Howgets v Tir Mawr

Dyma gynnyrch y timau yn Talwrn Arbennig Gwyl Gynganeddu TY Newydd yng Ngwesty'r Marine, Cricieth

Howgets

Howgets

Tir Mawr

Tir Mawr

Cwpled caeth ar yr odl 'eg'

Wedi ysgol a choleg
y dysgi di'n ara' deg.

Mari Wyn Jones
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'eg'

Ni ddaw ton ar dywydd teg
I Lyn, nad yw'n delyneg

Gareth Neigwl
9 Pwynt

Pennill ymson ar wely haul

(ymson cleren yn sownd mewn tostiwr brechdan)

Fe ddois ar wîb, ar fy mhen
at declyn twym dwy gragen.
Nawr, heb os, dw i'n gaeth i hwn,
yn garcharor mewn dwnjwn
o stwnsh a saim - dwi'n pango!
Oes dianc o'r infferno?
D'wedodd mam - ces rybudd, do,
fod pelydrau yn hudo."Cadwa i'r cysgod, 'ngwas-i,"
ond diawl, un dwl fues i.
Diweddu f'oes yn flin a gwan
mewn arch o grimpiwr brechdan.

Elinor Gwynn
8 Pwynt

Pennill ymson, 'Ar wely haul'

Os 'rhosa'i ormod o dan y lamp,
Mi rostia'i 'nghroen, mi rostia'i 'mrên
Ac mae 'na beryg y byddwn i
Run ffunud â Peter Hain.

Myrddin Ap Dafydd
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyrraedd

(wrth wylio anwylyd yn marw)

Taith hir yw'r daith drwy hiraeth
ac o hyd, byddaf yn gaeth
wrth weld eiddil yn cilio
a'i liw yn ei adael o.

Yn ei boen yn dihoeni,
y mae o'n ddieithr i mi -
mae'i lygad wedi 'ngadael,
hyn na hen ei galon wael.

Â'i wely'n oer, ein hwyl ni
ddiflannodd o fyw 'leni,
ond i un, taith at ei Dad
a wna'i gyrraedd yn gariad.

Elina Owen
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyrraedd(ailagor tafarn gydweithredol Fic Llithfaen)

Haf hir oedd haf heb y Fic:
Ni chaed un mwy sychedic
A heb Innis, boi unic
A fum, ar goll heb y Fic,
Yn affwysol ddiffisic,
Dyn diddiferyn, di-Fic.

Fel cario'r Eifl a'u cerric
Fu hynt ailgerflunio'r Fic;
Naddodd y criw mynyddic
Y rhiw faith yn ôl i'r Fic:
Do, bu'n gerdded blinedic,
Ond 'na fo - dwi yn y Fic.

Myrddin Ap Dafydd
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â chyfrif

'Rhen Brown sydd yn cyfri'r diwrnoda'
tra hefyd yn celcio'r miliyna',
ond wrth galciwlêtio
cyn daw adeg fotio,
troi unarddeg yn ddeg yw'r swm fwya'.

Elinor Gwynn
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud â chyfrif

Roedd cybudd sy'n byw lawr y stryd
Yn cyfri ei arian I gyd
Y copor yn tincio
A'r cwîn oedd yn blincio
R'ol bod mewn tywyllwch cyhyd.

Gareth Jones
8 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Rheol

(Unfed awr ar ddeg Rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol)

Mae'r awen yn dynn heno - yn yr wyl,
ninnau'n rhydd i grwydro
hyd erwau y cae, a'r co'n
uniaith. Na laciwn honno.

Annes Glynn
9 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Rheol

Un gwyddor, rhag iddi golli'r Maes
Golli i'r môr ei miri
Un cartref uwch cantrefi
Un hawl uwch y don yw hi.

Myrddin Ap Dafydd
9 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Pwyllgor Brys

I ddechrau o'r awyr, un gawod wleb
yn diferu, diferu ar dir neb;

Ond buan y trodd honno'n storm a bwrw'n dynn,
yn galad fel hen wragedd a ffyn

A throi'r pyllau bach yn llynnoedd go od;
lonydd yn wyllt afonydd, a cheir yn gychod;

Pobol yn mynd i'r capal mewn fflipars a snorcyls,
i'w gwaith yn y Dre' mewn welis a gogyls;

Dynion siwtiog yn rhwyfo dingis
a merched mewn wocs a pholca dot bicinis.

"Cyfarfod brys!" galwodd cynghorwyr y Dre',
"i drafod y dilyw sy'n dinistrio'r lle."

"Peidiwch â phanicio," meddai un yn ffôl.
"Sut fedra' i beidio? Dw i'n wlyb at 'mhen ôl,"

medd arall, a "Lle mae Noa a'i arch o bren?"
"Aha ... y Floating Restaurant ydi'r ateb o'r nen."

A gwasgwyd ynddi'r cynghorwyr, Maer a'i gi
nes bron iddi suddo - a'r siliad honno, ipî!

Tywynnodd un pelydryn o heulwen gre'
a thywynnu'n braf nes sychu'r holl Dre'.

Gwen Lasarus
81/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Cyfarfod brys

Di chwa swnt a daw chwe saeth
i dalwrn ei hudoliaeth
dan eu sang,bwrw angor
i dorri mwy na dwr môr,
Yn gor du rhai hy yn haid
(Ymochel mae'r cimychiaid)
Cafiar ym Mae Parwyd
Heb lein fain i'r rhain na rhwyd,
a phiglaw eu baw a'u bod
i lonni byd gwylanod;
Ond daw crib uwch Pen Diben
a lliw hyll yn ei droell hen
ag awen nen am yn ail
i heboga Maen Bugail,
yr awyr wag yn agor
hyrddio mellt yn corddi môr,
Bylan ar dan yn y dwr
Awst yn achosi mwstwr;
I draeth aeth criwiau'r saethau
Yn ddoeth ar ol gair neu ddau.

Huw Erith
9 Pwynt

Ateb llinell yn cynnwys 'iawn'

Buan iawn daw Mai'n Llawnach

1 Pwynt

Ateb llinell yn cynnwys 'iawn'

Bod yn iawn yw dawn bob diawl

0 Pwynt

Pennill telyn yn dechrau â'r geiriau: "Y mae rhywun ..."

(ar ôl Beslan)

Y mae rhywun heno'n crïo,
curo'i bron ac ocheneidio;
rhwng y muriau a faluriwyd,
y mae beddrod llawer breuddwyd.

Elina Owen
9 1/2 Pwynt

Pennill telyn yn dechrau â'r geiriau "y mae rhywun..."

Y mae rhywun nad wy'n nabod
Heddiw'n creincia'r tylla' crancod
Tra bo rhai nad ynt yn estron
Yn r'un cwch a'r secars cochion

Huw Erith
9 Pwynt

Telyneg: Swper

Deuwn yn dri am orig
i rannu naws a rhin y dydd
dros ford o liw a llawenydd

A phwytho wnawn
wrth fwrdd o faeth
linynnau ein straeon eilwaith

Diolch yn dawel, gyson
wrth i lif y geiriau llon
lenwi'r platiau gweigion.

Elinor Gwynn
9 Pwynt

Telyneg: Swper

O'r machlud y dôn nhw, yn gwmwl dros dir,
Drwy awyr denau oren a rhos:
Adar diarth, adar yr eira,
Yn llawn o Dachwedd, llawn o'r nos.

Mwstwr adenydd wrth gyrraedd fel dwrn
Am wledd noswylio y cae dan ty,
Yna codi a throi ar un olwyn
A llenwi'r onnen gyda lleisiau du.

Bryd hynny, bryd hynny yn unig y down
Â'r crystiau a'r cnau i'r titw a'r dryw
Sy'n mentro o'r clawdd, wedi i'r gawod gilio,
I chwilio am damaid at eu byw.

Myrddin Ap Dafydd
10 Pwynt

Englyn ar y pryd: Sicrwydd

Fel pluen, neu adenydd, yn ysgwyd
Yn ysgafn mewn sicrwydd
Eirlysiau, ffiolau ffydd
Yn egino'n y gwennydd.

Annes Glyn
9 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl 'eg'

Mae'r gwan yn haeddu 'chwaneg -
rhown o'n dawn a'i rannu'n deg. Elina Owen

Nid hawdd yw canfod brawddeg
i lorio geirio hen geg!

Nid twr o ddelweddau teg
a lunia wir delyneg. Annes Glynn

Limrig yn ymwneud â chyfrif

Proses reit syml yw adio,
wrth dynnu, mae mwy o boenydio,
ac fe glywn ambell reg
wrth i'n rhannu yn deg;
ond 'da Undeg, mae'n hawdd myltipleio. Mari Wyn Jones

Ar fanc-acownt, mae treth i'w dalu,
ond Pep neu Fond sy'n arbed hynny.
Y perygl mawr
yw i'r rheiny fynd lawr -
mae f'arian i nawr dan y gwely. John Jones

Ers talwm roedd Banc - dim ond hynny -
heddiw mae Nat, Woolwich a Bingley,
Abbey National a Leicester,
a Halifax a Yorkshire;
a'r cwbwl yn llyncu fy mhres-i. John Jones

Pennill telyn yn dechrau â'r geiriau: "Y mae rhywun ..."

Y mae rhywun sydd yn gwybod
am ffolineb fy llencyndod;
erbyn hyn, ar ôl parchuso,
gobeithio 'rwyf nad ydyw'n cofio. Mari Wyn Jones(ar ôl etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau)

Y mae rhywun siwr o weled,
maes o law, mai dim ond pyped
sydd yn hwylio moroedd terfysg
gyda chriw o bwdls cymysg.Elinor Gwynn

Y mae rhywun wedi 'laru
clywed grwn y Cymry'n cecru
'mysg ei gilydd, fel hen wenyn.
"Hawdd eu rhannu!" sua'r gelyn.Annes Glynn(wrth weld ffoaduriaid ar y newyddion)

Y mae rhywun heno'n wylo,
yr hen fyd 'ma wedi'i frifo;
minnau'n brysio yn llawn ffwdan -
ymhen mis mae Gwyl y Baban. Elina Owen

Y mae rhywun mewn gardd yn plannu
gweddi, rhosyn a dwy fodrwy;
a phan fydd y blodau'n agor
gwêl ei gariad wrth yr allor.Meinir Eluned Jones

Y mae rhywun draw o Asia
bron bob nos yn ffonio yma.
Mae ei gynnig yn demtasiwn -
'm ond i minnau wario ffortiwn. John Jones

Y mae rhywun, wrth aeddfedu,
yn styfnigo rhag datgelu
beth fu hyd ei daith ar ddaear.
Pam fod plant mor anfaddeugar?Annes Glynn(Margaret Hassan, Care International)
Y mae rhywun rhywle'n gwybod
lle mae hon yn aros heno,
ond ni all dagrau, poen nac ofnau
ddweud wrth hon pam ei bod yno.Ken Griffiths

Y mae rhywun ar fy nghyfer,
ond ei ffeindio yw'r anhawster;
Does dim angen gwallt na dannedd -
dim ond dyn i roi etifedd. Mari Wyn Jones

Telyneg: Swper

"Cymerwch,
bwytewch!"
Hwythau'n estyn am y danteithion;
yn llowcio'r bara,
yn drachtio'r gwin,
yn oedi, dro, uwchben y briwsion
a'r gwydrau gwag.
A'r un sy'n brysio o'r bwrdd i'r nos
a'i fryd ar gildwrn
yn ddim ond cwestiwn syn
yn swnian yn eu calonnau diniwed. Annes Glynn

Cerdded taith anobaith
tuag at y machlud
heb geisio gweled gwawr;
Yn sydyn, daeth un atom
na wyddai am ein gofid,
na chlywodd am wae ein dyddiau du.
Daeth gyda ni, rôl pwyso arno,
i orffwys a swpera
ac yno, yn nhoriad y bara,
gwelsom mai eiddo Hwn
y poenau i gyd. Elina Owen

"Dewch i swpera,
cyd-fwytewn.
Rhannwn o'r lluniaeth,
dewch i mewn.
Reis ynteu bara?
Mae popeth yn rhad."

"Paid rhannu dy ymborth,
rho imi'r had."Mari Wyn Jones

Englyn ar y pryd: Sicrwydd

Wedi dianc drwy dywydd- codi nghôt
Cadw 'ngwar at stormydd
Yn haul aur dall ola'r dydd
Mi wn pwy pia'r mynydd

10 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 82 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl 'eg'

Ni ddaw ton ar dywydd teg
I Lyn, nad yw'n delyneg.

Y nôd mewn mathamateg,
A roed im, fu'n 'daro deg'!

Pennill ymson, 'Ar wely haul'

Gwell mynd adra' fel panda â dwy lygaid wen,
A'm gafl fel dyn eira, beth fydd hwyl ar fy mhen?
O'i gymharu â nacw'n llosg sunsur a bol;
Ceir hwyl hefo eira, â thân ni wneir lol.

Gareth Neigwl

Roedd yn gynnes a chyfforddus
Ond rwan mi dwi'n gorwedd ar lawr
Yn rhwbio Bisto ar fy ngroen,
Os oedd eisiau mynd pam yn awr,
Nid oes yna ddim sy'n trethu'r amynedd
Fel cynghorwyr di-liw cyngor Gwynedd

Huw Erith

Cywydd, 'Cyrraedd'

Mae ocr ei ddwr mecryll,
Deiliwr gwisg symudliw'r gwyll
O frethyn Dulyn; tra dêl
Hen nyddwr gwlân o Wyddel
Yn llwyd wêr y lleuad wan,
I ddwr, nodwyddau arian
Yn wincio, ddaw yn rhenci.
Nerfau mân yw'r haf i mi
Bob egwyl, disgwyl eu dod
Yn gwau fel haul trwy gawod.

Er ymhell, 'rwy'n teimlo'r môr
Yn twymo hefo'u tymor.

Gareth Neigwl

Limrigau

Rown i'n edrych ar gronfa fy mhensiwn
I weld pam mor dlawd yn wir medrwn
I fforddio i fod
Er mwyn cyrraedd y nod;
Ar ol gorffen mi es i am seshwn

Huw Erith

Sawl gwaith 'dwi 'di dweud un,dau,mwrw
Wrth godi y rhwydi wedi eu bwrw
A sawl gwaith yn wir eto
Y bydd rhaid i mi rwydo
I'm rhyddhau i o'r maen sy' am fy ngwddw

Huw Erith

Y gêm yn y capel i Huwcyn
Oedd nodi sawl gwaith medrai 'roi un',
I dorri'i ddiflastod;
Ond dysgodd ryfeddod,
Mae un weithiau'n dod, a gwneud tocyn!

Gareth Neigwl

Mi dybiodd ei fod 'di gwneud elw,
Roedd tair punt ar ddeg dan y pulw,
Ond yna daeth rheg,
Roedd y tylwyth teg
Wedi chwalu ei geg o yn ulw.

Tra cyfrai Twm Gwyrfai ei ddannedd
Fe gollodd yr ast ei hamynnedd,
Mewn eiliad neu ddwy
Yr oedd deirgwaith yn fwy
Nag oedd ganddo yntau o fysedd.

Mae pump namyn un yn gwneud pedwar,
Setî tynnu stol yn gwneud cadar
Ac mae Mari Jos
Heb wregys na chlos
Yn gwneuthur un ddynes a hannar

Bu'n cyfri ei gelciad am oriau
Rol eu hestyn nhw o dan y lloriau
Darlun rhyw ddyn Oedd ar ambell un
A'r lleill efo llun Cwîn Fictoria

A'I fysedd y cyfrai Wil Gowan
I fyny at dair mil ar hugian
Rol cwymp yn y gwaith
A llawdriniaeth fawr faith
Dim ond hyd at saith eith o rwan

Englyn-Rheol

Un egwyddor, rhag iddi golli'r Maes,
Golli i'r môr ei miri,
Un cartref uwch cantrefi,
Un hawl uwch y don yw hi.

Myrddin Ap Dafydd

Hawlir i'r drefn roi ddolen i yddfau'r
Anaeddfed, hen orffen;
Ond parhau wna ysbryd pren
Anwaraidd, i'r llythyren.

Gareth Neigwl

'Rym lew wrth hollti blewyn i eraill,
Trefnu arwain cyd-ddyn;
Syn bod awdurdod mewn dyn,
I amau'r un gorchymyn!

Gareth Neigwl

Pennill telyn yn dechrau â'r geiriau "y mae rhywun..."

Y mae rhywun draw yn fancw
Wrthi'n boddi yn y llanw
Y tro nesa doeth fa'i cofio
Fod llai o ddwr pan mae hi'n traio

Huw Erith

Y mae rhywun ymhell heno
Hwnt i'r môr, na chaem gofleidio!
Ond yn Llyn mae llwybrau 'mywyd,
Doethach im eu cerdded hefyd.

Gareth Neigwl

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.