Tywysogion v Tir Mawr
Cafodd yr ornest yma ei recordio yn Y Ganolfan, Llithfaen
Tywysogion

Tir Mawr

Cwpled caeth ar yr odl "ics"
Anodd yw gwneud ciwb Riwbiks:
anos cael gerbocs o Kwiks.
Meirion Macintyre Huws
8 1/2 Pwynt
Cwpled caeth ar yr odl "ics"
Caled i jocaholics
ydi ty â'i lond o Twics.
Myrddin Ap Dafydd
9 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Ffôn poced
Tasa gen i ffôn bach a hwnnw cau a mynd,
fyswn i'n ei guro fo? Wel na fyswn ddim;
ei roi lle mae 'na signal, a ffîd o drydan rhad -
y ffôn bach gora fu 'rioed yn y wlad.
Tasa gen i ffôn bach a hwnnw'n dal cau mynd,
a 'mywyd i'n dibynnu ar ateb tecst fy ffrind,
a'r credit 'di hen ddarfod a'r batri'n hollol fflat,
Fyswn i'n ei guro fo? Wel byswn, hefo bat!
Gwyneth Glyn
8 1/2 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Ffôn Poced
Anhygoel ddarn o blasting. Botymau bach di ri,
O! rwyt yn ffan.....damia! Sgiwsiwch fi.
"Dwi yn y Talwrn yldi, tria'i gweld hi wâs!
R'arglwydd tyrd reit handi, cyn i hwn droi'n gas.
Glenys! Glenys! Sadia! rwan'ta dweud be'sydd?
.....................................be? drwy'r dydd?
..................paid a malu! neithiwr gyda'r nos?
Dweu'thai bo chdi'n palu.........O Jemeima Jôs!
Am ddeuddydd fuodd o acw, be ddywed dynes 'Waen'?
.............................dim fi a'i throdd hi 'mlaen!
.............................. wel na, does genai'm cof
............................... be oedd o'n neud yn stof ?
'Dwi yn y Talwrn sylwer! ar ganol soned gain...
tua hanner awr 'di hanner yn ol y siap sy'ar rhain.
Y ty 'cw'n nofio efo crawn? aroglau drwy y lle!
Ia, ia, ia, iawn! Rwy'n cychwyn sdrêt awe."
Rhaid i mi adael rwan, mae'r wraig 'di lladd y ci
Mae signal ym Moduan, mi decstiai'r gerdd i chi.
Gareth Jones
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â theledu
Gorweddaf yn boeth ac yn barod
I ti fy niwallu'n ddiamod.
Fy nheclyn bach del,
Rho imi'r hard sel,
Rwyt ganwaith gwell na fy mhriod.
Gwilym Morus
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â theledu
Lladrata teledu roedd Ray
Eisteddodd i'w gwylio yndê
Daeth dau ddyn o gar
a chydio'n ei war
Roedd Raymond ar Crimewatch UK
Gareth Jones
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Newid tywydd
Cawsom hwyl, cawson heulwen,
a bod am unwaith yn ben.
Mi fwrwith yma 'fory,
bwrw a bwrw fel y bu
'n stido. Nid ar un stadiwm,
ond ar geir, ar stryd, ar gwm,
ar enwau tai, ar ein tir,
ar nant, ar bant ar bentir.
Bydd y sêr hyd ein fferau,
a niwl Hull yn amlhau.
Pan ddaw'r gawod a godwn
lechi mawr? Na, gwlychu mwn.
Meirion Macintyre Huws
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Newid Tywydd
Ni wenodd tecach gwanwyn,
ni fu Fawrth erioed mor fwyn
heb lwydrew'n dew 'ngwawr y dydd
na min ar wynt y mynydd,
hwythau, liw'r haul, yn un rhes
y cennin melyn cynnes.
Ond mae'r llew'n ei dymor llwyd
o hyd, ac os arbedwyd
daear gynnar, mae gwinedd
yr hen Fawrth yn troi'n ei fedd
a daw'r ias grin dros y gwres,
drycinoedd dros dir cynnes.
Myrddin Ap Dafydd
9 Pwynt
Pennill ymson ar risiau
Dwi'n troedio'r grisiau ers hydoedd
A dal heb symud r'un cam
A cwbl dwi isio 'di menyn
Dwy dorth a photyn o jam
Dwi 'di dechra colli pwysau
Mae'n ngwallt i'n cyrraedd fy nhin
Tu ôl i mi mae bellach byddin
o blue rinses bach hynod o flin
mae pobl yn rhannu brechdanau
dwi'n cael fferins gan blant bach pump oed
ac mae hogia St. John's yn pryderu
am y swigod sydd ar y nwy droed
mae'r ffaith mod i dal i frasgamu
wedi denu sylw y wasg
ar y waliau pan gychwynais roedd 'dolig
erbyn hyn mae wyau Pasg
mae'n debyg rhyw ddydd fyddai'n gorwedd
yn fy arch pan gyrhaeddai'r top
dwi dal ddim yn gweld beth yw pwrpas
cael grisiau sy'n symud mewn siop.
Gwilym Morus
8 1/2 Pwynt
Pennill Ymson ar risiau
Ma'i di gleuo arnaf eto
charped diarth dan fy nhraed,
mae fy nhrwyn tuag adref
ac rwy'n diolch am a gaed
Huw Erith
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Gai i'r ffôn i'r gorffennol
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd yn cynnwys y gair ffôn
Ar y ffôn roedd gwr ffyni
0 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Pen Llyn
Beth ydwyf i ond brodor coll
Ar gyfeiliorn yn y glaw,
Tan cyrraedd caeau'r gwanwyn pêr
Lle mae dwylo'n gweithio'r baw?
Beth ydwyf i ond ffoadur dre'
O'r tawelwch mawr yn ffoi,
Yng nghysgod cymunedau Llyn,
Tuag Enlli fach yn troi?
A beth yw Pen Llyn ond cilfach dlawd?
Prin y clywais amdani hi -
Heb ildio llawer i donnau'r môr,
Yn byw a bod ar ganol lli.
Ein lloches ni, y lleisiau prin,
Gyda'n mawl a'n dychan gân,
Yn cadw rhag y tywydd mawr,
Yn ceisio cynnau'r tân.
Gwilym Morus
8 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Pen Llyn
Ym Mhen Llyn mae Aberdaron
Ynys Enlli wedyn 'Werddon
Pe taet ti'n mynd reit rownd y ddaear
Doet yn ol drwy Llanelhearn
Ym Mhen Llyn reit ar y glanna'
Saif gwesty crand uwch heli'r tonna,'
Dwy seren awr sydd ar y pared
Un am bob mis mae'r lle'n agored
Ym Mhen Llyn mae lonydd llydan
I feddwyn ffendio'i ffordd o'r Sbortsman
A rhai cylion a chwn yn cyfarth
Er mwyn gwylltio pobol ddiarth
Ym Mhen Llyn mae ogla carthu
Sydd mor gryf mae bron a'ch brathu,
Ar ddiwrnod poeth mae yn fy llethu
Ond mae o'n well pan mae hi'n chwythu
Ym Mhen Llyn mae meddyg moddion
(wnai ddim dweud ym mhle yn union)
Ac mae gan hwn rhyw stwff yn tyfu
A wnai I Bob Marley ail anadlu
Ym Mhen Llyn mae Ford Mondeo
Mewn gardd gefn yn prysur gancro,
Ym Mhen Llyn mae nghariad inna
Yn barbio drain yn nhraed ei sanna
Gareth Jones
9 1/2 Pwynt
Englyn cywaith: Tafarn
Mae'r Foelas a'r Plas a'r Plu - yn ei geg;
hyd ei gôt mae'r Gwindy;
yn llwyd ei wallt mae'r Llew Du;
yn ei fêr mae difaru.
Meirion Macintyre Huws
8 1/2 Pwynt
Englyn Cywaith: Tafarn
Fic, Llithfaen
Mae anadl rhwng ei meini- yfory'n
Fawr yn ei seleri
Swn parhau neu'i hwyliau hi
Gwanwyn yn ei chasgenni
Myrddin Ap Dafydd
9 1/2 Pwynt
Telyneg: Glaw
Daeth yr haul i ddeffro'r haf,
ac mae'r byd yn brifo o braf.
Ciliodd y cymylau duon;
bwrw beunydd mae fy nghalon.
Deffrodd gwynt y gaeaf eto,
chwythodd haul a hindda'n ango'.
Nid yw'r rhewynt ar y lli
lawn mor oer â 'nghalon i.
Dacw'r gwanwyn yn dihuno,
Dacw'r awyr glir yn heulo.
Derfy'r gwynt a derfy'r gawod
Calon brudd sy'n bwll di-waelod.
Gwyneth Glyn
9 Pwynt
Telyneg: Glaw
Sydyn y daw'r gawod
i gleisio'i wyneb glân:
chwifio'i frechiau
taflu'i gylchau
ac yn niffyg geiriau,
dagrau'n parablu'n glir.
Buan yr aiff heibio:
ildio i Fehefin glas,
cysur crystyn
neu ebol melyn
neu law'n ymestyn
yn ymlid y cwmwl gwlyb.
Sychu wrth iddo dyfu
wnaiff y dafnau gloyw;
daw eto dywydd
o'r môr ac o'r mynydd,
ond bydd yntau'n llonydd
yn diferu iaith yn gloff.
Myrddin Ap Dafydd
9 Pwynt
Englyn ar y pryd
Gynau, a mi'n fachgennyn- onid oedd
Y dyddiau'n ddiderfyn?
Eu gweled mor fyr wedyn
Yn dilyn hers hyd lôn hyn.
10 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth ar yr odl 'ics'
Robat sy'n foi erobics,
Mal ei frawd fel mil o frics.
Englyn ar y pryd: Amser
Awr coron awr creu cewri- yr awr aur
Awr rhy wych i dorri
Ein hadenydd newydd ni
Heddiw dim ond ddoe oedd hi.
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81 1/2 CYNIGION ERAILL Pennill mawl/ dychan: Ffôn Poced
Dim petrol,dim pobol
Dim ciosg, lle anial
Dim problem,dim signal!!
Huw Erith
Cyfleus? wel ydi, mae o...
Heblaw fy mod i'n goro
Dal ymbarel ar ben y wal
Er mwyn cael signal ffonio.
Myrddin Ap Dafydd
Limrig yn ymwneud â theledu
Roedd Olwen yn rhuthro a ch'nadu
wrth chwilio am ffiwsus 'Y Gwyndy'
a fanno roedd Ken
a'i din at y nen
wedi rhoddi ei ben drwy'r teledu.
Fe welwyd Ron wyllt yn rocedu
ar ol bod yn trwsio'r teledu
Roedd Ron o dan straen
a'r trydan ymlaen
Fe laniodd mewn traen yn Llanboidy
Mae pob 'Taclo'r Tacle'n boblogaidd
Hoff raglen ein ciwed anwaraidd
gan fod dau neu dri
o'n teulu bach ni
i'w gweld arni hi yn rheolaidd
Tra'n aros i'r jeli galedu
eisteddodd i wylio'r teledu
Fe gysgodd tan dri
a wir dduw i chi
death Mostyn y ci a'i waredu.
Bu rhaid i mi ffonio cymodwr
i gwyno am Now'r adeiladwr.
Y diwrnod o'r blaen
fe dynais i'r tsaen
a'r teli ddaeth 'mlaen yn y parlwr.
O'r nenfwd yr oedd Aled
a'i ben i lawr yn cerdded
"Wel damia, Gwen,
Gosododd Ken
y bocs a'i ben i waered".
Roedd Ron yno'n gwylio ers oriau
a'r gêm am ryw reswm heb ddechrae
Yn lle un deg un
doedd dim ond deg dyn
Roedd Ronald ei hun 'fod i chwarae.
Ar sgrin y TV yn nhy Nerys
roedd hysbys bwyd ci hynod flasus
O rhywle death Bet.
Aeth ei phen drwy y set.
Mae hi'nawr gyda'r vet a Rolf Harris.
Pennill Ymson ar risiau
Rwy'n troedio'r melltith risiau 'nawr am bedair awr neu ragor.
Mi ddylai fod, a' nghoesau'n stiff, rhyw lifft neu escelator
Mi gofiai'r grisiau cyntaf un sydd gen i gof o'u dringo,
pan es i mewn i gwt rhyw ddyn, at wningen ddof a'i blingo.
A'r tro'r aeth Now i achub Pwt i ben y dderwen fawr,
es i a'r ysgol 'nol i'r cwt cyn iddo ddod i lawr.
Dringais risiau bach di ri i gopa Twr Eryrod,
a wedyn dechrae gwneud pi pi dros bawb oedd yn y gwaelod.
Ac yn yr ysgol dringais lan i 'stafell 'Wilias Waldiwr',
i roi y bai i gyd ar Dan a bron achosi mwrdwr.
Troediais garped grisiau lu yr adeg ro'n i'n bostman,
i fynd a'r post at wraig y ty pan oedd eu gwyr nhw allan.
Roedd mil o stepiau metel maith i fyny mast Llanddona,
at brotestwyr 'dros yr iaith' i daflu'r tacla o'na.
Dros bob un o'r isel rai fe ddringais i yn llawen,
heb falio dim a phoeni llai cyrhaeddais ben y domen.
Rwan ar fy siwrne fawr, yr olaf, mi warantai
fe welaf wrth i'm fynd i lawr y fflamau'n dod amdanai.
Gareth Jones
Englyn Cywaith: Tafarn
Yn ddiweddar daeth yn hysbys mai yn lle saif bar cyhoeddus
gwesty'r Ship Aberdaron yr arwyddodd Henry Percy,Edmund
Mortimer ag Owain Glyndwr gytundeb y tridarn at ddydd olaf
Chwefror 1405
Tafarn
Fan hyn ble caed cytundeb-y tridarn,
Ble troediodd gwroldeb
Yn ei nerth,a saif na neb?
Rhag rhannu tir gwarineb.
Huw Erith
Tafarn
(Fic, Llithfaen)
'Mond ei bar a'i gwerthiant ara' rhegodd
y bragwyr, mae'n aea';
'mond ei hwyl a'i chwmni da
wna wanwyn, meddan ninna'.
Myrddin Ap Dafydd
Telyneg: Glaw
"Tydi'n sychu dim,
hen dywydd ffadin,
niwl y môr
yn llanw'r gorllewin.
Mae hi'n pigo eto
dim ond pryfocio,
Methu gollwng iddi
a methu a pheidio.
Pryd gwnaiff hi sychu
i roi'r dillad allan.
mae hi'n tampio eto
(dim ond rhyw sgrempan)"
Mewn dillad sychion
heb na llaid na llanast
mae na fôr o law
y tu mewn i'w ffenast.
Huw Erith
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

