Tanygroes v Y Sgwod

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yn Neuadd Ffarmers, Llanwrda

Tanygroes

Tanygroes

Y Sgwod

Y Sgwod

Cwpled caeth ar garreg fedd anifail anwes

Mor wag fydd troedi rhagor
Lwybrau dau hen Labrador

Ken Griffiths
9 Pwynt

Cwpled caeth ar fedd anifail anwes

Er yn strae ar gyrion stryd,
ei mi-aw oedd fy mywyd.

Geraint Roberts
8 1/2 Pwynt

Limrig: "Fe gwrddais â menyw yn Ffarmers"

Gwell gochel y geist yn y Miners
A gadewch gydnawes y chequers,
Yn dre, cewch ond draig
Os chwiliwch am wraig
Fe gwrddais â menyw yn Ffarmers.

Philipa Gibson
9 Pwynt

Limrig: "Fe gwrddes â menyw yn Ffarmers"

Fe gwrddes â menyw yn Ffarmers
â'i chanol fel Michelin-teiyrs,
fe gariai ei dwyfron
mewn parashiwts neilon,
a thent Bertram Mills oedd ei blwmyrs.

Harri Williams
8 1/2 Pwynt

Englyn i gyfarch baban newydd

Mir hen yw dy wenau- a hiraeth
Yw moroedd dy ddagrau
Ynot ti daeth cariad dau
I hadu rhyfeddodau.

Ken Griffiths
9 Pwynt

Englyn i gyfarch baban newydd

(gweddi rhiant dros ferch)

Heno, wrth wylio ei hwyneb, - O! Dduw
wnei di ddal newydd-deb
un ddi-nam, fel na ddaw neb
i waldio yr anwyldeb.

Geraint Roberts
8 1/2 Pwynt

Pennill ymson dan fonet car

Sdim byd i ddweud mewn handbwc
Sut gallaf godi lan
Roi cyngor i'r fath anlwc
A'm barf yn sownd mewn ffan.

John Meirion Jones
9 Pwynt

Pennill ymson dan fonet car

Y pop a'r fasged bicnic
sydd nawr i gyd mewn trefn -
mae'n handi'i gael Volkswagen
â'r injan yn y cefn.

Roy Davies
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yn Y Llys

Mewn llys yr wyf yn ofnus wrth sefyll 'mla'n fy ngwell-
Ysgwn a fyddaf heno yn oer a chaeth mewn cell?
'I witnessed', medd hen heddwas, 'on Oernant Cattle Grid the rails were wet and shiny: commit offence he did.'
Llygadu rwyf y rheithgor rwy'n nabod un neu ddau.
A gallaf eu perswadio fy mod i yn ddi-fai?
'Co'r grychlyd hen Miss Parry, hen briwn mewn blows fach binc,
osgoi y mae fy ngolwg pan daflaf arni winc.
Rwy'n cofio'i hebrwng adref un nos ym more oes
Pan bywiog oedd ei hormons, a siapus oedd ei choes.
'Co Jones, 'rhen ysgolfeistr, bydd dirion, gwêl yn awr
wrth gofio am blant bychain fu gynt yn plygu lawr.
Mae amser gennyf stydio hen wig y judge o'm bla'n,
A gwybod rwyf, fel bugail ple'n gywir ddaeth y gwlân:
O offer hwrdd Llawenog, gwerth ugain punt yn rhwydd,
Coroni'r barnwr heddiw- boi trigain mil y flwydd.
Yn cysgu nawr mae hwnnw- mae'n chwarter wedi tri,
A'r cês yn cael ei drafod; 'act of indecency'.'Adjourned', medd ef wrth ddeffro, rwy'n mynd i'r W.C.'
a fanno mae'n cyflawni 'run drosedd a wnes i.

Arwel Jones
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yn y Llys

Os aeth o'n beth cyffredin mynd i lys
i fynnu hawliau newydd i hen iaith,
os daethom yn gyfarwydd â chael gwys
a threulio yn y carchar fisoedd maith;
os ydyw'n 'sgrifen liwgar ar y mur
a'n holl weithredoedd eto'n gwneud y Niws,
os oes 'na yn ein gwaed rhyw ddafn o ddur
er bod mwyafrif call yn dweud 'Pa iws?'

Pam, felly, 'mod i, eto, o flaen fy ngwell
am beidio mynnu byw'n fy iaith fy hun?
Pam, felly, mai fy ffrindiau sydd mewn cell
am feiddio hawlio'n ôl hen werthoedd Llyn?
Am imi heddiw, o bellter oriel glyd,
sylwebu ar frwydr iaith, â'm chwyldro'n fud.

Karen Owen
9 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Beth yw Bardd?

Daw hud y byd yn fyw o'i bair- mewn gwyll
Mae'n gweld duwch disglair;
Cusan a glyw mewn cesair
Odla'r gwynt, arogla'r gair.

Philipa Gibson
9 Pwynt

Englyn cywaith: Beth yw bardd?

Un a wêl y manylyn, - un am weld
yn y mynd di-derfyn,
un ydyw'n aros wedyn
nes ei weld â'i lais ei hun.

Geraint Roberts
10 Pwynt

Cywydd (be fod dros 12 llinell): Galwad

Daw â'r haf i'r ffurfafen
Efo'i llon newyddion hen,
I alw pawb i loywi pâl
Dan nwyf y goeden afal.

Daw â'r erydr i'r erwau
I roi graen ar gaeau'r hau.
Daw, fe ddaw ar ddeheuwynt
Eto, heibio ar ei hynt.
Daw'n artaith i'n diffaeth dir
O wndwn ei hestrondir.
Pan glywn atsain ar lain wleb
Eto, bydd un na all ateb.

Emyr Jones
9 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Galwad

A'r gwifrau'n frau, ar lein fry,
Duw eilwaith sy'n deialu
Ei alwad ffôn i wlad ffydd
A'r rhifau llwm eu crefydd;
Deialu pob adeilad
Dau neu dri'r adnodau rhad,
Galw'i was ar linell glir
A nhw, 'r rhifau anghywir.

Ond, yng nghapel ein celwydd
Wedi'r dôn, nid ydyw'r dydd
A'i negesau gwag, oesol
Yn awr am ei ffonio'n ôl.

Karen Owen
9 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Er y boen sy'n trefnu'r byd
Y mae'n wych mwynhau iechyd.

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y mae'n wych mwynhau iechyd
Ma 'na boen mewn byw o hyd

0 Pwynt

Telyneg: Trefn

Daw tonnau o dacluso
I olchi drosti hi
Yn llanw o brysurdeb
Wrth 'sgubo'r môr o'r ty.

Ond gwyddai, wrth gofleidio
Y darlun yn ei chôl
Na fydd y ty yn drefnus
Nes daw y plant yn ôl.

Wynford Jones
9 Pwynt

Telyneg: Trefn

Tu ôl i'r gwynt a'r awel fwyn,
tu ôl i'r llwyn a'r blodyn,
tu ôl i'r graig a'r tywod mân,
tu ôl i gân aderyn;
tu ôl i'r don a chrych y dwr,
tu ôl i stwr a chyffro,
tu ôl i'r ffordd sydd heddiw'n sarn,
yn gadarn, rwyt ti yno.

Paham na welaf i yn awr
fod gwawr tu draw i'r hirnos,
a chariad mwy na chariad mam,
a fflam ymhob marwydos?
Mor hawdd fa'i plygu yn y drin
pan sycho gwin y cwpan,
mor hawdd yw amau gwir ei bod
tu ôl i rod y cyfan.

Harri Williams
9 Pwynt

Englyn ar y pryd

Mae co' hir am siom cyhyd- a ninnau
Yn wan dan ein penyd
Yna, fe ddaeth dwy funud
A dau bwynt i newid byd.

9 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 83

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar garreg fedd anifail anwes

Heno, rwy'n gwrando'r grwndi
A ddaw o'r taw hebot ti.

Os daeth 'dibs' d'ewyllys di
Pa eisiu fflato pwsi?

Anwylyn yma welit
Am i Sam gamddeall 'Sit'!

Ar ôl crogi corgi'r Cwin
Gorwedd, y terrier gerwin.

Whil fflat sydd i'r daihatsw
Huna di, nawr Cwtshicw.

Limrig: 'Fe gwrddais â menyw yn Ffarmers'

Fe gwrddais a menyw yn Ffarmers
Pan dorrodd elastig ei blwmer
Cynigiais eu rhwymo
 phwyth o dwein belo-
Ond dwedodd fy mod i'n ddifaners.

Ar ôl Talwrn Talybont- Merched Y Wawr

Fe gwrddais â menyw yn Ffarmers
Na wyddai beth oedd ystyr blwmer
Cynghorais hi wedyn
I ofyn i'r Meuryn
Mae yntau'n awdurdod ar nicers.

Fe gwrddais â menyw yn Ffarmers
A dd'wedodd fy mod i yn boncers
Am gadw y rheol
Fod rhaid gwisgo sbectol
Cyn iddi gael chwarae â'm concers.

Englyn i gyfarch baban newydd

Y mae i'ch bywyd mwyach- wyrth einioes
O groth hen gyfrinach;
Mwy na'r trysor rhagorach
I'w arddel mewn bwndel bach.

Croeso cynnes mawr i Tesni- un aur
Fel Tirion i'n llonni;
Dau enaid a'i daioni
Ddaw â'u nwyd yn rhodd i ni.

Croeso, faban, a anwyd- o uniad
Rhieni, a freintiwyd
Â'r ddawn aur, a drodd eu nwyd
Yn eilun llenwi'r aelwyd.

Pennill ymson dan fonet car

Mor fawr yw edmygedd fy wejen
O 'ngwylio'n byseddu pob darn:
Mae'n aprchu fy ngallu, sy'n helaeth,
Mae'n aros i glywed fy marn.

Rwy'n sôn am y beth -ych-chi'n-galw
A chrybwyll fy hen gae, fu'n chwim,
Ond pan ddaw boi'r garej mewn munud
Bydd cwymp- aeth y mawredd yn ddim.

****

Mae'r gwifrau'n groes o gyswllt
Yn draws a'n groes mewn plet,
Mae proest yn magnito
A fflwcsyn yn y jet
Mae'n siarad, pan ddaw'r tasgau
Mae'r fuel, level low;
Daw awen 'rhen berchennog-
Er fod hi braidd yn slow.
Y rhwd yn awr sy'n bwyta,
A gwylied wyf yn dranc,
Ni ddaw dy dalwrn atat
A theiger yn dy danc.

***

Fan hyn rwyt ti'n cuddio, y 'sglyfaeth
Yn symbol o gyfoeth w rhyw;
Pe na byddet ti mor bwerus
Fe fyddai fy mhlentyn yn fyw.

***

Rwy'n methu â chredu fy llygaid
Rwy'n siwr fod 'na injan 'ma ddoe;
Pan oeddwn yn gyrru am adref,
Rwy'n siwr 'mod i'n clywed hi'n troi.
Ond nawr ni fydd rhaid tsecio'r dip-stick
Na'r batri cyn cychwyn pob taith,
Ond tybed, ai bacio i'r garej
Wnes neithiwr ar ôl dod o'r gwaith.

Cân ( heb fod dros 20 llinell): Yn y Llys

Tan bont yn Llanybydder, lle lansiwyd nhw ar frys
Mae set o ddannedd gosod yn gorwedd yn y llys.
Canlyniad i dro trwstan, rôl yfed Brains S.A.
A wedyn dwy hambyrger oed yn casáu eu lle.
Lawr dan 'na maent yn eistedd yn eu gogoniant gwyn,
'Nôl sildod a llyswennod i'w pigo'n lân fel pin.
Tros wal y bont fe aethont, maent nawr yn wedi went
Yn gorwe' yn y dyfnder mewn dwr heb Steradent.
Fe'i clywir eto falle, o'r dafarn gynt a'i stwr,
Fel Clychau Cantre'r Gwaelod, yn clecian tan y dwr.
Wrth fwyta nawr mae'r perchen yn ddifalas a di-wen
Ei geg fel pen ôl ffowlyn, a'i drwyn bron cwrdd a'i ên.
Cânt eu darganfod 'falle, cyn diwedd yr oed hon,
Mewn pen oedrannus ddwrgi yn cretsian pysg yn llon.
Fel y set y gwisgwch heno, ar ôl eich taid neu'ch nain,
Yn y dyfodol agos yn werthfawr iawn bydd rhain.
Ffarwel i'r mart geffylau , y Brains, a'r Guinness du,
Whap iawn fydd rhain 'da'r sgadan yn Gwbert ger y lli.
Ar ben y llys mae blodau, rhai melyn a rhai gwyn,
I nodi'r fan lle gorwe' y rhai amddifad hyn.

Englyn cywaith: Beth yw bardd?

Ti'r anian, traw yr Onwy, - ti yw'r llais,
Ti'r llif a'i ryferthwy;
Ti yw'r rhediad teimladwy
A thir' sain mirain, a mwy!

***

Dônt yn agos pob noson- i'n herio
A'u geirio'n sibrydion;
A ni sydd, yn ôl y sôn,
Yn adwy i'r ysbrydion.

***

Y geiriau yw ei gariad- o'i awen
Daw "O!" o ebychiad.
Un â'i einioes mewn caniad,
Un â'i gerdd ar flaen y gad.

***

Ni heno yw'r eilunod- yn chwe bardd
Goruwch beirdd ein cyfnod
Dywedwch, pam fo'r Duwdod
Yn osgoi rhoi un i'r Sgwod?

Englyn ar y pryd: Llawenydd

(y bêl adeg cic Gavin Henson- Cymru v Lloegr)

Arhosiad uwch y rhesi- un eiliad
â'r miloedd yn gweiddi;
ac yn y bêl, a weli
staeniau oes rhwng ein pyst ni?

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar fedd anifail anwes

(cwningen consuriwr)

Er cilio o'r tric ola',
amau wyf os yw hi 'ma.

Un boa ydyw bywyd
i'r rhai all fesur ei hyd.

Er rhoi baw ar lwybr bywyd,
yn ei faw mae'r bow-wow'n fud.

Un bow-wow ydyw bywyd,
a'i fow-wow sydd nawr yn fud.

Er rhoi baw ar lwybr bywyd,
yn ei faw mae'r bow-wow'n fud

Geraint Roberts

(i hen gi)

Trwy d'oes, codais goes sawl gwaith,
heno, ni chwyd dim unwaith.

(bochdew)

Olwyn fud yw'r olwyn fach
na alli ei throi bellach.

(parot)

Sgrechiaist heb daw'n dy gawell,
nid oes a gân mewn dwys gell.

Dafydd Williams

Limrig: "Fe gwrddes â menyw yn Ffarmers"

Fe gwrddes â menyw yn Ffarmers
â'i gên hi yn orchudd o whisgers,
roedd ei chlustie 'mhell 'nôl
nes ma's na'i phen-ôl,
a'i choese hi'n feinach na sgiwers.

Roy Davies

Mi gwrddais â menyw yn Ffarmers
â phlacard yn d'wedyd 'pro-hunters';
ond gwelais hi wedyn
yn yfed diferyn
ym mar Fox 'n' Hounds 'da'r protesters.

Roy Davies

Fe gwrddes â menyw yn Ffarmers,
'rôl drama'r TV, es yn boncyrs
o weld merch yr efel
yn dangos ei bogel,
a minnau'n ei chofio mewn deipyrs.

Harri Williams

Fe gwrddes â menyw yn Ffarmers ...
be' gawn ni i odli 'blaw 'blwmyrs'?
Mor hawdd fyddai limrig
am dorri rhyw 'lastig,
ond na, mi briodais ferch Ffarmers.

Harri Williams

Fe gwrddes â menyw yn Ffarmers
fu'n Llundain yn rhostio beef-byrgys,
arferai roi winwns
er llenwi y bolgwns,
ac wedyn llond bag o hot concyrs.

Harri Williams

Fe gwrddes â menyw yn Ffarmers
ddaeth yno i fyw o'r Bahamas,
roedd yn hynod o flin
oherwydd yr hin
na cha'i drin y da mewn pyjamas.

Dafydd Williams

Englyn i gyfarch baban newydd

Fy henaint welaf ynot, - fy hafau
sydd hefyd yr eiddot,
f'eiliadau yw'r bau lle bot
a hanu wyf ohonot.

Dafydd Williams

Dy ddyfodol yw ngolud, - ac ynot
fy nigonedd hefyd,
yn ri glin, ti ydyw'r glud,
ti em wiw, ti yw 'mywyd.

Harri Williams

Pennill ymson dan fonet car

Mae bonet car fel bonet car -
ni wyddoch beth sydd dano;
dirgelion na all un fel fi
'n dragywydd eu hegluro.
Rhyw un nam bach, a dyna stop,
mae 'myd tu chwith am gyfnod;
rhoi gwên i un a chic i'r llall,
go-damio, a chyfamod.

Harri Williams

Mae 'na weiars fel spaghetti
i gyd o wahanol liw,
ac rwy'n addo bwyta fy het-i
'sna ffeindia' i y blydi sgriw!
Ro'n i'n nabod carbiwretor
dan fonet Austin Seven,
a gwyn fyd na welwn eto
bethau dw i'n eu dallt drachefn!

Dafydd Williams

Rwy'n llechu yn ei grombil du,
nid oes gan neb ddim syniad
pa le yr wyf, na natur chwaith
o ddiafol fy ngwneuthuriad;
Mae'r electronics yma'n drwch,
nid oes 'r un radd a'm datrus,
dim ond rhyw brentis bach di-nod
â sbaner yn ei drowsus.

Harri Williams

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yn y Llys

Daeth ffeirad tra golygus i Eglwys Penrhiwllan
A chawsai ei edmygu gan ferched o bob man,
Roedd un ferch wrth yr organ yn harddach na nhw'i gyd,
A'r ffeirad yn ei bwlpud yn edrych arni o hyd.

Roedd habit ganddo winco fel arwydd i roi cord,
A hi'n ymateb wedyn â miwsig o'r key board;
Drwgdybio wnaeth y curad bod ystyr yn y winc,
A rhoddodd ef i'r Esgob gyhuddiad llawn - mewn inc.

A'r diwedd fu i'r ffeirad rhyw ddiwrnod dderbyn gwys
Am ymddwyn yn anweddus - aeth ar ei ben i'r llys.
Yr honiad oedd i'r ffeirad i fynd yng nghwmni'r fun
A sefyll yn y festri am oriau bob nos Lun.

Ond dadlau wnaeth y ffeirad ei fod yn fachgen da
Yn mynd â'r organyddes er mwyn cael gwers sol-ffa.

Ni chawsai unrhyw drafferth 'da'r beats, roedd rheiny'n reit, Y tempo ddaeth yn weddol - y three-four a'r six-eight.
Two dots a dash fu'n broblem wrth redeg lein y bas,
Ni wyddai pryd oedd stopo na faint i ddala ma's.

"Dieuog" meddai'r Esgob: "Dos rhagot da was da."
Mae'r Esgob nawr 'n y festri yn rhedeg y sol-ffa.

Roy Davies

Englyn cywaith: Beth yw bardd?

Heibio i wag linellau'r byd - a synnau
y disynnwyr hefyd,
mae un a glyw bob munud
eiriau'r gerdd sy'n gur i gyd.

Karen Owen

Ei gerrig yw y geiriau - a hyrddia
i oerddwr profiadau
gan greu cyffro'n fân-donnau
o lan i lan wrth amlhau.

Dafydd Williams(Dewi Emrys)O'i gwmpas oedd ei gampwaith, - yn ei fro
daeth â'i frws yn berffaith
gan roi ffrâm ar ei famiaith
a rhoi'i lun mewn oriel iaith.

Geraint Roberts

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.