Tegeingl v Bro Alaw

Cafodd yr ornest yma o'r talwrn ei recordio yn Ysgol y Llan, Chwitffordd

Tegeingl

Tegeingl

Bro Alaw

Bro Alaw

Englyn yn cynnwys y llinell 'Yr hyn a roddir inni'

Yr hyn a roddir inni yw dyled
sydd yn dal i godi:
Er eich help a'ch hymdrech chi
nid arian yw tosturi

Marc Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell 'Yr hyn a roddir inni'

Yr hyn a roddir inni - yw ein hiaith
Yn ardd i'w thrysori;
Ac â'n dawn i hon awn ni
I dynnu'r cnwd ohoni.

Arwyn Roberts
8 1/2 Pwynt

Limrig yn cynnwys math o gi

Mae Great Dane drws nesa'n un ffrisgi
Fe dri-ith ei lwc gyda chorgi
Neu bwdl tair coes
A'i llygaid hi'n groes
Diawl, winciodd o ddoe ar 'y ngwraig i!

Marc Jones
8 1/2 Pwynt

Limrig yn gynnwys math o gi

Achubwyd hen ddiawl o Langefni
A fwrdrodd ei nain efo lorri
Roedd o'n lwcus drybeilig
Fod rhyw glerc bach dislecsig
Di nodi y ddedfryd fel corgi.

John Wyn Jones8 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Lladrad

Y mae henaint a minnau erbyn hyn
lawer nes, y mae 'nghamau'n
anoddach ac mae 'nyddiau,
oedd ddoe'n llu, heddiw'n lleihau.

Moi Parry
9 Pwynt

Englyn Cywaith: Lladrad

O ddrycin i ddrycin yr aeth - y graig
Gyda'r gro'n ysglyfaeth
I'r môr a fu'n treisio'r traeth
A rhwygo'n hen diriogaeth.

Arwyn Roberts
8 1/2 Pwynt

Pennill Ymson wrth ddianc

Lle annifyr yw gwallgofdy,
pobl hurt a rhyfedd gewch chi,-
ond, o fynd i'r byd cyffredin,
faint o newid ga' i wedyn?

Dafydd Morris
8 1/2 Pwynt

Pennill Ymson wrth ddianc

Mae'r wawr yn ymyl torri, daeth amser i mi fynd
Ces noson wych, lygredig, mewn gwely efo ffrind
Roedd noson dan y neilon yn noson llawn o nwyd
Yn sleifio yma ag acw - a chefais bryd o fwyd.
Rhaid i mi beidio oedi, caf wardio wrth y wal
Bydd wedi canu arnaf os daw y gwr a'm dal.
Fe ddof ryw noson eto er mwyn cael gwledd run fath
Mae malwan angen teirawr i deithio pedair llath!

Geraint Jones
8 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Brad

Beth yw brad? Troi cariad cu'n
gywilydd o ddatgelu;
troi serch yn boeri erchyll,
enw'r gwr yn rhegi hyll;
dannod yr hyn fu'n dyner,
gwadu blas mewn cecru blêr.

Beth yw brad? Gwrthod, gwadu,
rhoi ar brawf eich plant o'r bru,
mynnu'r cur ddaw o nacau
hunaniaeth y genynnau.

Aled Rhys Wiliam
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Brad

Nid hunllef eu cynefin
Na chawgiau eu prydau prin,
A nid poen y llygaid pwl
Na'r cibau ydyw'r cwbwl
A welaf, ond fy nheulu
Yno'n eu hing, yn fy nhy,
Yn folglwm yn eu cwman
Yn wr dan wewyr yn wan;
Ysgerbydau brau ein brad
Sy'n cario pris ein cariad
A byw'r waedd a fynn barhau
Ynof - fy ng'wilydd innau.

Ioan Roberts
8 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Ofergoeliaeth

Fe'm ganwyd ddydd Gwener y trydydd ar ddeg
A byth ers hynny cefais fywyd annheg.
A minnau yn ifanc torrwyd drych uwch fy nghrud,
Am sawl saith mlynedd bum yn ddiflas fy myd.
Lawer tro ar y grisiau deuai'r teulu i 'nghwrdd
A rhoes Nain fy esgidiau yn bâr ar y bwrdd.
Awn i mewn drwy'r drws ffrynt, cawn gic allan drwy'r cefn,
Ar fy mywyd bellach doedd 'na fawr iawn o drefn.
A phan welwn bioden, dim ond un oedd bob tro,
Agorais sawl ambarel a minnau dan do.
Rhoddais bedol ben drws ond mi syrthiodd yn glap
ar fy mhen pan ddois adra un nos 'di stop tap.
Bob tro y cawn brydyn mi gollwn halen yn lli
A phan fyddai llaw'n cosi, llaw chwith fyddai hi.
Ces fy ngwthio gan blant dan ysgolion y wlad
Fuo neb erioed mor anlwcus ei stad
Mae popeth yn f'erbyn, mor drist fu fy rhawd,
A'r cwbwl oherwydd ofergoel a ffawd.
Cyn rwan, hynny yw, heno ceuaf fy ngheg.
Dw i'n falch bod y Meuryn mor andros o ddeg - wps - o deg

Moi Parry
9 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Ofergoeliaeth

Er mor glyfar yw'r ddynoliath, y mae'n rhaid wrth ofergeoliath,
I rai tydio ddim ond niwsans, ond i'r gweddill mae'n insiwrans.

Pob dy' Calan daw cymydog a lwmp o lo wrth groesi'm rhiniog,
Gwastraff pur yw hyn nenwedig fod ty ni i gyd ar lectrig.

Wrth weld hers rhaid cyffwrdd colar a pheth lwcus yw baw adar,
Peidio â cherddad o dan ysgol sydd i rai yn wir hanfodol.

Un deg tri o'r mis! Dydd Gwenar, gwell yw cuddo yn y selar,
Hyn sy'n ran o'r ofergoeliath ond hawdd rhynnu i farwolath.

Cyffwrdd pren a chroesi bysadd sydd yn rhan o ddefod ryfadd
Hyn sy'n iawn i'r to ieuenga' - beth am rai sy'n llawn cricmala?

Cladda'r Dolig ar nos ystwyll os nad wyt yn brin o grebwyll,
Ond gofala gadw'r carida i'w rhoi'n ôl y Dolig nesa'.

Geraint Jones
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar fwydlen

Heno, cewch, am bris un cwrs
drechu eich chwant ar drichwrs!

Dafydd Morris
8 Pwynt

Cwpled caeth ar fwydlen

Ry'm flin am losgi'ch cinio
O dras draig eich chef dros dro

Arwyn Roberts
8 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Rwyf yn bôr, rwyd yn Dori
Ie dyn od iawn ydw i

Aled Rhys Wiliam
1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Rwy'n dew ond nid wy'n drewi
Ie dyn od iawn ydw i.

Geraint Jones
1/2 Pwynt

Telyneg: Gwers

O rod i rod bu'r stori'r un
i Geldof - diangof bryntni dyn,
Ugain mlynedd o'r bedd - anghofio bai
a'r angen a'r trais yn eu clais a'r clai.

Y bronnau yn hesb a'r boliau balwn,
eneidiau mewn Somme - ochneidiau a swn
cyfandir o boen a'r crindir yn boeth
fwltur o natur yn llygadu'r noeth.

Nid angof i Geldof y 'dolig o gur.
Yno mae eto'r un wers ar y mur:-
Masnachwyr, carolwyr a'n Gwyliau fel cynt
a gwaedd y trueiniaid ar goll yn y gwynt.

Norman Closs Parry
9 Pwynt

Telyneg: Gwers

Edrychwch arnaf fi - sbïwch !
Dyma'r ffordd orau o wneud :
Raid 'chi blygu eich pen a gwneud fel 'ma.
Yn union fel rydw i'n ddweud.
Trïwch chi rwan - dynwared sy'n agen,
Fy nghymryd yn batrwm gwyn, glân.

Tyrd yma am funud, y bychan,
Mae 'na ddraenen yn bygwth dy wlân.

Geraint Jones
8 Pwynt

Englyn ar y pryd

Hawdded i ddyn yw addo rhoi'r gorau
I'r gwirod, ond eto
Hawddach o alwer iddo
Yw rhoi'i air- a'i dorri o!

Norman Closs Parry
9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79

CYNIGION ERAILL

Englyn yn cynnwys llinell 'Yr hyn a roddir inni'

Yr hyn a roddir inni - newid mân
a rhyw gân am gyni.
Ond arian, nid tosturi
all ryddhau'n hualau ni.

Yr hyn a roddir inni - yn y groth
i'r gro 'rôl penwynni,
hiliog â'n mabinogi
yw ein maint, ein braint a'n bri.

Yr hyn a roddir inni'n feunyddiol
fo'n addas eleni,
ac weithion i'th haelioni
lenwi awch fy nghalon i.

Limrig yn cynnwys math o gi

Aeth ffermwr gwan-olwg o Garno
â'i gi bach gorwlanog i'r cneifio
Cyn cau pen y mwdwl
Mi siafiwyd y pwdwl
A gwerthu pob bwndel o'i gnu o.

Mae Pero'r chiwawa'n gi gwarchod
Torsytha'n yr ardd ag awdurdod,
Mae'n ddewr a llechwrus
yn cuddio'n y letys
A chyfarth fel diawl ar y malwod

Ro'n i'n hwyr wedi oriau o sbri
Rhoi fy swper i'r pwdwl wnaeth hi
Ond y Duw mawr a wyr (sy'n gwybod)
Mai fi oedd yn hwyr.
Pam felly mae'n cosbi y ci.

Englyn Cywaith: Lladrad

Claf yw Gaia fel Eden goll o ddwyn
gan ddynion ei archoll:
un encil o ddifancoll
mwy i ni yw'r mannau oll.

Llain o dir a gwyd ein hiraeth - a gwyr (lluosog gwr - dim hirnod!)
i'r gad yn marchogaeth,
gwarth ei ddwyn - a Sycharth ddaeth'n
agos i'n gwaredigaeth.

Pennill Ymson wrth Ddianc

Rwy'n dringo dros waliau'r carchar
Ychydig cyn cinio dydd Sul,
'Rôl torri drwy bared y capel
A gwthio drwy beipen gul.
Ond mae meddwl am gig a stwffin
Yn gwneud imi deimlo'n ffôl,
Ac mae ogla y grefi'n fy nilyn.
Diawch - mae'n rhaid mi fynd'n ôl.

Dyma fi'n glir ar y briffordd
a doedd neb yn agos i'r lle...
Mae'r caniau chwistrell mewn cwdyn
yn y ffos ar gyrion y dre.
Os deil hi am awr heb lawio
ILDIWCH fydd ar bob arwydd T:
Ond......beth oedd yn ddu uwch golau'r
stryd? Deryn - 'ta CCTV?

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Brad

Onid brad gwneud i Brydain
warth o fyw dan yr iaith fain?
Ein hansawdd ydyw'r cynsail
Hyll yw sôn: twyll yw ein sail.

Gorthrwm yr iaith a gwarthrudd
yno i'n tanseilio sydd.
O galon anfodlon fach
daw gofi lidiog afiach.

Hen bryder yw'r briodas
a geir rhwng meistres a gwas.
Harn o hyd i'r werin hon
yw gloes y llyfrau gleision.

Brad (Welcome to Zimbabwe)

Gwybod y mae Mugabi
yn iawn ein gwendidau ni.
Yn deyrn ar ei holl deyrnas
y llyw brwnt yn ei fyw bras.

Heddiw mae gwreng yn dioddef
yn wan eu llais, bloesg eu llef.
Ei wrthwynebywr wyrant -
cydymddwyn a chwyn a chwant.

Dwed clec y bêl ar helyg
y ffars a'n daliadau ffug,
ofn sgandal a methdaliad
a glywn, uwch cyn....... gwlad (methu dirnad ysgrifen yr awdur)

Cwpled caeth ar Fwydlen

Sylwch: mae yn ein seler
ryw win at bob pwdin pêr.

( Celeb wyf yn slob o wr)
Slywod neu lygod neu lau
neu beli yn eu boliau.

Ar y plât mae'r peli hyn
yn union fel dau nionyn.

'Chinese'
Yma'n wledd fe gewch heddiw
Ninety one neu seventy two.

'Chinese'
Chwi o'l flo, dewch al flys
Ein leis sy'n hynod flasus.

N.B. newidwyd pob 'r' yn 'l'.

Englyn ar y pryd: Adduned

Da y gwn o'i gwneud ganwaith- a haeru
Na thorrwn hi unwaith
Na lwyddaf er fy afiaith
Ar fy llw i'w chadw chwaith.

John Wyn Jones
8 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 75 1/2 .

CYNIGION ERAILL

Englyn yn cynnwys y llinell 'Yr hyn a roddir inni'

Yr hyn a roddir inni - yw'r Iesu
Ym mhreseb y geni
Lleddfu cur â'i dosturi
A fyn hwn - os cofiwn ni.

Am y modd bûm yn buddsoddi - am hau
Chwyn i'r maes a meddwi
Yr hyn a roddir inni
Yn ôl, yw'n cynhaeaf ni. .

Limrig yn gynnwys math o gi
Wrth f'ochor yn f'arwain heb gwyno
O fore tan nos ma' hi yno
Mae'r Labradôr Lwsi
'Di ngweld yn rhoi swsi
Fam fy nau fabi - heb chwidlo.

Mae'r Cwîn efo'i chorgwn yn ddedwydd
Wedi'u golchi a'u brwshio'i berffeithrwydd
Ond tydi cŵn ffansi
Ddim yn siwtio yr Ianci
Ac un blêr 'di di-rhech eu Harlywydd.

Pennill Ymson wrth ddianc

Ffarwel i'r ffilmia' ciami
Ac "arlwy" es ffôr sî,
Ffarwel i'r rwdolffeiddio
A sploetsh ein Dolig ni;
Rwy'n hedfan draw i'r heulwen
Y môr, y traeth a'r beic,
I dreulio thefnos iachus - dam!
Ma' criw'r bagia 'di mynd ar streic!

Cwpled caeth ar fwydlen

Cei ar blât yma'n rhatach
O'n bwrdd oer ein byrbryd iach.

Unrhyw bryd cewch fyrbryd brau
A sos os oes ei eisiau.

Cwrw du a chyrri'r dydd
Wnaiff bryd i unrhyw brydydd.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.