Cwps v Ffair Rhos

Dyma gynigion y timau yng ngornest Talgarreg

Cwps

Cwps

Ffair Rhos

Ffair Rhos

Cwpled caeth ar yr odl "ws"

Hin arw ddaw â chorws
O adar hy' at y drws.

Iwan Bryn James
8 1/2 Pwynt

Cwpled caeth ar yr odl "ws"

I'r un sy'n sgubo'r storws
Cas a braf yw coes y brws.

8 Pwynt

Pennill Ymson wrth dalu bil

I hen gymydog ...

Mi dalaf, mi dalaf y cwbwl
Heb eiliad, run eiliad o drwbwl.
Ar ôl i chi brisio yr eiddo
Mi ddyblaf yr hyn maen nhw ishio
Am garped lime-green ac am soffa
Am fi-dê a bath mewn magenta ...
Fydd gwerth yr holl dai yn yr ardal
Yn dyblu o'u gweld nhw yn gadal.
Mi dalaf, mi dalaf a phleser
I symud 'r hen Lyn Ebeneser!

Arwel Jones
8 Pwynt

Pennill Ymson wrth dalu bil

Drwy'r post daeth y bil cerdyn Visa
Ynghyd ag atgofion di-ri
Cyffro cariadon wrth gerdded y stryd
Ond nawr talu'r pris yr wyf i.
Esgidiau o Gucci a bag o Chanel
A ffrog fach o Prada ges i
Dwy botel o Chablis i swper fin nos
A meddwi ar dy gwmni di.
Ond wedi'r penwythnos rhamantus
Ym mhrif ddinas serch - gay Paris
Yn ol yr es i at y bil ar y mat
Ac yn ol at dy wraig yr es ti

8 1/2 Pwynt

Penill telyn yn dechrau a'r geiriau "Nid yw..."

Nid yw breuddwyd byth yn freuddwyd
O gael deffro ynddi hi,
Troi gwirionedd byw yn freuddwyd
Yw cael deffro gyda thi.

Arwel Jones
9 Pwynt

Penill telyn yn dechrau a'r geiriau "Nid yw..."

Nid yw gweld y wennol gynta'
Yn sicrwydd bod y Gwanwyn yma
Mwy na chesair yn diflannu
Pan fod gwên yr haul yn t'wynnu

8 1/2 Pwynt

Cywydd (Heb fod dros 12 llinell): Tref

Y mae'r bysgar a'i gariad
ar lawr oer, a'u halaw rad
yn dwyn y sêr dan eu siôl
yn geiniogau unigol;
tra bo'r siopwyr hwyr ar ras
herciog rhwng pob un pwrcas.

Mae'r caffis mwmial isel
yn saib o hyd, am ryw sbel,
a daw y llu rhag byd llaith
gwylanod y glaw uniaith
i fochel rhag yr helynt,
yn oer i gyd wedi'r gwynt.

Dafydd John Pritchard
9 Pwynt

Cywydd (Heb fod dros 12 llinell): Tref

Deil y don i lifo'n las
I'r lan o dan Pen Dinas,
A deil hud y machludiad
Ym min hwyr ar y Promenad.
A chwa o Erin yn chwarae
A llenwi baneri'r Bae.
Ceir Llyfrgell a Chastell chwal
Hefyd, a Choleg dihafal.
Hyn a gwylaidd drigolion
Sawra bunt, Cardis I'r bon.
Tra bo Aber bydd gwerin
Dirf, a'u hiaith yn hallt ar fin.

8 Pwynt

Limrig yn ymwneud a meddwi

Mae ambell i bâr yn y byd 'ma
Nad ydyn nhw'n wir mo'r prydfertha
'Mae cariad yn ddall,'
Meddai'r naill wrth y llall
Trwy botel fach arall o fodca.

Arwel Jones
8 Pwynt

Limrig yn ymwneud a meddwi

"Diawch mae coesau gan lemons ffordd hyn"
Meddai meddwyn wrth farman reit syn.
Meddai hwnnw, gan dasgu,
"Y diawl, ti di gwasgu'r
Caneri I mewn I dy jin"!

9 Pwynt

Englyn cywaith: Gwydr

Winciai, mor glir â'r wirod, - a llyncais
Ag awch llanc o'i geudod
Yn chwil fawr, a chael ei fod
Yn gelwydd hyd y gwaelod.

Huw Meirion Edwards
9 Pwynt

Englyn cywaith: Gwydr

Yn wargam wedi'i fframio - yn ei phoen
Yn ffenest y patio,
Ac araf araf glirio
Er y cur, mae paenau'r co'.

9 Pwynt

Can (hen fod dros 20 llinell): Siopa

(Ar ôl clywed cymaint o sôn fod Cymru ar werth penderfynais fynd allan i'w phrynu).

Af i chwilio amdani i'w phrynu yn ôl,
Mae ar werth yn rhywle mi fentraf,
Yn Lidl, neu Argos, B-Wise, neu Spar,
Yn y Co-op neu Peacocks fe'i ceisiaf.

Neu 'falle siop lyfre fel W.H.Smith,
Ydy'n bosib ei bod mewn lle felly?
Ond 'sdim sôn am Gymru mewn unrhyw siop fawr,
Na pharch i'r Gymraeg o ran hynny.

Mewn siop lyfrau ail-law, yn y llanast a'r llwch,
A'i yno 'mysg hen drugaredde,
Y ffeindia i 'ngwlad? A'i yng nghanol y cawl,
Sydd yn nodwedd o'r siopau Hen Bethe?

Naw wfft i'r holl siopa. Fe flinais yn lân,
Ar chwilio am le mor ddigalon;
Rhyw le dan ei sang gan ormodedd o feirdd,
Gwleidyddion ail-law a chantorion.

Gwlad a wrthododd yn lân dyfu lan,
Gwlad sy'n ei chlytiau yn strancio...
Diawch...Fe af draw i siop Mothercare
Rwyn siwr o'i darganfod hi fan 'no.

Dafydd Morgan Lewis
9 Pwynt

Can (hen fod dros 20 llinell): Siopa

Does dim a all blesio menyw yn fwy
Na siopa ynghanol y dre'
'Gorwyd siop newydd sbon a hon ar dri llawr
Rhaid oedd rhuthro ar unwaith I'r lle.

Canys yno ceid arch-farchnad dynion
Y cyntaf o'i math yn y wlad
Tri llawr yn llawn o ddanteithion i fi
Gael profi er budd fy mwynhad.

Roedd arwydd ar ddrws y llawr cyntaf
Yn darllen yn union fel hyn-
"Yma ceir dynion o ansawdd reit dda -
Gwaith t, magu'r plant, gwagio'r bin"

" O grêt!" meddwn i, ond tybed oes gwell?
Cyrhaeddais y llawr nesaf un
Yno roedd dynion golygus a chall
Yn weithgar a chefnog a " keen!"

Ond ysfa i esgyn a ddaeth 'to i'm rhan
Gan feddwl fod gwell ar lawr tri.
Ond siom y llawr gwag a'r arwydd yn dweud
Nad oedd modd plesio menyw fel fi!

8 1/2 Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd

A ddylid gwahardd hela
Yn dy brîffs a'th wyndybra?

0 Pwynt

Ateb Llinell ar y pryd

A ddylid gwahardd hela
Yn glir, yn wir, bloeddiwn "NA"

1 Pwynt

Telyneg mewn mydr ac odl

(Beslam)

Rwy'n mynd i'r ysgol heddiw
A llyfr yn fy llaw,
A'i lond o hud a lledrith
Yn lliwio fory ddaw.

Teulu mawr a thy bach twt
Yn baent ar flaen y mysedd
A milwyr bach gemau bwrdd
Sy'n ffrindie yn y diwedd.

Creu teyrnas ddiniweidrwydd
Bob dydd o fricie lego
A chwarae mig mewn dyddie da
Heb weld yfory'n cuddio.

* * *

Ond dacw hi yn dwad
Dro y gamfa wen
Rhywbeth yn ei ffedog
A mwgwd ar ei phen

* * *

Heno, heno, hen blant bach
A'u dwylo gwan yn erfyn
Heno, heno, hen blant bach
Ar drothwy nos di- derfyn.

Fory, fory, hen blant bach
Mae sgrech drwy'r ty bach twt
Y soldiwrs plastig dros bob man
A chyrff yn ddolis clwt.

* * *

Mynd i'r ysgol heddiw
A llyfr yn fy llaw,
A'i lond o straeon arswyd
Bwganod fory ddaw.

Mari Stevens
10 Pwynt

Telyneg mewn mydr ac odl

(Ar y ffordd I'r gem bel-droed Cymru v Pwyl - Hydref 13eg 2004)

A minnau gyda'r dorf yn bloeddio'n groch
Ar noson fwyn o Hydref yng Nghaerdydd,
A sain undonog utgyrn uchel groch
I lawr stryd y Frenhines, gwefr sydd.
Mae stadiwm y Mileniwm yn nesáu
A dawnsio yn ei golau a wna'r Taf.
Fy llaw ar docyn aur sy'n dynn ar gau
A chyn bo hir gwireddu breuddwyd gaf.
Ond wrth droi heibio'r Angel - gwelais ef
Yn eiste'n fwndel unig yn y nos.
A chlywais yn y swn, ei egwan lef
Yn gofyn " Ceiniog syr , i ddyn mewn ffos?"
Fy nghyffro i yw'r 'sblander ochor draw,
A'i gyffro ef yw'r newid yn ei law.

9 Pwynt

Englyn ar y pryd: Anaf

Nid iaith y gorymdeithio- yn un rheng
Ond rhai nad ynt yno
All finiocau llafn y cô
A dynn y gwad ohono.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79 1/2 PWYNT

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar yr odl 'ws'

Hen boen yw Mansel a bws
I Astra ar riw Wstrws.

Pennill Telyn yn dechrau â'r geiriau 'Nid yw ...'

Nid yw'r orsaf heno'n adfail
Nid yw'r capel 'di gwacáu
Mae 'no ganu unwaith eto
Ymhell tu hwnt i amser cau.

Limrig yn ymwneud â meddwi

Fy mwriad bnawn heddiw 'di priodi
Fy Mlodwen yng nghapel y Gelli
Felly sut yn y byd
'Mod i'n fflat ar fy hyd
Mewn tafarn fach glyd yn Kilkenny.

Dafydd Morgan Lewis

Englyn ar y pryd: Anaf

O'n hanfodd mae gwahanfur,- yn ei gwsg
Gwelaf gysgod pladur
Heb un gwyn o'i boen a'i gur
Ei dawelwch yw'n dolur.

9 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78 1/2

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.