Athrawon V Ffermwyr V Cyfryngis

Yr Athrawon v Ffermwyr v Y Cyfryngau a gafodd ei recordio yng Ngwesty'r Marine, Cricieth ar y 12fed o Dachwedd

Yr Athrawon

Yr Athrawon

Ffermwyr

Ffermwyr

Dihareb yn ymwneud ag anifail

Yr Athrawon

Ni all llew ennill o hyd.
Dwylo slei sy'n dal slywen.

Arwel Emlyn Jones
9 Pwynt

Y Cyfryngis
Un eliffant wna antur

Nici Beech
8 Pwynt

Dihareb yn ymwneud ag anifail

Y Ffermwyr

Crwydro'r clawdd creadur claf
Gyda pharch mae cyfarch ci

Emyr Jones
9 Pwynt

Englyn Cil-Dwrn Beddargraff Gwleidydd

Yr Athrawon

Hanes hwn, colli ei sedd - nid wastad
yn dyst i'r gwirionedd.
Tangnefedd.

Arwel Emlyn Jones
8 Pwynt

Y Cyfryngis


Daearwch, newyddiadurwyr, - un fu
Yn fwyd i ddyn papur,
Y c'radur...

Twm Morys
8 Pwynt

Englyn Cil-Dwrn: Beddargraff Gwleidydd

Y Ffermwyr

Mae'th rethreg a'th wen deg di- a'th afiaith
Hefyd wedi'u colli
Piti!

Arwyn Gro
8 Pwynt

Cwpled ar yr odl 'wch'

Yr Athrawon

Ni ddaw heddiw â'i heddwch
A llais y werin yn llwch.

Ion Thomas
8 Pwynt

Y Cyfryngis

Er ei henw, mae gan yr hwch
Ei hurddas, a pheth harddwch.

Nici Beech
9 Pwynt

Cwpled ar yr odl "wch"

Y Ffermwyr

Yn y bar mae gwladgarwch
I lyd yr ardd mae chwyn yn drwch

Arwyn Gro
8 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cynnwys " Nid yw dyn a'i fynd a dod..."

Yr Athrawon

Nid yw dyn a'i fynd a dod
heddiw yn gweld rhyfeddod,
ni wyr hwn iaith hyna'r nos,
ni wyr y ffordd i aros;
a thrwy'r llenni'n ei ddinas
ni wyr liw yr awyr las.

Gan faint ei lyfrgell bellach
ni wyr beth yw geiriau bach;
ni wyr fod llais mewn stori,
ni chlyw iaith, na'i chwilio hi,
hwn y dyn, drwy'i fynd a dod,
rhy fyddar i ryfeddod.

Tudur Dylan Jones
10 Pwynt

Y Cyfryngis

Garn Bentyrch

Mae waliau yma, ylwch;
Nid erys o'r llys ond llwch.

Dacw'r ywen, hen yw hon
Er cyn bod twrw cynion.

A'r Maen* o dan dderw mud
I eistedd â chlust astud...

Nid yw dyn a'i fynd a dod,
O Rufain i'r gaer ofod,

Ond un awr i'r goeden yw,
Munudau i'r maen ydyw,

Ac i minnau, gyw mynydd,
Eiliad yw 'nghanol dydd.

*Hen graig fawr ar lwybyr y Garn, lle byddai Cybi Sant yn eistedd, yn ôl y traddodiad...

Twm Morys
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cynnwys " Nid yw dyn a'i fynd a dod..."

Y Ffermwyr

Nid yw dyn a'i fynd a dod
Mwy an gwyfyn mewn gofod
Yn hofran uwch y gannwyll
O bell, yn nesau gan bwyll.
Yn nes at ei wres bob tro
Ond ei dân sy'n edwino.
Y llwydwyll ei gell ydyw
Chwa o wynt, tywyllwch yw.
Drwy'r nos mae'n dyrnu y wal
Â'i ehediad anwadal
Y bore oer ceir corff brau
Yn gelain yn y golau.

Tegwyn Jones
9 Pwynt

Englyn yn dechrau efo enw cymeriad Beiblaidd

Manasse, mae hi'n noson - dywyll bitsh,
dwed, all bardd du'i galon
newid ei le cerdded lôn
hogiau y gynnau gwynion ?

( Manasse yn un o feibion Jacob, lladdodd lawer yn ei oes, ond yn ôl Datguddiad, wedi agor y chweched sêl cafodd ei ddyrchafu i'r nefoedd ymysg yr holl rai eraill yn eu gwisgoedd gwynion. Yn yr hen emyn 308 Llyfr yr MC "Golchwyd Magdalen yn ddisglair a Manasse ddu yn wyn" - roeddwn yn meddwl mai negro oedd o, nes imi fynd i'r afael a'r tasgau wsnos diwethaf !)

Arwel Emlyn Jones
8 Pwynt

Y Cyfryngis

Aaron, mae o'n gwneud cyrri, - a Raffa'n
Gwneud treiffyl bach sheri,
Gan Amal mae gwin imi:
Mae blas ar fy Meibil i!

Karen Owen
9 Pwynt

Aaron - y prif offeiriad
Raffa - pumed mab Benjamin
Amal - un o ddisgynyddion Aser

Englyn yn dechrau ag enw cymeriad Beiblaidd

Noah a aeth â'i gwch newydd- yn sionc
Â'r sw o'r llifogydd
Yn union i ben mynydd
Ararat a'u troi yn rhydd.

Emyr Jones
8 Pwynt

Hir a thoddaid yn dweud stori

PEN ARENIG

Yn hedd y niwl yr oeddwn a heulwen
Feiddgar, lachar am ennyd ar lechen,
Honno ag enwau gwyr aeth o'r gynnen,
I nos ddi-wawr yn seddau'u hawyren .....
Yna eilwaith drwy'r niwlen - i'r un lle
A hithau'n Glame daeth un golomen.

Iwan Bryn Williams
9 Pwynt

Y Cyfryngis

Un hwyrddydd a dau'n cyd-gerdded drwy'r gerddi
yn annwyl, annwyl yn eu penwynni
y clywais ganrifoedd eu cyhoeddi:
"Un mab anhygoel yw'n mabinogi.
I ninnau ei rieni - ei ofal
a'i gynnal sy'n dal i'n hysbrydoli."

Ynyr Williams
9 Pwynt

Hir a thoddaid yn adrodd stori

Dath rhyw gwdleiffer i Flaen-Y- Faenog
A deg cywennen er mwyn gwneud ceiniog
A disgwyl yn fuan gywion gwlanog
Yr oedd am hydoedd, tan i gymydog
Ei oleuo'n galonnog- anamled
Bydd cyw i'w weled lle na bydd ceiliog!

Dic Jones
9 Pwynt

Ateb llinell ar y prydYr Athrawon

Ni allaf oddef colli
Ond y mae yn rhaid i mi

0 Pwynt

Y Cyfryngis

Ni allaf oddef colli
Fan hyn yn eich erbyn chi

0 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Ni allaf oeddef colli
Ond mi wn mae'n rhaid i mi.

1 Pwynt

Englyn - Llofnod

Os heddiw y byseddwn - ein henw
ar y lan, bydd llanw'n
erydu'r lle y rhodiwn,
i'r Môr Mawr yr â mi wn.

Rhoist un enw, dy enw di - ym Mai
ar lan môr i'm llonni,
ond dwyn wnaeth gwynt y twyni
yr haf oddi arnaf i.

Tudur Dylan Jones
10 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 62

Y Cyfryngis

Ai rhaff a'ir waywffon ai gwenwyn
Ai gwn aeth a'r dewrion
Neu â'i â chwmwl nwyon?
Enw bach wnaeth yn y bôn.

Twm Morys
9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 61

Englyn Cywaith: Llofnod

Arwyddodd, ar y weddi,- ei enw
Ym mhren sedd y festri
Yn ei dro gan gefnogi'n
Fore iawn dim Calfari.

Dic Jones
9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 63

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.