Talybont v Merched Y Wawr

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yng Nghanolfan Goffa Talybont

Talybont

Talybont

Merched Y Wawr

Merched Y Wawr

Cwpled caeth: Arwydd ffordd

Er iddi iaith arwyddion
Marw o hyd mae'r Gymru hon.

Gwyn Jenkins
8 Pwynt

Cwpled caeth: Arwydd Ffordd

Daw hwyl i chi o Dalwrn
Dena feirdd heb fod yn fwrn

Eleri Davies
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud â chadw'n heini

Mi fum yn greadur reit solet,
Yn methu â neidio dros ben iet,
Ond nawr rwy'n reit heini'n
Mynd o wely i wely,
a minnau'n gi tywys i Blunkett.

Anwen Pierce
8 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud â chadw'n heini

Bu'n pedlo heb fyned i unman
Drwy beswch a phoenau a thuchan
Ond bu'n ormod straen
Pan aeth ei blwmyrs i'r tsaen
Ar werth y mae'r beic nawr yn "Clebran"

Eirlys Davies
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cymwynas

A'r dagrau eto'n cronni
mae 'na waedd sydd ynom ni,
a fydd dragywydd yn gaeth
i'r don o anghrediniaeth.
Ni fu awel daweled
â'r hyn o eiriau a red
o wefus i wefus oer,
o wres yr oriau iasoer.
Ynom ni mae un a all
haneru baich un arall,
rhoi rhywun o flaen hunan
a rhoi mwy na geiriau mân

Gwenallt Llwyd Ifan
10 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cymwynas

Y mae gorwel nas gwelir
Yn ei gof yn cadw'r gwir
Yn ffenest ei orffennol-
Ddoe, i hwn sy'n hyd y ddôl,
Mae'i heddiw, am wyddom
Megis siawns yn magu siom.

Ond wedyn fe ddaw munud
Y daw'n ôl i daenu'i hud,
A'i wên fel gwialen yn gam
Yn ddiwenwyn, yn Ddinam.

Ond i'w gystudd mae'n suddo
A fi mwy fydd ei fam o.

Gwen Jones
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Ser

Wrth fwynhau fy nhwrci 'Dolig
Cefais arlwy bendigedig.

Wele Dei a wele Ifan,
Wele Margaret o Sir Fôn
Wele Picton, George a Sandra,
Wele Dudley ar y lôn,
Wele Iol a'i drowsus cwta,
Wele Aled (Jones a Sam),
Wele Catrin Finch â'i thelyn,
Walter Tomos, gyda'i fam.

Trannoeth, gyda'r twrci eildwym,
Wele Margaret, wele Dei,
Wele Picton, George a Sandra,
Fel ail blated o Fins Pei.

Tradwy, dyma ferwi'r esgyrn,
Rhaid cael twrci unwaith 'to,
Gyda Picton, George a Sandra,
Am y blincyn trydydd tro.

Wrth i'r pwdin oer fy nhagu;
Âf i dynnu plwg y teli.

Phil Davies
9 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Sêr

Mewn ty mawr yn Llundain gwelais lawer o sêr
Yn edrych mor fyw, er nad oeddent ond gwêr;
Roedd yr oesoedd i gyd yn stond yn fan hyn,
Yn destun edmygedd y gwylwyr syn;
Prif Weinidogion, peldroedwyr o fri,
Ond heb sôn am Siarl ein Prif Frenin ni,
Pe gallwn fe dynnwn sawl delw i lawr,
A rhoi yn eu lle y personau gwir fawr
Fel Llywelyn ein Llyw ac Owain Glyndwr,
Ac Emrys ap Iwan, a Gwynfor bid siwr
Doedd yno ddim lle chwaith i ddewiniaid ein hawen-
Syr Thomas, na Waldo na Gerallt Lloyd Owen.
Gwn am lawer hefyd sy'n cribo'r papurau
I ddarllen eu ffortiwn a ffawd eu dyddiau;
Y rhai hynny sy'n llyncu y ffwlbri i gyd
Mai Y Sêr a'u dehonglwyr sy'n llywio eu byd,
Fod pob gair a phob sill yn efengyl wir
A bod eu tynged yn hongian wrthynt yn glir.
Ond ar ddechrau blwyddyn addunedaf i'm Nêr
I ddilyn Y Seren, nid dilyn y sêr.

Eirlys Davies
9 Pwynt

Englyn yn dechrau â'r geiriau 'Ar ol bod...'

Ar ôl bod, dan orfodaeth - yn Seilo
Bob Sul o'm magwraeth,
cadwynau ar ddorau ddaeth
Yn dân o anghrediniaeth.

Anwen Pierce
9 1/2 Pwynt

Englyn yn dechrau â'r geiriau 'Ar ôl bod...'

Ar ôl bod gyda golud yn blasu
Ei bleser a'i hawddfyd
Yn 'fol y dof o hyd
I wely fy anwylyd.

Gwen Jones
9 Pwynt

Pennil Ymson ar ben mynydd

Pennill Ymson Noa ar ben mynydd Ararat

Fe aethont o 'ma'n ddau a dau
I gartref gwell i amlhau,
Ond fe ddangosont ddiffyg parch
O'm gadael i i garthu'r arch.
O Dduw, maddeua un gofynnod:
Paham y creaist eliffantod?

Gwyn Jenkins
9 1/2 Pwynt

Pennill ymson ar ben mynydd

Na ddiflas yw gweld c'lomen
Yn hedfan rownd a rownd
Ynghanol 'r holl wlybaniaeth
A ni fan hyn yn sownd

Bethan Evans
10 Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd

Anodd yw cofio enwau
Nid yw hyn yn fy nhristau

0 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Anodd yw cofio enwau
Y cof sydd heno'n nacau.

1 Pwynt

Englyn Cywaith: Paent

Os oes Sais sy'n dymuno - rhoi i'n hiaith
liw'r nos a'i hoel tario,
daw yr haen sy'n fudr yno
trwy yr oel yn wyrdd bob tro.

Gwenallt Llwyd Ifan
8 1/2 Pwynt

Englyn cywaith: Paent

Oni'i huliwyd ar sawl polyn yn dyst
Fod iaith i'w hamddiffyn?
Mae'r her "cofia Dryweryn"
Heno'n dal i bigo dyn.

Gwen Jones
8 1/2 Pwynt

Telyneg: Llafn

O'u tai bach moel di-lun ar fin y don,
Fe heidia'r criw pysgotwyr at y traeth,
Eu llestr brau yn gwichian wrth y rhaff,
A thlodi yn eu hebrwng at eu gwaith.

Rhyw godi llaw yn frysiog a wna un,
Wrth weled ei anwyliaid yn pellhau,
Tra'n gafael yn eu rhwyfau yn ddi-lol
Wna eraill, i gofleidio'r trai.

Ai ffawd a'u chwythodd heddiw 'mhell o'r lan?
Ai tynged yrrodd hwy o'r dyfroedd bas?
Ai chwiw yr awel fwyn ar fore teg
A yrrai'r cwch i gôl y cefnfor glas?

Cans trodd y don anwesodd draed y bad,
Yn ellyn chwim a rwygodd calon gwlad.

Phil Davies
9 Pwynt

Telyneg: Llafn

O archoll ddofn y gyllell
Tywalltodd y gwaed yn lli
Eto nid oedd diferyn
Pan rwygodd ei chalon hi.

Bethan Evans
10 Pwynt

Englyn ar y pryd

Neithiwr â'r dwr yn stwrian- yn y bae
Cawsom bwll y byclan
Yn ddi-fywyd a mudan
Aeth y môr a'r pethau mân.

Gwenallt Llwyd Ifan
10 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth: Arwydd ffordd

Gwerthodd y gwr, ar Twrio
Sein ffordd i Landdewi ddo'

Limrig: Cadw'n heini

Fe lonciais i ben Steddfa Gurig,
A seiclais ddwy waith i Drefeurig,
Fe nofiais y Ddyfi,
A rhwyfais y Leri,
A nawr dwi braidd yn flinedig.

Phil Davies

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cymwynas

Mae'r haul hir, mae'r awyr las?
Mae heno'r hen gymwynas
gyforiog rhwng cymdogion?
Mae'r iaith fu'n gymar i hon?
Mae'r gwalch glas dros y craswair,
mae'r byrnau ar gaeau gwair?

Fel llech ar sincen sgrechlyd
synau'r bunt sy'n nghlustiau'r byd.
Adar mân eu harian hwy
Yn hofran dros Foel Gyfrwy.
Pres y Sais ei hanes hi;
Pris heulwen y Preseli

Englyn yn dechrau a'r geiriau 'Ar ôl bod...'

'R'ôl bod, mewn anwybodaeth - yn amau'r
Fath ddrama ar eurdraeth,
Maint y dioddefaint ddaeth
Yn don o anghrediniaeth.

Englyn cywaith: Paent

Ar frwsh daeth newid i'r fro - a llaw
Un llanc fynnodd liwio.
Ddaw ei awr anufudd o'n
Emrallt ar gof pob Cymro.

Anwen Pierce

Englyn ar y pryd: Teithiwr

Aeth ar daith yn obeithiol- gyda gwefr
Gyda'i gân yn hudol
Yna'r môr drois rym marwol
Fel gwn i'w gadw'n ei gôl.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth: Arwydd ffordd

Troi i'r chwith, ewch trwy rhyw chwe
Chylchfan i'r fan a fynnech

Mae'n hysbys i dywys dyn
Yn awchus o'r man cychwyn.

O'i gyfieithu y bu'r bai
Yn sarn yr aeth fy siwrnai.

Dilyna di ei linell
Tua thre a chartref gwell.

Yn y tawch fel yn y tarth
Er i Gynwyl neu Genarth.

"Talybont" ty hael y byd
af yno am ryw funud.

I Dalybont aeth Tonto
I nôl 'hol' i'w geffyl o.

Tyrd ar y 'Misery Tour'
Ie wir? I'r 'House Of Horror"

Gwen Jones

Limrig yn ymwneud â chadw'n heini

Ces fenthyg hen feic mynd i nunlle
Gan feddwl cryfhau y cyhyre
Ond gadwyd fi'n wan
A'n 'nghoese sha lan
Yn stond yn y fan ar y tyle.

Eleri Davies

Rôl Orig o gadw yn heini
A neidio o gwmpas fel wenci
Ac wedi blino yn lân
Rwy'n edrych ymlân
Am ddonut neu ddwy yn y caffi.

Gwen Jones

Cân (heb fod dros 12 llinell): Sêr

Un seren uwchben y pulpud
A'r côr mawr yw Beth'lem dre,
Angylion bychain a'u tinsel.
A Gabriel 'di dod lawr o'r Ne:
Joseff a Mair mor flinedig
Yn erfyn am dipyn o hoe
Gwr y llety a'i ateb oesol.
"Down and outs" achubodd y sioe.
Bugeiliaid â'u hwyn, ac yna
AnifeiIiaid â'u dawns a'u cân,
Y doethion, a dyma Herod
A'i osgordd am achub y bl'an.
Un seren uchben y pulpud
A phob mam â'i ran i'w chwarae
A sêr ydynt heno bob un.

Englyn yn dechrau â'r geiriau "Ar ôl bod..."

Ar ô bod ar hewl y byd, yn blasu
Ei bleser a'i hawddfyd,
Nôl rwy'n dod, yn dod o hyd
I wely fy anwylyd.

Gwen Jones

Ar ôl bod yn cysgodi o dan wydd
Daw nef yn dy gwmni
Ac i dy fron dirion di
Heddiw mi rydw i'n toddi.

Gwen Jones

Ar ôl bod fel rhyw fodel yn o slin
Yn sleit heb ddim gafael
O ych! Daeth yr anochel
Ew ryw'n dew ond eithaf del!

Gwen Jones

Pennill ymson ar ben mynydd

Pan gwrddais hen gyfaill ar y copa rhyw b'nawn
A gwybod ei fod e yn gerddwr brwd iawn
Rown ar binnau i'w adael- dim ond gair bach a gwen
Rhag ofn iddo holi a ddois ar y trên.

Eirlys Davies

Yma, am eiliad o leiaf
Mae'n dawel fel Dydd Nadolig
Neu'r byd i gyd yn iddyn ei difrodi.
Hamddenol a boddus yw popeth byw
Dim ond y Nant sy'n gorfod gyrru tua'r gwaelod.
Ond dyma nhw'n dod-
Y bytheiod a'r eryrod
Yn ymarfer eu galanastra
A rhaid i minnau, ar fy ngwaethaf
Ddilyn hynt y dwr.

Eleri Davies

Englyn cywaith: Paent

Eli ar gyfer waliau, ac addurn
I guddio pechodau
Yn hawdd pan oedd heb lanhau
A'n gelwydd yn y golau.

Eleri Davies

Y rhudd sy megid breuddwyd- wedi mynd
Y mae- trodd yn frithlwyd
Pob lliw pêr a gymerwyd
Ac mae'r cwm yn llwm a llwyd.

Gwen Jones

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.