Bro Ddyfi v Y Gler

Bydd yr ornest yma o'r Talwrn yn cael ei recordio yn Festri Capel Bwlchygroes ar y 12fed o Ebrill

Bro Ddyfi

Bro Ddyfi

Y Gler

Y Gler

Cwpled caeth ar yr odl "wl"

Seiniau'r ffair sy'n swyno'r ffwl
Ar wib i freichiau trwbwl.

Elwyn Breese
8 1/2 Pwynt

Cwpled Caeth ar yr odl 'wl'

Gobaith nid oes o gwbwl
O 'nal i yn odli "wl".

Osian Rhys Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn yn cynnwys "Da o beth yw gweld y byd"

Da o beth yw gweld y byd - a mwynhau
Mannau hardd fel alltud
A chael ar ôl dychwelyd
Fy nghartre'r man gore i gyd.

Gwilym Fychan
8 1/2 Pwynt

Englyn yn cynnwys 'Da o beth yw gweld y byd'

Da o beth yw gweld y byd, - yr hwyl wen
Yn gorlenwi ennyd,
Teithio'r môr rhag ymyrryd
Â'r Gymru wag, am ryw hyd.

Eurig Salisbury
9 1/2 Pwynt

Limrig: "mae llawer o sôn am ..."

Mae llawer o sôn am 'rhen Gabriel
Sy'n 'sbyty, ward sefn, gwely cornel,
Ar ffordd oedd mor gul
Mi ddaeth Pôp Mobîl
A'i daro wrth dafarn yr Angel.

Hedd Bleddyn
8 1/2 Pwynt

Limrig: 'Mae llawer o sôn am ...'

Mae llawer o sôn am John Evans,
Ar ei ben fe hoffai roi sosbans,
Ond mae o reit thick, -
Mi driodd o dric,
A berwyd ei ben wrth wneud headstands.

Osian Rhys Jones
8 Pwynt

Pennill ymson mewn ffatri

Ffatri Max Boyce

Am hir bu'r ffatri'n segur
A thrist oedd stâd ein cwm,
Dim achos i neb wenu
Drwy'r holl flynyddoedd llwm.

Ond nawr mae'r ffatri'n fwrlwm,
Pob dim yn gweithio'n ffein,
Rwy'n gwylio'r cynnyrch gorau
Yn cyrraedd pen y lein.

Mae Max yn canu eto
'R ôl inni weled dawn
Chwaraewyr gwych ein ffatri
Yn ennill y gamp lawn.

Elwyn Breese
8 Pwynt

Pennill Ymson mewn ffatri

Myfi sydd fwnci truenus yn gweithio am gyflog gwael
- er mod i'n gweithio'n galed, 'mond banana rwy'n ei gael.
Mewn ffatri ger Machynlleth 'sdim sôn am doriad i de
na sôn am unrhyw hawliau, na'r RSPCA.
Y perchnogion sydd yn greulon a dioglyd ar y naw
a minnau yma'n llunio cywyddau'n ddi-ben-draw.
Ond yr wythnos 'ma oedd weitha' - bu'n rhaid gweithio 'mlaen
yn hwyr -
a'r groes a'r lusg a'r fantach yn fy mlino innau'n llwyr.
"Wel dere'r mwnci, teipia!" Gwaeddodd beirdd Bro Ddyfi'n glir,
"Bydd dyddiad cau y Talwrn ar ein pennau cyn bo hir!"

Iwan Rhys
8 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cariad

(Teri Schiavo)

Er i'w gwr wirio'r geiriau,
anodd yw gorfod rhyddhau
ei wraig, er ei geiriau hi.
Amau'r rhain mae'r rhieni,
amau'r rhesymau, a'r rhaid
o'i llwgu pan dry'r llygaid
diymadferth, fu'n chwerthin
gynt atynt; a'i chlywed hi'n
dweud ei bod drwy symud bys;
a gofyn, trwy droi gwefus,
Teri yw, er y trawiad.

Tegwyn Jones
9 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cariad

Dywediad llygaid ydoedd,
Ac englyn heb eiryn oedd
Dan leuad hyn o lawer
Na holl liw ein cannwyll wêr
Ar y bwrdd rhyngom a'r byd.

Lle safodd lleisiau hefyd
A gweini â gwên gynnes
Eu hen win i'n tynnu'n nes,
Rhoesom gusan yr oesau,
A hen, hen sgwrs mewn gwisg iau,
Ein gwisg ni yn unig oedd
Dywediad eiliad ydoedd.

Hywel Griffiths
9 1/2 Pwynt

Englyn cywaith: Llygad

Rhai a wêl ar ymweliad - ein bro wyllt,
Ond ei braidd wêl Walad,
Gwêl oen â'i graffter cefn gwlad
Yn feheryn o'i fwriad.

Dafydd Wyn Jones
9 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Llygad

Er cloffi a gwelwi gwedd, - gweld breuo
A rheibio arabedd,
Mae fflam gref, cyn hunllef hedd,
Yn ieuanc hyd y diwedd.

Osian Rhys Jones
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Ffilm

Mi brynodd Ifan gamera
Oedd yn ffilmio wrtho'i hun,
A'i osod yn llechwraidd
Wrth ei wely rhyw bnawn Llun.

Dydd Mawrth ni welodd Ifan
Ddim sôn am doriad gwawr,
Na chwaith dim sôn am fachlud -
Bu'n nos o ddeugain awr.

Pan gododd ef Dydd Mercher
Tua dau o'r gloch y pnawn,
Roedd o a gwraig y gw'nidog
Yn ddau flinedig iawn.

Fe aeth â'r ffilm i'r chemist
Ddydd Iau tua amser te,
A'i chasglu brynhawn Gwener
O'r siop yng nghanol dre'.

'R ôl cinio slic Dydd Sadwrn
Aeth i weld beth oedd mewn stôr,
A'r cyfan oedd i'w weled
Oedd lluniau o'r chest o' drôr!

Hedd Bleddyn
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Ffilm

Daeth i stiwdio'n barddoniaeth
Stanley Kubrick canu caeth,
Ac mae'r Gymru wag, amrwd,
Mwy yn Gymru Hollywood.

Dewch i weled o'ch holau
Stellar cast o lawer cae,
Arnie ac Emyr Oernant
Yn Nhan-y-Groes, a Hugh Grant.
Yn salwn ein High Noon ni
Idris sy'n gwneud gwrhydri,
Ym maes ei Sound of Music
Rhyw glecio dawnsio mae Dic,
A Die Hard yw hi wedyn,
Bruce Willis ac Ellis Wyn.
Ond star ein hynod stori
Yw Hopwood, ein Eastwood ni.

Yn dyrfa fawr aed i'r fan
I weled Woody Alan,
Russel Crowe a Lloyd Owen,
Am ryw dro, yw'r macho men!

Eurig a Hywel
9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Un o anian wahanol
Un o'r rhai sy'n dal ar ôl

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

un o anian wahanol
yw Ned a dau ben ôl.

0 Pwynt

Telyneg: Crefft

Gwelais holl ystryw merch ar waith
heddiw,
y wên fach yn dawnsio'n
chwareus
hyd ymylon ei gwefusau,
a'r llygaid yn ffugio'i
diniweidrwydd crwn
yn dawel hyderus,
ei llaw'n ymestyn tuag ato'n
ddengar
i'w dynnu
mor ddiymdrech
i ganol ei gwe.

Fe weithiodd-
fel mae wedi gweithio
'rioed,
a Taid wedi'i lapio'n
dynn
am ei bys bach.

Ann Fychan
9 Pwynt

Telyneg: Crefft

Rhwng llys a llys
Rhwng pob llan,
Ar lwybrau hyll a thywyll,
Pwy fu'n pwytho iaith
Yn gerdd a chân i frethyn hanes,
Pwy oedd biau'r trosiad
Fel cwmwl ar draws y lleuad?
Pwy drodd y lliwiau
Yn waed oer mewn machlud eirias?

Pwy fu'n bragu gwin Seithennyn
O'r ewyn oer? Yn saernïo'r stori
O'r pentir garw?
Pentyrru geiriau
Fel coed tân ar gân,
Ac yna, disgwyl i'w hwyl hi gydio,
Cyn ein gadael
Yn genedl gynnes,
Yn gylch o'i hamgylch hi?

Hywel Griffiths
9 1/2 Pwynt

Englyn ar y pryd

Hwn yw gair gwerthwyr ffeiriau- i'n hannog
I brynu eu nwyddau
A hawdd i wanc ufuddhau
I'w gloddest o gelwyddau

8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl 'wl'

Anodd iawn â'r hin yn ddwl
Yw medi heb wneud mwdwl.

Englyn yn cynnwys 'Da o beth yw gweld y byd'

O'n moethau a'n hesmwythyd - a welwn
Ni hofelau'r nychlyd?
Da o beth yw gweld y byd
Yn ei hunllef ddychrynllyd.

Limrig 'Mae llawer o sôn am.....'

Mae llawer o sôn am wneud sosej
All gyrraedd o Trefriw i Swanage,
Y broblem rwy'n tybio
Sut gellir ei ffrïo
Mewn padell a gedwir mewn garej.

Mae llawer o sôn am yr hela,
Nid llwynog ond dynes drws nesa',
Mi welais sawl ci
Yn mynd ati hi
A llawer daeargi'n dod o 'na.

Pennill Ymson mewn ffatri

O ddeg tan chwech rwy'n gweithio
Bob noson fel peth ffôl
Gan weld mai'r bobol hapus
Yw'r rhai sydd ar y dôl.

Englyn ar y pryd: Bargen

Awn o'r capel tawelach- ond emyn
Diamod yn dlotach
O lond byd o bulpud bach
Un econ gyfoethocach

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled Caeth ar yr odl 'wl'

Esgus am gwpled trwsgwl
Yw nad wyf ond prydydd dwl.

(wrth gamgyfeirio)

"Oi harper! Where's Li'erpool?"
"Dos adra ffor'na, y ffwl!"

Yn Arabia mae trwbwl
O du un arlywydd dwl.

Osian Rhys Jones

Limrig: 'Mae llawer o sôn am ...'

Mae llawer o sôn am Bro Ddyfi
A dim am y Glêr, dyna biti;
Yr ydym yn glyfrach
Ac mae hi'n glir bellach
Na churan' nhw'r Glêr, ond ar foeli.

Mae llawer o sôn am focs matsus
A adawyd un tro ar Ben Nevis,
Does neb yn siwr pam,
Ond taniodd o fflam
A nawr mae Caeredin fel Fenis.

Mae llawer o sôn am Shampw
I olchi eich gwallt, medda nhw,
Ond wnaeth neb rybuddio
Ei fod o yn brifo
Os eith o i'r llygad- Bw hw!

Osian Rhys Jones

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cariad

Rwyf heno yn troedio'r traeth,
Heno lle bo gwahaniaeth
Ar heol unigolyn,-
Yr ôl traed a wnaed gan un;
A phen yr heulwen yn hel
Yn guriad calon gorwel
O goch, a chwmni y gwyll
A dawo'n noson dywyll.

Mynd, dod ar dywod di-wedd
A â'n iasoer trwy 'mysedd
Yn wewyr di-gwmniaeth
Imi heno'n troedio'r traeth.

Osian Rhys Jones

Cariad

Buom yma Sul pasiant
O'r blaen, yn y blaen, yn blant,
Yn geirio'n gegagored
O gopi rhwyg y parêd,
Ac yn closio'n heco ni
At arweiniad rhieni.

Y mae merch lle bûm â mam
Yn adlais, ond deil bedlam
Cymanfa'r llafar-ddarllen
Yn blant ac yn bobol hen.
Duw, cariad yw, dywedodd
Hithau a minnau'r un modd.

Eurig Salisbury

Englyn Cywaith: Llygad

Gwelais fel rhwyg o olau - y lliw hwn
Na'm dallineb innau,
Gwelais rwyll fel canhwyllau'n
Goleuo rhwng dwylo dau.

Hywel Griffiths

Llygad
(baban mewn croth)

Yn ôl y sgan golosg yw a fwrir
O'i farwor unigryw,
Un mor boeth yn twymo'r byw
Yn llygad ei dad ydyw.

Eurig Salisbury

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.