Penrhosgarnedd v Penllyn

Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei gynnal yn Ysgol Y Llan, Chwitffordd.

Penrhosgarnedd

Penrhosgarnedd

Penllyn

Penllyn

Englyn yn cynnwys (yn y cyrch) '...mae Saddam/mas o'i dwll'

Ers dod gynnai o'i ffau- mae Saddam
Mas o'i dwll daearol
Pan glyw'r llef i'r Farn nefol
Ffoi wna hwn i'w ffau yn ôl.

John Gwilym Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn yn cynnwys (yn y cyrch) '...mae Saddam/ mas o'i dwll'

(Gair i Bush a Blair)

Ydi, os mai fo ydio, - mae Saddam
Mas o'i dwll, 'rhen gono,
Ac lle roedd ei gell o ro
Unwaith, ewch, helgwn, yno

Wil J. Williams
8 Pwynt

Pennill Ymson wrth ennill cadair

Ella 'di steddfod Bryn Llosgach mor' enwoca' drwy'r gwledydd
Ella 'na mrawd oedd beirniad, finna'r unig ymgeisydd;
Ella 'ma fi roth y gadair (heb ots am y gost)
Ond bydd fy llun i er hynny ar ffrynt y Daily Post.

John Ogwen
8 1/2 Pwynt

Pennill Ymson wrth ennill cadair

Dw i'n nerfus iawn wrth aros
Gan heddiw dderbyn clod,
Gobeithio bydd y gadair
Yn gweithio fel comôd.

Andrea Parry
9 Pwynt

Cwpled caeth ar gar heddlu

Os clywch y seiren gennym
Ar frys i fynd adref rym.

Llion Jones
8 Pwynt

Cwpled caeth ar gar heddlu

999 a'n geilw ni
Beunydd i bob trybini.

Iwan Roberts
8 Pwynt

Limrig: wrth fynd yn y car i...

Wrth fynd yn y car I fro Chwitffordd
C'es ferch yn ffawd heglu o'r draffordd
Os ydych chi'n cofio
Dewch ata'i heno
Cewch lifft gen i eto- y ddwy ffordd!

Lynne Davies
9 Pwynt

Limrig: Wrth fynd yn y car i...

Wrth fynd yn y car i Langollen
Fe'm pasiwyd fel roced gan falwen
Oedd ar ddisl coch;-
Tri phwynt gan y moch
Fe bwdodd ac aeth hi i'w chragen.

Andrea Parry
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr at feirniad

Annwyl gyfaill a llenor
Yma wyf ar draws y môr
Yn Rio yn trio trin
Geiriau tra'n gwylio gwerin
Yn brwydro am lwybr adre'
I le haws ar draws y dre:

Yn Rio nid yw'r awen
Yn geld heibio i gysgod gwen
Er yr haul, er yr heli,
Un nos hwyr ei hanes hi,
A chân llanc ar ddifancoll
Yn y gwres yw'r geiriau oll.

Iwan Llwyd
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr at feirniad

Syr , ragorol saer geiriau,
Heno clyw 'neisyfiad clau;
Â'th ffon fesur ddi-guro
Os gwnest o feirdd brifeirdd bro
Poenaf a mi 'nghwmpeini
Beirdd y llwch, is y bwrdd lli'.

A oes i lanc brentisiaeth
Yn dy weithdy canu caeth ?
Yno'n creu ar fainc yr iaith
Hogwn gynion in ganwaith
I naddu cynganeddion
Hardda'u rhi' i dderw hon.

Iwan Roberts
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): yn gorffen â'r geiriau ' a dyna sut mae pethau nawr'

O'r chychwyn cyntaf mi ges fagwraeth eitha' da,
Yn fabi deunaw pwys pan ges i ngeni yn yr ha'
A hithau'n boeth a minnau'n chwys mewn pram ddim digon mawr,
A dymi'n driblan yn fy ngheg, a driblan is i lawr
Cynfas oedd fy napi a llian bwrdd fy mrat
A phawb o'r teulu'n unfarn mod i'n edrych yn rêl prat!
Ond hidiais i run blewyn, a phan dyfais i yn ddyn
Mi briodais, do, a chefais blant- rhyw ugain namyn un!
Ces lwyth a "child allowance" ac arian gan y ddôl,
A phan oedd pawb yn gweithio, eisteddais innau'n ôl
Gan feddwl mynd ar ddeiet, a cholli pwys neu ddau,
'Doedd Atkins ddim yn gweithio-dechreuais fwyta cnau,
a dyna'r peth ryfeddau fyth a deimlais i erioed
y teimlas rhyfedd hwnnw o eisiau dringo coed!
Wêt watsiars wedi gnwrthod yn y bore a'r prynhawn,
Eu peiriant pwyso medde nhw yn sensitif go iawn;
Rwyf erbyn hyn yn naw deg oed yn llond fy nghroen o hyd
Fy nghetyn annwyl yn fy ngheg yn teimlo'n llon fy myd
Yn driblan o fy ngweflau- a driblan is i lawr,
A dyna ffrindiau annwyl yw sut mae pethau'n awr.

Morien Phillips
10 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): yn gorffen â'r geiriau 'a dyna sut mae pethau nawr'

Pan ddaw'r alwad i'm o'r Bala'n
Dweud i'r tasgau ddod i law,
Bydd fy stumog yn un cwlwm,
Tybed pa ryw destun ddaw?

Gaf i gyfle i ddisgleirio,
A dangos grym nelweddau i?
Fydd yr awen, wedi'i thanio,
Minnau ar ei haden hi?

Ddaw llifeiriant gwyllt o eiriau
I foddi'r llu dalennau gwyn?
Geiriau coeth o bair yr enaid
I droi pob cynulleidfa'n syn?

Beth yw'r dasg, dywedwch wrthyf,
Pa berl osodaist Feuryn mwyn?
Cân yn gorffen gyda'r geiriau...
Dyna fo, dim mwy o swyn.

Ac mae'r awen heno'n huno,
Ddaeth run gair, mae gwacter mawr,
Ond pa obaith hefo'r llinell
'A dyna sut mae pethau'n awr.'

Beryl Hughes Griffith
9 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y lembo dwl, mab 'i dad
Yn athro ond mae'n eithriad

0 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y lembo dwl, mab 'i dad
Pendefig ond pen dafad.

1 Pwynt

Englyn cywaith: Croeso i'n cartref

Yma ni chei le cymen- na rhoi ffroen
Ar ffrwyth 'run winwydden
Na llu rhaglenni lloeren
Yn dy gôl, 'mond ffrind a gwên.

John Gwilym Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Croeso i'n cartref
(Croeso i wyres fach Wil)

Wele wanwyn eleni - a hwnnw'n
Wahanol ei firi
Oherwydd dyfod Mari
Mwy yn un ohonom ni.

Wil. J Williams
8 1/2 Pwynt

Telyneg: Dail
(mewn hiraeth am naw o gyd-aelodau)

Dalen yn dilyn dalen, rhwygwyd y dyddiau llesg
O galendr y llynedd fu'n nych ar fy nesg.

A pha mor drwchus bynnag yr yforyau glân
Ni chipir ein bywydau papur yn ôl o'r tân.

Ond pam, rhwng ffos a cheubren, na chlywais i erioed
Alar y dail dienw o galendr y coed.

Mae'r rheini'n gwrando drwy'r glaw blinedig
Ar lanc o wanwyn yn rhuo i aredig.

John Gwilym Jones
10 Pwynt

Telyneg: Dail

Hen wraig
a'i breichiau noethion
ar y ffridd
yn dal rhwng
ei bysedd meinion
rhyw fymryn
o hen femrwn,
mae'n dal yn dyn,
dyn yn hwn.

O'i fewn
y mae cyfrinach
un dydd o Fai,
un bore bach,
hithau'n hardd
mewn gwisg gywrain,
symudliw werdd
o sidan main.

Yn ei llaw
mae'n dal o hyd
y ddalen frau
un freuddwyd,
y gwel eto, efallai
rhyw fore bach
o fis Mai.

Haf Llewelyn
10 Pwynt

Englyn ar y pryd: Matsen

Pan mae hon yn gwreichioni- ai'i thafod
Eithafol yn coethi
I danio'n ôl ein hen dai ni
Yn ei gwres mae goroesi.

9 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81

CYNIGION ERAILL

Limrig: wrth fynd yn y car i...

Wrth fynd yn y car i Dalwrna
A chwrdd a beirdd enwog y Bala
Rhown droed ar y sbardun
I guro criw Penllyn
A'n sydyn ymlaen i'r rownd nesa'!

Englyn ar y pryd: Matsen
(Evan Roberts y diwygiwr)

Ar garreg, ei gemegau- yn dyner
A daniodd eneidiau
Yna'n brudd ei chorffyn brau
Ciliodd yn llwch o'r golau

10 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80

CYNIGION ERAILL

Englyn yn cynnwys (yn y cyrch) '...mae Saddam/ mas o'i dwll'

Leni ar lwyfan y panto - mae Saddam
Mas o'i dwll, yn gadno'n
Hel ei hil o'i Dally-Ho
I iet T Gwyn, at ginio.

Cwpled caeth ar gar heddlu

Ein her o hyd, dod ar hynt
Yr eiliad y tyrr helynt

I'r drwg yr ydw i'n fwgan
Dig iawn; rwyf o blaid y gwan.

"Siwrne Saff" heb anghaffael
Injan Jet a Gin, - Y Jael.

Limrig: Wrth fynd yn y car i...

Wrth fynd yn y car i bregethu
Un bore dydd Sul ger hen feudy
Dau ddyn lenwai'r lon
Yn llyfu dau gon
Cyn bod yno son am ail-gylchu.

Wrth fynd yn y car i Sioe Cerrig
Un Medi ag wyn gore'r 'Rennig ,
Hen fuwch Rhydyfen
Groesai'r ddwy linell wen
A mi'n crafu mhen yn gwneud Limrig.

Wrth fynd yn y car i Borthmadog
Gwelais Sais gyda chwip a chap marchog
Ac meddai y lob
"Have you seen a Welsh cob?"-
Atebais mewn iaith anllythrennog!

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr at feirniad

Alan ! ar ran ein Ronnie
Ugain oed, ein hogyn ni -
Mae pob beirniad yn dadol
Ddilorni ei ffwlbri ffwl
Yn suddo i roi ansoddair
O gerdd i gerdd cyn y gair.

Llynedd wrth studio'r 'Llwynog',
Seithwaith wir, 'n ol cyfri'r cog
Y seiniodd cawr y soned
Yn ddoeth, yn goeth "Go-ahead".
Poeni am ail-opiniwn
Mae tri am y mater hwn.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.