Y Gler v Y Moelwyn
Cafodd yr ornest yma o'r Talwrn ei recordio yng Nghanolfan Gymdeithasol Llanbrynmair ar yr 16eg o Dachwedd 2004
Y Gler

Y Moelwyn

Cwpled Caeth i'w Osod ar Fws
- (graffiti ar fws sgrap)
Daeth awr i fynd i'th warws,
A daeth i ben deithio bws.
Iwan Rhys
8 1/2 Pwynt
Cwpled caeth i'w osod ar fws
Arwain hwn yn ddi-droi'n ôl
i fyd lle mae'n dyfodol.
Ieuan Parri
8 Pwynt
Pennill Mawl: Benthyciwr
Gwyn dy fyd os wyt fenthyciwr,
Braint yw rhannu'th bres i gyd,
'Mond un peth sydd yn drueni -
Mae o'n fraint i mi o hyd!
Hywel Griffiths
8 1/2 Pwynt
Pennill mawl/dychan: Benthycwyr
Benthycwyd i mi enwau ambell gae,
a golygfeydd a phrydau bwyd wrth fwrdd,
nod clust, gweld llambedyddiol yn y bae,
y jôcs di-ri, â'r cyfle i gael cwrdd
â phawb a ddoi i'r ty, cael cyfri sêr,
Ufudd-dod ci a hwiangerddi'n fflyd
a phasio bys trwy fflam y ganwyll wêr,
Mabiniogi, dramau a thriciau hud,
Bwlch Tyddiad, Llundan, Cynfal, Pistyll Cain,
Rhyddid i wneud dim byd am oriau maith,
Fflamenco, deall cwmpawd, cwmni nain,
llyfra' a ffilmia', cardia', marblis, iaith.
Ni chodwyd llog, ddim hyd'noed un y cant,
Print mân sy'n sôn am fenthyg nhw i'm plant.
Sian Northey
9 1/2 Pwynt
Pennill Ymson wrth Barcio
Anodd iawn yw im refyrsio
Renault Clio'n y maes parcio,
Er ei bod hi'n eitha' hawdd
Parcio'r Clio dros ben clawdd.
Iwan Rhys
8 1/2 Pwynt
Pennill ymson wrth barcio
Peth rhyfadd
Wrth barcio'r car wnes i sylweddoli
Mod i wedi dy golli am byth.
Nid yn y gwasanaeth
Nid wrth wasgaru'r llwch
Ond wrth barcio'r car.
Wyt ti'n cofio dweud
Fy mod i'n rhemp am barcio?
Nhempar inna fel matsian.
'Cymera di'r llyw
Am unwaith yn dy fywyd ta'
Rown i'r byd
Am dy gael di wrth f'ochor i
Yn barnu rwan.
Deugain mlynedd
O dynnu coes
A checru.
Dwi'n hen.
Dwi'n dy golli di.
Dwi wedi llwyddo
I barcio'r car.
Catrin Euros
9 Pwynt
Cywydd ( heb fod dros 12 llinell): Beddargraff Anifail
Beddargraff Gelert
Wylodd, wylodd Llywelyn
hafau yn ôl yn fan hyn;
y gwir oedd dan grud yn gudd
a'i gi'n gelain gan gelwydd:
yn ei glwyf yr oedd llond gwlad
o alar:
mewn un eiliad,
un eiliad o anfadwaith,
stori drist a roed i'r iaith.
Ond tra dwr glas yng Nglaslyn,
a nes daw'r haf olaf un
i ben, fe fydd stori bert
a galar wrth fedd Gelert.
Iwan Rhys
9 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Beddargraff Anifail
Yma'r huna'r hen Fwni
Fu'n hir ar fy rhandir i
Yn ceibio'i ffordd drwy'r cabej
A rhawio'n syth drwy'r grwn swêj.
O Dduw, roedd rhaid i rywun
Fyrhau'i hoes hi! Farus un!
Er troi, ffoi ni all 'run ffwl
Heibio i faril dwbwl.
Yn oer a gwlyb, ffrind mor glên
Ddaearwyd dan y dderwen,
A bydd chwilod yn codi
Heno at hon i'w bwyta hi!
Iwan Morgan
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â thorri rhywbeth
Peth llac ydi cyfraith Trawsfynydd,
Dioddefais ladradau dig'wilydd,
Pwy oedd y dihiryn?
Wel, capten y Moelwyn
Yn ceisio dwyn englyn a chywydd!
Hywel Griffiths
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â thorri rhywbeth
Cefais fôt electroneg eleni,
Ac wrth i mi bwyso 'John Kerry'
Daeth neges bach blin
I fyny ar y sgrin,
Yn deud 'Sori, mae'r peiriant 'di torri.'
Dewi Prysor
8 1/2 Pwynt
Englyn: Galwad Ffôn am Blismon
(999 gan lwynog)
Ba un sail i Eban selog ei wn,
 hi'n noson bluog
Nadolig clyd, liwio clog
Y diniwed yn euog?
Eurig Salisbury
8 1/2 Pwynt
Englyn Cywaith: Galwad ffôn
Naw, naw, naw? dowch, dowch yn awr! nid yw hi'n
ddigon da mewn dwyawr;
y mae mam mewn picil mawr
yn hario colli h'oriawr.
Ieuan Parri
8 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Llythyr
Yr oedd breuddwyd ar ein haelwyd fach ni,
A'r plantos ynghwsg yn ei hwyrnos hi,
Lle'r oedd llond cegin o chwerthin a chân
A swn brigau'r deri yn torri'n y tân;
Er mai cwta fis fu hi ers i'th wisg wen
Ymwisgo'r addewid nes dôi bywyd i ben,
Er i bob cyffyrddiad fod yn gariad i gyd
Roeddwn innau'n llawn o boenau mudan byd;
Daeth dy freuddwydion a'th ddyheadau di
Trwy furiau'r ty yn furiau ynof i,
Aeth chwerthin y plantos yn fwy chwithig bob tro,
Eu chwerthin yn chwerwach wrth ddigio'n y co',
'Doedd addewidion yr allor ond marwor mân
Yn pardduo edau dy wenwisg lân;
Fe'm mygwyd o weld modrwy'n ddyfodol ar fys,
Mygu o'r gofidio sy'n blino pob blys, -
Ac erbyn iti ddarllen y geiriau hyn
Bydd rhaff am fy ngwddw innau yn dynn.
Osian Rhys Jones
9 1/2 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Llythyr
Ym mis Mawrth mi bostiais lythyr
I fy hun o ben draw'r stryd;
Nawr mae'n tynnu at fis Rhagfyr,
Disgwyl wyf am hwn o hyd.
Holais Stan a Hyrbi'r postmyn,
Welson nhw y llythyr bach;
Yn y swyddfa sortio wedyn,
Chwiliodd pawb ymhob un sach.
Llenwais ffurflen post colledig,
Nodais siap a maint a lliw,
Ffoniais linnell otomatig,
Bum yn aros mewn sawl ciw.
Cefais res o esgusodion,
O streic bost i dywydd tamp,
Ac i ddangos eu gofidion
Cefais lyfr o ddeuddeg stamp.
Ni dderbyniais bwt o lythyr
Gan fy hun o ben draw'r stryd,
Aeth yn ystadegyn papur
Rhywle'ng ngwaelod sach y byd.
Dewi Prysor
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Antur fy nghariad cyntaf
Sy'n aros bob hwyrnos haf
1 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Antur fy nghariad cynta'n
Ei bryd fu tynnu'i bra.
0 Pwynt
Telyneg: Damwain
Er cof am Elfyn
Bore o haf oedd hi,
ac oriau ers i'r wawr
ddod yn gelain goch dros y gorwel,
a'r adar yn galarganu
a'r gwlith yn llawn gresynu
wrth i'w ddagrau doddi i'r pridd.
A phelydrau'r haul trwy sgrîn y car
yn ein dallu rhag gwg y llinell wen
sy'n ein harwain yn ein hanner cwsg . . .
ond ni fuost ti mor lwcus.
Es innau ger yr un llinell wen
a'm clustoga' i nes daw'r daith i ben,
ond hyd y ffordd mi sylwais i
ar "Heddlu" ger lôn lle'th hyrddiwyd di
i groesi'r clawdd; a'r teilchion
oedd o'r blaen ar fflam o olau
y car, wedi'u brwsio ymaith i fagiau
dwfn yr heddlu i'w hanghofio.
Fe dwtiwyd cerrig y wal
a styrbiaist, a gadael dim ond tusw ar ôl tusw
o flodau i gofleidio'r hyn fuost,
e nad oedd dim ond ymdrech olaf
y brêcs, ar ganol haf,
yn sgrialu'n hirddu ar draws dy lôn.
Osian Rhys Jones
9 1/2 Pwynt
Telyneg: Damwain
Â'r cot wedi hen fynd i Oxfam,
y clytia yn glytia llawr,
yr ieuenga'n mynd yng nghwmni ffrind,
a swydd,
a chorff,
a gwin,
a gwên,
yn ystol o geunant mamaeth,
bu blerwch.
Dwy gell,
neu bedair,
neu wyth,
yn bygwth taclusrwydd.
Eu clirio,
fel llestri budron i'r peiriant,
a'n platiau glân yn llawn bob dydd.
Sian Northey
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Sgrin
Os eglur trechu'r trichant- yn yr haul
Yn Irac y pasiant
Ai eglur cyplysu'r plant
A'i ddelweddau o lwyddiant?
8 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80 CYNIGION ERAILL Cwpled Caeth i'w Osod ar Fws
I din y Traws DON'T REACT,
NO ENTRY ebe'r contract!
Eurig Salisbury
Pennill Ymson wrth Barcio
Wrth godi'r clutsh, anelu'r gynffon,
Dwi'n tolcio'r car a refio'n wirion;
Mae parcio imi'n orchwyl galed:
Ond fydda i fyth mor wael â merched.
Osian Rhys Jones
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Llythyr
I Mr. Bush wrth blant Fallujah
Ni chlywch ein dagrau heno,
Rhaid yw chwarae cuddio'n fud,
A'n llygaid fu'n breuddwydio
Yn llosg, fel gwaed y machlud.
Poera'r tanciau wareiddiad
Cawn eiriau gwn er ein lles,
Tra'n gweld pobl stryd y gad
Yn syrthio rhibidirês.
Daw dad ddim adre mwyach
Gwn mai ond rhif yw i chi,
Ysbyty a'i chleifion iach
Sy'n euog am ddaioni.
Fe gladdwyd rhai mewn gerddi
Heuwyd dicter yn ein co'.
Pan dyf yr had ynof fi
Bydd dial yn blaguro.
A feddylioch am eiliad
Cyn dod 'ma i reoli,
Mewn dewrder ymosodiad
Y lladdwch blant bach fel ni.
Menna Machreth
Englyn ar y pryd: Sgrin
(Car ymweliad â Knock- gorllewin Iwerddon)
Af a dwyster pererin- i diroedd
Ei phaderau cyfrin
A daw blas i'm henaid blin
O'i hiachos ddwr dilychwin
8 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78 1/2 CYNIGION ERAILL Limrig yn ymwneud â thorri rhywbeth
Roedd Wil am nofio y Sianel
Tra'n gwisgo dim byd ond trôns fflanel,
Ond wrth dorri ias
Fe drodd o yn las,
A daliodd y tren drwy y twnel.
Roedd fy nhaid yn dransfestait o'r Barri,
Wisgai sodlau main, hir fatha ledi,
Ond wrth dorri mawn
Ar y mynydd un pnawn
Fe suddodd i'r fawnog a boddi.
Triodd Wil dorri record buta chilli,
A mi wnaeth yn reit glodwiw, cyn colli,
Ond drannoeth, 'ny toilet
Am bedair awr solet
Fe dorrodd y record am weiddi.
Torrodd Wil y record am neidio
Pan neidiodd o Rhyl i Landudno,
Ond mi gafodd waharddiad
Ar ôl i ymchwiliad
Ffeindio mai chwanwen oedd ei nain o.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

