Ffostrasol v Y Garfan

Cafodd y Talwrn yma ei recordio yn Neuadd Talgarreg

Ffostrasol

Ffostrasol

Cwpled caeth yn cynghori plentyn

Ni chei'n hawdd wrth edrych nôl
Un adwy i'r dyfodol

D.T. Lewis
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth yn cynghori plentyn

Un fam yn unig it fydd
I'w charu er ei cherydd

Lowri Lloyd
8 Pwynt

Triban beddargraff gwerthwr ceir

Drwy d'oes y gwnes ti frolio
Rhinweddau y Mondeo
Ni allai'r perl ar fore llwyd
Ond hyd y glwyd dy gludo.

D.T. Lewis
8 1/2 Pwynt

Triban beddargraff gwerthwr ceir

Pe bai bargeinio'r holl flynyddoedd
Yn cael ei drosi i filltiroedd
Fe fyddai'n gloc, mae'n siŵr i chi
Hen M.O.T ers hydoedd

Lowri Lloyd
8 1/2 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Unrhyw elusen

Mae gennyf rai perthnasau
Yn y sw tu fas i'r dre
A 'na pan rwyn cyfrannu
At yr R.S.P.C.A

Jim James
9 Pwynt

Pennill mawl/ dychan: Unrhyw elusen

Nyrsys Macmillan

Fin nos pan ddaw rhyw fynydd
I ddadmer pob padell pell
Neu pan ddaw pen yn awydd
Ac ysfa i wella'n gell
Gafael tynn eu gofal taer
Ddaw yn rhad â chariad chwaer

Lowri Lloyd
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwahoddiad

(gwahoddiad y Brifwyl i'r ardal)

Annwyl Elfed,
Gweithredu
Ar ran gwahoddiad go gry'
Yr wyf. Sy'n galw'r brifwyl;
A'i holl asbri hi a'i hwyl
Yn ôl i hedd cefen gwlad
I ruddin ein gwareiddiad.

Ymhob tref y mae'r llefydd
Yn dod yn brinnach bob dydd,
Ond sdim prinder aceri
Yn y wlad i'w chynnal hi.
Fel safle, cewch le heb lol
Ar y rhos ger Ffostrasol.

Dai Rees Davies
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwahoddiad

A hi'n wawr, daeth yno un
A dau epil. 'Mhen dipyn
O ffws, roedd y llinell ffôn
Yn dew o bennau duon
O un blaid, fel tae'n ben-blwydd
Yn aros am ryw arwydd

Aros cord ar draws y cae
Aros, yn haid ddieiriau.
Aros o hyd, aros iaith
Y gân a glywsant ganwaith;
Yr alwad i ymadael
Tua'r haf, tu hwnt i'r haul.

Mari Lisa
9 Pwynt

Limrig yn ymwneud â pherffeithrwydd

Rhyw of bach o ardal Llanelli
Wnaeth wn saethu rownd i gorneli
Perffeithrwydd rwy'n siwr
Onibai fod y gwr
Wedi anghofio rhoi twll i'r bareli.

Emyr Davies
8 1/2 Pwynt

Limrig yn ymwneud â pherffeithrwydd

Wrth godi o'i wely un bore
Fe welodd George 'Dubya' ryw ole',
A chredai y brych
Wrth bipo'n y drych
Fod yr haul yn shino mas o'i ben ôl e.

Aled Evans
9 Pwynt

Englyn cywaith: Potel

Ei chynhwysion sy'n bodloni- fy awch,
Caf falm yn ei chwmni
A'r hyn sy'n fy ngwirioni
Yw'r wefr wrth ei hagor hi.

Dai Rees Davies
8 Pwynt

Englyn cywaith: Potel

Llong mewn potel

Rhoi angor ar ei gorwel- a halio
Ei hwylio yn dawel
A'i ffitio mewn i'w photel
I roi doe mewn gwydr del.

Aled Evans
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddiswyddiad

Bu wrthi am achau, am Gwarter canrif i gyd
Y gweinidog yn Seilo dim BA a dim byd.
Nid un o'r hoelion ydoedd rhyw dim tac o Gwm Nedd
Bu unwaith wrthi'n gwerthi inshiwrans crud i'r bedd.
Ni gynnodd fawr o danau a'i holl bregethau sych,
Na chychwyn r'un diwygiad ond roedd yn fytwr gwych
Pan fyddai'n codi testun a symud at dri phen
Y polo mints ddiflannai wrth ddisgwyl yr Amen
Ond wir yn oedfa'r bore i'r rhai oedd arddihun
Fe roes ei ymddiswyddiad a gwenu wnaeth bob un
Bu pwyllgor bryd i gael tysteb yn anrheg i'r hen foi
Defnyddiwyd cronfa'r fynwent, roedd neb ag awydd rhoi
Fe drefnwyd te a chacen a jeli a swis roll
I ddathlu fod e'n gadael a iechyd ar ei ôl

Ar nos cyflwyno'r dysteb sef wyth bunt twenty pi
Sawl araith wych yn canmol a dymuniadau lu
Ac meddai'r parch dan deimlad a'r dagrau'n powlio lawr
Chi'n meddwl lot amdanaf, fe wnaf aros nawr
Rhof arian hael y tysteb at Lada newydd sbon
Fe wnaf i ymddiswyddo pan af o'r fuchedd hon.

Emyr Davies
9 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddiswyddiad

Annwyl Mr Thomas,

Mae nawr yn fore Llun, a minnau wrth dorheulo yn teimlo'n hynod
flin. Rôl eich gadael mor
Ddisymwth mae'n rhaid eich bod yn dost, a rhaid oedd anfon gair a
rhoi esboniad ar garden bost.

Fe sylwais wedi misoedd o fyw wedi blino'n lân, bod effro'r bore'n
gynnar yn mynd yn gros i'r
Gran, ac nad oedd plygu'n ddyddiol i'ch gwasanaethu chi, yn
rhywbeth mor naturiol i undyn
bach fel fi.
Rhaid dweud ei bod hi'n fonws cael gorffen pob dydd cyn saith, a
chasglu arian
Bob prynhawn a chithau yn y gwaith. Ond penderfynais echddoe
mai digon oedd y straen. Fe
Baciais lond fy magiau a hedfan draw i Sbaen. Anfonais fy
ymddiswyddiad mewn neges
Destun rhwydd: "Rhaid ffeindio gwas bach newydd- dw i ddim
eisiau'r swydd ."

Mr Thomas, roedd hi'n bleser cael gweithio i chi- maen ffaith, ac
rwy'n credu i ni unwaith gwrdd pan ddaethoch yn gynnar o'ch
gwaith. Newydd adael y swydd rwyf i ond fydd pethau byth r'un fath.
Mae'ch gwraig chi wedi dod 'da fi.

Yn gywir

Y Dyn Llath

Aled Williams
8 1/2 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Gwelais jiráff mewn caffi
Nad oedd yn fy nabod i

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Gwelais jiráff mewn caffi
Wedi'r 'ale' drwy'r dydd am dri

0 Pwynt

Telyneg mewn mydr ac odl: Cadw

Am fod y byd meddygol
Yn rhoddi camau breision
A'r offer diweddaraf
Yn nwylo'r llawfeddygon;
Mae dedfryd llym y gyfraith
Yn anodd iawn ei derbyn,
Waeth mwy na llinyn bogail
Sy'n uno mam a'i phlentyn.

Jim James
8 1/2 Pwynt

Telyneg mewn mydr ac odl: Cadw

Mewn niwl fe rwyfwn yn llonydd
A chwys hen oes yn ein hoeri
Ymdrechwn, ymlafniwn a checrwn
Wrth i boen pob cyhyr ein llosgi.
Nid hawdd yw para i gredu
Fod inni ryw fath o yfory.

Ar orwel- dychmygwn ddyfodol
O borthladd sy'n gynnes groesawgar
Llawn hwyl atgofion ein mebyd
A phob fory yn denu'n disgwylgar
A rhywsut, brath poenau y rhwyfo
Yn hwyl 'tynnu-coes' y cofio.

Dyfrig Davies
8 1/2 Pwynt

Englyn ar y pryd: Gallu

Ym mhob un, y mae beunydd- alluoedd
A llawer o ddefnydd
Yn y pen draw, waeth daw'r dydd
Y gwelwn wrth ein gilydd

8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 77 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth yn cynghori plentyn

Un rheol ddoeth i riant
Angen plîs yng ngenau plant

I'th gadw thag gwaith gawdel
Cymer bwyll tra'n camu'r bel

Triban beddargraff gwerthwr ceir

Ei big end oedd yn cnocio
A'i injan aneth stopio
Cyrhaeddodd yntau ei last lap
A sgrap er cof amdano

Fe werthodd gar i Gardi
Heb rwgnach do gwnaeth dalu
Bu'r sioc yn ormod iddo fe
Na pam mae lle mae heddi'.

Celwyddau mawrion raffodd
Am y milltiroedd gollodd
Ond pan aeth yntau yn hen groc
Troi'n nol ei gloc ni fedrodd.

Gwnest werthu'r hen fel newy'
A chuddio llawer stori
Lle rwyt nawr wnei dwyllo neb
Ffraethineb wedi tewi.

Rol canmol a gwneud bargen
Tu ôl i gar Volkswagen
Heb sôn fod ar y brêc ryw nam
Na pam mae dan dywarchen

Rhyw Lada wedi rhydu
Mae'r gwerthwr ceir yn awr mewn hedd
Dan fedd o sgrap yn pydri.

Pennill mawl/ dychan: Unrhyw elusen

Cyfrannu at alwad angen
A nodi ar ffurflen gais
Cydnabod yr hael ei gyfran
Hwnnw yn uchel ei lais.

Rhoesom wedyn mewn angen
Daeth neb i wybod i bwy
Gwyddom fod y gyfran honno
I amryw yn llawer mwy.

Y Groes Goch

Mae'r groes goch ar draws y byd
Yn barod pan fydd angen
Mae wedi bod ers hydoedd mawr
Brenhines pob elusen

Limrig yn ymwneud â pherffeithrwydd

Wrth dyllu i ddant meddai'r deintydd
Mae angen cael pwyll a pherffeithrwydd
Ond och ger pen ôl
Rhyw Sais yn y stôl
Y gwelwyd y dril er llawenydd.

Arlunydd yn paentio golygfa
Yng nghanol y gaeaf o'r Wyddfa
Daeth gwylan uwchben
Ac wele o'r nen
Yn berffaith daeth eira i'r copa.

Un noson wrth fynd drwy Penrheber
C'es fostad a'r car aeth i'r gwter
Daeth geneth o fri
Gwahoddodd di'r tŷ
Ac rwy'n dal yn methu cael teier.

"Tyrd a brws" medde Leisa Cwmbedw
"Mae rhyw fuwch wedi domi fan acw,"
"O.K." medde'r gwr
"Ond rwy'n eithaf siŵr
Nid buwch a wnaeth hwnna ond tarw."

Wrth agor drills tato yn Erwan
Roedd Shanco yn boendod iddo'i hunan
Agorodd ryw saith
Yna'i llyfni daith gwaith
Ni chafwyd eu gwell wedi'r cyfan.

Englyn cywaith: Potel

Hen rin y gwin wna gynnal- pâr ei siâp
Ar y silff gael medal
Drwy hyn hudo'r anwadal
Yna'n syth i domen sâl.

Telyneg mewn mydr ac odl: Cadw

Mor awyddus yn y gwanwyn
I groesawu'r dyrfa gref
Ddaw i aros am ychydig
Mas o ferw gwyllt y dref.

Croesi'r ffordd i estyn croeso
Gan egluro'r mannau sydd
Yn guddiedig mewn cilfachau
Rhain o'u methu colled fydd.

Treulio'r tymor a'u holl egni
A ddiddori mwy a mwy
Ond yn falch ar ddiwedd tymor
Weld yn glir eu cynffon hwy.

Englyn ar y pryd: Gallu

A'r awyr heno'n rhewi- a'r eira
Mor oer y mae'r lili
Yn ôl ei hen angen hi'n
Y pridd yn para i weiddi.

8 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 77 1/2

CYNIGION ERAILL

Limrig yn ymwneud â pherffeithrwydd

Mae'n anodd bod yn berffaith
Fe fethais lawer gwaith
Ond pa bwynt rhoi rheg
Am beidio cael 'deg'
Mae'n rhaid i rhywun gael saith

Aled Evans

Englyn cywaith: Potel

Ers amser rhoes ei ymson- i hwylio'n
Ymholiad afradlon;
Rhwyfa'n daer ar fin y don
Yn edliw ateb prydlon.

Lowri Lloyd

Telyneg mewn mydr ac odl: Cadw

Gwydr brau hardd ei drem
Yn ddisglair em i'r teulu
A pherlau 'fory ynddo'n gwau:
Diamwntiau pur i'n synnu.

Yn fil o ddagrau, trist ei wedd
A'i ddannedd mor fileinig,
Yn ddim ond crensian gwag o boen
A ddoe yn bell gythreulig

Dyfrig Davies

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.