Dinbych v Tegeingl
Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio ym Melin Brwcws, Dinbych ar y 18fed o Ebrill 2005
Dinbych

Tegeingl

Cwpled caeth ar yr odl "ot"
Bydd pob dydd o dy eiddot
yn haf hir os caf dy fôt.
Berwyn Roberts
8 1/2 Pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'ot'
Un peryg yw ein parot
A diawl hurt 'rôl yfed lot
Moi Parry
8 Pwynt
Pennill ymson mewn capel gwag
Mae cysgod eu cyrff ar y seti
a'u henwau 'di'u crafu'n y pren,
Ond dim ond eu hysbryd sydd yma
er bod yr hen ddrws led y pen;
Ysgwn i lle mae eu heneidiau
yn casglu ar doriad y wawr?...
...Na, damia, y fi sy' 'di drysu
ac wedi anghofio troi'r awr!
Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt
Pennill ymson mewn capel gwag
Pan oedd Sul yn Sul 'roedd y lle 'ma'n llawn
Fore a hwyr- ysgol Sul bob prynhawn...
Rhedai afonydd a chwys ar bob mur.
Llwydni sydd heddiw yn codi cur.
Bu gwres yr encôr yn diolch i'r Tad.
Distaw Amen sy'n awr yn ei stad.
Gweld yr hen bobl yn eu dillad parch
Tybed sawl hoelen rois i yn yr arch.
Norman Closs Parry
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llun
(mae'n siwr y gall y Meuryn ddyfalu pa ddarlun enwog sydd dan sylw)
Rhwng pedair wal ni faliwn
un iot am y Person hwn
yn aros yno'n curo -
ein bywyd sy'n glyd dan glo.
Pa les Ei neges i ni,
ei eiriau o dosturi?
Dirgelion ein calonnau
I'r Gwr, fel y drws, sy' ar gau.
Ond pan ddaw'r heth i'n llethu
a brwydrau'r adegau du,
yn noeth awn am esmwythâd;
agorwn ddrws i'w gariad.
John Glyn Jones
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llun
('scan' o fabi)
mwy syreal na Dali
ydy hwn, fy nghread i,
sy'n gorwedd yn ddelwedd od
a wasgwyd yn un cysgod.
Coesau, fel rhai Picasso
Wedi'u rhoi wrth ben ar dro.
Un â'i faeth tu mewn i fol
A'i fyd yn arallfydol
Portread amhrisiadwy
Yno'n fyw, campwaith, sy'n fwy
Ydy hwn, i ddarpar dad.
Marc Lloyd Jones
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag addoli
Wrth addasu hen gapel Bethesda
Gan lu o addolwyr brwd Allah,
Roedd y plan â'i ben lawr;
Yn anffodus yn awr
Maent oll â'u penola' at Mecca!
Elwyn Wilson Jones
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag addoli
Rwy'n Hindw mwslemaidd i'r byw,
Yn Babydd yn Wesla go driw
Rwyf am sicrhau
Y caf i fwynhau
Rhyw nefoedd drwy rywun, siwr Dduw.
Moi Parry
9 Pwynt
Englyn yn dechrau â'r geiriau "Y mae sôn..."
Y mae sôn am y syniad - o roi hwb
i'r Wyl i Lyn Lleifiad
a rhoi lle ar y lleuad
am fis i Ben Rees ( yn rhad).
John Glyn Jones
8 1/2 Pwynt
Englyn yn dechrau â'r geiriau " Y mae sôn..."
Y mae sôn drwy bob mis hir- am wanwyn
Sy'n mynnu cael gwlypdir
A'i ail-wneud yn flodeuir
Yn y glaw mae'r sôn yn glir
Aled Rhys William
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae'n wyrth fod gennym ni
Wyddor i gyfansoddi
0 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae'n wyrth fod gennym ni
Wragedd ar ôl eu rhegi
1 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Cymdogion
Stâd Cyngor fach ddistaw oedd Primrose Drive
Cyn iddyn nhw ddod i fyw i Nymbar Ffaif!
Teulu o uffern ddinistriodd fy heddwch
Efo'i swn ddi-stop, ei fudreddi a'i flerwch.
Ar y dôl fu'r tad ers dwn i ddim pryd;
A'i wraig yn un feddw, yn datws i gyd.
Mae'r sterio yn blerio, a'r mab ar y dryms -
Sut fedra' i gael gwared o'r garidyms?
Mae'r giât ffrynt wedi mynd, rhoed fy Lada ar dân;
Mae nhw'n ffraeo a sgrechian hyd yr oriau mân.
Mae nhy gwydr yn deilchion, a'r ffens yn rhacs -
Beth fedra'i wneud efo'r comon jacs?
Daw eu dau Bwl Teriar i'r ardd gefn i grafu,
Ac yna'n syth i'r ardd ffrynt i faeddu.
Ond O! Y gwaith! I goroni'r cwbwl
Mae un o'r diawled wedi cael fy mhwdl i drwbwl.
Fe ffoniais y Cyngor a'r glas i'w riportio
Ond daeth neb i'n gweld - does neb yn malio.
Câr dy gymydog oedd gorchymyn Duw;
Ond mae hyn yn dibynnu ymhle 'dach chi'n byw!
Elwyn Wilson Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dos 20 llinell); Cymdogion
Ers i mi briodi rwy'n brysurach nag erioed,
Yn rhoi gwên ar wyneb pobun sy'n byw yma'n Rhodfa'r Coed.
Bnawn Llun mi af at Jên drws nesa' am 'chydig mwy na sgwrs
Pan fydd ei gwr yn golffio efo'i ffrindiau ar y cwrs.
Fore Mawrth dwi efo Margiad ddau funud wedi saith,
Yn syth ar ôl i'w phartner gychwyn o 'ma am ei waith.
Ddydd Mercher af at un Susan sydd yn berchen gwely dwr
Ac mae Siw yn honni 'mod i'n llawer gwell na'i gwr.
Ddydd Iau rwy'n mynd yn gynnar i'r ty ym mhen draw'r lôn
Pan dwi'n gwybod bod Wil Hughes a'i lori 'mhen draw Môn.
Nos Wener af dros ffordd, mae'r gwr yn gweithio'r nos
A chaf oriau brwd yng nghwmni Elain, geneth dlos!
Ddydd Sadwrn y mae Edwyn yn chwarae rygbi i dim y dre
Ac af innau at Melissa i chwysu yn ei le.
Ddydd Sul mae gwraig y gw'nidog yn teimlo'n unig iawn;
Af ati ganol bore neu weithiau oedfa'r pnawn.
Mae'r merched wrth eu boddau a'r gwyr yn llon eu byd
Cans ar fy ymweliadau rwy'n torri gwair y lawntiau i gyd.
A rhwng holl erddi'r ardal rwy'n brysurach nag erioed
A cadw pawb yn hapus fan yma'n Rhodfa'r Coed!
Moi Parry
8 1/2 Pwynt
Englyn cywaith: Arwr
(taid)
Pan fyddwn yn griddfan am anwes - cawn
chwythu'r cur i'w hances
ac yna'i law fawr gynnes
yn gwasgu a 'nhynnu'n nes.
Berwyn Roberts
9 Pwynt
Englyn cywaith: Arwr
Shane Williams
Â'i wib lithrig unigryw- a lledrith
Twyllodrus ei ystryw
Dawnsiwr o redwr ydyw
 doniau hud- dewin yw.
Marc Lloyd Jones
9 Pwynt
Telyneg: Pennawd
Yn Golwg: Prinder myfyrwyr Cymraeg yn cau Adran(yr Adran bûm i'n bennaeth arni am dros ddeuddeg mlynedd)
O fryniau Arfon a gweundir Gwent,
o benrhyn Penfro a ffiniau'r Fflint,
y treiglodd nentydd nwyfus
yn fwrlwm o frwdfrydedd,
yn rhaeadr o ryfeddod
i'r llyn fu'n eu llyfnhau,
eu llunio a'u lliwio,
cyn eu gollwng o'r gronfa
yn ffrwd o ffraethineb,
yn llais y llwyfannau,
yn llygaid i'r lluoedd.
Ond â'r hinsawdd yn dihoeni
dan drywaniad o'r dwyrain
sy'n brathu'r bryniau
ac yn tagu'r torlannau,
mae'r afon yn arafu,
y nant yn pallu
a'r ffynnon yn sychu
nes bo'r llyn yn llonydd,
yn farw o ferddwr,
yn fud o faw.
Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt
Telyneg: Pennawd
Llyn Padarn (Iesu Nazarenus Rex Iudaeorum)
Fel Pedr gynr- fe wydwn
Am gyfrinachau'r lyn,
Llech fulfran, chwisi dyfrgwn
Ac adar Coed y Glyn
Hyd y glannau bum 'sgotwr mawr'
Yn cyfri f'hun yn glamp o gawr.
Fel Pedr gynt- fe welais
Sawl Peilat yn ei dro'n
'sgwennu,- ac ymgiliais
o wydd ei olwg O..
a chanodd ceiliog lawer gwaith
nes pigo ngrudd â dagrau llaith
Norman Closs Parry
8 Pwynt
Englyn ar y pryd
Heintus yw cyrraedd yn gynta'n y râs
Ar ôl rhoi y cyfan;
Ond rhai wêl y cymryd rhan
Yn ennill ynddo'i hunan.
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 CYNIGION ERAILL Cwpled Caeth ar yr odl 'ot'
Rhaid gochel nes y gwelot
y dyn i gyd dan y gôt.
Yn ardal bêr Port Talbot
un diwn yw 'u' ac 'i' dot.
Berwyn Roberts
Fy nghariad wyneb tebot
Ei dileit yw yfed lot.
John Glyn Jones
Limrig yn ymwneud ag addoli
Mae miloedd 'n addoli'n tîm rygbi
A'r gwyrthiau gyflawnwyd eleni;
Ond fe ddaw y dydd
Yn nhemel Caerdydd
I'r delwau o glai eto golli.
Englyn ar y pryd: Ras
Flora 2005
Y mae hwyl ras y miloedd a'i hafon
yn gorlifo'r strydoedd,
Dolen i elusen oedd
Gorchest yr holl ymgyrchoedd.
8 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth ar yr odl 'ot'
Be' andros a ddaeth drosot?
Yn y fan y mae fy yacht!
Dafydd Morris
Reidiwr wyf.mi es ar drot
Ar hysgi rownd cwrs Ascott.
Moi Parry
Es heibio i Lil lawr yn Splott
A phoeri ar ei pharot
Moi Parry
Â'i lais, i'r criedol lot
Y weirles oedd John Arlott.
Moi Parry
Ein hawl yw cael y balot
Diawl o fyd yw postal fôt.
Norman Closs Parry
Limrig yn ymwneud ag addoli
Mae Bethel yn dafarn i'r hogia'
A Seion yn lle i weld ffilmia'
Modurdy yw Bethlem
A thafarn yw Salem
Rwyf i efo criw Harri Krishna!
Norman Closs Parry
Englyn yn dechrau â'r geiriau " Y mae sôn..."
Y mae sôn am y syniad o'r hoelion
Creulon, a'r croeshoeliad,
Dirgelwch, bryntnwch a'r brad
Yn fud- wrth 'ratgyfodiad
Norman Closs Parry
O'r gofod (yn ôl Fred Hoyle)
Y mae sôn nawr am syniad yn amau
Mai damwain yw'n cread
A stoc hen lwch hyd y stad
A rodiodd i' n wareiddiad.
Englyn cywaith: Arwr
Arwr- Ioan Paul yr 2il
Ddiwedd oes a'r groes a'r graith yn ei wedd
Wedi'r hir lafurwaith
Hwn a'i ffydd a wnaeth yn ffaith
Ei aberth a'i droi'n obaith
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

