Aberhafren v Ffostrasol

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yng Nghapel Hermon, Cynwyl Elfed

Aberhafren

Aberhafren

Ffostrasol

Ffostrasol

Cwpled caeth ar yr odl "es"

Y gwir yw, lle nad oes gwres,
anodd yw cadw'n gynnes.

Owain Rhys
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl "es"

Nos Iau, na fwynhau a wnes
Cwennen a gwely cynnes.

D.T. Lewis
9 Pwynt

Pennill mawl/ dychan:Cymorth Dyngarol

Cymorth Cristnogol

I'ch cysuro gyrrwn barsel,
dros eich rhyddid awn i ryfel,
ond peidiwch meiddio â chroesi'r sianel!

Llion Pryderi Roberts
9 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Cymorth Dyngarol

Er mor enfawr oedd y tonnau
Gipiodd filoedd o fywydau,
Mwy na'r disgwyl oedd yr ymchwydd
Yn holl donnau'r caredigrwydd.

Jim James
8 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud â bwyd

Yn siop sglodion Jac a Moli
roedd gwr eitha' crac am holi
pam oedd ei bys slwts
yn blasu ryw dwts
yn debyg i'r rwts, gwacamoli.

Owain Rhys
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud â bwyd

'Rôl tatws a phys a chig eidion
a jeli swidd roll a tîm samon
salad a sego
eto bron starfo
fe gofiais fod Talwrn yn Hermon.

Emyr Davies
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofyn cymwynas

O Dduw Dad, plîs a ddoi di
â hanner gobaith inni:
un eiliad i'n hanwylaf
gael hoe a hithau yn glaf;
un awel fach o fywyd
i'w llonni hi am ryw hyd?

O Dduw Dad, plîs a ddoi di
â'i gwên yn anrheg inni:
un wên fach, y wên a fu
yn esgus tawel gysgu,
un heddiw, er mor ddiddim,
â honno'n dweud bob un dim?

Rhys Iorwerth
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofyn cymwynas

Feddyg! Paid troi clust fyddar
I gais dioddefwr gwâr,
Agor y ddôr i'n rhyddhau
O wenwyn hir fy mhoenau
Gan gydnabod a'th nodwydd
Yr hawl i gael marw'n rhwydd.

Minnau'n daer yma'n dy wydd
Yn hofran uwch gwallgofrwydd,
Ac effaith pob rhyw gyffur
Yn methu cornelu'r cur,
Rho i'm barch, daw grym o big
Nodwydd mewn llaw garedig.

Dai Rees Davies
9 Pwynt

Pennill ymson ar wely

Seiren heddlu, tincial fan hufen ia
a golau mwll yn treiddio trwy'r llenni.
Gwichial trên a chleber plant,
a finnau'n fama'n
barlys.
Ceisio harmoneiddio'n anadl besychlyd
â thic toc y cloc.
Bydd hi yma toc
â chwystrelliad, i'm cario ar adennydd rhyddid, i lygaid yr haul -
ond wedi i'r cwyr doddi (mi wn y gwnaiff)
disgyn wna i yn glep,
yn ôl i fama,
tan tro nesa'.

Owain Rhys
8 1/2 Pwynt

Pennill ymson ar wely haul

'rwy'n gorwedd y fan yma
mae nhw'n dweud y caf i liw
ond rwy'n dal 'run fath yn union
yn fy siwt o nefi bliw.

D.T. Lewis
8 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Bwyd od yw malwod i mi
Ond diawl arnynt 'rwy'n dwli

1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Bwyd od yw malwod i mi
Am baned rwy'n ymboeni

1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Fy Ngweledigaeth

Mor braf fyddai weithiau cael ffoi i ben bryn
a syrthio i gysgu fel gwnaeth Ellis Wynne,
y gwr o'r Lasynys, mor wahanol i mi,
a'i Weledigaethau yn dod yn un lli.
Bûm innau yn ofer yn chwilio am un
weledigaeth fach, o'm heiddo fy hun
i'w rhoi yn fy nghân at y Talwrn hwn
(ac mae hynny'n amlwg, bellach, mwn).
Mae'n wir fod breuddwydion o dro i dro
i'w cael yn y gwely - ond bid y bo
am hynny, os wyt ar ddihun
yn methu â gwneud pen na chynffon o'r un.
Rwy'n derbyn na fûm i drwy holl Gwrs y Byd
yn chwilio am syniad, ac ar hyn o bryd
na thywyllwn i Angau nac Uffern na'i dân
i roi posibiliadau ehangach i'm cân,
heb sôn am pan gollais i amser a nerth
yn gweld nad oedd Ebay'n eu rhoi nhw ar werth...
Ond diawl, ar ôl meddwl, be ydi o o bwys? -
mae gweledigaethau i bobl rhy ddwys!

Rhys Iorwerth
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Fy Ngweledigaeth

Yr oeddwn wrthi'n chwilio am bensel yn y drôr
Er mwyn cael creu fy nghampwaith ar ddalen o A Four
Ond wrth i'm synfyfyrio a'r awen braidd yn brin
Fe gefais weledigaeth, mae'n dod bob hyn a hyn.
Fe welwn i fy hunan mewn Talwrn yn y ne'
A Phedr yn tafoli, dim Meuryn yn y lle
Yn eistedd yn y dyrfa fe welwn fobol neis
Sef Noa, Abednego a meibion Sebedus
Ond 'roedd na seddau gweigion a Chardis braidd yn gas
A rheiny'n gwrthod talu yn sefyll y tu fas
'Roedd prinder yn y timau 'doedd neb i wneud y gân
gan fod yn rhai arferol 'run man lle'r oedd y tân
'Roedd neb i wneud y cywydd na'r llinell ar y pryd
y limrig chwaith na'r englyn, fe wnes y tasgau'i gyd
'Roedd Marc yn cadw'r cyfri a'r bwyd yng ngofal Paul
sef manna ffres o'r gegin a phedair sausage roll
gan nad oedd heb i'n herbyn enillais heb gael cam
'Rôl arfer colli'n gyson a methu deall pam
ond cyn i'r holl ddiflannu daeth Lot a siec i mi
a honno wedi dyblu ar ran y BBC.

Emyr Davies
9 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Anaf

Wedi hwyrnos y dyrnau -- er sori
a siarad am oriau
hyd y wawr, mae'r nos rhwng dau
eilwaith pan ddaw yn olau.

Llion Pryderi Roberts
8 1/2 Pwynt

Englyn cywaith: Anaf

Nid yw ei chleisiau duon- ond arwydd
O'r dyrys bryderon
A wna o hyd boeni hon
Ni welir cleisiau'r galon.

Dai Rees Davies
8 Pwynt

Telyneg: Lliw

(Mewn ysgol i blant y stryd, Mecsico 2004)

Fi ddaeth â'r haul
dros dro.
Rhois becyn o grayons iddo
yn enfys,
a daeth ohonynt dy bach twt,
awyr las a theulu'n gwenu.

Y darlun hwn yn belydryn o siôl
o gylch du a gwyn ei fywyd.

O'i weld yn breuddwydio
a'i fochau'n goch
a'i chwerthin
yn iro'r pothelli byw
ar ei draed,
addewais nad anghofiwn
yr uchelgais bach
yn y llygaid mawr.

Es adre a gwres ei wen yn fy llaw...

A heddiw
yn llwydedd fy nhy bach twt
ynghanol anialwch
bywyd papur chips,
daeth heulwen
gwep fach
drwy fy ffenest innau.

Mari George
9 1/2 Pwynt

Telyneg: Lliw

Yn nyddiau'r ymerodraeth
Dioddefwyd ofna phoen
Gan filoedd o gaethweision
Oherwydd lliw eu croen

Ond heddiw 'rôl cydnabod
Bodolaeth brawd a chwaer
Ni welir lliw yn rwystr
I wisgo cadwyn maer.

Jim James
8 1/2 Pwynt

Englyn ar y pryd

(cynghanedd yn nghefn gwlad)

mae'r clawdd yn bleth o ôl y pethe- odli
wna deri'r cadeirie
o law i law mae'r hen le'n
dal iaith y cenedlaethe.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79

CYNIGION ERAILL

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofyn Cymwynas

O pliîs, ddynes drws nesa,
gwn nad wyf yn fachgen da
ond ga' i saib am un funud?
Aeth rhy hwyr i ruthro o hyd,
aeth yr awch ac aeth yr ias,
aeth henaint â'n perthynas.
Mae fy nghefn yn grwm, fy nghâr,
rwy'n rhy hen i'r awr anwar
â'r ddraig o wraig yn rhegi
yn hwyr y nos arna i.
Felly, ddynes drws nesa,
Ga' i un dydd fel bachgen da?

Aneirin Caradog

Englyn cywaith: 'Anaf'

Hwyl yw 'madael, a mudo i Gaerdydd,
ac er y daw'r wylo
am fod craith bratiaith hyd bro
Eifionnydd, nid af yno.

Owain Rhys

Englyn ar y pryd: Etifedd

Yr etifedd na fu

Yn lle rhoi i Gwenllian- ei haeddiant
O waddol ein gwinllan,
Bwystfil yr hil wnaeth ei ran
Yn unol a'i hen anian

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl "es"

Mae angen yn hen hanes
A rhannu nawdd fawr yn nes

Nid yw'n hawdd i ddod yn nes
At Sais na chwaith at Saesnes.

Rwy'n flin, nid yw'n brenhines
Na'n prins yn haeddu pres

Pennill mawl/ dychan: Cymorth Dyngarol

Gweithred wych oedd mynd i'r Stadiwm,
Rhoddi'n hael i chwyddo'r offrwm,
Ond wrth gyfri maint y treulie,
Gallent ddyblu wrth fod adre'.

Lluniau wna i'r galon guro
Gan ddigwyddiadau'r blaned hon
Cymorth gyda llaw agored
Lifa drosodd don ar don.

Yr hyn a roddodd Tesco
Yw megis ond llond llwy
'Roedd hatling y wraig weddw
yn meddwl llawer mwy.

Limrig yn ymwneud â bwyd

'Rôl bwyta lot fawr o fwyd cyri
Aeth ei fol e' tu fewn i gynhyrfu
Fe ffrwydrodd y nwy
Nes atsain drwy'r plwy
Mae hanner ein din yn Llanelli

I frecwast bêc bin o faint cleren
A chornel o deilen letysen
Ac yna am saith
Fe â at ei waith
Mae'n "Split Pin" mewn garej Sgiwen

Es alln pan oeddwn ar wylie'r
Chinese am hwyl gyda ffrindie',
Ces bryd o Chou Mein,
Ac o roedd o'n ffein,
Ond gadodd e lein holl ffordd adref.

Am fod anwyd ar 'chef' y Glendower
A'i drwyn e' yn rhedeg drwy'r amser,
Fe sylwodd un person
Oedd gwsmer reit gyson
Fod y swp yn deneuach nag arfer

Pennill ymson ar wely

Gwely dwr

Mae'n ngwraig ugain stôn yn troi ar ei bola
A chreu tonnau anferth a minnau fan yma
Mewn cyflwr truenus a thi[yn o stad
Gwnaeth dwll yn y gwely 'da ewinedd ei thra'd
Gorweddaf yn llonydd yn wlyb ac o'r
Yn dioddef o anwyd a salwch môr.

Gwely

Rwy'n teimlo'n waeth fy nghyflwr
'Rôl cael ymwelydd neithiwr
mae'n brofiad cas i rywun hen
weld gwên gan ymgymerwr.

'Na beth cas yw pwl o wendid
fawr yn well 'rôl gorwedd ennyd
os na chaf i bils i'w wella,
fe fydd gennyf dros y gaea'.

Englyn cywaith: Anaf

Byd Meri An ga'dd anaf- ni wyddis
Hyd heddiw mi dybiaf,
A'i gwewyr yn y gaeaf
Neu ai loes, oedd ganol haf.

Ei lwyfan oedd y lolfa- er i gwymp
Ar awr gwaith ddifetha
Ar ei fynd, yn araf a
O hyd allan heb wella.

Och a gwae yw'r anochel- ddaw ar wib
Ddi- rybudd fel awel
Taro dyn bob tro y dêl
A'i osod yn benisel.

Telyneg: Lliw

Di-liw yw canol gaeaf
A'i dywydd gwlyb ac oer
Y dydd yn methu'n olau
A chuddio gwawl y lloer.

Ond haul Mis Bach a dreiddiodd
Hyd ddrych y wardrob tal
Gan adlewyrchu'n wyrthiol,
Liw'r enfys ar y wal.

Lliw

Pan ffrwydrodd Blair i rym
Bonllefodd gwerin groch
Wrth glywed y sosialaidd gri
Ddaeth dros ei wefus goch

Pan ffrwydrodd gwlad Irac
Drwy help ein gwledydd cas
Ni choeliodd neb un gair o'r gri
Ddaeth dros ei wefus las.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.