Y Garfan v Ffair Rhos

Cafodd yr ornest yma ei recordio yn Neuadd Ffarmers, Llanwrda

Y Garfan

Y Garfan

Ffair Rhos

Ffair Rhos

Cwpled caeth: Rhybudd

Os i ddau mae geiriau'r gân,
Na chenwch i chi'ch hunan.

Mari Lisa
8 1/2 Pwynt

Cwpled Caeth: Rhybudd

Paid a hel rwbel I'r rhyd
Fe ddifa'r moroedd hefyd.

John Jones
9 Pwynt

Pennill Mawl/dychan: Y Teulu Brenhinol

Ma'r Cymry mor barod i farnu
Y Windsors, a druan o'r cwîn
Dwi wir ddim yn meddwl o gwbwl
Ma' fel 'ma y dylem eu trin.
Ba waeth fod ein twysog yn dderyn
Ac nad ydio'm gwahanol i'w dad,
A'i fod o'n carlamu ar ôl Miss Bols
Ar hyd ac ar led yr hen wlad?
Dio'n ddrwg fod r'hen Lizzie yn smocio?
- Dwi'n gofyn hyn ichi'n daer -
A heddwch i'w llwch, ydio ronyn o wa'niath
Faint yn union yfodd ei chwaer?
Dio ots fod r'hen Harri yn gwisgo
Croes goch yn lle draig ar ei fest
Ac y bydd o 'leni mewn ambell i gêm
Efo swastica fawr ar 'i 'jest"?
Ac os 'da ni'n digwydd cofio
Am yr erchyllterau 'Ngwlad Pwyl
Nath o mono'n fwriadol dwi'n siwr
A doedd o mond mymryn o hwyl!
Ac os ydio'n cymryd cyffuria
Ac os ydio'n dipyn o ffwl
Dio mond fel y gweddill o'r llafnau 'ma
Yn trio edrach yn cwl
Codwch eich gwydrau, ffrindia cu,
A chymrwch rhyw ddrag am yn ail,
A dudwch o'n unfryd a dudwch o'n uchel,
I'r teulu brenhinol..."Sig Hail!"

Cefin Roberts
8 1/2 Pwynt

Pennill Mawl/Dychan y Teulu Brenhinol

[neges ffolant i Harri oddi wrth ei gariad, Chelsey]

Heil Harri! Rwy'n willing ricriwt
Fy mlodyn, a'th swastika ciwt;
Aiff rhywbeth reit drwydda'i
Bob tro y synhwyra'i
Dy law lan mewn Natsi saliwt.

Raymond Osborne Jones
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud a phlannu

Er bod Idwal ryw dwtj bach yn wan
Daeth yr awydd i arddio i'w ran,
Ond rhoes yr hade bach brown
I gyd ypseid down
A thyfodd ei garetj am lan.

('garetj' = 'moron' yn y De)

Aled Evans
8 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud â phlannu

Roedd Ianto yn Gardi dansherus
Fe blannodd lond cae o gwsberis
Fe shafiodd eu blew
A'u gwerthu mewn shew
Fel grêps melyn tew yn Llanberis.

Lyn Ebenezer
8 1/2 Pwynt

Cywydd (Heb fod dros 12 llinell): Mis Chwefror

(Cywydd bach i'r mis bach!)

Mewn cornel na wêl olau
ymhell yn rhywle, y mae
rhyw un nad oes mo'i ffrwyno'n
y dail, er lleied yw o,
a'i go, yn nhrymder gaeaf,
yw y grym sy'n gyrru'r haf.

Mari Lisa
9 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Mis Chwefror

Ac eira'n siôl, gwerin sydd
Yn gwylio hynt ei gilydd,
Rôl gaeaf hir mae hirlwm
Mis Bach 'mhob cilfach o'r cwm,
Noeth yw'r waun a pherthi'r fro
Noethach yw'r gwynt pan chwytho,
Y praidd a'u gwep ar yr ôd
A'u cnu'n gwasgu am gysgod
A'r buchod yn crebachu'n
Eu hangen ger talcen y ty

Er hyn fe ddaw gloywi'r og
I'n Cwm cul 'da cam ceiliog.

Dai Jones
8 1/2 Pwynt

Can (heb fod dros 20 llinell): Newid Meddwl

Mi nesh i adduned eleni, i fynd dipyn amlach i'r jim
Mi dalish drw nhrwyn am "induction", a hynny heb falio'r un dim.
"Mi fydd 'i werth o" medda fi
A finna'n ddeuddeg stôn a thri.

Mi es i'r wers gynta a dysgu, a chwysu fel dwn i ddim be,
A dalld fod gin i gyhyra na feiddia i ddeu'tha chi'n lle.
Yr hyn na nesh i'm dalld wrth gwrs
Oedd fod mwy i'r jim na dilyn cwrs.

Mi bicish i'r dre a buddsoddi mewn tracsiwt newydd sbon,
O leia 'nawn i ddim teimlo yn llai na fi'n hunan yn hon.
Fiw chi fynd yno yn edrach yn flêr
Ma gofyn chi ga'l bob mymryn o'r gêr.

Mi barish o leia bythefnos, a brwydo drwy'r syrcit yn ddyfal
Ond pan oedd y gwynt yn chwyrlïo ac oerni mis Chwefror yn gafa'l,
Mi gysgish drw'r larwm, a'r gwely mor braf,
Na'i ail afael ynddi yn nes at yr haf.

Mi werthish y beic ar y radio, cyfnewid y fideos fo ffrindia,
Dwi'n mynd â'r gweddill efo fi i sêls bwt car ar y Sulia,
Ac er ei bod hi'n eitha ciwt
Roedd Oxfam yn falch o gael y siwt.

Cefin Roberts
8 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Newid Meddwl

Beth wnaeth Efa yn yr ardd?
Newid meddwl.
Cuddio wnaeth ei noethni hardd,
Trist yw meddwl.
Adda, fachan call di-ail,
Gadd ei hunan yn y tail;
Beth a wnaeth ar gwymp y dail?
Newid meddwl.

Beth yng Nghymru fydd ein stâd
Y'ch chi'n meddwl?
A fydd hela yng nghefn gwlad
Y'ch chi'n meddwl?
O, nab awn i yn fytheiad,
Fe gâi Alun Michael gnoad,
Diawch, fe wnawn i'r bwbach anfad
Newid meddwl.

A gâi ddeg am ganu nghân?
Dwi'm yn meddwl,
Torrais reol gaeth achlân
Wedi meddwl,
Ugen llinell ddylid greu,
Ond dau ddwsin ddaeth i'r fei;
Diawl, mae hawl gen inne, glei
Newid meddwl.

Lyn Ebenezer
8 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Nid peth call yw mynd allan
A lluwch yn drwch dros y Llan.

1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Nid peth call yw mynd allan
Heb ryw arf i saethu brân.

1/2 Pwynt

Pennill ymson mewn sinema

(Wrth wylio 'The Passion of Christ')

Mae rhamant 'di mynd efo'r gwynt, bois,
Distawyd lleisiau yr wyn.
Croeshoeliwyd dychymyg ar groesbren blastig,
Er gwaetha ambell i gwyn.
Pob tocyn yn gwerthu yn enw poen
A chariad at ryfel, dim sôn am yr oen.

Cefin Roberts
9 1/2 Pwynt

Pennill Ymson: Mewn Sinema

Yma'n yr Odeon rwyf drist fy myd
Yn ymddiheuro o hyd ac o hyd;
Beth wnaeth i mi fwyta bêc bins, fy ffrind,
Cyn dod yma'i wylio 'Gone with the Wind'?

Raymond Osborne Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Cadw

(Plentyn marw-anedig)

Ni wn fawr ddim amdani. Ni allaf
er syllu mo'i henwi,
ond mae'r "celloedd oedd eiddi"
yn fyw o hyd ynof fi.

Mari Lisa
9 Pwynt

Englyn cywaith: Cadw

Staplau i'r ffens, pwt o bensel, - ei siwrwd
Fel trysorau'r dresel,
Yn ddi-baid bu nhaid yn hel
I'w bocedi bob cawdel.

Dai Jones
9 1/2 Pwynt

Telyneg: Deall

Pan fo'r haul yn dawnsio
Fel mil o ddagrau mân
Ar lesni tonnau'r moroedd
A phawb yn llon eu cân,
Mae mwy na gwên ar wyneb
A fflam i'r llygaid byw:
Mae yno werth i'r cyfan
A nerth i feddwl gwyw.

Ond pan fo'r glaw yn tagu
A boddi'n hymdrech ni,
A phob yfory'n drennydd
Wrth ymladd gyda'r lli,
Mor anodd gweld fod pwrpas
I'n holl ymdrechion ffôl:
A ninnau'n llwch sy'n llithro
I'r llonydd mawr yn ôl.

W. Dyfrig Davies
8 1/2 Pwynt

Telyneg: Deall

[ar ôl gweld y llun ar dudalen flaen y Western Mail 27:01:05]

Mae braw a dioddefaint
A chystudd yn y llun
Ar ddalen flaen y papur -
O'r hyn wnaeth dyn i ddyn.

Aeth trigain mlynedd heibio
Ers Auschwitz a'i holl gam
Er credo 'mod i'n deall
Rwy'n dal i ofyn pam?

John Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn ar y pryd

Y Barcud Coch- Gavin Henson

Un ddaw ag ias wrth basio- un â dawns
A dur yn ei daclo
Yn nhir hud y mae'n rhodio
A'i wlad yw ei liwiau o.

8 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79

CYNIGION ERAILL

Cwpled Caeth: Rhybudd

I un hen mae mwy na all,
ar y ddaear, ei ddeall.

Mari Lisa

O smoco taer nicotîn
Yn mogi fydd eich megin

Alun Jones

Pennill mawl/dychan: Y Teulu Brenhinol

Rhown ein gwên eto eleni
I'r hen deyrn a'i theulu hi,
Hithau o'i phreswylfa ddiddos
Sy'n edrych lawr tuag atom ni.
Chwifiwn ein baneri'n wallgo
Hwythau nôl yn chwifio llaw
Wedi llwyr anghofio c'wilydd,
C'wilydd cerddi chwe deg naw.

Cefin Roberts

Pennill ymson mewn sinema

Mae'r dorf 'di hen fynd adre
A'r sgrîn ers amser maith
Yn llwyd ddi-lun a llonydd
A'm llygaid bach yn llaith.
A'r lolipop di toddi'n
Un sdremp ar hyd fy nghrys.
'Mond fi a chwpwl yn y cefn
Sy ddim i weld ar frys.
Y ddau yn gweld eu noson
'Di mynd o'u dwylo'n chwim,
A finna'n llwyr fel arall
Oherwydd, ddoth hi ddim.

Cefin Roberts

Bydd mam yn bownd
o'm galw'n fabi
am grio eto
ar ôl gweld "Bambi"!

Cefin Roberts

Os celyd oedd y meinciau
Mor esmwyth y rhes gefn
Yn breichio Dwynwen dyner
Nos Sadwrn, dyna'r drefn.

Wrth suddo yn y seddau
cau llygaid a wnaf i;
Pwy yw hon yn fy ymyl
Wir yr - y wraig yw hi!

Alun Jones

Englyn Cywaith: Cadw

Daearwyd ein blinderon yn ei chôl;
ei chael leinw'r galon.
Er di-daw alaw'r hoelion,
Duw a wyr, rhaid cadw hon.

Alun Jones

Englyn ar y pryd

Er holl lid dy erlid di- ni ildiant
Anialdir dy gyni
Dal dy dir uwch dail deri
Ar y trum mae grym dy gri.

8 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78

CYNIGION ERAILL

Cwpled Caeth: Rhybudd

[gan y cyngor i berchnogion a'u cwn]

Mor grac o weld dy gaca
Mae dy bwps di'n blincin bla.

Limrig yn ymwneud â phlannu

Os am ddaffs ym mis Mawrth mae'n rhaid plannu
Y bylbiau'n yr Hydref medd Daphney
Edrychais yn gas
Pan ddo'th SWALEC mas
I weld yr holl lampau yn tyfu.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Newid Meddwl

Meddyliais 'sgwennu soned
Wrth ddechrau creu y gân
Er mwyn cael lot o farciau
I'n rhoddi ar y bla'n
Ond wedi hir bendroni
A dim un lein yn dod
A'i rhywbeth cynghaneddol
A ddeuai â'r holl glod?

Ond na newidiais feddwl
Mae gen i lot o ddawn
Efallai rhan o bryddest
A rydd i'm farciau llawn.
Neu beth am gân o gywydd
Neu hir a thoddaid slic
Neu englyn milwr siapus
Wnaiff un o'r rhain y tric?
'Rol noson hesb o gysgu
O'r pydew death fy nghri
Peth gwael yw newid meddwl
Cyflwynaf hon i chi.

Pennill Ymson: Mewn Sinema

Ymson yr Usherette

Bob nos fe'u gwelaf yno
Yn dilyn yr un drefn
Yn wylaidd i'r tywyllwch
Y dôn't i'r seddau cefn
Anghofiwch yr holl dalent
A welwch ar y sgrin
Mae gen i sgript yn barod
I wneud fy ffilm fy hun.

Telyneg: Deall

[ar ôl colli cymydog ifanc a gymerodd ei fywyd ei hun]

Cymuned fach gyfagos
Er, pawb ar liwt ei hun,
Ystum â gwen wrth basio
Ar gefn ffordd teulu dyn.

Prysudreb bywyd modern,
Diweld mai gwan oedd ffflam
Un o'n mysg dan bwysau
Rhy hwyr yw rhannu'r cam.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.