Cwps v Crannog

Cafodd yr ornest yma ei recordio yng Nghanolfan Goffa Talybont

Cwps

Cwps

Crannog

Crannog

Englyn yn cynnwys 'Nid wyf yn mynd i ofyn...'

Montserrat

Nid wyf yn mynd i ofyn a welodd
y bugeiliaid cyndyn
fenyw hardd unwaith fan hyn
na dechrau dallt eu dychryn.

(Yn ôl yr hanes ymddangosodd y Forwyn Fair i fugeiliaid mewn ogof ar fynydd Montserrat yn y flwyddyn 880 O.C.)

Dafydd John Pritchard
9 Pwynt

Englyn yn cynnwys 'Nid wyf yn mynd i ofyn...'

Holi am ddydd sy'n dilyn - a wnawn i
Bob nos pan yn blentyn,
Ond yn awr wrth fynd yn hyn
Nid wyf yn mynd i ofyn.

Dai Jones
8 Pwynt

Limrig: 'Mewn ty bach o'r enw...'

Mewn ty bach o'r enw Ty Bychan
Mae gwraig fach yn byw, un fach fechan,
Mae hi'n olrhain ei hach,
Heb fymryn o strach,
Ar fonsai fach fach yn lle coedan.

Arwel Jones
9 Pwynt

Limrig: 'Mewn ty bach o'r enw...'

Mewn ty bach o'r enw Pen-ddôl
Bu Ianto trwy'i oes ar y dôl,
Fe gas e wraig lysti
A phymtheg o deulu,
Heblaw'ny, ni wnaeth byger ôl.

Dai Jones
9 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ateb gwahoddiad

E-bost (arall) yn ateb gwahoddiad i lunio cywydd ar gyfer y Talwrn

Annwyl Rocet, fi eto!
Rhyw ddyn trwm fu'n fardd un tro,
Un a'i gerdd fel mul heb gic
Ac yn benwan gan banic.

Mae 'nghynghanedd i'n feddw
A dwl fel dijyridw -
Pob Croes dwi'n wneud yn proestio,
Pob Llusg sydd fel pibo llo,
Pob Sain rhy sâl i Dalwrn,
Pob Traws fantach fach yn fwrn.

Yn gywir, ond digywydd,
Gwr a ddaw â thasg - ryw ddydd.

Huw Meirion Edwards
9 1/2 Pwynt

Cywydd ( heb fod dros 12 llinell): Ateb gwahoddiad

Yr ydwyf, eich Mawrhydi,
Eisiau bod yn CBE
Fel yr oedd cath y Teiliwr
Yn dyheu am fynd i'r dwr!

Fe'i haeddwn, fe wn hynny,
Yng ngolau 'nhalentau lu,
Ond o rwydded y'i rhoddir
Y mae nawr yn gomon, wir.

A rywsut, er y prisiwn
Y caredig gynnig hwn
Yn gymwys, mae'n reit gomic.
Diolch, ond dim diolch, Dic.

Dic Jones
9 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yr oedd hwnnw'n fardd hynod
Beiro chwim ond dim yn dod

1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yr oedd hwnnw'n fardd hynod
Roedd un bach o fardd yn bod.

1/2 Pwynt

Llinell 10 Sillaf: Dihareb gyfoes

Un limrig wirion ni wna farddoniaeth.

Iwan Bryn James
9 Pwynt

Llinell 10 sillaf: Dihareb gyfoes

Glynu'n y galon wna hen gywilydd

Owen James
10 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Difyrru'r Oriau

Pe bawn yn Sais byddai'n hawdd iawn segura
Yn Ascot,Old Traford neu'r Costa Brava,

Crwydro'r byd o Japan i fro'r Asteg
A disgwyl i bawb fy nghyfarch yn Saesneg.

Ond dwi'n Gymro tlawd, a fedra'i ddim fforddio,
Gan fod eisiau waled fawr i enjoio.

Mae pob dime goch ddaeth i'm rhan ers blynydde
Wedi ei hen wario ar gynnal Y PETHE.

Gwariwyd y cyfan mewn siop lyfre neu steddfod
Neu'n ateb apel rhyw gylchgrawn ar ddarfod.

A waeth heb a meddwl am awr o dawelwch
Ac angen protestio dros iaith a thros heddwch.

Gwelais sawl dinas fawr does dim gwadu
Ond ceisio'r geto a wnawn mewn lle felly.

Ac nid Madrid,ond Montserrat[1] a Gwernica[2] I greadur fel fi yw'r llefydd difyra'.

Bob tro daw awr dawel yr un yw yr hanes,
Ble bynnag yr wyf, rwyn lleiafrif dan ormes.

Dafydd Morgan Lewis
9 Pwynt

[1] Mynydd ag iddo arwyddocad arbennig i bobl Catalunya
[2] Hen brifddinas Gwlad y Basg

Cân (heb fod dros 20 llinell): Difyrru'r oriau

Y gennad' yn diflasu yr ail neu'r trydydd 'pen'
A ninnau i gyd ers amser yn bôrd - y nefi wen!
Y piprod wedi bennu heb adael ond eu blas
A'r parch yn rhygnu arni a hithau'n haf tu fas!
Ac felly dechrau cyfri, am rywbeth gwell i'w wneud,
Sawl 'canys ' a sawl 'megis' y bydde fe 'n ei ddweud.
Blino ar hynny'n fuan - neu falle golli cownt -
A studio het-a-phlufyn Mrs. Heiffen-Jones, The Mount.
Rwy'n siwr y byddai honno yn teimlo'n ddigon fflat
Tae'r cadno ar ei hysgwydd yn dechrau pori'r hat.
Trio gwneud llygoden facyn yn ddirgel ar fy nghôl,
A blaenor yn dihuno a chewco'n gas sha nôl
Wrth i bisyn chwech y casgliad rowlio ar hyd y llawr
O dan y sêt, O Moses, rwy i fewn amdani nawr!
Cip ar y cloc tragwyddol - heb symud fawr ymlaen,
Dim mwy na strôc a hanner oddi ar y tro o'r blaen,
A tae bocs matsus gen i rwy'n siwr y medrwn ddal
Y corryn 'na sy'n dringo rhwng y côr o'm blaen a'r wal.
Ond wele iachawdwriaeth o'r diwedd hir yn dod -
Mae e'n crynhoi'i bapure, mae'n Amen, siwr o fod.

Dic Jones
9 Pwynt

Englyn Cywaith: Siswrn

Wedi i'w fin dorri'r llinyn - a fu
Rhwng y fam a'i phlentyn,
Uwchben edau dyddiau dyn
Daw'r ddeulafn dur i'w ddilyn.

Huw Meirion Edwards
10 Pwynt

Englyn cywaith: Siswrn

[Y Siswrn - gan Daniel Owen]

Unwyd dwy gelfyddyd hen - yn siapus
Yn siop Daniel Owen,
Brethyn dilledyn oedd llên
I deiliwr y dudalen.

Idris Reynolds
9 1/2 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Cymdeithas y Cerddwyr

Rhain yn wir yw arwyr bro
Mae'n fraint eu cael nhw yn eu tro
I lenwi'r gwlâu yn y B&B
A phrynu nghaws a'n llefrith i.

Arwel Jones
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Cymdeithas y cerddwyr

Dacw nhw yn dyfod
Drwy y gamfa wen,
Mewn sgidiau Doctor Martens
A mwfflers ar y pen,
Poteli dwr a thermos
A'r bythol mobile ffôn
Rhag ofn i'r byd fynd heibio
A hwythau ar y lôn.

Owen James
9 1/2 Pwynt

Telyneg (mewn mydr ac odl): Dim Ateb

I'r llun o Carneddog a'i wraig Catrin gan Geoff Charles

Buom yma'n blant yn chwarae
O fewn tafliad iddi hi
A llais y garreg ateb
Yn chwarae mig â ni.

Buom yma yn gariadon
Heb neb ond hi yn dyst
I ail adrodd pob addewid
Sibrydwyd yn ei chlust.

Buom yma'n deulu prysur
A'r plant yn sgrech trwy'r fro
A llais y cenedlaethau
Yn ateb bob un tro.

Ond wrth i mi ffarwelio
A chraffu am yr hud
Mae llais y cenedlaethau
Yn gyfan gwbwl fud.

Arwel Jones
9 1/2 Pwynt

Telyneg (mewn mydr ac odl): Dim ateb

Bu gwrando'r miliynau gweddïau
Yn ormod i'r Duwdod ei hun,
Ac yn anfesuredd trueni
Ni fedrai Ef ateb yr un.

Hywel Rees
10 Pwynt

Englyn ar y pryd

Ai'r don a'i grym syfrdanol, neu wylo
Anwyliaid y bobol
Yn y mwd, heb ddim o'u hôl
Yw swn y Duw absennol.

10 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 84

Englyn ar y pryd: Rheswm

Chwilio rhywrai i feio a wna dyn
Pan ddaw'r dinistr heibio
Yswiriant i gysuro
Bywyd trist yw'r "pam?" bob tro.

10 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 85 1/2

CYNIGION ERAILL

Englyn yn cynnwys 'Nid wyf yn mynd i ofyn...'

[ I Dafydd Iwan]

Paham fod mêl yn felyn, - yna llais
Yn rhoi lliw i'r nodyn,
Geiriau'n ias ac eira'n wyn?.
Nid wyf yn mynd i ofyn.

[ I Dafydd Iwan]

Onid sawl edrychiad syn - a gefaist
Gan gyfaill a gelyn?
Paham mae eira mor wyn?
Nid wyf yn mynd i ofyn.

Limrig: 'Mewn ty bach o'r enw...'

Mewn ty bach o'r enw Byc Palas
Daeth pedwar o blant o briodas,
Sef Neddy ac Andy,
Ac Annie a Charly -
Ond wn i ddim beth yw eu pwrpas.

Nid wyf i yn mynd o gylch teiau,
Mae'n gas genny' guro ar ddrysau,
Ond galwaf yn gyson
Wrth fynd o'r Black Leion
Mewn ty bach o'r enw Toiledau.

Llinell 10 sillaf: Dihareb gyfoes

Na chred yn neb fo a cherdyn 'nabod.

Yn y DNA y mae dyn i'w weld.

Anodd i henwr gadw'i adduned.

Tra fyddo gwleidydd fe fydd celwyddau.

Trwy led ei boced mae 'nabod Beckham.

Gwell bomio Baghdad na hela'r cadno.

Hyd droed yr Wyddfa mae ôl tsunami.

Nodwydd gyffur a dâl y pwyth yn ôl.

Englyn cywaith: Siswrn

[Siswrn y cae rygbi]

Gwelwyd ar faes y Saeson - y ddyfais
Wnaeth ddifa'u gobeithion:
Ennill cais drwy dwyll y 'con',
A'u curo am dair coron.

I olau'r maes, o law'r maswr - daw'r bêl
Drwy'r bwlch i'r canolwr,
Yna'n sionc i ddwylo siwr
Ysgallyn o asgellwr.

Y bêl o'r twrio helaeth - â o law
I law y gefnogaeth,
Ennill tir dealltwriaeth
Wna dau sydd ar rediad saeth.

Pennill mawl/ dychan: Cymdeithas y cerddwyr

Er mwyn y Cerddwyr, wnewch chi sy'n cynllunio
Ddarparu rhagor o feysydd parcio.

Mewn dillad glaw a sgidie cryf
Fe'u gwelwn ar bob tywydd,
Heb un uchelgais yn y byd
Ond chwilio llwybrau newydd.

Telyneg (mewn mydr ac odl): Dim ateb

Mi deimlaf rhyw hen ysgryd
O hyd wrth fynd i'r lle
Yn uthredd y dolmenni
A ddaeth nas gwn o ble.

Mae arswyd y tawelwch
Yn cerdded hyd fy nghefn
Wrth glywed llais fy hunan
Yn dod yn ôl drachefn.

Ar y mat cefais ateb
Mewn amlen wen o dir neb
Biwrocratiaeth, rhyw draethiad
Tila iawn ar gownt y wlad,
Cans ateb heb ateb oedd
Y dywedyd nad ydoedd;
Ataf i codwyd dau fys
Yn wasaidd o faleisus

Mor foesgar o ddidaro
Yw'r gair slic, a'r tric bob tro
I lenor wrth guddio'r gau
Yw cymylu'r cymalau
Yn hirwyntog swyddogol
Ac i roi im byger ôl;
O'r dechreuad cau'r adwy
Wna 'Dear Sir' eu drws hwy.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.