Llansannan v Ysgol Dyffryn Conwy

Bydd yr ornest yma o'r Talwrn yn cael ei recordio yng Nghanolfan Gymdeithasol Llanbrynmair ar yr 16eg o Dachwedd

Llansannan

Llansannan

Ysgol Dyffryn Conwy

Ysgol Dyffryn Conwy

Cwpled caeth ar yr odl "os"

Mae gen i chwant gwneud plantos
Os wyt ti'n glên swatia'n glos!

Alwyn Williams
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl "os"

Heb gymar, hir yw aros
Heno'n oer yng nghwmni'r nos

Andrea Parry
8 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud â thresbasu

Ei ddal am dresbasu ga'th Alwyn
A bwyta bylbs daffodil Lordyn
'Di'w camgymryd am nionod
Cafodd garchar am gyfnod
Mae'n debyg daw allan n'y Gwanwyn

Ann Davies
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud â thresbasu

Aeth pêl Twm bach dros y ffin
I ardd 'rhen sgweiar mawr blin.
Mae Twm dal ifod
Yn yr hosbital ward
'rol tynnu'r bel allan o'i ...geg!

Eryl Jones
8 Pwynt

Englyn yn cynnwys y gair "yfory"

Gobaith

Er lludded ei ddiwedydd, fe wawria'i
Yfory'n ysblennydd,
Fe wyr mae ond echdoe fydd
Ei heddiw ymhen deuddydd.

Gareth Owen
8 1/2 Pwynt

Englyn yn cynnwys y gair 'yfory'

Hwyrach na fydd yfory- ein rhaniad
Mor unig â fagddu
Y nos hon a'r gwaedlif sydd
Y galon yn gywely

Andrea Parry
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): "Y Tîm"

(Ar y papur tasgau gefais i, testun y gân oedd Y Tim nid Y Tîm)

Un noson ystormus, daeth corwynt mawr
A chwalu cartref rhen Tim bron i'r llawr.
Yn anffodus hefyd fe chwythwyd ffwrdd
Pob acen grom hyd y wlad i bob cwr.
Bu llanast mawr, roedd hi bron yn A men
A druan o Tim heb do uwch ei ben
Bu'n tywallt y glaw hen wragedd a ffyn
Tros nos fe aeth Tim i edrych yn hyn
Fe syllai fyny o'r parlwr i'r nen
Gan grigo'n arw, a chrafu ei en
Myfyriai yn ddwys a'i lygaid ynghyn
Gwneud dim ond eistedd trwy'r dydd ar ei din
Ac meddai r'hen Tim yn ddigalon - "hy
Peth diflas yw byw heb do ar fy nhy"
Roedd cariad Tim yn un welw a thal,
Mor wael, fe weddai i'w henw, sef Sal
I'w gysuro meddai, "Rwan Tim, cym on
Rwyt ti yn ddyn lwcus iawn yn y bon"
Estynodd y brandi, ro'th iddo joch
Ac yna rho'th glamp o sws ar ei foch
Ei ofidiau ddiflanodd yn y fan
Gan roi ddiweddglo taclus i fy nghan.

Ann Davies
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): "Y Tim"

Rhyw 'Lwyn' o Ogledd America
G'ath syniad, un da ar y dechra.
Fe ffoniodd ei fêt, un 'Blair' ond sidêt,
I weld oedd r'un feddwl ac ynta.
"Rwyt ti a fi yn rêl tim yr hen Tôn,
Clear thinking - ti'n good bloke yn y bôn,
Awn ar ôl Saddam, a'i chwalu i bob man,
Os ti'n gêm, tyrd 'nôl ar y ffôn."
Petrusodd yr arwr ymffrostgar,
Chi'n gweld,roedd yn wr diymhongar.
"Ty'r Commons gaiff ddweud os ydwi am wneud,"
Medd Tôn wrth Cherie yn feistrolgar.
Daeth 'dossier' i law yn reit handi,
Mewn dim, cafodd hawl i fynd ati
I helpu y 'Llwyn', - gwr rhadlon a mwyn,
"Clear thinking" - doedd honno ond stori.
Os coeliwch chi hwn, y celwyddgi,
Mae'n debyg eich bod yn (Iraci) (rel cranci)
Mae'n amlwg i bawb, beth bynnag ei gnawd,
Mae aelod o'r Tim ydyw Toni!

Gwyn Hughes Roberts
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Adfywiad

Byr yw'r dydd wedi bwrw'r dail
A harddwch gwywo'r irddail,
Daw lledrith hud y llwydrew
A dyna'r waun o dan rew,
A sain y dwyreinwynt sydd
Yn sturmant i'r ystormydd.
Segur yw pob blaguro
A phob bryn a glyn dan glo.
Un a fydd yn herfeiddiol
Yn ei ffydd ymwthio'n ffôl
Yw'r eirlys - wedi'r hirlwm
Yn y coed yn deffro'r cwm.

Alwyn Williams
8 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Adfywiad

O drai hir mewn tref sirol
I'r hen iaith, daeth bri yn ôl.
Y mae côr gyda'r gorau.
Hyrwyddir mwy ar ddramâu
Yn ei blaen y daw i'w blas
 bwrlwm ym Mhenbarras.

Heb arlwy nag ôl bwrlwm
Neuaddau Llannau sy'n llawn.
Saesneg fel rheg sy'n rhwygo.
Naddu briw yn heddiw bro.
Twll mewn pridd! Aiff iaith iddo!
A yrr ffawd ein hawr ar ffo?

Hywel Williams
8 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Byw mewn tref y bun un tro
Yfad i gael anghofio

1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Byw mewn tref y bum un tro
Artaith wnaeth i mi hurtio.

1/2 Pwynt

Pennill mawl/dychan: "Ffeministiaeth"

Mae'r wraig 'cw'n ffeminist-wraig frwd
Yn gryf iawn ei daliadau.
Mae hi'n protestio rownd y rîl
A brwydro tros ei hawliau
Rwy'n ei chefnogi cant y cant
Ond un peth sy'n fy mhoeni
Nid yw hi adre'n aml iawn
Does neb i olchi llestri.

Aneurin Owen
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/dychan: Ffeministiaeth

Rwy'n brysur yn y londoret
Yn llwytho'r golch â'm crys am het
A phob dilledyn o'm heiddo i.
"Lle mae fy nhrowsus?", meddech chi.

Ifor Glyn Efans
9 Pwynt

Englyn Cywaith: Damwain

Llawn anian o gân a gwyl, eu chwarae
Dry'n chwerw cyn noswyl,
O dweder, i ba berwyl
Y daw'r rhawd i dorri'r hwyl?

Gareth Owen
8 Pwynt

Englyn Cywaith: Damwain

"Arthur sy' wedi syrthio- yn f'ymyl
yn f'ama mae'n crio
ishio mam ar frys mae o!
i'w lygaid aeth darn lego!"

Hywel Williams
8 1/2 Pwynt

Telyneg: Cofio

Sophie Hook

Daw plant yn ôl i Graig y Don pob haf
I hyrddio'i chwerthin i'r distawrwydd trwm,
A'r haul i olchi gwres y dyddiau braf
Hyd lan y môr a min y tywod llwm,
Ac yma, rhwng y cerrig mân bu ton
Ar don yn llusgo'r broc yn ôl a 'mlaen,
Fel hen ddilledyn a anghofiwyd bron
Ddiosgwyd, rhywdro, am fod arno staen.
Ond y mae'r ewyn yn ei chofio hi
Yn gorwedd yma ar y cerrig draw
Yn cragen wag adawyd gan y lli
Ar draethell lonydd lle bu llanw'r braw.
Ta bo môr, bydd cof am dreisio hon
Yn fferru haul pob haf yng Nghraig y Don.

Aneurin Owen
9 Pwynt

Telyneg: 'Cofio'

(i Taid sy'n dioddef o afiechyd Alzheimer)

Ei wen yn codi o'r gorwel fel haul y bore
a'i chwerthin yn iach i gyfeiliant y don.
Ei straeon egniol yn glynnu
fel gwymon ar greigiau,
a'i lygaid yn disgleirio,
fel perlau gwerthfawr
yn gloywi glas y dyfroedd.

Ond atgofion atgas y rhyfel
yw hunlle'r isdon.
Tonnau'r cof
sy'n tynnu'n groes i'r lli,
fel ewyn gwyn yn brathu'n slei,
gan foddi'r atgofion melys.

Gwaddod yn ddagrau hallt
fel cwrlid ar glogwyni'r traeth.

Ac yn ddi-rybydd!
Daw'r sgrechwynt i chwipio'r don
a meirch llwyd o gymylau i garlamu
a bygwth y traethau,
gan ddifrodi a dinistrio
ei gynefin cysurus.

Gollynga'r gwymon eu gafael,
a sudda'r perlau i ddyfnderoedd y môr.
Â'r haul i gudddio dan gwmwl
gan bylu'r wen.

Ffwndra'r rhod.

Ond yn nyfnder ei ddryswch,
ymdrecha'r don i ddychwelyd.....
yn ofer.

Ymchwydd y don sy'n cilio,
a'i llusg yn drwm ar aur y traeth.
Diflannu i'w chrombil wna'r drefn.

Yn raddol ,
Cilia i bellter y gorwel,
a'i lanw ef yw ein trai ni.

Ond rhywsut mae'r oesau yn aros
yng nghuriad ei donnau ,
A breichiau'r llanw'n cario'r cof.

Rhian Gwawr
9 Pwynt

Englyn ar y pryd: Llongyfarch

Siopa a'i cardiau'n syrpiau, yn elwa
O heulwen, a dagrau
Marchnad llongyfarchiadau
A chwant yn eu brolint bro.

Gareth Owen
8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 75 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl "os"

O ddydd i ddydd yn ddiddos
Y bu oes - y hi yw'r bos!

India roc, llwyth o gocos
Yw byw iach i rai heb os.

Ai Bush o bawb yw y bos
A hwsmon yr holl gosmos?

Englyn ar y pryd: Llongyfarch

Dwi'n hoff o'm marwnad goffa- hon luniodd
Ddilyniant a haedda
Anrheg o ddeg i'r un dda;
Andros o foi 'di Andrea

8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 76 1/2

CYNIGION ERAILL

Limrig yn ymwneud â thresbasu

Roedd Wil â'i lygad ar Anna,
Peth handi, os caiff o 'i gyfla,
Bu'n braenu y tir,
Yn 'pnawn, deud y gwir,
Cyn nos, y gwr fydda adra.

Gwyn Hughes Roberts

Roedd cerddwyr o gwmpas Y Wyddfa
Yn sathru cynhaeaf y caea'.
Ond ffermwr Cefn Coch*
A waeddai yn groch,
"Hei chi, cerwch adra y tacla!"

(* Ffermwr Cefn Coch yw Cadeirydd Bugeiliaid Eryri)

Ifor Glyn Efans

Cân (heb fod dros 20 llinell): "Y Tim"

Bydd tim y Dyffryn braidd yn hwyr,
Mae'r ffordd dan lif y Fawddwy,
Ni'n methu cyrraedd Llanbrynmair,
Er troi i'r dde a'r aswy.

Andrea Parry yn ei dagrau,
Hywel Williams ar ei liniau,
Roberts 'coed' yn trochi'i fodiau,
Rhian Gwawr yn sychu 'i sanau.

"Nac ofner," meddai Ifor Glyn,
"Rwyf fy yn gallu rhwyfo"

A nawr mae'r tim
Mewn ciw eis crim
Ar lan y môr y Bermo.

Branwen Chilton

Pennill mawl/dychan: Ffeministiaeth

Ffeministiaeth a thwristiaeth,
Digon tebyg yw y ddau.
Cymryd mantais, dylanwadu
Ar feddyliau bychain, brau.

Gwyn Hughes Roberts

Dynion ddaeth a dynion aeth
Daeth taw ar eu harglwyddiaeth,
Ni fydd gwragedd mwy yn gaeth.
Hir oes i ffeministiaeth!

Branwen Chilton

Roedd Jên awydd llosgi ei bra,
Dim ond pan yn boeth, yn yr ha',
Fe synnwyd ei gwr,
Ond wnaeth o ddim stwr,
Pan losgwyd y ty, car a'r ffa!

Gwyn Hughes Roberts

Englyn Cywaith :Damwain

"y...y...ym... fi sydd yma!- wn i ddim
be i'w ddeud yn nesa!
Sgidiais i mewn i'ch Skoda...
... ta waeth,... ffonia fory 'ta!"

Hywel Williams

Telyneg: 'Cofio'

(Er cof am y diweddar John Roberts Williams)

Gwrando dros fy sbectol.
Crygni'r llais yn llifo'n llyfn
Drwy erwau ein cydwybod.

Cant namyn degawd
Yn goleuo drwy ddoethineb
O sylwi ar bethau'r byd.

Yr Aelod o Eifionydd
Mewn gair a phrint
Fu'n Jonsi'n Cymro ni

Lliwio'r symudlun cyntaf
Fel etifeddiaeth drwy'r Gymraeg
Yn hanesyn storiol y gamp.

Caergaint, Caerdydd
A Chymru i gyd
Sy'n cofio hyd dy ddydd.

Ifor Glyn Efans

(am fy Mam, ddioddefodd yn enbyd o'r 'dementia')

Hudolus yw'r cofadeilau
O dad, a mam, a moli Duw.
Heddiw sydd yn boenus,
Mae ddoe yn brofiad byw.

Enwau pawb yn drwmbal dryslyd,
Cyfrinachau'n noethni coedd.
Croywder dro'n gellwair,
Crino y mae'r celloedd.

Atgofion fel gwê yn gwau
Yng nghorneli meddwl 'rhen wraig,
Crio lle bu cryfder,
Cragen lle bu craig.

Gwyn Hughes Roberts

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.