwynder Maldwyn
Gareth Neigwl
Pennill Ymson mewn iglw
Rol gweld yr hysbys lliwgar
Mi rois chwe mil a hannar
Am dy a thri chan' acar
Mi fum I yn rhy eiddgar
Gareth Jones
Mae fy nhania wrth fy ochor,llefrith ar fy nghlin
Cig moch o dan fy nhesail,llosg eira ar fy nhin,
Yr unig gysur sydd na ydi rhwbio trwyn efo Nel
Sydd fawr o hwyl a dweud y gwir,tydi'm mor peth mwya del,
Ond dyna fo fy mai i ydio am peidio a siopa yn y dre
A tydwi ddim yn meddwl y gwnaf i eto brynu rhewgell fawr ar ebay.
Huw Erith
Englyn Cywaith: Coed
Daw hen wragedd glan beddau-o Dachwedd
A'I dawch angladdau,
Er eu hoed,eto'i barhau
Yn des o briodasau.
Gareth Neigwl
Telyneg: Llanw
Codi o esmwythyd
i wynebu'r byd unwaith eto
a'i her yn gwahodd,
rhuthro'r te a'r tost,
dwr poeth mewn fflasg,
tun bwyd tan gesail ag allan,
sachaid o abwyd yn y fan, tan arni
Mae hi'n bump ac yn ddistyll saith
Tagiad ohen annwyd,
mwg glas yn gwmwl uwch y borth
yn aros ennyd
cyn mynd am byth
i garu hefo'r awel
er y deil ei sawr.
Llwybr trwy'r dwr llonydd,
pennau clowniau yn methu dianc
er cael ychydig o raff,
a chylch eu byd
yn nofio ar ben deg gwryd
ar dosturi'r lleuad.
Dwyawr o lanw ar Drwyn Anelog,
mae'n amser troi yn ol,
Bydd yn afon yng "Nghodwm Braich" ar Fraich y Pwll
ac yn llifo'n groes ganllath tua'r de
"llanw Braich trai Bylan",
cyn troi yn llanw eto ar Drwyn Maen Melyn
A phennau'r clowniau yn prysur foddi.
Huw Erith
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

