Dolgellau v Ysgol Y Berwyn

Cafodd y Talwrn yma ei recordio yn Y Ganolfan yn Llithfaen

Dolgellau

Dolgellau

Ysgol Y Berwyn

Ysgol Y Berwyn

Cwpled caeth ar yr odl "ocs"

I Wil, bustych yw bullocks,
I Elen, ychen yw ox.

Arwyn Groe
8 Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl "ocs"

Er byw'n hir, rhag derbyn nocs,
rhwymwch eich hun ar hamocs.

Manon Ellis
8 Pwynt

Pennill ymson mewn jyngl

Dim ond i mi sefyll yn llonydd
Mi ... mi ... mi fyddaf yn saff
A pheidio arddangos ansicrwydd
Ca ... cadw'n mhen, bod yn graff,
Mae nacw'n sgyrnygu'n go arw,
A hwnna'n grechwen i gyd,
Ond syllu yn syn mae'r rhan fwyaf
Ys... ysgwn i am ba hyd ?
Does gen i 'run llwybr i ddianc
Nerfau yn dyn, dyn fel tant,
Allai'm aros yn f'unfan am byth -
1 .. 2 .. 3 - "Bore Da Blant".

Mair Tomos Ifans
8 1/2 Pwynt

Pennill ymson mewn jyngl

Dwi'n camu'n betrusgar drwy'r jyngl
A'm calon yn curo'n ddi-baid,
Fan acw mae rhai fel mwnciod
Yn gwylio fy nghamau'n un haid.
O rywle daw chwyrnu maleisus
Rhai tebyg i fleiddiaid i'm clyw
Sy'n disgwyl yn eiddgar am gyfle
I neidio a'm llarpio yn fyw.
Dwi'n teimlo bygythiad o bobman,
Be dwi'n wneud yn y ffasiwn le?
Yn anffodus mae'n rhaid bod yma,
Y fi di'r prifathro yn de!!

Llio Jones
8 Pwynt

Limrig: Pan oeddwn yn nhafarn y Fic

Pan oeddwn yn nhafarn y FicA
'r meuryn yn mynd ar fy wic,
Fe luniais i englyn
Yn diawlio'r ynfytyn,
A dengid o'r dafarn reit gwic!

Arwyn Groe
9 Pwynt

Limrig : " Pan oeddwn yn nhafarn y Fic"

Pan oeddwn yn nhafarn y Fic,
dywedodd dwy ferch ' take your pic',
yr oeddynt yn noeth
dewisais bastai mawr poeth,
dwi'n credu fy mod i reit thic.

Meilir Williams
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Priodas

Priodi Tywysog Cymru

I annwyl wlad ein tadau
Daw tros fur i'n bur hoff bau
I fêr pob ystafell fyw,
I ruddin ein bro heddyw,
Drwy ffin gwerin nes inni
Ganu'n iach i'n t'wysog ni!

Gog o dywysog yw hwn;
Yn ein brad ni a'i br'iodwn
A nythu yn ei neithior.
Yna mynd dros ewyn môr
Am y mêl i ryddid mall
Am erwau anthem arall.

Arwyn Groe
8 Pwynt

Cywydd ( heb fod dros 12 llinell) : Priodas

I Einir a Rhys.

( sy'n priodi ym Mhortmeirion 2/4/2005).

Am mai awr ym Mhortmeirion
ydyw sail y briodas hon,
y mae'n braf eich gweld mewn bro
'eidalaidd' yn dal dwylo,
agor llaw gerllaw y lli
yn dyner cau amdani,
yn wr a gwraig o'r awr hon,
yn un fel pererinion,
yn cael cyd-gerdded wedyn
a'r daith yw cariad ei hun,
a rhodiwch yn gariadus
o'r awr hon, Einir a Rhys.

Arwel Jones
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Polau Piniwn

Yn dre fe holais gant o fobol
"A ddyliwn sgwennu yn wleidyddol?"
"Fe ddylai pawb" oedd cri Nos Sadwrn
"Blaw Beirdd Irac a beirdd y Talwrn"

Arwyn Groe
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/dychan : Polau Piniwn

Fe ofynnwyd i dimau'r Talwrn
Pwy oedd bardd mwyaf ein gwlad.
Atebodd Dolgellau ar unwaith,
Hedd Wyn fu farw'n y gad.
Fe ddewisodd y Tir Mawr Myrddin
A'i gerddi medrus a slic,
A phan holwyd y Tywysogion
Wel eu dewis nhw oedd Dic.
Dim ond tim y Berwyn ddewisodd
Y Meuryn yn hyn i gyd,
Gan ddweud nad amheuaeth o gwbwl
Mai fo yw bardd gorau'r byd!!

Delyth Humphreys
8 1/2 Pwynt

Englyn cywaith: Antur

(Dal gwyniad ar Lyn Tegid adeg claddu Mis Chwefror,yn rhinwedd fy swydd wrth gwrs!)

Heno hyd eigion o Degid- rhwydais
Dy drydan o'r cynfyd,
A minnau 'mond am ennyd
Yn byw dechreuad y byd.

Rhys Gwyn
9 Pwynt

Englyn Cywaith : Antur

Codi pac nid ymlacio - a myned
nid mynnu gorffwyso,
nid diogi ydi o,
antur yw galifantio.
Mae nodwydd mewn munudyn - ar allor
y chwistrelliad sydyn
yn gyffro sy'n deffro dyn
a'i adael i lawr wedyn.

Arwel Jones
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yfory ddaw

"Paid poeni," medd Arwyn, wrtha i lawr y ffôn
"Mae na 'wsnosa tan rownd nesa ni, yn y bôn."
"Diolch byth," medda finna, "dwi'n brysur ar naw,
Sgennai'm amser i drio barddoni,
Heblaw, chai ddim cwsg,' dwi'n gwybod, mi eith ar yn wic
Sud ma disgwyl cael rhywbeth i odli 'fo Fic"?

A'r awen yn suddo, yn is ac yn is -
Cyn troi rownd, mae gennai lai na mis!
Rwy'n chwys oer, 'di mwydro fo'r Ynys Mull
Yr unig beth sy'n scanio 'fo jyngyl!
Wrth ll'gadu'r odliadur, daw dim ond rheg-
Ar ôl, mae pedair noson ar ddeg.

"Meddylia am rywbeth i odli 'fo 'ocs',"
Medda Rhys wrthai'n despret, ddydd Sadwrn;
Dwi wedi 'me fi, ond fedrai ddim
Deud hynny, ar y talwrn!
Yn dal yn pendroni, heb odl mewn llaw -
A'r dudalen yn wag, yfory ddaw!"Brysia"! medda Mair, "'sgwenna rwtsh munud ola,"
Oherwydd, O na! Mae yfory yma!

Nia Medi
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell) : Yfory Ddaw

Annwyl Feuryn, gair bach i egluro
Na tydwi ddim yn wir yn cytuno
A'r syniad fynegir yn eich testun
Y bydd yfory yn sicr o ddilyn.
Wel beth pe bai'r Eifl heno yn ffrwydro
( hynny ydi pe bai yn folcano)
A chladdu'r Tir Mawr dan lwch folcanig,
Ni fyddai fory i'w beirdd siomedig.
Beth pe bai 'aliens' o Mars yn glanio
A rheini yn bwyta beirdd i ginio,
Fe fyddai'r Berwyn yn un o'u seigia,
( Diogel wrth gwrs fyddai tim Dolgella).
Felly heb wybod a fydd yfory,
Rhaid pwyllo rhag ofn i chi ddyfaru
Peidio rhoi deg am y gan ma heno,
Efallai na chewch chi gyfle eto.
Wel beth pe bai.............dyna fy neges
Yr eiddoch yn gywir, cofion cynnes,
O.N. Gobeithio fydd na fory'n eich hanes.

Manon Ellis
8 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Un nos oer dros arch mewn sied
Noa a gafodd niwed1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Noa a gafodd niwed
Go ryff ydoedd llif ei gred

0 Pwynt

Telyneg: Cwm

Misoedd, blynyddoedd o fyw yn y cwm -
Llechweddau'n eu cwman, hafnau llwm,
Coedwigoedd di-fywyd, di-lwybr, di-liw,
Olion hen hanes, crachan hen friw;
Glynnoedd cysgodion, crognentydd cudd,
Dagrau di-derfyn cymylau prudd.

Deffro un diwrnod a chanfod y nerth
I droedio llechweddau, gelltydd serth,
Goresgyn clogwyni , cael codwm, craith,
Cip o'r copa dan niwlen sawl gwaith;
Ymwthio trwy'r tawch, bu yn ymgyrch hir -
Gweld cwm, gweld y cyfan yn gwbl glir.

Mair Tomos Ifans
9 Pwynt

Telyneg : Cwm

Abaty Cwm - hir.
( Wedi taith i Abaty Cwm-hir a gweld bod cymreictod yn
diflannu o'r ardal, ond eto y mae eco'r gorffennol yn dal yno.)

Abaty cwm-hir
yn wir,yn wir
Abaty Cwm-hir
ein tir, ein tir.vGorffennol mor bell
ymhell, ymhell;
Gorffennol mor bell
lle gwell, lle gwell.
Llywelyn ein Llyw
yn fyw, yn fyw;
Llywelyn ein Llyw
nid yw, nid yw.
Beddargraff yr iaith
yw'r daith, yw'r daith;
Beddargraff yr iaith
yn ffaith, yn ffaith.
Cymreictod y wlad
parhad, parhad.
Cymreictod y wlad
nacad, nacad.
Tawelwch y cwm
mor llwm, mor llwm;
Tawelwch y cwm
yn drwm, yn drwm.
Abaty Cwm-hir
yn wir, yn wir
Abaty Cwm-hir
ein tir, ein tir.

Delyth Humphreys
8 Pwynt

Englyn ar y pryd

Yn haid o Lundian eleni- y dônt
Yn dorf i'r holl geiri
Yn fyddin dônt i foddi
Tir neb lle bu'n tyrau ni.

8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl"ocs"

Yn swanc, yn gwisgo 'mond socs
bu Beti wedi Botox.

Arwyn Groe

Bocs Pandora

Gwae'r byd o agor y bocs,
Egni a ddeil fel Magnox.

Rhys Gwyn

Ar garreg fedd morwyn consuriwr

Aeth yn gam ar y giamocs,
Llifodd gwaed di-baid o'r bocs.

Rhys Gwyn

Pennill ymson mewn Jyngl

'Dwi wrthi ers pythefnos yn trio ffrwyno'r drain,
Dad-wreiddio'r jyngyl greulon, lle tyfodd 'shibwns' Nain.
Fe af i ngwely'n war-gam, bob nos 'am han' 'di saith.
R'ôl suddo'i fath o lafant, 'di laru ar y gwaith.
Yn sydyn, gwelaf ffigwr tal
Yn lluchio'i dwls dros ben y wal;
Ei hôf yn sgleinio, ei bladur, a'i raw
A'i gribyn yn gadarn yn ei law.
Mae'n sgubo trwy y fforest flêr, fel Tarzan 'gwrtaithyddol'
A throi y 'brwgaitsh'di ben-draw, yn gampwaith
garddwriaethol;
Ma'i ddwylo'n gry' a'i farf yn chwys,
Mae mordors yn ysblander,
O Rosus, Mari Waedlyd, Grug, Bidoglys, Caru'n Ofer.
Yn Egyllt Ymlusgol, yn Glust Buwch a Chath
Yn Fioled Flewog - neu rywbeth o'r fath.
Yn hafan a grewyd gan ddwylo'r gwr
Roddodd ei oll i fy 'nodwedd ddwr'.

Ond deffrais yn sydyn, i sn y cloc larwm
A dagrau' ar fy nghoban gotwm.
Breuddwyd? O na! Rwy'n sal o siomiant -
Dim ond llais ar fy radio, 'di Gerallt Pennant .

Nia Medi Dolgellau

Limrig: Pan oeddwn yn nhafarn y Fic

Un noson yn nhafarn y Fic
Mi feddwais, a thrio gwneud tric;
efo pedair pêl pwl,
Ar ben bwrdd, fatha ffwl -
A llwyddo'i wneud dim - ond cael cric...

Un noson yn nhafarn y Fic
Roedd' coctels ar werth - efo 'cic';
O fewn ryw ddeg eiliad
R'on i, heb fy nillad
Ar ben y bwrdd pl yn gwneud tric

Un noson yn nhafarn y Fic
Ges i ormod o 'gins' - a thonic;
Bihafiais fel ffwl
Ar ben y bwrdd pwl,
Yn canu fel ci'n cael 'colonic'.

Un noson yn nhafarn y Fic
Mi feddwais ar fodca 'fo Mic;
Fues i'n canu 'Myfanwy'
'Fo John o Lanstumdwy
Ac yn Blodwen, i Hywel ryw Ddic.

Un noson yn nhafarn y Fic
Fe gwrddais a boi 'dyslecsic';
Roedd o'n 'ledd ra y wan,
Ga ny dod o Pajan
A im oddbryn mi 'nig a thonic'.

Nia Medi

Pan oeddwn yn nhafarn y Fic
Cwrddais fardd, a'i enw oedd Dic,
Yr oedd o yn gochyn
A fo oedd y meuryn;
Myn coblyn, dyna'i chi gwrw â chic!

Arwyn Groe

Pan oeddwn yn nhafarn y Fic
Yfais gin oedd yn fulaidd ei gic,
Heb oedi o gwbl
Llyncais drebl a dwbl
A draw i'r Bull wedyn am donic.

Rhys Gwyn

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Priodas

O uniad eu helfennau
Hen graidd dur a greodd dau.
Dau oedd a'u hasiad yn dynn-
Y fo eirias a'i forwyn.
Curiad daerar o garbon
Yn ei dawdd harn ydoedd hon.
Gwnaed dau'n gyfan a'u hanwes
Yn gryf,ac ar drai y gwres
Gordd byw a gurodd eu bod
A hwy eto'n annatod.

Rhys Gwyn

Pennill mawl/dychan: Polau piniwn

Mae'n gyfle i dd'eud eich barn
Am brisiau peint yn y dafarn
Neu glywed barn pob un dyn,
Barn yr ifanc, neu farn y meuryn
A fu'n cwyno am ei bensiwn.Ew, mor wych 'di polau piniwn!

Geraint Edwards

Englyn cywaith: Antur

Ar nant fer yn Iwerydd - o greisis
imi groesi beunydd,
o'm hôl y mae dôl pob dydd,
yn fy mhen mae fy mynydd.

Arwyn Groe

Englyn ar y pryd: Hamdden

Os ydwyt redwr sydyn- yn nofio
Ag afiaith pysgodyn
A cherdded mynydd wedyn
Onid wyt yn lladd dy hun?

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 76

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl "ocs"

If your skin : bags, sags or siocs
bettter to take some botocs.

Biwrocratiaeth

Rhes hir o bapur Xerocs
oll yw'n byd yw llenwi bocs.

Pennill ymson mewn jyngl

Tra'n mynd ar saffari'n y jyngl
Yng nghwmni Arthur fy met,
Fe ddaliais i fwnci bach hoffus
Fyddai'n anifail anwes gret.
"Mi wnai drin o fel un o'r teulu
A mi gaiff o rannu bob pryd,
A mi fydd hyd yn oed yn cysgu
Rhwng fy ngwraig a minnau o hyd."
" Ond be am yr ogla ofnadwy?"
Holodd Arthur yn syn i mi,
" Wel mi fydd yn rhaid iddo arfer,"
Atebais, " jyst fel y gwnes i."

Limrig : "Pan oeddwn yn nhafarn y Fic"

Pan oeddwn yn nhafarn y Fic
Arbrofais a 'chat up lines' slic,
Ces lwyddiant a blondan
Mewn sgert secsi sidan,
Jest bechod mai henw oedd Dic.

***

Pan oeddwn yn nhafarn y Fic
Yfais ormodedd o Frit-vic,
a vodca a chôc
a stwff tebyg i smoc,
dwi wedi gorwneud hi, do wir...........hic!

Pan oeddwn yn nhafarn y Fic
mi welais ferch seisnig a slic,
a'i cheg fawr ar agor
sef Janet Stryd Porthor
a rhedais i ffwrdd yn reit cwic.

Pennill mawl/dychan : Polau Piniwn

Mae'n barn ni'n bwysig nol y rhain
Ar gant a mil o bethau
Er mwyn cael dylanwadu'n gryf
Ar ansawdd ein bywydau.
Ond tybed nad eu diben hwy
A'r rhai sydd yn eu hybu
Yw plannu yn ein meddwl ni
Yr hyn a ddylem gredu.

***

Cawn wybod o stor eu gwybodaeth
Farn pobl am statws y cwin,
A pha bowdwr sy'n golchi lanaf,
Pa bapur feddalaf i'n tin.
Pa steil trons sydd fwyaf ffasiynol,
Pwy sy'n swsian orau'n y byd,
Faint bellach sy'n cymryd viagra
Faint s'isio o hyd ac o hyd.
Wel gyda'r fath ffeithiau rhyfeddol
Ni allaf ond canu eu clod,
Mor dlawd fyddai'n bywyd beunyddiol
Heb yr un pol piniwn yn bod.

***

Yn ol y pol diweddaraf
Bardd mwyaf Cymru wyf i,
Dio'm bwys bod y rhai a holwyd
I gyd yn perthyn i mi.

***

Dwi'm yn credu mewn polau piniwn
Hen lol di'r cyfan i mi,
Os nad yn nhw'n digwydd cytuno
A'r pethau a gredaf i.

Englyn Cywaith : Antur

Cofiaf freuddwydio'r cyfan - yr angen
i ddringo'r uchelfan,
ynof i mae creigiau'r fan,
af yno wrth fy hunan.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.