Howgets v Waunfawr

Cafodd yr ornest yma ei recordio yn Ysgol Llanrhuddlad, Ynys Môn

Howgets

Howgets

Waunfawr

Waunfawr

Cwpled caeth ar yr odl "aw"

Wylo rhyw hen, hen alaw
a glywn yn ochneidiau'r glaw.

Annes Glynn
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl "aw"

'Smonach oedd Ynys Manaw
a'n gwyliau hir yn y glaw.

Emyr Roberts
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud â datblygiad

Fe ddysgais y Lusg yn reit sydyn,
daeth y Draws a'r Sain. Ond och! wedyn.
Achosodd y Groes
im drafferth a loes ...
ond nawr, bois, y fi ydi'r Meuryn.

John Jones
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud â datblygiad

Mae galw am amlosgfa'n y dre,
Un fodern, a'i chorn tua'r ne',
Ond methwyd pleidleisio
Yn y Pwyllgor Cynllunio
Am fod pawb yn "datgan diddordeb" yn y lle.

Dafydd Iwan
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Rhaglen deledu

Crwydro

Ai dysgu mwy am Gymru fach
yw amcan gwylio Iolo?
Os felly, pam na chofiaf i
fawr mwy na'i shorts a'i din o?

Elinor Gwynn
9 Pwynt

>Pennill mawl/ dychan: Rhaglen deledu

Con Passionate

Mewn aria o ryfeddod
Mewn cytgan, seiniwn glod
I gampwaith operatig:
Davina - rwyf yn dod!
I ddilyn swyn dy faton,
I ddathlu symffoni,
I daro'r nodyn uchaf,
Rhwng hogia'r côr - a thi.

Meg Ellis
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Hawl

p>(hawl i ddewis)

Rwyf mewn poen yn dihoeni
a'r daith yn rhy faith i fi,
oer yw gwaeledd, a'r gwely'n
hunllef ar ôl hunllef hy';
 'ngham mor fyr â fy ngwynt,
heno wylaf fy helynt
yn ddig, ac yn f'unigedd,
nid yw bod ond gwaelod bedd.

Mor ddeniadol marwolaeth
a bywyd gwell y gell gaeth;
llithro'n rhwydd i'm dedwyddyd,
gadael y boen, gadael byd.

Elina Owen
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Hawl

(Mae'r milwr Americanaidd Camilo Mejia Castillo wedi gwrthod dychwelyd i Irac ar sail fod y rhyfel yn anghyfreithlon ac anfoesol gan gyfeirio at gamdriniaeth carcharorion a'r lladd ar ddinasyddion diniwed. Mae wedi ei garcharu am flwyddyn. Mae ei achos yn cael ei gydnabod gan Amnest Rhyngwladol)

Oni welodd ryfela
Ddydd wrth ddydd y genedl "dda"
Yn Irac;
yn filwr aeth
I wasgu ar derfysgaeth,
Ond i gael fod y gelyn
Ar dro ynddo ef ei hun.

Oni wyddai fod byddin
Yn drwm o fai y cam-drin,
Ac o gyrff di-rif y gad,
yn feirwon dros pa fwriad?

Ond eiddo'r tad gwleidyddol
Ydyw'r neb na chaiff droi'n ol.

Emyr Roberts
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Cywirdeb Gwleidyddol

Prin gei di anadlu
'There shall be no dreamers'

Chei di ddim dweud 'tin',
Chei di ddim 'gollwng rhech',
Chei di ddim herio'r ffin
Na mynd i'r 'lle chwech';
Dwyt ti ddim i droi'r drol,
Prin gei di 'fotwm bol',
Ond gwaeth na dim, y dyddiau hyn,
Prin gei di anadlu.

Chei di ddim adrodd yn ffraeth ar lwyfannau'r Urdd,
Yn sicr chei di'm sôn am 'bobol bach gwyrdd'
Na meiddio herio'r
Athrawon di-hiwmor,
Achos prin gei di anadlu.

Ond cei siantio, hyd at syrffed, o un 'cam allweddol' i'r llall,
Am fewnbynnu a chlystyru, ailstrwythuro - a'r ffefryn, gwirio,
Meincnodi, safoni - hynny lici di...
Achos does dim anadl dychymyg yn y rheiny.

Dim barddoniaeth.

Annes Glynn
9 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Cywirdeb Gwleidyddol

Rwy'n tybio mod i'n gywir, Meistr Meuryn
Mai cyfieithiad o'r geiriau "politically correct" yw'r testun,
Ac i un gadd ei fagu i barchu cenhadon
Mae'r gredo newydd yn fy ngwneud yn wangalon;
Sut gallaf fi fu'n canu "Draw, draw yn China"
Yn awr wadu'r ffaith i mi fod yn begera
Ar ran plant duon, melynion a phob lliw am wn i
Tra mae rheiny yn awr i fod cystal a fi,
Ac os ewch chwi trwy'r llyfr emynau, rwy'n eithaf pendant
Fod gwaith sawl emynydd yn haeddu difodiant;
I ennill goliwogs bwyteais sawl pot marmaled
Heb feddwl o gwbl mod i'n tramgwyddo cred
Ac fod sôn am Sais ddiawl neu Wyddel dwl yn anfaddeuol
Er fod galw'r un person yn fastard yn esgusodol;
Bellach mae gen i ofn agor fy ngheg
I fynegi ffeithiau sy'n gywir a theg;
Os dywedaf mai rhigymwyr, nid beirdd sy'n ein herbyn
Efallai y bernir i mi dorri'r rheolau, a beth wedyn
Fe gollaf farciau fel sawl gwaith o'r blaen
Tydi'r Meuryn ddim yn deall y gyfraith - dyma'r gwir plaen.

Gwynn Davies
9 Pwynt

Englyn Cywaith: Blodyn

Yn wên rhwng tudalennau, - heb bersawr
mae parsel ein hafau;
a heddiw, mae ei wreiddiau
yn dal i'n cydio ni'n dau.

Annes Glynn
9 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Blodyn

O lwyr wirioni ar lun - a natur
Pob petal o'i gynllun,
Onid oes yng nghalon dyn
Y rhaid i'w sathru wedyn.

Emyr Roberts
10 Pwynt

Pennill ymson cyn dweud celwydd

Dydi celu'r gwir ddim yn gelwydd,
Fe ddweda'i 'i fod o'n edrych reit dda,
A bod Mam wedi trefnu gwyliau i'r ddau
Yn yr Eidal yn ystod yr Ha'.

Mary Wyn Jones
9 Pwynt

Pennill ymson cyn dweud celwydd

Mae rhywbeth hen ffasiwn mewn credu'n "y Gwir"
(Ac mi fuon ni'n hen ffasiwn yn llawer rhy hir);
Mae "Celwydd", fel "Pechod", wedi cael ei ddydd,
Ac mi ryden ni bellach yn bobol rydd,
Yn rhydd i benderfynu beth sydd yn iawn -
A gall hynny newid rhwng y bore a'r pnawn;
Y Gwirionedd bellach yw fy Ngwirionedd i
A does dim ffeuen o ots beth yw'ch Gwirionedd chi:
Yr hyn dwi'n gredu ar y funud yw'r gwir i gyd
Ac mi gyhoeddaf hynny gerbron y byd -
Felly tyfwch i fyny, ac anwybyddwch bob ffaith,
Mae meddyg y sbin ar fin gwneud ei waith.

Dafydd Iwan
9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Hawdd yw ar Ddydd Gwyl Ddewi
Yfed cawl, ein hawl yw hi.

0 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Hawdd yw ar Ddydd Gwyl Ddewi
Roi un nos i'n Cymru ni

1 Pwynt

Telyneg: Sgwrs

Dros fin, rhwng dau, arllwysa'r don
Yn fôr, yn fyrdd o hanesion.

Clywch rincian y geiriau
Fel goglais gronynnau,
Yn corddi syniadau
Rhwng cerrig cyfrinachau.

A'r eiliadau tawel rhwng tonnau
Yn ddŵr llonydd fel llinyn rhwng dau.

Nes daw'r nawfed, bob hyn a hyn,
Yn hwrdd o hwyl a chwerthin.

Gyda'r trai daw'r ffarwelio
A'r 'ta-ra', y 'gw-bei' a'r 'da-bo'

Yn sgipio'n bell, yn drybowndio
Nes distewi - am y tro.

Elinor Gwynn
9 Pwynt

Telyneg: Sgwrs

(ar y trên i Lundain)

Dwi'm di siarad efo neb ers stesion Crewe
Pan ddywedais "Fy sedd i di hon".
Symudodd fy ngwefusau ddim
Ond i adael y staen coch ar fin y gwpan.

Merch mewn lifrai ddu
Yn llifo i goch
Yn cipio 'nghwpan; deil fy llygad enw'r bathodyn.

"Anarferol. O lle dach chi'n dod?"

"O Kosovo".
Gwen, a symud i lawr alé'r cerbydau saff.

Arafa'r trên; dwi'n cau fy llygaid
Rhag puro ethnig, rhag y gynnau,
Rhag llun gwaed yn fudr goch.,P>Ennyd mewn gorsaf cyn symud.
Be di dy hanes di, Litafete?

Ond ddaw dim llais yn ôl:
Fawr o Gymraeg rhwng Kosovo a Milton Keynes.

Meg Ellis
9 1/2 Pwynt

Englyn ar y pryd

Gwelaf, wrth droed y gwely- er i'r nos
Fwrw'n hwyl i'r fagddu
Wyneb Ted, a hawdd credu
Nad yw ofn yn byw'n ei dy.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl 'aw'

Hen glwy sy'n wae yn y glaw,
Yn wylo ar lan Alaw.

Yn ddyn, ac yntau'n ddeunaw,
mae'n iasol ei frol di-fraw.

Dwyster munudau distaw
sydd gyfrin, yn brin eu braw.

Annes Glyn

(ar ôl clywed hoff fiwsig yn cael ei chwarae mewn angladd)

Paid ag atal yr alaw -
yn gysur i'n dolur daw.

(ar ôl gwylio'r cofio yn Awschwitz)

Yno'n dyst, eira distaw
i'r brad a'r erlid a'r braw.

Elina Owen

Heb gynllun a heb ganllaw,
mwynha baedd ei oes mewn baw.

John Jones

I dorri'i lwyth, dyro law,
a'i ddal yntau'n dy ddwylaw.

Saif ar y mur drwy'r curlaw -
eiddo ddoe iddo a ddaw.

(i rieni)

Ennyn ein bri, dofi'n braw,
eu cynllun oedd ein canllaw.

Mary Wyn Jones

Limrig yn ymwneud â datblygiad

O'r diwedd, mae gennym Cynulliad,
sy'n eistedd yn Cêrdiff, o bwriad;
rhyw hanner lywodraeth
yn prin o deddfwriaeth -
a phrinnach o lawer yw dreigliad.

Blew yma ag acw rhwng plorod,
ond yna bu'n eillio cnwd hynod;
Roedd fel epa o flewog
cyn iddo'r gwr gwalltog,
fynd rhagddo'n foel i'w ail-blentyndod.

Mae'r Cynulliad yn awr ar ei orau
'di methu yn ei ddyletswyddau.
Ond, i arbed cywilydd,
caed syniad reit newydd,
i chwynnu a chwalu cwangoau.

John Jones

Pennill Mawl/ dychan: Rhaglen Deledu

Con Passionate

Rhybudd sydd i gorau meibion
gadw gwyr yn arweinyddion,
neu bydd bywyd pawb yn hunlle
dan law merch con passionate.

John Jones

Dudley

Car mawr estate,
bwrdd a risêt,
primus a sosban,
powlen a ffreipan,
ymenyn lond sach,
pwys o awyr iach,
garlleg a hufen,
saim yr hwyaden.
Ond llond lle o golestral -
a nawr, rhaid ymatal!

Mary Wyn Jones

Englyn Cywaith: Blodyn

(Confolfiwlws)

Yn ddi-nerth drwy y perthi, - un ar wedd
yr eiddew sy'n troelli
ei wyn eiddil fel lili,
ond lladdwr yw'n honnwr ni.

Elina Owen

Pennill ymson cyn dweud celwydd

Ymson y gwleidydd

Un bach arall, beth yw'r ots?
ac, os gwelan nhw drwy 'nghelwydd
a'n nhaflu allan ar fy nhin,
ga'i fynd yn 'rent-a-sylwebydd'.

Elinor Gwynn

Os af i'r ty ag oglau sent,
bydd 'nacw'n siwr o ffeindio,
mi dynnaf biben betrol bant -
cael nwy i'w dargyfeirio.

John Jones

Dydi Jini ddim yn ddel,
Mae hi'n tebygu i epa;
Pa ots? y mae ei chyfrif banc
Yn gwegian dan y pwysa'.

John Jones

Telyneg:Sgwrs

Sgwrs
(cofio Mamgu, a fu'n dioddef o Alzheimers)

I ble'r aeth y bwrlwm braf
Fu rhyngom ni o haf i haf?
Hen shinach ddaeth i rwygo'n sgyrsiau,
A'u chwalu'n shwrwd mân o eiriau.

Dan haul Awst, â'i dwylo gwisgi
Yn blêt yn ei chôl, fe elem ati.
Yn dyheu am sgwrs a'i thynnai hi,
Fel rhaff, yn ôl at ein glannau ni.

Ond fedrwn i ddim estyn llaw
A'i dwyn o'r byd rhwng yma a thraw
Na gweld y rîl o hen, hen fframiau
Ar sgrîn y cof y tu ôl i'w llygadau.

Ond er ei chrwydro pell drwy'r heli
Â'i channwyll gors o gof yn gwmni,
Llinynnau'r sgyrsiau gawsom ni
Ers talwm yw fy angor i.

Elinor Gwynn

Sgwrs
(Llun Aneurin Jones o ddau ffermwr yn sgwrsio)

Syllaf beunydd ar eu huodledd mud
A sawraf flas y pridd ar wladaidd wisg;
Dim ond y ddau mewn sgwrs yn creu yr hud,
Yn gwarchod mamiaith hwnt i ffiniau dysg.
Beth tybed oedd eu sgwrs ar ddydd y ffair? -
Ai prisiau'r ŵyn neu'r tywydd oer a'r glaw,
A phwy oedd wedi llwyddo i gael y gwair,
Rhoi'r byd yn ei le cyn mynd a chodi llaw.
Mae osgo'r bychan yn debyg i fy nhaid
A iaith gyhyrog glywaf ganddo ef;
Rhoi bri ar iaith y fferm, y pridd a'r llaid
A'r geiriau mud yn fyw a hardd eu llef.
Pa hyd y deil y sgwrs sydd ar y mur
Yn iaith Gymraeg, yn gadarn fel y dur?

Elina Owen

Sgwrs

I ddau
sydd â'u hwynebau'n gynnes
gan wres hen hafau,
pethau dethol
i'w blasu'n hamddenol,
fel grawnwin ar derfyn pryd,
yw geiriau.

Pethau prin
gan fod cyffyrddiad llaw,
mwmian nodau hen alaw,
crych ar dalcen,
hanner gwên,
yn gallu cyfleu cyfrolau.

Annes Glynn

Englyn ar y pryd: Cyfaill

Da was, mae arnaf d'eisiau- yn y nos
Ac yn nydd gofidiau
Yn f'ymyl, heb fy amau
Yn y dorf, neb ond ni'n dau.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl "aw"

 dawn ddi-hid llanc deunaw
Dyn yw Wil sy'n dad i naw.

Gwynn Davies

O drîn drigain mlynedd draw
Y dychwel rithiau Dachau.

Emyr Roberts

Y ddawn i gynnal alaw
A'n ddel - dyna ddeunydd "Waw"!

Emyr Roberts

Limrig yn ymwneud â datblygiad

"Wel dyma ddatblygiad cymeradwy"
Meddai'r saer yn llon a chlywadwy,
"Amlosgfa i'r dre
A'i chorn tua'r ne'
I ail-gylchu mewn modd cynaliadwy!"

Dafydd Iwan

Cân (heb fod dros 20 llinell): Cywirdeb Gwleidyddol

Fel twrna mor ddiniwed oedd amddiffyn anwiredd mewn llysoedd
O'i gymharu a'r twyll gwirioneddol i gyfiawnhau rhyfeloedd,
Hen ddywediad na ellir fyth mo'i wadu
Fod raid wrth geiliog gwyn i ganu
Rwy'n fodlon cydnabod fod fy mhlu'n eithaf pygliw
Ond i'w cymharu a rhai gwleidyddion, fe allaf edliw
Na wnes i erioed newid fy lliw yn sydyn
Yn y gobaith o blesio rhyw ieir go gyndyn;
Naw wfft i wleidyddion sy'n foddfa o ddagrau
Dros anffodusion dan ormes pell wladwriaethau
Tra'n gallu anghofio eu rhan hwy eu hunain
Mewn gwaeth erchyllterau a gweithredoedd milain;
Wrth reswm, ni yw gweision yr Hollalluog
Ar ei ran O tywalltwn waed y diawlad euog,
Mae Blair a Bush, fel gwyddom yn gristionogion
Ac enw Crist ar bob bom a wna'r plantos yn 'sgyrion,
A'r arch ryfelwraig Clwyd yn sefyll dros wirionedd
Tra'n trochi ei dwylaw yng ngwaed y bwystfiledd;
Ych a fi, er mai twrna sy'n siarad
Mae gwirionedd gwleidyddiaeth tu hwnt i fy nirnad.

Gwynn Davies

Englyn Cywaith: Blodyn

(Gwalia, O fy Ngwalia)

Gwanllyd yng nghysgod gwinllan - yn ddi-awch
Ddi-hid, yn ei gwman,
A'i anianeg llwfr egwan
Prudd atgof fydd yn y fan.

Gwynn Davies

Oni ddeil yn ei ddeilen - a natur
Pob un petal cymen
O'i ddod, hanfod newydd-hen
Erwau y fam ddaearen.

Emyr Roberts

('Roedd fy mam yng nghyfraith yn hoff iawn o Flodyn yr Haul)

Yn holl liw ac o fewn llun - anwylaf
Ei betalau melyn,
Mae rhyfeddod y blodyn
Yn dyst i'th natur dy hun.

Emyr Roberts

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.