Crannog v Talybont
Cafodd yr ornest yma ei recordio yn Festri Capel Bwlchygroes ar y 12fed o Ebrill
Crannog

Talybont

Cwpled caeth: Rhybudd mewn ysbyty
- ( Mewn ysbyty breifat)
Sylwer mai nid y sala'
Gaiff feddyg a gwely gwag.
Dai Jones
8 Pwynt
Cwpled caeth: Rhybudd mewn ysbyty
Gocheler rhag y chwilen
A'i llid ar y gyllell wen.
Gwyn Jenkins
8 Pwynt
Pennill ymson ysmygwr
Rhybuddion 'Dim Ysmygu'
Sydd hyd y caffi'n drwch,
Rhaid myned i'r amlosgfa
I ganfod blychau llwch.
Owen James
9 Pwynt
Pennill ymson ysmygwr
Fe ddes i draw o Ddulyn
Ni chawn yno joio mwgyn
Gyda'm mheint o win y gwan
A chwythu mwg i bedwar ban;
Croesais i Gaergybi
Er mwyn i'm yno smygu
Ac yfed peint o win y gwan
A chwythu mwg i bedwar ban;
Yn awr rwyf mewn ysbyty
Heb ddyddiau hir o'm mlaen i,
Fe af i'r Crem yn lle y Llan
A chwythu mwg i bedwar ban.
Gwyn Jenkins
8 1/2 Pwynt
Englyn yn cynnwys: "Heno, mi gaf ddiddanwch"
Hyd fôr o edifeirwch - yr hwyliais
O'r aelwyd, ond cofiwch,
Heno, mi gaf ddiddanwch,
Mae'r cof wedi clymu'r cwch.
Idris Reynolds
9 1/2 Pwynt
Englyn yn cynnwys: 'Heno, mi gaf ddiddanwch'
Ymson gweddw
Ystum oedd dagrau'r tristwch,- a wylais
Ger elor y surbwch
Pan roddais ei llais i'r llwch;
Heno fe gaf ddiddanwch.
Gwyn Jenkins
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag iechyd
Rwy'n synnu fod rhywun fel Duw
Wedi creu peth mor wanllyd â chyw,
Yn Thailand mae c'wenod,
Hen ieir a cheilogod
Yn ciwio am 'jab' rhag y ffliw.
Dai Jones
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud ag iechyd
Fe syrffiodd a nofiodd a dringodd,
Fe blymiodd i'r dwfn, a hedfanodd,
Fe fwytodd o'r ffreupan
Ac yfed fel sgadan,
Ond pnawn yn y 'sbyty a'i lladdodd.
Phil Davies
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Afon
Yn Nhachwedd ei llif uchel,
Hyd drobyllau'r conglau cêl
Aem a chwiliem ei cheulan
Amdano dan glo ei glan,
A neb yn ein hateb ni
Ond si'i dwr didosturi.
Yna, a hi bron yn nos
A'r chwilio yno'n anos,
Ymysg y sbwriel gwelwyd,
Ar gwr y llif drwy'r gro llwyd,
Ol ei draed ar annel drist
At hedd ei huthredd athrist.
Dic Jones
10 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Afon
Yn ei gwanwyn bachgenaidd
yr oedd haul ar ruddiau haidd.
A'i lleuad fel lliw siwin
a'i chloddiau fel gwydrau gwin
yn llawn, a'r gweiriau llonydd
hyd bengliniau caeau cudd.
Ond gwn nerth ei hanterth hi
a'r ias o orfod croesi
y rhyd, a'r dwr yn rhedeg
i'r gwyll fel geiriau o geg.
A gwn mor drist a distaw
ydyw'r waun ar yr ochr draw.
Gwenallt Llwyd Ifan
10 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Rheolau'r Ffordd Fawr
Ar heolydd prysur ein mynd a'n dod
Yr oedd gan Ifor ei ' My Way Code',
Ei ffordd ei hunan, nad oedd yn hunanol,
Doethineb amgen y gweld gwahanol
Wrth iddo arwain y Merc a'r merlyn
Rhwng llinellau gwynion y pennill telyn,
Y llwybrau difyr a fu'n ei dywys
O Bant-gwyn-arian hyd Ddinas Powys,
Y feidir droellog drwy wlad o straeon
I Frynmoreia ac i'r Black Leion,
Ac er cyfaddef i ambell fistêc
Ni ddrysodd erioed rhwng y sbardun a'r brêc.
Ar y ffordd i'r Emaus, fel ag i'r mart,
Yr un oedd rheolau gyrrwr y cart.
Roedd digon o le yng nghefn y Frontera
I gario'r sipsi ar y daith i Samaria.
Ond yna un bore o Ionawr llaith
Fe yrrodd i ffwrdd tua'r pellter maith
Heb wregys diogelwch, ond ei ffag a'i ffydd,
I gadw yr oed ar gyrrion Caerdydd.
Idris Reynolds
9 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Rheolau'r Ffordd Fawr
I'r jawl â dreifo teidi,
A chadw pob un deddf,
A pharchu cyd fforddolion,
Rwy'n yrrwr gwyllt, wrth reddf.
Af ati i spîdo'n gyson
Hyd strydoedd cul y dref,
Mi ddringaf ar y pafin,
"O'r ffordd was!" yw fy llef.
Fe basiaf pob un gyrrwr
Heb edrych yn y drych,
Fe waeddaf ar bensiynwyr:
"Ble mae dy sbecs di'r sbrych!".
Rwy'n clebran ar fy Nokia
Tra'n gyrru rownd pob tro,
A fflachio fog lamps llachar
Ar fenwod slow y fro.
Ond pan gaf innau groesi'r
Lein wen tu hwnt i'r llen,
Bydd tocyn tragwyddoldeb
Ar sgrîn y Transit wen.
Phil Davies
9 Pwynt
Englyn cywaith: Magned
Ni wyddom pa drydaneiddio - a greir
I roi grym i'r cydio'n
Ei gilydd a fydd pan fo
Dau eithaf yn cydweithio.
Hywel Rees
9 Pwynt
Englyn cywaith: Magned
(I'r fenyw arall)
Cryfder rhyw hen bwerau - a'i hudodd
mor sydyn i'w breichiau;
A daeth bodolaeth ni'n dau
Mewn dydd, yn gelwydd golau.
Anwen Pierce
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Rhyfedd yw natur Ifan
Yn ddawn I gyd- mae'n ddyn gwan
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Rhyfedd yw natur Ifan
Hen un moel o'r Isle of Man
0 Pwynt
Telyneg: Enw
(Yahweh )
Yn y gwacter afluniaidd cyn bo llythrenedd
Yr oedd yr Anfeidrol a'r enw yn un
Ac i blant y Torah yn ofnadwyaeth
Mawredd Duw nis ynganai ddyn.
Pa fodd y traethir yr anrhaethadwy?
Pa fodd y mynegir y gair nad yw?
Dim ond yn yr enaid y mae'r lleferydd
A aeth i goll rhwng y tafod a'r clyw.
Dic Jones
10 Pwynt
Telyneg: Enw
Nid estron oedd yn trigo
Ar aelwyd Tivy View,
Ond iaith ein holl gyndeidiau
Ar wefus ac ar glyw.
Yng nghegin gefn Gwêl Teifi
Dieithriaid sydd yn cwrdd;
Yr iaith yn crogi ger y drws,
Ac estron wrth y bwrdd.
Phil Davies
10 Pwynt
Englyn ar y pryd
Cynhaliaeth ein cynilion- i'n noddi
Yn nyddiau'r pren almon
Gwaddol i oleuo lôn
Ein trafael at yr afon
Hywel Rees
8 1/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 83 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth: Rhybudd mewn ysbyty
Ar elor yma'n rhywle
Mae 'result' M.R.S.A.
Pennill ymson ysmygwr
Garddwr i'r gweinidog
Yr ydw'i nawr ers sbel,
Mae e' yn lico'i fola
A hithau'n lico smel.
Ond mae y llysie gore
Rhwng rhychie'r pys a'r ffa,
Lle arall gawn i lonydd
I godi chwynyn da.
Englyn yn cynnwys: "Heno, mi gaf ddiddanwch"
Heno , mi gaf ddiddanwch, - a hen gae
Oedd gynt yn anialwch
Yn llwybrau syth lle bu'r swch
A'i gnwd egin yn degwch.
Englyn cywaith: Magned
Ambell dro bydd rhwng pobol - rhyw drydan
Ar droed yn wastadol,
Atyniad dau wahanol
Na wyr neb ei droi yn ôl.
--------
(Ar ben y lôn )
Y brodor bia'r darren eithinog
A thynnir ei pherchen
Yn ôl at ei lôn felen,
'Nôl adre gan Garreg Wen.
Englyn ar y pryd: Pensiwn
Dal ati er yn dlotach- oherwydd
Daw'r oriau amgenach
Yn ôl yn oesol lasach
O rannu byd wyrion bach
9 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth: Rhybudd mewn ysbyty
Ni cheir symud cyrff meirw
Oni bai na ddwedant BW!
Gwyn Jenkins
Pennill ymson ysmygwr
(gydag ymddiheuriadau i'r ferch ar lan y Ddyfrdwy)
Ar gornel fainc yn Aber dlos
Eisteddaf yma'n styfnig.
Wrth smocio'n dawel wrthyf hun,
Rwy'n teimlo'n reit rwystredig,
A'm mwgyn llawn ar gornel stryd,
Heb dafarn i fynd iddo,
Drws ffrynt y Llew sydd wedi ei gloi,
Rwy'n wrthodedig yno.
A'r bore trannoeth, dyma fi
Yn loetran ger y Rheidol
A'r sigarets dal yn fy llaw,
Er gwaetha'ch heip meddygol.
Fe fynnaf smôc mewn poblog fan,
Mewn cyngerdd a chyfarfod,
Gan nodi'r fan drwy adael llwch
Ysmygwr ga'dd ei wrthod.
Anwen Pierce
Limrig yn ymwneud ag iechyd
Fe'm cipiwyd o'm sêt o fewn eiliad
o'r lle aros; rhoed i mi drawsblaniad.
Ces iau, braich a chlun
Clust, bola, a phen-glin,
A minnau 'mond 'ma ar ymweliad.
Anwen Pierce
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Afon
(ar lan yr afon Hyddgen mae carreg wen i nodi man Brwydr Hyddgen)
 hen afon anghyfiawn
yn gwau trwy feddau o fawn,
mae carreg wen fel 'sennau
ein gwyr a'u bedd heb ei gau.
Y maen hwn sy'n drwm o nerth,
yn wlyb yn niwl eu haberth.
A'i hen rug sy'n darogan
mwy o waed ar flodau mân.
Ac o Hyddgen gyhuddgar
dof finnau a'r geiriau gwâr
sy' ynof yn atseinio'r
brwydrau yng nghymylau'r môr.
Gwenallt Llwyd Ifan
Englyn cywaith: Magned
(y drudwns sy'n hel o dan Pier Aberystwyth i glwydo'n nosweithiol)
Ar wib, yn ddi-rybudd - yn arian byw
At rin y bae cochrudd.
Eu dyfod, yn haid ufudd
Yw gwyrth yr hen ysfa gudd.
Anwen Pierce
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

