Manion O'r Mynydd v Criw'r Ship
Cafoddyr ornest yma ei recordio yn Neuadd Goffa Llanrug
Manion

Criw'r Ship

Cwpled caeth i hysbysebu unrhyw fwyd
Hesbin oedd ond Has-bin yw
Odiaeth fel "smokey" ydyw.
Cynan Jones
8 Pwynt
Cwpled caeth i hysbysebu un rhyw fwyd
Hwn yw'r bwyd wna les i'r bol
Estrys - rhydd o golestrol
Llion Derbyshire
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud a mentro
Os collwn ni'r Talwrn 'ma heno
Tîm Manion sy'n barod i fentro
Cidnapio y Meuryn
A'i adael o'n borcyn
Am flwyddyn ar ben polyn Nebo.
Edgar Parry Williams
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â mentro
Bu Gwyndaf yn briod â Gwenno,
Cassandra, Myfanwy a Llio.
Ond mynna yr erys
Yn ffyddlon i Gladys -
Ymddengys fod arno ofn honno.
Arwel Roberts
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Stryd
Yr oedd tref ar ffordd y traeth,
Yn eigion o gymdogaeth
Yn hawlio'r bore olaf,
Yn don o liw dan haul haf,
Heb weld ar orwel ei byw
Ragfur dolur, a'r dilyw'n
Dod a'r raeadr o ewyn
Trwy berfedd dinodedd dyn,
Ewyn bae yn derfyn bod,
Caerau'i dai'n froc ar dywod,
Yn tau'n un o gregyn gro-
Natur yw'r brenin eto.
Nia Powell
10 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Stryd
Unwaith 'roedd cwlwm yno
Yn brawf fod y dref fel bro.
Bodlon oedd dynion bob dydd
Yn hawlio cwmni'i gilydd
Plantos mân o'r un anian
Siop gornel, 'chapel a chân.
Hogwyd sail y gymdogaeth
Gan eiriau a ffrindiau ffraeth.
Ond daeth difrodaeth i'w rhan
Aur a chyfryngau arian.
Fe'i darniwyd gan fodernedd
A gwn nad yr un mo'i gwedd.
Gari Wyn
8 1/2 Pwynt
Pennill ymson mewn ciw
Waeth imi heb gwyno
'Mod i'n ciwio ers awr
mae 'nhrol i mor fechan
a Tesco mor fawr
Edgar Parry Williams
8 1/2 Pwynt
Pennill Ymson mewn ciw
Dwi a Musus Ysgyfarnog
Wedi gwylltio yn gynddeiriog.
Dwi'm yn arfar ista'n llonydd -
Dw isio rhedag dros y dolydd.
Dw isio llamu, dw isio gwibio,
Yn lle cyffio fama'n ciwio.
Noa, fedrai'm diodda' rhagor.
Plis paid llwytho'n 'nhrefn y wyddor.
Arwel Roberts
9 1/2 Pwynt
Englyn ar y thema 'Nid aur yw popeth melyn'
Ar y traeth mae wylo'r trai- yn ubain
Trwy rwbel y gwestai,
Yn osteg ar luestai
Egwyl haf sy'n gell o glai.
Nia Powell
8 1/2 Pwynt
Englyn ar thema "Nid aur yw popeth melyn"
Galwyd hi'n fuddugoliaeth - I ni oll.
Cynulliad! Ysywaeth,
I'r un giang yr y' ni'n gaeth.
Ai lledrith yw'n llywodraeth?
Nici Beech
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Weledigaeth
Mi es am dro i ben Wyddfa
A cherdded bob cam heb 'run stop
A phrynu sbienddrych am ddecpunt
Yn y caffi sy'n ymyl y top.
Edrychais am hir drwy'r sbienddrych
A gweld pethau bychain mor fawr,
Gweld calon Tony Blair
Dau guriad bob pum neu chwe awr
Gweld pethau o bell yn reit agos
Gweld chwain ar yr Hindw Cwsh
Gweld gwladwriaeth ym Mhalesteina
Ac yna gweld reit drwy George Bush.
Gweld ddoe ac echdoe fel grisial
Gweld Sycharth mewn bri cyn y brain
A gweld, hefo mymryn o g'wilydd
Pam fod taid 'di gwirioni efo nain.
Gweld fory trwy rhyw niwloedd garw
Gweld haul trwy gwmwl mawr du
A gweld, rhwng moelni'r mynyddoedd
Burger King yn Nhy'r Ysgol, Rhyd Ddu.
Cynan Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Weledigaeth
Roedd Brenda'n wraig grefyddol, yn agos iawn i'w lle,
A pharod ei gwahoddiad i'r gw'nidog ddod i de.
Un Sadwrn, cododd cyn y gwlith
I bobi talp o fara brith.
Mi ddaeth y dorth o'r popty a thorrodd Brenda doc
I'w fwyta efo'i phaned. Ond yna, cafodd sioc,
Cans yno, fel rhyw ryfedd rith,
Roedd wyneb Crist mewn bara brith.
Ei wallt a'i farf a ffurfiwyd o gyraints melys mwyn.
Syltanas yn lle llygaid, a walnyt yn lle trwyn.
Ymledodd si - "Daeth Ef i'n plith
Drwy gyfrwng darn o fara brith."
Daeth fflyd o bererinion (d'wn im yn union faint);
Daeth boi'r siwt wen o Rufain, a Rowan o Gaergaint,
A chardinaliaid rif y gwlith
I foli gwyrth y bara brith.
Yr Arglwydd a ddarparodd, yr Arglwydd ddygodd ffwrdd.
Mi lwyddodd ci drws nesa' i neidio'i ben y bwrdd.
Aeth walnyt fach i lawr ffordd chwith
A thagodd ar y bara brith.
Arwel Roberts
10 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y Llanrug gallwn regi
Ma naw, nid deg gawson ni.
1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn Llanrug gallwn regi
Deg tu draw a naw i ni
1/2 Pwynt
Englyn Cywaith: Marchnad
Mae'n oer ar draethell mwynhad- a hiraeth
Y môr sy'n ei lygad;
Yn ddof, ac yn amddifad
Heno mae'n rhydd, ond mae'n rhad
Cynan Jones
10 Pwynt
Englyn Cywaith: Marchnad
'Ewros,' punnoedd a doleri, arian
ac aur yn rhagori
Ond o'r cynnwrf daw'r cynni,
Yfflon yw'n cynilion ni.
Gari Wyn
8 1/2 Pwynt
Telyneg: Tegan
Deffro-
A phawen felfed ei thedi pinc
Yn anwylo'i grudd.
Cofleidio'n dynn-
Cyn mentro allan i grafangau'r wawr
A dannedd antur yn sgyrnygu arni.
Degawd i ddiniweidrwydd yn herio'r dydd
Cellwair
Chwerthin
Crio
- a byw yn gêm
Chwarae mig rhwng cysgodion y gwyll
cyn danc eto
wrth grechwen yr haul
sleifio'n llechwraidd tua'r gorwel
********************
Yna
Dan gwrlid wen
A breichiau'r nos yn ymestyn yn dyner
- i'w chofleidio.
Lleuad wen
Yn dawnsio drwy'r ffenest
Yn sgleinio'n fodrwyau tinsel yn ei gwallt.
Golau glas yn gymylau ysgafn hyd nenfwd y llofft.
Hithau'n seren o wên gysglyd
Yn wincio'n gysurus
Ac atgof y dydd yn suddo i'r gobennydd
- yn glyd
rhwng pawennau melfed ei thedi pinc.
Phyllis Evans
9 Pwynt
Telyneg: Tegan
Llond sach
o fwndeli twt
'di lapio'n ddel.
Rhwygo'r papur lliw
ar ras,
eiliad o wên
a'i daflu draw
wrth ysu am y nesa.
***
O'r tinsel
daeth tonn
i rwygo'r dolig o'u dwylo.
Chwalu'r tai
yn Lego mân,
a darnau ar
wasgar fel jig-sô.
Llygad tedi'n
wincio o'r mwd,
a'r plant
'di gwthio
yn fwndel
i sach.
Nia Môn
9 1/2 Pwynt
Englyn ar y pryd
Hanner gwir yw'r du a'r gwyn- hanner gwir
A'r geiriau fel menyn,
Er lleied ydyw'r hedyn
Hanner dweud- a chredu hyn.
10 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2 Pwynt CYNIGION ERAILL Cwpled caeth i hysbysebu unrhyw fwyd
Am wmff, os wyt yn dwmffat
Ffantastic yw Kiti Kat.
I lygod sydd ar lwgu
Dyro lwmp o Dairylea.
Ar y blaen a'r gorau'u blas
Ydyw wyn Gwastadanas.
Limrig yn ymwneud â mentro
Mae'n rhiad, medda 'nhw, i chi fentro
Ychydig, neu wnewch chi byth lwyddo
Ond pan rois gusan
Tro cyntaf i hogan
Ces glustan na wnâi byth anghofio.
Aeth chwannen ddig'wilydd i deithio
Dan goban rhyw wraig oedd yn crwydro
Nes aeth hi i goedwig
Ar ynys bellennig
Y wraig, nid y chwannen, y lembo!
Pennill Ymson mewn ciw
Mae 'mywyd i'n pasio
Daw 'nyddiau i ben
Yn aros byth bythoedd
Oes oesoedd, Amen.
'Rargian mae'r cychwr 'ma'n ara' deg,
Tyrd rwan, tria'i gweld hi 'rhen goes-
'Dwi'n brysur iawn, gen i bethau i'w gwneud
a dwi'n ciwio ar y lan 'ma ers oes.
Englyn ar y pryd: Papur Newydd
I'r Sun
Arlwy mewn gair neu ddarlun yn rhannu
Gwirionedd di- flewyn
A nodi mewn pwt sydyn
Rhyw newydd, rhyw gelwydd gwyn
9 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth i hysbysebu un rhyw fwyd
Hudoliaeth yr Eidales -vBowlenaid o Bolonês.
Arwel Roberts
Dowch yn awr da chi iw nol
Estrys - rhydd o golestrol
Llion Derbyshire
Limrig yn ymwneud â mentro
Fe ddaethant o'r Mynydd yn 'Fanion' -
Mân feirdd, a mân gerddi'n gynigion:
A dyna hen dro -
Y tîm aeth ar ffo
'R ôl mentro i ganol y 'Mawrion'.
Menna Medi
A fentrwn ni hela y cochyn,
Ac eraill yn gryf yn ein herbyn?
Wel, na wnawn, wir dduw
 fo wrth y llyw -
Mae pawb isio byw, yn does Meuryn?
Menna Medi
Tra ar ddet yn ffereta - y fath sioc
A'r fath siom ga'dd Wmffra
Yn y clos,liw nos un ha' :
Nid dynes oedd Deiana
Llion Derbyshire
'Roedd dynes fawr dew o Lanbabo
Yn methu cael dyn allai'i phlesio;
Medda Wil Bach yn llon
'Mi wna i setlo hon!'-
Mae'r claddu dydd Iau yn Llangaffo.
Llion Derbyshire
Englyn ar thema "Nid aur yw popeth melyn"
(I gofio'r "Brenin" a fyddai'n 70 oed eleni; mae o'n rhif 1yn y siartiau ar hyn o bryd!)
Hawliodd eilun addoliaeth a miloedd
Fu'n moli'i frenhiniaeth
Ond dan fôr ei gerddoriaeth
Clywir tôn ei galon gaeth
Gari Wyn
Tra ar ddêt yn ffereta, y fath siom
A'r fath sioc ga'dd Wmffra
Yn y clôs,liw nos un ha':
Nid dynes oedd Deiana!
Llion Derbyshire
Telyneg: Tegan
Ym mharadwys y dwyrain,
cordeddai nadroedd o draethau
yn rhimyn euraidd -
â'u brath ynghudd yn llymder y tywod.
I gyfeiliant meirch y môr,
rhedai plentyn yn eofn o dan gesail y palmwydd,
â'i fwced yn rhawio'i frwdfrydedd
yn gastell cadarn, dros dro.
Wrth i lanw'r wyl larpio'i ddiniweidrwydd,
siglai'i fwced yn wag ar don anobaith,
gan erfyn ar i ddafnau'r glaw ei lenwi.
 dwylo dieithr,
bu'r rhaw fach yn chwilio'n ofer
am frenin y castell,
a oedd bellach ynghudd
yng nghanol rwbel ei oes fer.
Menna Medi
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

