Dinbych v Moelwyn
Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yn Ysgol Llanrhuddlad, Ynys Mon
Dinbych

Y Moelwyn

Cwpled caeth ar yr odl "ert"
I helbul yr aeth Albert
wrth ddilyn Sgotyn mewn sgert.
Berwyn Roberts
8 1/2 Pwynt
Cwpled gyda'r odl 'ert'
Gwelir gerllaw Beddgelert
Hen dy bach hynod o bert.
Iwan Morgan
8 Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell: "Wedi mynd y mae Wendy
Wedi mynd y mae Wendy - efo'r gath,
Efo'r gwn a'r Awdi;
A myn cythrel mae'r teli
Wedi mynd - O! dear me.
John Glyn Jones
8 1/2 Pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell "Wedi mynd y mae Wendy"
Wedi mynd y mae Wendy - o aelwyd
Ei thy dol i dîpi,
A heno'n noeth, fe'i cawn hi'n
Hapus yng nghesail hipi.
Iwan Morgan
8 1/2 Pwynt
Limrig: Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
Mi glywais am wr o Sir Fôn -
Rhyw fwtsiar yn chwarae trombôn;
Clymodd flêd ar ei flaen o,
A phob dydd wrth bractisio
Mae'n sleisio'r salami a'r brôn.
Elwyn Wilson Jones
9 Pwynt
Limrig: "Mi glywais am ddyn o Sir Fôn"
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
A fwytodd fast mobeil ffôn,
A phan mae o'n siarad
Does dim byd i'w glywad
Ond bîpian a nodau ringtôn.
Dewi Prysor
9 Pwynt
Pennill ymson wrth ddarllen bwydlen
...yn y fro Gymraeg
Mae'r hors d'ouvres, á la carte mewn Ffrangeg, Y tapas a'r postres mewn Sbaeneg,
Y café'n Eidaleg,
Y bier yn Almaeneg,
A chroeso'r Old Cottage yn Saesneg.
Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt
Pennill Ymson wrth ddarllen bwydlen
Byddai hanner cyw iâr yn fy mhlesio,
Un sbeisi, wedi ei ffrio'n y de!
Neu leden, neu hadog melyn,
Neu'r stecen fwya'n y lle.
Ond mae'n anodd iawn darllen y sgrifen,
Mae fel rhyw galigraffi posh,
A phob dim yn Eidaleg a Ffrangeg
Heblaw'r cyrri - y rogan josh.
Dwi bron tagu wrth ddweud tagliateli,
Yn coegi wrth ddweud coq au vin
A mae'r prisiau'n rhoi diffyg treuliad
Cyn cnoi pappardélle parmesán!
Os wyf am gael bwyd rwy'n adnabod,
A hynny heb ormod o gost,
Mi ofynnaf i'r gweinydd, yn dawel,
A gaf i damaid o dôst...
Dewi Prysor
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Amynedd
Prif wendid 'gwlad ein tadau'
yw y ddawn i ufuddhau'n
amyneddgar, gan aros
yn hir am derfyn y nos.
Troi'n ein hunfan yw'n hanes,
ni ddaw'r wawr un awr yn nes;
mor wan yw, Cymru ni all
aros am ganrif arall.
Mewn gwlad nad yw'n gredadwy
nid rhinwedd amynedd mwy;
dan iau ein caethiwed ni
mil gwell i'r hil ei golli.
John Glyn Jones
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Amynedd
[i'r Crëyr Glas]
Hyd y llyn fe ddaeth Brawd Llwyd
heibio, a'i lein ddiabwyd
yn astud yn ymestyn,
ac o'n gorffwyso ar ffyn
yn y dŵr. Disymud oedd,
a meudwy gwyrgam ydoedd
yn offeren y glennydd,
â'i ffawd yn byw ar ei ffydd.
Nes wnaeth un dinod i'w ŵydd,
i dorri ar y distawrwydd.
Hwnnw, mynn y Forwyn Fair,
a drywanwyd â'r enwair.
Iwan Morgan
8 1/2 Pwynt
Englyn cywaith: Pleser
(sgwrsio â phlentyn bach)
'Mond prepian ieir oedd ei eiriau - i bawb
ond y bach, ac yntau'n
gawr hefo'i Ladin gorau,
a rhaid oedd i'r sgwrs barhau
Berwyn Roberts
8 1/2 Pwynt
Englyn Cywaith: Pleser
ym munudau ola'r gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr (Chwefror 2005)
Un Tryweryn o chwarae - a gofiaf;
Gavin wedi'r gwarchae
Yn rhoi cic dros donnau'r cae,
Hirgic i chwalu'r argae.
Iwan Morgan
8 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Cau Ceg
Mae'r tasgau eto'n her drwy'r nos, drwy'r dydd;
A minnau, un o'r glêr, bron colli ffydd.
Ni wyr y byd, ni falia fymryn chwaith
Am wewyr colli'r ffordd ar ddechrau'r daith.
"O cau dy geg!".
Delweddau diwerth ddont yn llu, mi wn;
A phanic methu gorffen sydd yn bwn;
Mae pryder beunydd yn gwastraffu 'nwyd
A'm gadael, druan un, yn llipryn llwyd.
"O'r cwynwr mwll! Cau dy geg!"
Fe'm pwyswyd yn y glorian lawer gwaith
A'm cael yn brin, mae hyn yn ffaith!
Mae chwilio am rhyw newydd sbarc yn boendod im
A'm hymdrech dila'n haeddu dim ond dim.
"O cau dy geg! Cau hi!"
A dyna chi! Yn dal i 'ngwawdio'n groch!
Wel,dyma'r olaf bill gan brydydd coch.
Cau ceg sy' raid.
Elwyn Wilson Jones
8 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):Cau Ceg
Y lle 'cw yn flêr
a phobl ddiarth yn dwad,
A finna'n fy meddwl
yn paratoi rhyw esboniad.
"Mae'n haws", medda Mam
wrth roi llanast dan soffa,
"Gau llygaid y diawled
na thrio cau'u cega!"
A dwi'n ama fod mamau
holl Flairs y byd,
yn dal i bregethu
'run wers o hyd.
Sian Northey
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Gwr nerfus o Gaernarfon
Hen linell yw'r llinell hon
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Gwr nerfus o Gaernarfon
Yw Wil Saer yn ôl y sôn
0 Pwynt
Telyneg: Golau
i wraig ein gweinidog, a fu farw'n ddiweddar (Mrs Gwenllian Jones)
Nos Sul,
a'r llenni'n cau ar lampau'r byd:
y fflam yn isel ar allor ffydd
a'r olew'n brin;
y llais fu'n llaswyr
i'r gweddill llwyd drwy'r dydd
yn fud flinedig;
y pen a'r cefn yn crymu
dan bwysau Dydd Llun arall.
Yna o'r gwyll,
daw tincial cwpan a'i lond o wên,
a llaw ar ysgwydd yn gynnes
i oleuo'r nos...
...tan heno.
Eifion Lloyd Jones
9 1/2 Pwynt
Telyneg: Golau
Gwêl rhai y wal
Ac edrych drosti
Gwêl rhai y wal
A cherdded ar ei hyd hi.
---------
Gwêl rhai y wal
Fel ffin i'w goresgyn
Gwêl rhai y wal
Fel castell i'w hamddiffyn
---------
Ni wêl rhai y wal
Ac mae'n haws derbyn
Ni wêl rhai y wal
Waeth pa mor serth fo'r dibyn.
--------
Ni wêl rhai y wal
Hyd nes y bont wedi disgyn
Ni wêl rhai y wal
Hyd nes y bo'u henaid yn esgyn.
--------
Gwelaf fy wal
Ac rwy'n or-hoff ohoni
Gwelaf fy wal
Ac mae'n fy modloni.
-------
Gwelaf fy wal
A throf fy nghefn arni
Ni neidiaf y wal
Oni welaf y golau.
Catrin Euros
9 Pwynt
Englyn ar y pryd:Gonestrwydd
O na bai owns o hyn yn bod- yn awr
Inni oll ei ganfod
Yna ei gadw yn y god
Yn ebill i gydwybod
8 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 CYNIGION ERAILL Cwpled Caeth ar yr odl "ert"
Un aruchel oedd Gelert,
chwip o un, ci rhech bach pert.
Berwyn Roberts
Byddai'n ddol miliwn doler
tase gwerth i bwt o sgert.
Roedd y boi a gurodd Bert
yn gowboi tua Gwbert.
Englyn yn cynnwys llinell "Wedi mynd y mae Wendy"
Rwyf heddiw fel dyn ar foddi - yn brudd
heb erioed fod hebddi;
Wedi mynd y mae Wendi,
ond wir, rêl hen ast yw hi.
Berwyn Roberts
Englyn Cywaith: Pleser
(pysgota)
Anelais am y llafn o olau - a dal
y dydd yn ei liwiau,
ond gwelais yn ei gleisiau
ei nos wrth i'r lein dynhau.
Berwyn Roberts
Englyn ar y pryd: Gonestrwydd
Y geiriau o wydra' gwirion- cerrynt
Cariad ddiwedd noson
Yn un lli a'r cwmni'n llon
Difaru yw'r diferion
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 77 1/2 CYNIGION ERAILL Englyn yn cynnwys y llinell "Wedi mynd y mae Wendy"
Wedi mynd y mae Wendy - 'nôl i fyd,
fel fi, llawn morgeisi,
Ond erys cof am stori
Hook a Peter Pan a hi.
Limrig: "Mi glywais am ddyn o Sir Fôn"
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn,
Am ryw reswm, â lyncodd ei ffôn,
Gorfu fynd i'r ysbyty
Yn canu a canu
A ffraeo 'fo'r deialing tôn.
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
A lyncodd ddwy fobeil ffôn,
A nawr mae'n garcharor
Mewn seilam ym Mangor,
Yn siarad 'fo'i hun, 'nol y son.
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
Oedd yn or-hoff o'r haul, yn ôl son,
Fe alwodd ei fechgyn
Yn Heulyn a Hafwyn
A'i ferched yn Heulwen a Dawn!
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
A fagwyd ar sbinag a brôn,
Fe giciodd o dorth
Yn syth dros Bont Borth
A rhedeg i'w dal hi, 'nôl son!
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
A symudodd i fyw'n Perpignion,
Mae'n bwyta llyffantod
A malwod mewn nionod,
A gyrru'r ochr arall i'r lôn.
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
Sydd â gwyneb triongl, 'nôl son,
A hwnnw'n un hir,
O'i goryn i'r tir;
Mae nhw'n galw fo'n John Toblerone.
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
A yrrodd stîmrôlar 'ddar lôn,
Drwy ardd fèj y Prif Blismon,
A gwneud lobscows o'i foron
A troi 'datws o'n greision, 'nôl 'son.
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
A yrrodd ei gar 'ddar y lôn
I ardd Margret Wilias
A chwalu'i begonias,
Ond mae o'n foi iawn yn y bôn!
Mi glywais am ddyn o Sir Fôn
Oedd yn pwyso chwedeg-pump stôn,
Roedd yn eistedd yn daclus
Yng nghanol yr ynys
Rhag ofn 'ddi droi drosodd 'nôl son!
Mi glywais am foi o Sir Fôn
A yrrodd ei dractor 'ddar lôn,
Drwy bats rwdins y doctor
Efo rotofêtor
A stwnshio'r job lot 'nôl y sôn.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

