Waunfawr v Penrhosgarnedd

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio ym Melin Brwcws, Dinbych ar y 18fed o Ebrill 2005

Waunfawr

Waunfawr

Penrhosgarnedd

Penrhosgarnedd

Cwpled caeth ar yr odl "er"

Hynny'n llai o'r gannwyll wêr
Yw einioes ar ei hanner.

Emyr Roberts
9 Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'er'

Yn y ghetto a'r gwter
erys hawl i wylio'r sêr.

Llion Jones
9 Pwynt

Englyn Cywaith: Eco

(Aberfan)

Er i glais llechweddau'r glo - yn fan hyn
Dyfu'n wyrdd, d'oes guddio
Ar blentyn sy'n atseinio
Hynt y cwm a phlant y co'.

Emyr Roberts
10 Pwynt

Englyn Cywaith : Eco

Wrth wrando hen recordiau

A minnau'n mwytho'r cloriau, oni chlywn
uwchlaw hen grafiadau
nodau hud o hanes dau
yn galw o'r rhigolau?

Llion Jones
10 Pwynt

Limrig: "Mae rhai yn galw Dinbych yn Dimbech"

Mae rhai'n galw Dinbych yn Dimbech,
A'r Sais yn dweud Haaluck am Harlech,
Abbusock am Abersoch,
Nantimock am Nant y moch;
Dyna lwc fod yr iaith ma'n anorthrech!

Dafydd Iwan
8 1/2 Pwynt

Limrig: 'Mae rhai yn galw Dinbych yn Dimbech'

Mae rhai'n glaw Dinbych yn Dinbech
Sy'n well na dweud Harlec am Harlech
Ond peidiwch a sôn
Mae Mam ni yw Môn
'da'r Saeson yn Benlec nid Benllech

Lynn Davies
8 1/2 Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'heno' a 'wedyn'

Unig ni fyddwn heno - yn y dorf,
A'r dyrfa'n sbarduno
Hyder tîm nes codi'r tô.
A wedyn? Pwy sy'n hidio?

Dafydd Iwan
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'heno' a 'wedyn'

Heno, a'r iaith ar linyn- y gwyliwn
A'r golau'n ein herbyn
Dim sêr ei chodwm syn
Na rhwyd i'w hadfer wedyn

Lynn Davies
8 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Beddargraff

Er cof am Iolo Hughes Roberts (cyn gapten Tim y Waun ac Ysgrifennydd Clwb Eryri)

Darfu hwyl cyn darfu haf
A daeth gwae cyn daeth gaeaf;
Awst oer mor anystyriol
Yn ddi-les greulon ddi-lol,
A grym di-hid ei gryman
Yn y glwys ir egin glân;
Mis y lladd, fu mis y lli
Nwydwyllt gywain cyn Medi;
Dyfod ar hast a difa
Yn ei drachwant dyfiant da;
Y diawl yn mynd a Iolo
A ni'n wir ei angen o.

R.Gwynn Davies
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Beddargraff

(Dr David Kelly)

Dan wydd yr allt anniddig
A gwâl anwadal y wig,
Mae un fel ni ein hunain
Yng nghonglau'r brigau a'r brain,
Dan y gwair mud yn gorwedd.

Aeth o fyd rhagrith i'w fedd,
Â'r rhai a fradychai frawd
I ennill bri â phennawd,
Yn dal i'w ddedfrydu o:

Mae'n henwau ninnau yno
Yn ein braw, dan gefnen brudd
Ein heneidiau annedwydd.

Iwan Llwyd
9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn Antioch prynais fochyn
Dwy wydd a mwnci a dyn

Ateb llinell ar y pryd

Yn Antioch prynais fochyn
A hwch, ond mistêc oedd hyn

1 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Syniad Da

Syniad da yw mynd a'r Steddfod i Lerpwl,
Diolch i'r Parch Ben Rees amd fynd i'r fath drwbwl
I ofalu bydd ein "Penny Reading" bach ni
'Mysg mawrion y Ddinas yn cael braint a bri,
a dyma'r cyfle i gael gwared a'r hen reol hiliol
o orfodi'r Gymraeg - 'roedd y peth mor wirion.
Fydd dim trafferth cael cronfa sylweddol
A'r Arglwydd Faer mor hynod gefnogol
Byddai'n weddus rhoi iddo'r swydd o Archdderwydd dros dro
A rhoi'r orsedd dan ofal ei gynghorwyr o;
O gofio Capel Celyn bydd rhaid coffau Bessie Bradog
A'i gwaddol i Gymru o lyn mor odidog;
A chael 'Steddfod o'r diwedd a'r toiledau yn gweithio
Hefo llif o ddwr o Dryweryn i'w clirio;
Ac am y tro fydd dim raid bodloni ar frechdan gaws
Heb os, cawn ein gwala a llwyth o lobsgows;
Yn Maes "B" bydd y gigs yn ddwyieithog i gyd
Ac o barch i'r Beatles, yn Saesneg cenir "Yma o hyd"
Ond uchafbwynt yr wyl fydd Tim Waun a'u gallu
Yn eu "Liverpool Accent" yn cynganeddu.

Gwynn Davies
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Syniad Da

Eisteddais yn y bath (dwr poeth) a'r lwffa yn fy llaw,
A'm hoff hwyaden blastig yn nofio yma a thraw,
Fel Archimedes gynt pan oedd yn disgwyl syniad da-
Mi gefais un- a chyda sblash mi waeddais Iwrica!
A rhedais lawr i grisiau i'r stryd- ac er ei bod hi'n boeth
Mi deimlais ddrafft yn rhywle!- mi ro'n i'n hollol noeth,
"For Shêm" medd gwraig drws nesa, "Rwy'n gweld y cwbwl lot!"
"O diar" meddwn innau gan deimlo yn rêl clot
wrth weld y drysau'n agor a phawb yn sbio'n syn
gan waeddi "oh" ac "Ah" a "Wir,ond tydi'i fol o'n wyn!"
daeth dynes fochgoch ataf a hances yn ei llaw,
"O Cymer hwn 'rhen gyfaill i gadw'r oerfel draw,"
dwi ddim yn un am fragio, ond nid oedd ddigon maint-
i guddio'n nghorff bach eiddil rhag llygaid craff y saint!
Pwy landiodd ond y wraig 'cw gan chwifio'i holbren fry'
A dyna i chi 'dressing down' a ges i yn y ty;
A ddiwrnod trychinebus, mae'n dda ei bod hi'n ha',
A'r cyfan wedi digwydd pan ges i syniad da!

Rwy'n eistedd yn y bath (dwr oer) a'r lwffa yn fy llaw
A'r syniad da? Mae wedi mynd i lawr y plwg islaw!

Morien Phillips
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Trefnwyr Gwyliau

O, da 'di trefnwyr gwyliau roes in far a thraeth
A 'tea like mother makes', a chips, a chwrw;
A ninna yn deisyfu dim byd gwaeth
Nac oriel, amgueddfa, ymhell o'r twrw.

Pwy addawodd 'wyliau cyplau' gorau 'rioed
Efo Club Med ymhell ar draethell ddiddan?
Mae Nain yn iawn 'fo'i toyboy deunaw oed -
Dy Daid di, druan, sy 'di cael yr hartan.

Wna'i hyd 'noed fadda i drefnwyr doeth y Talwrn
Am drefnu gornest Waun a Phenrhosgarnedd
Yn Nimbach (pryd gwnaed hynny - hwyr nos Sadwrn?)
Nid nhw sy'n gorfod teithio'n ôl gefn trymedd.

Ond gwella na'r rhain i gyd yw'r trefnydd taith
A wnaeth addewid gynt yn ysgafala
Fod moeseg tramor ll'wodraeth nawr yn ffaith;
Dwed hynny wrth fy machgen yn Fallujah.

Meg Elis
9 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Trefnwyr Gwyliau

Addawodd i'm y nefoedd,
A gwir a ddywedodd o,
Ond y nefoedd oedd ganddo mewn golwg
Oedd honno a welwn drwy'r to!

John Ogwen
9 Pwynt

Telyneg: Gwrid

(Maen nhw'n dweud na chafodd corff y diweddar Bab ei bêr-eneinio na'i goluro cyn ei ddangos i'r bobl).

Dim colur
Dim cemegolion
I'th gadw'n fyw.
Mae cochni baner dy gyd-wladwyr yn ddigon,
A sgarlad y cardinaliaid
I ti, Ioan Pawl Fawr.

Ond yng ngwrid merch dan ei chywilydd,
yn llwydni bochau'r claf hyd angau
o Aids ac anghariad,
wnei di ddim gwrido, Karol, ac ymostwng
i fod yn fach?

Meg Elis
10 Pwynt

Telyneg: Gwrid

Dychwelem at ein gwesty
drwy erddi o foethau gwyrdd
gan sathru sofrenni'r rhosod
a wariwyd hyd eu ffyrdd.

Nes gweld ei swp o dlodi,
cyn dod at ein trothwy'n ôl,
a lluchiais dâl tawelwch
yn friwsion ar ei gôl.

Wrth droi at ford y gloddest
a'r llwyau yn fy llaw,
ni welwn liw cywilydd
ond ar y gorwel draw.

John Gwilym Jones
10 Pwynt

Englyn ar y pryd

Englyn ar y pryd: Siocled

Yn awr bydd wyliadwrus - ohono
hefo'i gynnig melys.
Anifail yw'n chwerw'i flys
Yn hela mor ofalus

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl "er"

Gwall a wnaeth wrth ddewis gêr
Guto fagiodd i'r gwter.

R.Gwynn Davies

Yn hŷn, mae'n ddyn a hanner -
Nid yw Gwynn yn newid gêr.

Emyr Roberts

Ebrilliad ambell bader
Ddaw i blith ein beddau blêr.

Emyr Roberts

Englyn Cywaith: Eco

O am aros" dyma eiriau - y saint
dan swyn eu profiadau;
aeth y dôn - tôn y tonnau
'N gyffur gem y "bur hoff bau".

R. Gwynn Davies

Yn y wir mae'n ddrwg gen' i - fy mechan
Am fy maich o regi,
Myn diawl fel mae'n didoli
Fy ngeiriau'n dy enau di.

Emyr Roberts

Yn y côf mae'r wyneb cudd - yn aros
Mewn hiraeth di-hysbydd,
Ac fesul llais adlais sydd
Ohonot i mi beunydd.

Emyr Roberts

Hen feiau hyn o fywyd - heddiw yw
Geiriau ddoe'n dychwelyd,
Oni ddeuant mor ddiwyd
I fyw yn y côf o hyd.

Emyr Roberts

(ail-adroddir rhai cymalau fel "Lord have mercy" rhwng yr offeiriad a'r gynulleidfa yn yr offeren gatholig)

Ceir y tosturi cywrain - a'i eiriau'n
Cario o fewn atsain
Hen gylch yr offeren gain
Yn neufyd dinas Rhufain.

Emyr Roberts

Limrig: "Mae rhai'n galw Dinbych yn Dimbech"

Mae rhai'n galw Dinbych yn Dimbech
Sy'n odli a'r gair Abimelech,
Aeth y Meuryn yn hyn,
Ga'i atgoffa'r hen ddyn
Tydi'r odl mo'r hyn a ddymunech.

R.Gwynn Davies

Englyn yn cynnwys "Heno" a "Wedyn"

Mae hiraeth ar ei waethaf - yn yr hwyr
Yr awr hon yw'r hwyaf,
Wedyn brath ei golyn gâf
A heno, gwn na hunaf.

R.Gwynn Davies

Heno mi gaf laeth enwyn - a whisgi
Bach ysgafn a pheintyn,
Llymaid rôl llymaid yn llyn;
Ba raid cael bore wedyn?

Dafydd Iwan

Eto heno ar ddi-hûn, oriau hir,
Troi a throsi wedyn,
Nes sylwi mai dim ond Un
A rydd wawr i ddihiryn.

Emyr Roberts

Heno caf uwd a menyn - ar y daith,
Swper da, ac wedyn
'Fory llamu trwy Dal-Llyn
hefo Deio i Dywyn.

Emyr Roberts

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Beddargraff"

Heddiw i'th gofio rhoddwyd
Ysgrifen ar lechen lwyd.
Awen fach uwchben dy fedd,
Gair am air yma'i orwedd,
Yn oll i arddel felly
Ennyd o fywyd a fu.

Anodd yw rhoi yn gryno
Lled y golled sydd ar go',
Awen drist y galon drom
Yw heddiw, ond fe wyddom
Fod bedd gwag a thi'n agos
Yn y wawr tu hwnt i'r nôs.

Emyr Roberts

Englyn ar y pryd

Â'i flas yn ias ar wefusau heddiw
fe fydd yn ddiamau
Hir oes i edifarhau
Ei alanas ar gluniau.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl 'er'

Ynom y mae dau hanner,
iau a hyn, yn ofn, yn her.

Nid oes swyn ym myd y sêr
i'r sawl sy'n tendio'r seler.

A chan ein bod ni ar drothwy etholiad....

O dan y wên fach dyner
natur blaidd sgen Mr. Blair.

Annerch am awr a hanner,
Aeth i'w fedd 'r ôl pregeth fer.

Englyn Cywaith : Eco

Mewn dyffryn uchel unwaith- yn agos
At glogwyn anobaith,
Fe ddaeth acen un hen iaith
I law arnom eilwaith

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Beddargraff

Yma y gorwedd gweddill
Yr hen iaith, oedd â'i saith sill
Mor iasol mewn ymryson,
Yn fodrwy Mynwy a Môn:
Yma poen ei chwmpeini
A chyffes ei hanes hi,
Yn druan ei chynghanedd,
Yma'n bwt a thwt mewn bedd.

Felly'n glerwr, deithiwr, dos
Â'i stori drist i aros
 darn o'th gymuned di
'n amdo uniaith amdani.

Iwan Llwyd

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.