Caernarfon v Llanrug
Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yn Neuadd Goffa, Llanrug
Caernarfon

Llanrug

Cwpled caeth ar yr odl "es"
Mae awr i dre Biwmares
A naw awr i Inverness.
Geraint Lovgreen
8 1/2 Pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl "es"
Dod mae ein nychdod yn nês,
Mor gul yw muriau Gwales.
Richard Lloyd Jones
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Terfysgaeth
Llusgaf fy nghes i'w fesur
Ar glorian y datgan dur.
Mae'n ges sy'n fy nghlymu'n gaeth
O'i wasgu â'm cynhysgaeth.
Ond fe'i llusgaf bob haf pell
A phacio pen a phicell,
Matsien neu Ddeddfau Pennyd
A dwr oer llonydd a drud
Yn ei fol : a do, fe aeth
Ym Moeing yr amheuaeth.
Ond beth sydd ynghudd yng nghwr
Dy fagiau dithau deithiwr ?
Ifan Prys
9 1/2 Pwynt
Cywydd(heb fod dros 12 llinell): Terfysgaeth
Trychineb 9/11 yn Efrog Newydd
Dinistr dros fyd a daenwyd,
Dan y llwch mae 'sglodion llwyd
Dau gawr talsyth, di-guro,
Dau frawd a gysgodai fro.
Duwch hudoliaeth dewin
Draw a gonsuriodd y drin.
Daeth, un dydd, adenydd dig,
Dod a'u haflwydd dieflig
Dros ddinas yn wyniasedd;
Darnio a fu, gan droi'n fedd
Dan bentyrrau distiau dur,
Diwedd mewn ffrwd o wewyr.
Hilma Lloyd Edwards
8 1/2 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau: 'Am hynny...'
Cafodd bardd ei ddiarddel - am yrru
I'r Meuryn ryw sbwriel,
Ac am hynny Gymru gwêl
Ein Geraint ar y gorwel.
Ifor ap Glyn
8 1/2 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau "Am hynny..."
Un dilyw yw eu dyled - am hynny
Y mynnwn adduned
I'r cryf ddoleru eu crêd,
Cymwynas yw cymuned.
Richard Lloyd Jones
9 1/2 Pwynt
Pennill ymson ar Faes Caernarfon
Dwi 'di fferru wrth sefyll yn fa'ma cyhyd, 'sgen i'm clem lle mae
'nhraed i yn byw !
Weithia, dwi'm yn cofio pwy ydwi go iawn, ond mae o'n deud
wrth fy nhraed i "Syr Hugh".
Ma'r pentwr llyfra ma'n niwsans o hyd (dwi'm 'di darllan 'run gair,
dim at ôl),
Os s'muda i dwtsh, mi hollta i yn ddau, a sa'n uffar o job fy rhoi
nôl.
'Swn i'n gedru gweiddi (tasa gen i lais), ond dwi'n fud, so 'nai
aros fel hyn
Yn stagio pob fodan sy'n pasio fy nhraed, o Ben Deitsh i ben
draw Stryd Llyn.
Ond rhoswch funud, ar gyrion y Maes, mae na ddyn efo sgrôl yn
ei law
Yn sgwrsio yn addfwyn efo hwn a'r llall, yng nghanol y sigyls a'u
baw.
Be ddiawl mae O'n neud yn fanna ? Y Meuryn,a phrifardd o fri -
A finna'n cael jaman ar ganol y Maes, FO ddyla fod yma, nid fi.
Llinos Angharad
8 1/2 Pwynt
Pennill ymson ar faes Caernarfon
Mae deiet yr wylan a'r golomen- medd pobol
Sy'n gwybod am bethau o'r fath- yn wahanol.
Waeth beth aiff i'w cegau, boed wenith neu facrall
Mae'n hynod o ebyg pan ddaw o'r pen arall.
Iwan Roberts
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwario
(Stori wir !)
O'n i'n chwilio am fatris rhyw fora,
"Dau ddiwrecs", gofynais yn swta,
Cefais ateb sidêt,
Ddudish inna yn sdrêt
"Yli mêt, mae nhw'n para....a para....a para...."
Robin Evans
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwario
Ceisiodd ddal yr holl ffordd o Gaergeiliog,
Gan ysu am gael gwario ceiniog;
Ond yn nhoilets Llangefni
Roedd y pris wedi codi
A methodd.
Dafydd Whiteside Thomas
9 Pwynt
Cân (heb fof dros 20 llinell): teulu Od
(Y Treigladau)
Gadewch i mi gyflwyno fy nheulu bach i chi,
dan ni'n deulu digon rhyfedd, y Treigladau yden ni.
Mae gen i fodryb Thelma, hyhi di'r treiglad llaes,
y mae hi bron â marw, mae'n hen-ffasiwn fel ei staes.
Ond mae hi'n dal i rygnu mlaen, drwy heulwen a thrwy heth,
'chos chydig iawn o enwau sydd yn dechrau efo 'th'.
Ma'i wrthi'n canu'i thelyn yn ei thŷ i'w chath a'i chi,
'Sa Modryb Thelma'n methu byw heb ei phethau hi.
Ac am 'y nghefnder Ngorman, wel mae nghefnder i mewn trwbwl
y treiglad trwynol ydio, ond dio ddim yn iach o gwbwl.
yr unig le dwi'n weld o'n amal ydi ar ôl 'fy',
'chos, deud y gwir, lle arall fasa rhywun yn deud 'ngh'?
Fy nghefnder i, fy nghymar i, fy nghyfaill i, fy nghaws
ond cefnder fi dio erbyn hyn - wel, tydio gymaint haws?
ac er mai yng Nghaernarfon roedd o'n byw erslawer dydd,
mae o wedi symud bellach i dy teras yn Gaerdydd.
Achos fi, y treiglad meddal, wel dwi'n fyw ac iach o hyd,
dwi yma yn Gaernarfon, gewch chi glywed fi ar y stryd,
mi bryna'i fag o jips neu fynd allan am Jeinî,
yr unig un o'r teulu sy'm yn hasbin ydi Fi.
Geraint Lovgreen
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Teulu Od
(Cyflwynedig i arbenigwr ffrwythau Clwb Garddio)
Mae 'nheulu'n byw mewn perllan ffrwytha';
Yno hefyd rydw inna';
Fu na fawr o waith yn perthyn i'r tacla',
Rhyw hongian o gwmpas fu eu hanas ers acha'
Ond rydw i'n berffaith.
O'r Groes ym Mryste y deuthom ni gynta'
A thuedd braidd sbio'i lawr ein trwyna'
Ar epil Bramley, rhyw gyffredin betha',
Heb son am y ciadidyms o hil Fictoria;
Ond rydw i'n berffaith.
Josephine de Malin fu un dydd yn planta,
'rol ymweliad gan Packham o wlad Awstralia,
Ond daeth at ei choed wedi'r esgeulustra;
Hel cnecs ydi hyn, a ddyliwn inna
Ddim, gan fy mod i yn berffaith.
Daeth William ar ei hald i gwr y blanhigfa
Gan syllu'n freuddwydiol ar siâp Louise Bonna,
Ond cyn croes-ffrwythlonni a difetha'r holl ffrwytha'
Bu'n rhaid galw pwyllgor ac ar ôl cynadledda'
Fe'm gwnaethpwyd i'n bêr. Ffaith.
(Mae pob un mewn print bras yn fath o ellygen )
Dafydd Whiteside Thomas
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Rhieni
Dwy linach a'u dylanwad - yn uno
Gan lunio cymeriad
Dau gymar yn ddau gariad,
Ond un ydy mam a dad.
Robin Evans
9 Pwynt
Englyn cywaith: Rhieni
A fo heno ger tonnau yr eigion
Ar agor mae'i hwyliau.
A yw'n saff gollwng rhaffau
I'w daith, o'n gafael ni'n dau?
Richard Lloyd Jones
8 1/2
Ateb llinell ar y pryd
Y mae angen ymennydd
Ar rai dwl sy'n byw yng Nghaerdydd
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae angen ymennydd
Ein ffawd- ceisio deall ein ffydd
0 Pwynt
Telyneg: Ennyd
Dwi ddim yn cofio heddiw fanylder pob sut a pham,
Mae gorthrwm yr ail-adroddus yn pylu a diffodd fflam,
Ond gwn i mi weld a theimlo fel am y tro cyntaf erioed
Aroglau a rhythmau pridd a daear o dan fy nhroed.
Bellach â'r llygad a'r cof yn pylu a synhwyrau'n llacio
Mae'r galon, er gwaetha sawl cnoc a rhybudd, yn dal i guro,
Ni chollodd yr hen chwilfrydedd ei awch, na'r dychymyg ei dren,
Cofleidio fel am y tro olaf ydy'r pigyn wrth fyned yn hen.
Gwyn Erfyl
10 Pwynt
Telyneg: Ennyd
I Indonesia...,
Bali..., Sri Lanka...,
India..., Somalia...,
Ennyd Tsunami.
I wrêng a bonedd...,
I gwch..., ysgol..., annedd...,
I bawb, heb omedd...,
Ennyd Tsunami.
I deulu Bwda...,
Plant Duw ac Ala...,
I bob Nirfana...,
Ennyd Tsunami.
I heddiw..., 'fory...,
I drennydd..., dradwy...,
Einioes ryferthwy
Ennyd Tsunami.
R John Roberts
9 Pwynt
Englyn ar y pryd
(Sagrada Familia, Barcelona)
ai ffwlbri pensaernïol - ar y graig
yw'r gragen neu symbol
nad yw fydd ond breuddwyd ffôl
a'r cyn 'di naddu'r canol.
Robin Evans
9 1/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth ar yr odl 'es' Geneth, nid potel gynnes Limrig yn ymwneud â gwario Dydd Llun a dydd Mawrth a dydd Mercher
Wna i wely oer fyd o les.
Bu'n gwario fy mhres i drwy'r amser,
Dydd Iau roedd mei ledi
Â'i phoced yn llosgi
A mhlastig 'di toddi dydd Gwener.
Englyn ar y pryd: Eglwys
Mae'n bod er mwyn ein bedydd- neu adeg
Priodas ysblennydd
Yna ciliwn, a'n cywilydd
Yn hedd Duw, ar drydydd dydd.
Richard Lloyd Jones
9 1/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80
CYNGION ERAILL Cwpled Caeth ar yr odl "es"
I werin sy'n brin o bres
Pitw yw'r cig mewn potes.
O'r dwrn daw storm a gormes
Y llaw gynigir er lles.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

