Dwrlyn v Preseli
Cafodd yr ornest yma ei recordio yng Nghapel Hermon, Cynwyl Elfed
Dwrlyn

Preseli

Cwpled caeth ar yr odl "as"
Yn blaen, mae donci'r hen blas,
Y mul, wedi ca' mulas.
Ifan Roberts
8 1/2 Pwynt
Cwpled ar yr odl "as"
O na bai'n ein bywyd bâs
Oleuni'n lle galanas
Gwynn Jones
8 Pwynt
Pennill ymson wrth wrando pregeth
'Doedd y ffordd i Emmaes ond rhyw filltir neu ddwy,
Ond heddiw, y bore, aeth filltiroedd yn hwy.
Emyr Phillips
9 1/2 Pwynt
Pennill Ymson wrth wrando pregeth
Ein Tad cofia'r Cennad
Sy'n traethu yn awr
Mae'i siec ef mor fechan
A'th waith di mor fawr.
T.R. Jones
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dymuniad
(yn Hydref bywyd)
Na fydd fy ngaeaf yn faith,
Na dim i mi'n gydymaith
Drwy wae olaf fy ngaeaf
Ond atgofion hinon haf;
Na phrofaf fraw i eirlaw oer
Na'i ysol rewynt iasoer
Nag ofnau niwl gaeafnos:
Ond y caf pan af i'm nos
Fod yng ngwên heulwen o hyd -
Yn heulwen fy anwylyd,
Mai angau haf Mihangel
A ddaw, a'n ddifraw pan ddêl.
Dafydd Huws
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dymuniad
Haelaf ŵr- f'annwyl Feuryn
Bardd sy'n tanio bro a bryn
Wyt heulwen ymhob Talwrn
Yn deg, heb ddisgwyl cil-dwrn.
Fi- bum dan dy ddylanwad
Oesau hir- er fy lleshâd
Yn cawio llawer cywydd,
A rhai da- fel gwawr y dydd.
Er adrodd fy ngwrhydri
Eto wyth gawn gennyt ti,
Heno, am un tro'n unig
'Na braf f'ai cyrraedd y brig
heno rho o'th haelioni
y marc llawn am fy nawn i.
Gwynn Jones
9 Pwynt
Englyn cywaith: Mynydd
(O waith)
os gwargrwm a thrwm yr y'n- o feddwl
a fyddwn yn cychwyn
rhyw sbonc reit sionc yna sy'n
ein hosgo o'i oresgyn.
Dafydd Huws
8 Pwynt
Englyn cywaith: Mynydd
(Waldo a'r Preseli)
Ei fynydd oedd ei fanna- a'i awel
Oedd ddiod hyfryta',
Dydd i ddydd, cymdogaeth dda
Oedd ei fur, oedd ei fara.
Gwynn Jones
8 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Rhyddid Anifeiliaid
Os pryna i fflag, fasa chi'n f'ystyried i'n hafin
Yn gofyn i chi'u rhwystro nhw rhag bod mor rhydd ar y pafin?
Ifan Roberts
8 1/2 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Rhyddid Anifeiliaid
Mae gan y fuwch y rhyddid
Nad yw yn hawl i mi
Mae'n domu yn ddifater
Ar y ffordd o flaen fy nhŷ.
Ac felly yr aderyn
Sy'n hedfan yn y nen
Mae ganddo'r hawl i ddomu
Heb drwydded ar fy mhen.
W.R. Smart
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Cael y ffliw fu ei ddiwedd
A nawr 'ny nefoedd mewn hedd
1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Cael y ffliw fu ei ddiwedd
Yn wael newidiodd ei wedd
1/2 Pwynt
Can (heb fod dros 20 llinell): Y Daith
Bu Meri 'cw'n w'nynllyd am ddyddia'
'Rôl clywad am ddyrchafu yn ddêm
Yr hwylwraig Elen MacArthur
Ac meddai, "Os mai hynna 'di'r gêm,
'Dw ffansi mordeithio rownd Cymru
O Gasnewydd i ardal y Fflint
Ac ella ca i wisg werdd yr Orsedd
Am ddim ond manteisio ar wynt."
Bu'n anffodus mewn dewis o noddwr
Doedd chip bord o siop MFI
Ddim y stwff mwyaf addas i "gayak"
A bu'n rhaid iddi alw'n y Bae
Yng Nghaerdydd i gael benthyg
Gwely bync gan Wersyll yr Urdd
Ac ar hwnnw stryffaglodd i rwyfo'n
Y gobaith o'i harwisgo mewn gwyrdd.
Daeth Seismyn y Bae a'i harestio
Fel mewnfudwraig a'i rhoi hi'n y clinc.
Mae yno, heb dreial, 'di 'i gwisgo
Mewn coban draed brain du a phinc.
Ifan Roberts
8 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Daith
Taith ryfeddol Albert Schweitser
Tynnodd o'r organ leddf ym Mharis lon
Bob nwyd, pob dawn oedd eiddo enaid Bach
Yr ochor draw yr un â'r ochor hon
Pan yrrai'r bysedd wefr drwy'r pibau iach.
Astrus oedd gwyddor Kant yn Strasbourg draw,
Rhyw arial yw y meddwl heb lain werdd
Ond aeth yn ganiad newydd dan ei law
Yr atig lom a roes i Goethe'i gerdd.
Yna, fel pe bai dysg yw ddim ond cân
Cydiodd yn niwinyddiaeth ddofn ei oes
Tynnodd o'r Cwpan diwn, o'r bara dân,
Daeth simffoni o sacrament y Groes
Dringo yn uwch trwy ddringo'n is ac is
Bugail Sant Niclas am bum punt y mis.
Ym mor Alsas 'roedd Duw ei hun un dydd
Yn agor llygaid llanc i wyrth ei ras
Pwyntio i'r fforest bell ar fap y ffydd
Y fforest glwyfus a'i brodorion bâs
A'r llanc yn ildio ei gynheddfau'i gyd
I feddyg anffaeledig clwyfau'r byd.
T.R. Jones
9 Pwynt
Limrig ym ymwneud a'r arallfydol
Medde menyw fach neis o Lynarthen,
"O, licen i gwrddyd ag alien."
A fe ga'th 'i dymuniad
Cafodd alien yn gariad -
A mae'n fam i ryw fath o falwoden!
Dafydd Huws
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â'r arallfydol
Mi glywais fod amal i ysbryd
O gwmpas y lle 'ma'n ymsymud
Ond welsant y Meuryn
Yn nhw ga'dd eu dychryn
A dianc i ffwrdd am eu bywyd!
Terwyn Tomos
8 Pwynt
Telyneg: Cywilydd
Dadebru'n ara' deg
Yn gwlwm o gynfase
Â'r golau'n sgrechian yn fy llygaid sych.
Blas neithiwr yn suro 'ngheg
A 'mhen yn ddisgord i gyd.
Simsanu o'r llofft
Â'r dydd yn gwegian o 'nghwmpas..........
Yn sydyn
Daw cyfog gwag y cofio
Yn gramp o banig i 'mherfedd;
Mae'r gwir yn gwasgu arna'i.........
Ac yn hangofyr y 'difaru
Mi wn nad ydw i heddiw'n ddim i ti
Ond staen ar gynfasen y cof.
Menna Thomas
9 1/2 Pwynt
Telyneg: Cywilydd
Ym hoen ei atgofion
Fe wêl y sêr ar wyneb y cawl,
Blasu'r pice bach
A theimlo gwres y stôf
Ym mhoen ei atgofion
Try tynerwch llais yn ddicter dial
Gwên yn wg
A sgwrsio'n ddwrn
Heno,
Oerni lle bu cynhesrwydd
Potel wag lle bu digon
A chraith le bu cysur
Terwyn Tomos
8 1/2 Pwynt
Englyn ar y pryd
Ni faliwn yng ngorfoledd gwag yr wy
Fod grym ei drugaredd
Wedi deor o'r diwedd
Wyrth y byw o groth y bedd.
10 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled Caeth ar yr odl "as"
Heddiw mae gweled heddwas
Yn yr iard yn oeri'r iâs.
Emyr Phillips
Ai haeddiant plant y plas
Yw darnio ach y deyrnas?
Emyr Phillips
A'i abwyd oedd Barabas
Yno'i gael y dorf yn gâs?
Emyr Phillips
Heddiw mae gweled heddwas
I un iawn yn codi iâs.
Emyr Phillips
Wiw dweud "tin" mewn prifddinas
Naceir crybwyll "tin" nac "as"!
Ifan Roberts
Wyryf y cytgord eirias
Ti yw fy "ras-a-ma-tas"
Ifan Roberts
Pennill Ymson wrth wrando pregeth
Ers talwm tri phen i bob pregeth
A moli yn swn yr Amen,
Ond mwyach Amen ddaw i'r sabath
A phregeth ddi-ddim i dri phen.
Rhodri Gwyn Jones
Nid ei fai o ydi mod i'n syllu ar y wal
Ar y tamprwydd di-dymor sydd yno'n dal
I godi'n swigod. Ond tasa fo'n wych
Dwi'n credu y byddai'r parwydydd yn sych.
Ifan Roberts
Cywydd heb fod dros 12 llinell): Dymuniad
Ymadael er dychwelyd
Yn awchus o farus fyd,
I flasu ac ysu am
Annedd fu im mor ddinam.
Yn hogyn, eto'n huno,
Yn y dâs a'r nen yn do.
Bwydo'r ieir a bodio'r ast
A llonni wrth wneud llanast
I mam. Er ei gwên i mi
Erys i'w mawr drysori
Yn y cof. Lle 'rwyf yn cael
Edau sy'n clymu'r gadael.
Emyr Phillips
Englyn Cywaith: Mynydd
Hoffwn hel ei dawelwch, i'w ddodi
A'i ddedwydd lonyddwch
Yn y drar, ac yno'n drwch,
Drostynt, rhof haen o dristwch.
Pennill mawl/dychan: Rhyddid anifeiliaid
Meddai Sion Blewyn Coch wrth ei wraig, yr hen Sian
Mae 'na ddeddf 'nawr i'w chael. Fe gawn lonydd myn dian.
Ni fydd hela â'r cwn. Wel, dim ond dau ar y tro.
Ac mae bois y Gôt Goch wedi llwyr fynd o'u co.
Pwy tybed fu'n deddfu? A pham er ein lles?
Gan gofio fod lladdfa, a'r berthynas yn nes
Dros y môr yn Irac, ac mewn llawer i fan.
Ond rhaid bod yn ddiolchgar i Blair, mewn awr wan.
Oes tybed gysylltiad, â'r lecsiwn ar ddod?
Ai y dreflan sy'n bwysig a chefn gwlad ddim yn bod?
Emyr Phillips
Pennill Mawl/Dychan : Rhyddid Anifeiliaid
Rhai da ydi'r bois yn San Steffan
Am gofio am enaid cefn gwlad,
Maent hyddysg am bremiwm bob ffarmwr
A'i gwota a maint ei ystâd.
Ond pan ddaw i'r fot
Pan genir y gloch
Mi wyddant y cyfan
Am Sion Blewyn Coch !
Rhodri Gwyn Jones
Rhyddid anifeiliaid
[Sioe ffasiwn ddiweddaraf Julian McDonald o Ferthyr]
Ond yw hi'n grand ail gylchu'n Llundain
Sgarff cadno fy mamgu
A'i roi ar 'sgwyddau'r fain Lis Jagger
Fel ffasiwn dyddiau fu
I ddiawl a'r drefn a'r holl ragfarnau
Y 'catwalk' yw fy myd
Pa ddiben hela'r heliwr cadno
Â'r carpiau hyn mor ddrud.
Ifan Roberts
Cân heb fod dros 20 llinell: "Y daith"
Dyna le oedd yn y ty 'cw pa ddiwrnod
R'oedd y wraig ar fin codi ei phac
I fyned am ysbaid o wylia'
Gan fod busnas yn syndod o slac.
Bu'n golchi ers dechra 'r wythnos
A smwddio ers pnawn dydd IauvGan osod pob peth yn ei ordor
Ar lawr y lloft gefn fesul dau.
Dau ffrili, dau be da chi'n galw,
Dwy goban, dau flowsyn bach twt,
Dau drowsus a dwy sgertan ledar
Dwy jympar, dwy het deunydd clwt.
Ac yna dyna lenwi'r bag molchi
Yn shampw a sebon sent
A cholur a lliw i'w gruddiau
Bron cymaint a bag mawr o sment.
Ni welwyd erioed y fath bacia
Mae'n nhw'n llwythi ar lawr ar y clos,
Dim ond i dy'i mham lawr y lon mae hi'n mynd
A hynny yn unig dros nos.
Rhodri Gwyn Jones
Limrig yn ymwneud a'r arallfydol
Mae 'na wrach sydd yn byw yn Ty Canol
Bob amser yn swyngyfareddol,
Mae ganddi ffon hud
A het bigfain ddrud
Ac ysgub sy'n fwy uniongyrchol.
Rhodri Gwyn Jones
Mae rhywbeth gwahanol am Damian
Ond allai'n fy myw wneud o allan
Dyna'r croen gwyrdd i ddechrauu
A'r erials fel custiau
A 'di eni yn ardal Bryn Elian!
Ifan Roberts
Honnodd menyw o ardal Maesteg
Bod hi weithiau yn troi'n d'lwythen deg
Hyd yma 'sneb wedi
Meiddio peidio a'u chredu
Mae hi'n ledi chwe troedfedd a deg!
Ifan Roberts
Mae'n siwr nad yw fawr o syrpreis
Bod i'r diafol aml ddisgeis
A heno yn Hermon
Mae'n rhannu'r danteithion
A deud bod ei sbynjis hi'n neis.
Ifan Roberts
Cyn llithro i'r byd 'rochr draw
Meddai limrigwr sala 'rioed Aber-ffraw
Pan gyrhaedda i yno
Fydd pawb yn deud 'Berffro
Dwi'n llithraw - wel dyna hen draw!
Ifan Roberts
Pendwmpian uwchben cylchgrawn Saga
Yr oedd taid, yn hen greadur reit gaga
Ond fe'i cipwyd gan "alien"
Mae nawr yn byw "tali" yn
Ostrelia, yn nhre Wagga Wagga
Ifan Roberts
Englyn ar y pryd: Wy Pasg
Mae'n fis i gracio'r plisgyn- a rhyddhau
Oriau ddoe o'u rhwymyn
A gwyrth y melyn a'r gwyn
Yn gynneddf ym mhob gennyn.
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 77 CYNIGION ERAILL Cwpled ar yr odl "as"
Heddiw, pwy â'i yn heddwas
Pan fo'r byd i gyd mor gas?
Pennill Ymson wrth wrando pregeth
Nid oes neb ond Duw yn gwybod
Pryd bydd browlan hwn yn darfod;
Fe wn i, os na ddaw'n sydyn,
Bydd fy nghinio'n llosgi'n golsyn.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Daith
Bum yn chwilio ers oedran cynnar am ferch berffaith i mi'n gymar,
Ond ofer fu y dasg hyd yma- fe wnaeth mam yn siŵr o hynna- do, yn wir.
Mewn eisteddfod yn Gilfachreda, cyfarfod wnes â'r dlos Teresa
Ond pan ddes a nghoncwest adref, dwedodd Mam: "Mae hi'n rhy dene1- Tara Teresa!
Mewn Noson Lawen yn Aberystwyth, dwli wnes ar gwmni Delyth;
Pan ddes adref a'r eneth landeg, ebe Mam: "Mae'n lwmp o floneg!"- Da bot, Delyth!
Bob Nos Iau mewn cwmni drama, des i nabod yr hyfryd Tanya,
Ond dwedodd Mam na allwn feiddio briodi merch sy'n gweihtio'n Tesco- Ta ta, Tanya
Yng nghymanfa fawr Llawhaden, colli nghalon wnes i Heulwen
Ond pan a ddaeth i'r tŷ i alw, dwedodd Mam: "Ma hon yn salw!"- Hwyl fawr, Heulwen!
Pan gyda'r côr yn nhref Llanelwy, fe serch a rois yn daer i Ionwy
Ymateb Mam i f'annwyl wejen? "Chei di ddim priodi cochen1"- yn iach i ti, Ionwy!
Mewn noson Geltaidd lawr yn Arberth, syrthio wnes am wenau Gwyneth,
Nid oedd croeso Mam yn gynnes "Wyt ti'n dwp? Ma hon yn Saesnes!"- Goodbye Gwyneth
Mewn rali brotest yng Nghaernarfon, rhennais bot o baent 'da Ffion
Dwedodd Mam yn glir hen wenu, na chawn i byth briodi Nashi- Ffarwel Ffion.
Do, bu'r daith yn hir a diffrwyth i Gaernarfon ac Aberystwyth;
Na phoener! Yn y Talwrn heno mae cyfle arall i mi sgorio- Dere, Dwynwen!
Limrig yn ymwneud â'r arallfydol
I'r nefoedd aeth Dafi Tre'r Ddol
ond deallodd bod hyn yn beth ffôl
daeth ato i'w cusanu
eu "au pair" a'i wraig Mari
difaru wnaeth Dafi a daeth nôl.
Breuddwydio un nos â wnaeth Wili
Ei fod yn y Nefoedd yn cysgu
Rhwng dwy angel danllyd
Aeth Wili yn wanllyd
A bu farw yn y Nefoedd wedi hynny
Aeth dwy chwannen i fyny i'r nefo'dd
Gan feddwl cael gwledd yno rywfodd
"Sugno gwaed fan hyn?"
Meddent yn syn
"Ond chwain gwynion sy 'ma wrth y cano'dd"
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

