Aberhafren v Y Dwrlyn
Cafodd yr ornest yma o'r talwrn ei recordio yng Nghapel Minnie Street, Caerdydd
Aberhafren

Y Dwrlyn

Cwpled caeth yn cynnwys enw ffrwyth
Jean a Dic a Jên a Dan,
a Boris fel gwsberan.
Llion Pryderi Roberts
8 Pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys enw ffrwyth
Ar dân, fe redodd, er dal
Efa, 'rôl cwymp yr afal.
Emyr Phillips
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwenwyno
Aeth Dai Sieri Binc i bysgota
gan ddal pysgod aur digon swta,
a'u rhoi nhw mewn sinc
'rôl ei lenwi i'r brinc,
ond y crinc, nid â dwr ond â fodca!
Owain Rhys
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwenwyno
Mae byta'n Mc Donalds yn artaith,
Kentucky Fried Chicken sy'n g'ledwaith,
O'r cyfan i gyd
Oes gwaeth lle'n y byd
Na chegin a phryd mam-yng-nghyfraith ?
Rhodri Gwyn Jones
8 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau "eto fyth"
Diwedd perthynas
Er difancoll dy golli - er ochain
drwy'r sgrechian a'r rhegi,
eto fyth daw ataf fi
eiriau rwy'n eu trysori.
Aneirin Karadog
8 Pwynt
Englyn yn cynnwys y geiriau "eto fyth"
I'r Wraig
At ei mam pan fydd giami - ac eisiau
Rhyw gusan neu swci.
Eto fyth dod ataf fi
a'r ast yn frech wen drosti.
Ynyr Williams
8 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Gwelliannau'r ffyrdd
Gwelliannau'r ffyrdd
('Rôl darllen rhai arwyddion go-iawn)
I blesio y Welshis, a gwneud pethau'n glir,
rhoed arwyddion dwyieithog ym mhobman drwy'r sir;
wrth yrru o gwmpas, rhaid diffodd pob 'ffôn',
a dilyn diversions 'gwyrdroëdig'* mewn 'lôn';
rhag syrthio i lawr ambell drop hyd y lle,
rhaid gochel 'diferyn' sy'n gryfach na the;
ac er mwyn osgoi pob manhole yn siwr,
cawn rybudd rhag disgyn drwy 'dwll tîn' rhyw wr!
I ochel damweiniau i'r Cymry Cwmrâg
rhowch inni lond ffyrdd o arwyddion gwag.
Llion Pryderi Roberts
8 1/2 Pwynt
* 'perverted' neu 'corrupted' yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.
Pennill mawl/dychan: Gwelliannau'r ffyrdd
Sythais y ffordd yn Nerwen Gam,
Culheais hi'n Gellilydan,
Llenwais pob twll oedd ym Mhant Glas,
Lôn Las dan darmac heb ffwdan,
Tociais wrychoedd yn Nhref y Clawdd,
Rhois beips i ddal Nant Peris,
Fe godais bont ar draws Rhyd Ddu
A gwastatau Alltwalis.
Dwi'n disgwyl clywed mwy'n ddi-oed
Am gontract newydd ar Lôn Goed.
Rhodri Gwyn Jones
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 20 llinell): Ffolineb
Heno'n achwyn yn uchel,
y gwynt sydd yn rhwygo hel
ei draed drwy strydoedd y dre',
i edrych pwy sydd adre'...
rhwygo dod, mewn 'sgidiau dig,
i boeni wyneb unig
y llanc dan ddarn o flanced
a hen siôl, wrth wal y sied;
Yn y miri tymhorol,
awn ni i'n dolig yn ôl,
heb weld fod y gwynt, lle bu,
wedi digwydd gostegu...
Rhys Iorwerth
9 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffolineb
Gwelais un i'm goglais i ,
un wyneb i modloni
'mysg wynebau'r golau gwan,
yn llygad y gwyll egwan.
Tair eiliad edrychiad roes
i ganol fy ngwag einioes;
tair eiliad edrychiad draw
(ystum mor llafar-ddistaw).
Y hi yno'n gyfrinach,
yn sioe fawr, yn wefus fach.
A byw hir iawn yw byw'r brad
ar elor y tair eiliad.
Ynyr Williams
9 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Pe bawn i'n Feuryn
Mewn breuddwyd un tro, fy nhecstio wnaeth Duw -
drwy wyrth roedd 'na signal i dir y byw!
Ta waeth, dyma'r stori: "Tyred," medd Ef,
"mae Talwrn i'w gynnal yn nheyrnas y Nef,
ond gloi, rwy'n whilo am Feuryn ar ras -
mae pob Meuryn arall ar y ddaear rhy gas,
yn rhy anwybodus, neu braidd yn P.C.,
neu'n hala'u holl amser ar y BBC."
(Mae'n wir na allwn i ddim yn fy myw
â dirnad o gwbwl pam mai hwntw oedd Duw,)
ond i'r Nefoedd yr es, a chael bod dau dîm,
bob un ar ei gwmwl, y crîm de la crîm:
Aneirin, Taliesin, Guto'r Glyn, Dafydd Ap,
yn erbyn Pantycelyn mewn 'baseball cap',
ond gwgu yn ddig wnaeth pob un yn ei dro,
a holi yn syfrdan, "pwy ddiawl ydi o?!"
Nid fi oedd y cynta. Dyma ddallt fod Mei Mac
er cystal fel Meuryn, wedi cael y sac,
heb sôn am anffawd Tudur Dylan gawr
gaeth ei alw i'r Nef yna'i ddanfon nôl lawr.
Dwi'n gwybod, Gerallt, pan chwythwch chi'ch plwc
a chodi i'r Nefoedd y cewch chi well lwc!
Rhys Iorwerth
9 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Pe bawn i'n Feuryn
Petawn i'n Feuryn, y peth cynta a wnawn
Fyddai rhoi bri ac urddas i'r swydd yn llawn.
Fe geisiwn roi tasgau o sylwedd a swmp
Gwaharddwn ar f'union bob defnydd o Plwmp.
Fe fynnwn fod beirdd, y rhai gwael a gwaeth
Yn sicrhau cynnyrch o anian a chwaeth.
Rhown farciau am ddiwyg, am ynganu, am wên,
A minnau'n fy nhro, mi fyddwn yn glên.
Maddeuwn yn siwr pob mân frycheuyn
Mewn mydr, cynghanedd neu ambell odl.
Mi rown gytundeb gwneud bwyd yn fodlon
I'r bobol hynaws a hael o Hermon.
Ac i'r Technegwyr mewn cwpwrdd o fan
Rhown foethus, gyfforddus o garafan.
Fe awn i drafodaeth hefo Rupert Murdoch
I geisio cael Sky i ddarlledu "en bloc"
Gan gynnig 'n ogystal y Babell Lên
I hybu barddoniaeth 'da joch o siampên.
Ac yna, a hithau yn rhaglen o fri
Y beirdd welai gynnydd sylweddol 'n eu ffi.
Rhodri Gwyn Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Braw
Nid ofn gweld diwedd yn dod - nid y rhwyg
nid y rhaid anorfod
ond, byddarol fudandod
yr eco o beidio bod.
Mari George
10 Pwynt
Englyn Cywaith: Braw
Yn yr eiliad eithriadol o agor
y llygad bach pefriol;
nos o weld dros ymyl siol
anfadwaith Ei ddyfodol.
Dafydd Huws
9 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Wedi'r hwyl daw camdreuliad
A ddaw yn ei dro'n rhyddhad.
Aneurin Karadog
0 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
A rhwydd hynt dyna rhyddhad
1 Pwynt
Telyneg: Castell
Yn blentyn
roedd hwyl ar draeth.
Taflu cerrig i herio'r gorwel, ymladd â'i gysgod, joio'r stwr...
Troi tywod yn gastell
ac eistedd ynddo
tan i donnau oferedd sigo'i seiliau...
Wastad egni
i ddechrau eto.
*
Yn llanc
roedd rhannu traeth yn bopeth
eu siarad siafins yn cydio'r gorwel,
cariad yn torri drwy'r don
a magu adenydd...
Addawodd iddi gastell ar y graig
a llond y lle o sêr.
*
Heddiw'n hyn
does dim i'w gael
yn rhialtwch eraill.
Stwr y joio yn crafu'i gragen wag.
Chwilio olion ei gaer
er i'r môr hen fynd â hi,
twrio yn llygad yr haul
a gweld dim ond tywod,
ei gysgod yn hir
a'r gorwel yn bell.
Mari George
10 Pwynt
Telyneg: Castell
(Castell Gwynt)
Lapiodd ei seithmlwydd newydd sbon
Yn fantell grand o'i chwmpas,
Y dywysoges undydd.
Daeth tyrfa frwd
I dalu gwrogaeth,
Gan dyrru i'r wledd
Y llwythog gan roddion
A'r cyfan
Iddi hi.
Codwyd iddi gastell hardd
A sgleiniai'n yr haul
Â'i dyrrau'n cyffwrdd â'r ne',
A thynnai pawb ei sgidiau'n barchus
Cyn mentro drwy borth
Ei chastell hi.
Hedfanai hi'n uwch na neb;
Codi rhwng y muriau meddal
Nes cwrdd â'i cymylau
Â'i phen yn y gwynt.
Ei chwerthin hi oedd loywa';
Yn nheyrnas yr hwyl
Y hi oedd ben...
Ond daeth diwedd dydd
Simsanodd ei chastell
A dymchwel
A hithau'r dywysoges falch
Yn ddim ond merch fach seithmlwydd
Â'i choesau'n gleisau i gyd.
Menna Thomas
9 Pwynt
Englyn ar y pryd
Ian Paisley
A'i hun yw a Hiesu ninnau?- un ai Dduw
Yn Dduw hen ddialau
Ei weddi mor ddifaddau
A'i gymun yn gymun gwae.
Owain Rhys
9 1/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 81 1/2
Englyn ar y pryd: Parch
'Rwyf dlawd a'm cartref di-lun- yn denau
amdanaf yn furddyn
ond yng ngheiniog yr hogyn
y gwelais i, fi fy hun.
Ifan Roberts
9 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79
CYNIGION ERAILL Cwpled Caeth yn cynnwys enw ffrwyth
Palesteina
Heddiw'r pryf yng ngwreiddiau'r pren
a ladd yr olewydden.
Ynyr Williams
I ddyn, er archwilio'n dda,
anodd sythu banana.
Emyr Phillips
Arnaf o hyd flas afal
O'm doe, a'm brath wedi'm dal.
Rhodri Gwyn Jones
Rhoi afal mewn 'fruit salad' -
Hon dasg rhy anodd i dad.
Ynyr Williams
Anodd pilio banana
heb fysedd, er dannedd da.
Ynyr Williams
Limrig yn ymwneud a gwenwyno
Faint mwy o lyngyrod sy' eisia'?
Rois i ddega' i lawr yn y tylla'
Ar ôl socian pob un
Mewn pot o strychnine;
Dwi'm di gweld yr hen gath 'cw ers dyddia'!
Ifan Roberts
O fwriad neu falle'n ddamweiniol
Mae gwenwyn o lwy yn angheuol
Ond mae'r gwenwyn a ddaw
O dafodau, a'r baw,
Yn aml yr un mor niweidiol.
Ifan Roberts
Englyn yn cynnwys y geiriau "eto fyth"
Aeth y ffydd a nerth "O Ffôr" - eto fyth
Mae'r Set Fawr yn cofio'r
Nefol wynt, ar hynt i'r Ior,
A'i ysgog yn ail esgor.
Emyr Phillips
Eto fyth yr wyt ti Fai - yn nodio
Er dwedyd na fyddai
Hi Dawn yn priodi Dai
Wysti? 'Rwy'n un o'r gwestai.
Emyr Phillips
Pennill mawl/dychan: Gwelliannau'r ffyrdd
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae Rhodri Gwyn yn dduw
Sy'n dweud lle cewch chi barcio, dreifio, siopio a byw.
Ei draffyrdd sy'n ymestyn o'r Pîl i Lundain bell
A'i lwybrau a'i balmentydd - erioed ni welwyd gwell.
Ond eto, hyn sy'n syndod, ym Mhentyrch yn ôl y sôn
Car ei wraig sydd yn y garej, un Rhodri ar y lôn.
Ifan Roberts
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffolineb
Nid yw'r call yn deall dyn
O'i fedydd sy'n ynfydyn.
Yn ddisynnwyr o wirion.
Ie, braidd o lathen bron.
Mae yn ffaith y myn y ffôl
Stori sydd fwy ystyriol.
Gwêl y call fel arall un
Yn ddelw na all ddilyn.
Er. Y clown sy'n agor clo
A elwa o ysbeilio
Gwên o blentyn. Hyn yw hud
Ffolineb. Ni ffael ennyd.
Emyr Phillips
Cân (heb fod dros 20 llinell): Pe bawn i'n Feuryn
Mi awn i glywed llais a gweled llun
Ar lan yr afon fel yr amser gynt
Dim ond fy nghysgod gyda mi fy hun
A'r lle mor ddistaw ond am swn y gwynt
Ond daeth y Gwanwyn wedi'r gaeaf oer
I Heol Foel Cefn Llwyd gan ddeffro'r coed
Tra'r praidd ar fynydd Llwydgron tan y lloer
Yn aros tyfiant eto fel erioed.
Ac yna Awst a'i wên yn troi yn wg
'Rôl cofio'r cyfeillgarwch gan fy nhad
Cyn iddo fynd o'r golwg yn y mwg.
Ond deil y coffa. Nid yw colli'n rhad.
Mae'r Dolig nawr ar ddod a rhaid yw mynd
Am dro tua'r Gogarth i weld Ruth fy ffrind!
Emyr Phillips
Englyn Cywaith: Braw
Y cudyll o'r gwyll a gwyd. A'i esgyn
Dry gysgod yn arswyd.
A bu'n nos ar Linos lwyd
O'i ysfa am flasusfwyd.
Dafydd Huws
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

